Esgob Llandâf
Etholwyd yr Esgob Mary Stallard yn Esgob Llandaf ar Ionawr 19 2023.
Yn hanu o Birmingham, cafodd yr Esgob Mary Stallard ei magu mewn rheithordy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd sy’n golygu iddi gael ei magu mewn cartref lle anogwyd codi cwestiynau am fywyd a ffydd.
Bu Mary yn darllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India. Ymysg y menywod cyntaf i’w hordeinio fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn 1997, gwasanaethodd fel curadur yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003 penodwyd Mary yn Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandau yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Detholiad Taleithiol.
Rhwng 2011 a 2018 gwasanaethodd fel Caplan Anglicanaidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad Cyswllt yn Ardal Cenhadaeth Wrecsam. Roedd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd San Silyn yn Wrecsam. Cafodd ei phenodi yn Archddiacon Bangor ac yn offeiriad cyswllt yn Llandudno yn 2018. Fe’i penodwyd yn Esgob Cynorthwyol Bangor yn 2022.
Mae gweinidogaeth darlledu sylweddol yr Esgob Mary wedi ei gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac mae wedi cyfrannu at Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales yn all Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.
Mae Mary yn briod â’r Parch Andrew Sully, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Llandudno, ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion. Mae ei hobïau yn cynnwys coginio, darllen a rhedeg.