Archesgob Cymru & Esgob Bangor
Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru
Cafodd yr Archesgob Andrew ei fagu yn Aberystwyth. Aeth i Ysgol Penglais a graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, yn 1986 ac mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 1988. Fe wnaeth hefyd ennill Diploma mewn Astudiaethau Bugeiliol yn 1989 yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham.
Cafodd ei ordeinio’n ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi yn 1990 a bu’n gwasanaethu ei holl weinidogaeth ordeiniedig yn yr esgobaeth honno tan iddo gael ei ethol yn Esgob Bangor. Bu’n gurad yn Aberteifi, y Ferwig a Mwnt o 1989 a 1991 a hefyd yn Aberystwyth rhwng 1991-1992. Gwasanaethodd wedyn fel ficer ym Mywoliaeth Reithorol Aberystwyth rhwng 1992 a 1999. Penodwyd Andy i blwyf Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth yn 1999 – plwyf a ehangodd yn 2005 i gynnwys Llanbadarn Trefeglwys.
Cafodd ei benodi’n ficer Pencarreg gyda Chwmann a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi yn 2006. Fe’i etholwyd yn Esgob Bangor yn 2008.
Fel offeiriad plwyf, bu’r Archesgob Andrew yn cadeirio Pwyllgor Ieuenctid yr Esgobaeth a gwasanaethodd ar nifer fawr o gyrff eglwysig yr Esgobaeth yn cynnwys Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Bu hefyd yn Genhadwr Archesgob Caergaint ar Grŵp Degawd Efengyliaeth Springboard. Bu’n ddirprwy ac wedyn yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Plascrug ac yn Gadeirydd Cyswllt Ceredigion (asiantaeth stryd adsefydlu cyffuriau sy’n defnyddio model triniaeth Minnesota) am ddegawd. Fel Esgob Bangor, mae wedi parhau i gynghori asiantaethau lleol ar faterion yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol.
Fel Archddiacon Aberteifi ysgrifennodd gwrs efengyliaeth ‘Menter’ a chyd-gynhyrchu’r DVD ategol dan yr un teitl.
Fel Esgob Bangor, mae gan Andrew gyfrifoldebau portffolio am efengyliaeth, twf yr eglwys, y Gymraeg (mae’n siarad Cymraeg) a stiwardiaeth. Gwasanaethodd ar Gyngor Padarn Sant tan fis Mehefin 2017.
Mae’r Archesgob Andrew yn mwynhau rhedeg, cadw’n gymharol heini, canu’r sacsoffon a’r gitâr. Mae’n briod â Naomi ac mae ganddo bedwar o blant sydd bellach yn oedolion o’i briodas gyntaf.