Esgob Mynwy
Esgob Cherry Vann
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cysegrwyd Cherry Vann yn Esgob Mynwy ym mis Ionawr 2020. Cyn hynny gwasanaethodd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am unarddeg mlynedd. Hyfforddodd Esgob Cherry ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt ac fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1989. Roedd ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid yn Eglwys Loegr ym 1994; gwasanaethodd yn Esgobaeth Manceinion.
Ar ôl bod yn gurad yn Flixton aeth yn Gaplan i Golegau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn Bolton ac roedd yn rhan o’r tîm gweinidogaethu yn Eglwys y Plwyf, Bolton. Aeth yn ei blaen i fod yn Gaplan i’r Gymuned Fyddar ym Manceinion ac yn Ficer Tîm yn Farnworth a Kearsley. Gweinidogaethodd fel Rheithor Tîm ac fel Deon Bro cyn dod yn Archddiacon ar draws Ashton, Oldham a Rochdale. Roedd hefyd yn ganon mygedol yn Eglwys Gadeiriol Manceinion ac yn aelod o’r Synod Cyffredinol am bedair ar ddeg o flynyddoedd.
Daliodd Esgob Cherry swyddogaethau uwch yn llywodraethiant Eglwys Loegr. Roedd yn Llefarydd Siambr Isaf Confocasiwn Caerefrog ac yn aelod ex-officio o Gyngor yr Archesgobion. Yn ddiweddar roedd yn aelod o’r Bwrdd Buddsoddiad Strategol a ddyrannodd arian sylweddol i brosiectau a arweiniodd at dwf eglwysig. Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Bugeiliol Ymgynghorol yr Archesgobion, gyda’r gyfrifoldeb o lunio egwyddorion bugeiliol ac adnoddau i helpu eglwysi gynnig croeso diffuant i bobl LGBTQI+.
Mae hi’n angerddol dros gyfiawnder a chymod ac mae wedi sefydlu a chadeirio grwpiau ar draws Esgobaeth Manceinion a ddaeth â phobl gyda safbwyntiau a chredoau gwahanol ar ordeinio menywod a materion yn ymwneud â rhywioldeb dynol at ei gilydd.
Fel pianydd talentog mae Esgob Cherry yn Gymrawd The Royal College of Music (ARCM) ac yn ferch radd The Royal Schools of Music. Perfformiodd nifer o goncerti i’r piano cyn dechrau hyfforddi i’r weinidogaeth. Hi oedd arweinydd Cerddorfa Siambr Bolton ers 1998 tan iddi adael i ddod i Fynwy.
Mae Esgob Cherry yn byw gyda’i phartner sifil, Wendy, a’u dau gi.