Esgob Tyddewi
Y Gwir Barchedig Dorrien Davies
Yn enedigol o Abergwili ac yn Gymro Cymraeg, hyfforddwyd Dorrien ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ym 1989. Gwasanaethodd fel curadur yn Llanelli cyn cael ei benodi'n Ficer Llanfihangel Ystrad Aeron yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, astudiodd Dorrien am radd ym Mhrifysgol Cymru, Coleg Llanbedr Pont Steffan, gan raddio ym 1995. Fe'i penodwyd yn Ficer Llandudoch, Sir Benfro, ym 1999 a gwasanaethodd yno am 11 mlynedd. Yn 2007, fe’i gwnaed yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn 2010, symudodd i Dyddewi fel Canon Preswyl. Yn 2017 penodwyd Dorrien yn Archddiacon Caerfyrddin ac yn offeiriad â gofal Sanclêr.
Cafodd ei ethol yn 130ain Esgob Tyddewi ym mis Hydref 2023 a’i gysegru yng Nghadeirlan Bangor – sedd yr Archesgob – yn Ionawr 2024.
Mae Dorrien yn briod â Rosie ac mae ganddynt ddau fab, Morgan a Lewis. Mae ei hobïau yn cynnwys darllen a phaentio.