Esgob Llanelwy
Y Gwir Barchedig Gregory Cameron
Cafodd Gregory Kenneth Cameron ei eni a’i fagu yn ne ddwyrain Cymru. Ar ôl gwneud ymrwymiad o ffydd pan oedd yn ei arddegau, dechreuodd fynychu’r Eglwys Anglicanaidd yn ei bentref lleol. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog yng Nghwmbrân. Pan oedd yn darllen y Gyfraith yn Rhydychen, cafodd alwedigaeth i’r weinidogaeth ordeiniedig. Ar ôl cael ei dderbyn fel ordinand yn yr Eglwys yng Nghymru, bu Gregory yn astudio Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yng Nghaergrawnt.
Ar ôl astudiaeth bellach yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, cafodd Gregory ei ordeinio i Esgobaeth Mynwy, a bu’n gwasanaethu mewn plwyfi yn yr esgobaeth am chwe mlynedd. Gwasanaethodd yn ddiweddarach fel caplan ysgol (Coleg Wycliffe, Stonehouse) ac fel cyfarwyddwr elusen addysgol (Prosiect Bloxham). Yn 2000, cafodd Gregori ei benodi gan Rowan Williams, Archesgob Cymru ar y pryd, yn Gaplan iddo.
Yn 2003, cafodd Gregory ei benodi gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymun Anglicanaidd yn Gyfarwyddwr Materion Eciwmenaidd yn Swyddfa’r Cymun Anglicanaidd yn Llundain a daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol flwyddyn yn ddiweddarach. Yn y rôl hon, roedd Gregory yn ymwneud yn helaeth â materion y Cymun Anglicanaidd ac yn nialogau eciwmenaidd y Cymun Anglicanaidd ar lefel ryngwladol. I gydnabod y gwaith hwn, cyflwynodd Archesgob Caergaint Groes Awstin Sant iddo.
Mae gan Gregory raddau Meistr mewn Cyfreitheg, Diwinyddiaeth a Chyfraith Canon, a Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Diwinyddiaeth gan yr Ysgol Ddiwinyddiaeth Esgobaethol. Bu’n darlithio yn yr Hen Destament yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf ac fel Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Cyfraith Canon yn y Ganolfan Cyfraith a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n Gyd-gadeirydd Anglicanaidd y Comisiwn Rhyngwladol Anglicanaidd Dwyreiniol Uniongred hyd at 2023, ac mae’n aelod ar hyn o bryd o Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi y Byd. Yn 2022, cafodd ei benodi’n Gomander Urdd Mwyaf Hybarch Sant Ioan.
Cafodd ei ethol yn Esgob Llanelwy yn 2009, esgobaeth sy’n cynnwys gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel esgob arweiniol ar addysg, athrawiaeth a litwrgi yr eglwys ac ar eciwmeniaeth a chysylltiadau rhyng-ffydd. Mae hefyd wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill i gefnogi cynhwysiant ar gyfer pobl ddigartref a ffoaduriaid. Yn 2016 sefydlodd Gregory Gaplaniaeth LGBTQIA gyntaf Prydain. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Comisiwn Eglwysi Cyfamodedig Cymru ac mae’n ymddiriedolydd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru.
Mae Gregory yn briod â Clare, athrawes gerdd ac arweinydd gweddi, a mae ganddynt dri mab sydd bellach yn oedolion. Mae ganddo ystod eang o ddiddordebau tu allan i’r weinidogaeth ac mae’n mwynhau peintio eiconau, caligraffeg a ffilm – yn arbennig ffuglen wyddonol. Enillodd fri fel dylunydd darnau arian yn ei amser hamdden, ac mae wedi greu nifer o gynlluniau ar gyfer y Bathdy Brenhinol ac eraill. Mae wedi ysgrifennu a darlunio nifer o lyfrau yn cynnwys “An Advent Book of Days” yn 2021 ac “An Easter Book of Days” yn 2002, a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.