Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Y Gwir Barchedig John Lomas
Yn wreiddiol o Ashton-under-Lyne, ymunodd yr Esgob John â’r Llynges Frenhinol ar ôl gadael yr ysgol i hyfforddi fel peiriannydd awyrennau yn Adain Awyr y Llynges. Bu’n gweithio ar jetiau Phantom F4, hofrenyddion Lynx a Sea Harriers ar longau cludo awyrennau o gwmpas y byd, a bu’n gwasanaethu yn Rhyfel Ynysoedd y Falkland. Ar ôl gadael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado.
Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.
Ei guradiaeth gyntaf oedd y Rhyl lle bu’n gwasanaethu am bum mlynedd o 1994 i 1999. Yna dychwelodd i’r Llynges Frenhinol fel Caplan i’r 3 Sgwadron Llong Ddistryw yn gwasanaethu ar Longau ei Mawrhydi Edinbugh, Glasgow a Liverpool. Yn ystod y cyfnod hwn gwasanaethodd yn Sierra Leone a dychwelodd i Ynysoedd y Falklan. Tra’r oedd yno, arweiniodd wasanaeth cofio teimladwy wrth Gofeb Rhyfel Mount Pleasant, y mae enwau’r rhai fu’n gwasanaethu gydag o 19 mlynedd ynghynt wedi eu hysgrifennu arni.
Dychwelodd John i Gymru fel Rheithor Treffynnon yn 2001, lle treuliodd y 10 mlynedd nesaf a goruchwylio adeiladu Eglwys newydd San Pedr.
Fe’i gwnaed yn Ganon Cadeirlan Llanelwy yn 2008 a bu’n gwasanaethu fel Deon Ardal Treffynnon o 2008 i 2011.
Penodwyd John yn Genhadwr Trosglwyddo yng Nghorwen o 2011 i 2013, ac yna bu’n Genhadwr Trosglwyddo ar gyfer Bangor Monachorum. Daeth yn Archddiacon Llanelwy yn 2014, ac, yn dilyn ad-drefnu esgobaethol, fe’i penodwyd yn Archddiacon Wrecsam yn 2018. Fe’i penodwyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ym mis Tachwedd 2021.
Cyfarfu John ei wraig, Jan, yn yr ysgol. Mae ganddynt ddwy ferch a phump o wyrion ac wyresau.
Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau cerdded a darllen.