Sut i gyfarch clerig
Mae llawer o bobl mewn penbleth ynglŷn â sut y dylent gyfeirio at glerig, a’r nod yma yw eu helpu gyda hyn. Dylid nodi, fodd bynnag, fod llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau neu’r sefyllfa, a hefyd ar yr hyn sydd orau gan y clerig dan sylw. Os oes unrhyw amheuaeth, holwch y clerig.
Wrth sgwrsio
Tra mai’r teitl safonol a roddir i glerig yw “y Parchedig”, nid yw’n arferol cyfeirio ato neu ati felly wrth sgwrsio. Bydd rhai pobl yn cyfeirio at y “Ficer” neu at y “Rheithor”, ond gan amlaf dim ond pan fyddant yn cyfeirio at ficer neu reithor y plwyf maen nhw’n byw ynddo. Fel arall, Mr/Mrs/Miss/Ms Jones a ddefnyddir.
Wrth gyfeirio at glerig yn y trydydd person (fel yn “roedd x yn dweud wrtha i y dydd o’r blaen”), yna gellir defnyddio “y Parchedig A B Jones” mewn cyd-destun ffurfiol – ond wrth gyfeirio at y person hwnnw am y tro cyntaf yn unig, wedi hynny Mr/Mrs/Miss/Ms Jones a ddefnyddir.
Ysgrifennu llythyr
Wrth ysgrifennu llythyr at glerig, dylid ei gyfeirio at “y Parchedig A B Jones”, ond dylai ddechrau gydag “Annwyl Mr/Mrs/Miss/Ms Jones”.
Weithiau mae “ y Parchedig A B Jones” yn cael ei dalfyrru i “y Parch A B Jones”.
Teitlau academaidd
Os oes gan glerig ddoethuriaeth hefyd, yna yn ogystal â chyfeirio ato fel “Dr A B Jones” yn hytrach na Mr/Mrs/Miss/Ms Jones”, dylid cyfeirio’r llythyr at “y Parchedig Ddoctor A B Jones”.
Eithriadau
Daw’r eithriadau i’r rheolau hyn pan fydd clerig yn dal swydd ychwanegol. Mae pedwar prif achos i fod yn ymwybodol ohonynt: Esgobion ac Archesgobion, Archddiaconiaid, Deoniaid Cadeirlan, a Chanonau.
Esgobion
Dyma, o bosib, yr eithriad mwyaf adnabyddus. Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, dylid cyfeirio at Esgobion fel “y Gwir Barchedig”. Dylai llythyrau ddechrau gydag “Annwyl Esgob”.
Mewn sgwrs, cyfeirir at Esgobion fel “Esgob”.
Wrth gyfeirio ato yn y trydydd person, yna gellir defnyddio “Esgob X” y tro cyntaf ac yna “yr Esgob” o hynny ymlaen.
Os yw’r Esgob dan sylw wedi ymddeol neu’n Esgob Cynorthwyol cyfeirir ato neu ati fel “yr Esgob” yn y trydydd person.
Archesgobion
Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, dylid cyfeirio at yr Archesgob fel “y Parchedicaf”. Dylai llythyrau ddechrau gydag “Annwyl Archesgob”.
Mewn sgwrs caiff “Archesgob...” ei ddefnyddio’n aml, er y defnyddir “Eich Gras...” yn aml mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
Wrth gyfeirio ato yn y trydydd person, yna gellir defnyddio “Archesgob Cymru” y tro cyntaf, “yr Archesgob...” wedi hynny.
Archddiaconiaid
Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, cyfeirir at Archddiacon fel “yr Hybarch”. Dylai llythyr ddechrau gydag “Annwyl Archddiacon”.
Mewn sgwrs, cyfeirir at Archddiacon gan amlaf fel “Archddiacon”.
Yn y trydydd person, gellir cyfeirio ato neu ati fel “Archddiacon X” y tro cyntaf, “yr Archddiacon” wedi hynny.
Deoniaid Cadeirlan
Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, cyfeirir at Ddeon Cadeirlan fel “y Parchedicaf”. Dylai llythyr ddechrau gydag “Annwyl Ddeon”.
Mewn sgwrs, cyfeirir at Ddeon Cadeirlan gan amlaf fel “Deon”.
Yn y trydydd person, gellir cyfeirio at Ddeon Cadeirlan fel “Deon X” y tro cyntaf, “y Deon” wedi hynny.
Canoniaid
Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, cyfeirir at Ganon fel “y Parchedig Ganon A B Jones”. Dylai llythyr ddechrau gydag “Annwyl Ganon”.
Mewn sgwrs, cyfeirir at Ganon gan amlaf fel “Canon”.
Eithriadau pellach
Clerigion â theitlau
Os oes gan glerig deitl, mae’r teitl gan amlaf (os oes cyfeiriad ato o gwbl) yn cael ei roi ar ôl y teitl crefyddol, e.e. Y Parchedig Syr Alan Jones. Mae nifer o eithriadau i’r rheol hon – er enghraifft, fel arfer ni fyddai clerig yn derbyn anrhydedd neu deitl marchog oni bai ei fod wedi ei dderbyn cyn ei ordeinio. Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at Crockfords Clerical Directory.
Clerigion sydd hefyd yn aelodau o Urddau Crefyddol
Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestr ffurfiol, gellir cyfarch aelodau o urddau crefyddol fel “y Parchedig A B Jones XYZ, neu o bosib “y Parchedig Frawd Alan/Chwaer Alis XYZ”.
Mewn sgwrs, gellir eu cyfarch fel “y Brawd Alan” neu “y Chwaer Alis” neu “y Tad”, “y Tad Alan”, neu “y Tad Jones”. Mae’r term Tad yn aml yn cael ei ddefnyddio hefyd gan glerigion sydd heb gysylltiad ffurfiol ag urdd grefyddol.