Yr Eglwys yng Nghymru

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist. Mae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein annog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod â iachâd i’r byd.

Newid yn yr hinsawdd

Mae God’s Earth yn gweiddi am ein gofal ac os na fyddwn yn cyfyngu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys a dinistrio rhywogaethau byddwn yn anffurfio ein cartref cyffredin yn barhaol gan atal biliynau o blant Duw rhag ffynnu. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod stiwardiaeth gyfrifol y greadigaeth yn rhan annatod o ddisgyblaeth Gristnogol.

Y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yn yr Eglwys yng Nghymru wrth i Gristnogion ledled y wlad addoli, tystio a gwasanaethu Duw a’u cymunedau. Ein gobaith ydy parhau i ddatblygu ein darpariaeth fel y bydd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth yn y Gymraeg yn cryfhau ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu fel rhan annatod o'i bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth

Ewch i'n tudalen diogelu
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd

Ymweliad: www.anglicancommunion.org

Gweddi'r wythnos

Colect 221 Hollalluog a thragwyddol Dduw, goddefaist i’th apostol sanctaidd, Thomas, amau atgyfodiad dy Fab nes ei argyhoeddi wrth glywed a gweld a hynny er cadarnhau sylfaen ein ffydd; caniatâ i ninnau sydd heb ei weld eto gredu, fel y cyffeswn Grist yn Arglwydd ac yn Dduw inni, sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Thomas, Apostol ~ Thomas, Apostle; Gorffennaf 3 July

Colect yr wythnos

Colect 91 Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys, gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gwelwch LITHIADUR yr wythnos hon