Blwyddyn Gweddi
Beth bynnag oedd ein taith ffydd, waeth pa mor betrus neu ansicr, neu efallai bod y daith yn dal i gael ei harchwilio, yna, mewn rhyw ffordd bydd gweddi’n rhan ohono. Mae gweddi i bawb ac mae pawb yn gallu gweddïo.
Mae’r gwahoddiad hwn yn cael ei gynnig bob mis fel ffordd wahanol o weddïo ac mae yna fwy o ffyrdd o weddïo nag y gallwn eu cynnwys mewn un flwyddyn! Os yw ffordd o weddïo’n newydd, yna mae ‘sut i’w weddïo’ yn cael ei roi.
Mae’r gweddïau a myfyrdodau misol yn gallu cael eu gweddïo ar eich pen eich hunain, gydag eraill neu gael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer grŵp astudio gweddigar mewn eglwys.
Yn y ffilm, bydd Esgob John yn sôn ychydig mwy am y Flwyddyn o Weddi hon sydd wedi’i pharatoi gan Grŵp Ysbrydolrwydd yr Eglwys yng Nghymru. Eleni mae’r eglwys yn cael ei hannog i ddarllen ac astudio efengyl Luc, ac felly hoffwn annog ymgysylltiad dyfnach gyda gweddi; eu gweddïo ac wedyn eu gadael neu eu gweddïo a’u gweddïo eto.
Gobeithio y byddwch yn ymuno, yn cael eich ysbrydoli ac yn tyfu mewn ffydd.