Y Corff Llywodraethol
Y Corff Llywodraethol sy’n gyfrifol am benderfyniadau sy’n effeithio ar Ffydd, Trefn ac Addoliad yr Eglwys. Mae ganddo hefyd y grym i greu “deddfau a rheolau ar gyfer rheoli’r Eglwys yn gyffredinol a’i llywodraethu’n dda, ac ar gyfer ei heiddo a’i negesau, at ddibenion rheolaeth a llywodraeth dda’r Eglwys.” (o Bennod II Adran 11 & 12 Cyfansoddiad Yr Eglwys yng Nghymru).
Y Corff Llywodraethol yw Corff Deddfu goruchaf Yr Eglwys yng Nghymru – yn fras, felly, ‘Senedd’ Yr Eglwys yng Nghymru. Fel arfer, y mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i dderbyn adroddiadau ac i benderfynu ar faterion a roddir gerbron.
Gall y rhain fod mor amrywiol â:
- Cyflwyno trefn newydd ar gyfer gwasanaethau (e.e. trefn 2004 ar gyfer Y Cymun Bendigaid)
- Y penderfyniad i gysylltu’r Eglwys yng Nghymru ag Ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi (2004)
- Y penderfyniad i ganiatáu i fenywod fod yn offeiriaid yng Nghymru (1997)
- pasio’r Bil Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol i alluogi eglwysi lleol i sefydlu partneriaethau gydag enwadau eraill (pasiwyd yn 2005)
Cyllid ac Aelodaeth
Bob blwyddyn mae adroddiad ar ystadegau aelodaeth a chyllid yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod. Mae hwn yn mynd i’r afael â gwybodaeth allweddol megis:
- y niferoedd sy’n mynychu gwasanaethau’r eglwys
- lefel y rhoi ariannol i’r eglwys
- manylion am yr hyn y mae plwyfi yn gwario eu harian arno
Cyfansoddiad y Corff Llywodraethol
Mae gan y Corff Llywodraethol dair ‘urdd’. Er mai dim ond mwyafrif syml o gyfanswm yr aelodau sydd ei angen ar gyfer rhai newidiadau, mae ar y rhan fwyaf o benderfyniadau mawr angen mwyafrif ym mhob un o’r ‘urddau’. Mae’r tair urdd yn cynnwys:
- Mainc yr Esgobion (hynny yw, y chwech esgob esgobaethol), a hefyd
- y Clerigion (51 o gynrychiolwyr o blith y clerigion)
- Yr Aelodau Lleyg (86 o gynrychiolwyr nad ydynt yn glerigion)
Mae’r rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr clerigol a lleyg yn cael eu hethol ar lefel esgobaethol. Os oes diddordeb gennych mewn sefyll etholiad, cliciwch yma i gael gwybodaeth am y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer ymgeisio.
Newidiadau diweddar
Bydd newidiadau diweddar yn golygu gostwng maint y Corff Llywodraethol i gyfanswm o 143 o aelodau yn 2008.
Os oes gennych ymholiadau, neu os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â johnrichfield@churchinwales.org.uk