Esgob Enlli
Y Gwir Barchedig David Morris
Penodwyd David Morris yn Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor ym mis Ionawr 2024, gan ddod, yn ddim ond 38 oed, y person ieuengaf erioed i wasanaethu fel esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Cymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd fel curad ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd ac roedd hefyd yn Gynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Yn 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf a Ficer yn Ardal Gweinidogaeth Dwyrain y Fro ym Mro Morgannwg, swydd y bu ynddi am dair blynedd.
Yn 2022, symudodd David i Esgobaeth Bangor fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth a bu hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi yn Esgob Cynorthwyol Bangor ac Esgob Enlli gan Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John.
Gwnaed David yn Gomander Urdd Sant Ioan yn 2020 a bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru ers 2010; cafodd ei benodi yn Ddeon y Priordy ar gyfer Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolydd yr elusen yn 2020.
Cysergrwyd David fel esgob ar 11 Mai 2024 yng Nghadeirlan Bangor.
Yn ei amser hamdden, mae David yn mwynhau garddio, teithio, cadw’n heini a threulio amser gyda’i ddyweddi, Marc Penny, a’i gath, Gordon.