Cyfethol Aelodau i Gorff Llywodraethol
Cyfethol Aelodau i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru
Mae'r trefniadau ar gyfer cyfethol i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi newid a gwahoddir ymatebion i'w hystyried ar gyfer cyfethol.
Mae gwybodaeth gefndir ar gael am y newidiadau hyn, gan gynnwys categorïau cyfethol a threfniadau ar gyfer etholiadau, yn y ffurflen gyfethol (gweler isod).
Mae hanner y cyfetholedigion i gael eu hethol gan y Corff Llywodraethol ei hun, a’r hanner arall i'w penodi gan ei Bwyllgor Sefydlog.
Os ydych yn barod i gael eich ystyried fel ymgeisydd ar gyfer eich ethol yn aelod cyfetholedig o'r Corff Llywodraethol, cwblhewch y ffurflen hon. Mae'r ffurflen yn cynnwys lle i ddarpar gyfetholedigion roi gwybodaeth a manylion bywgraffyddol amdanynt eu hunain. Mae cyfarwyddyd ar lenwi'r ffurflen hon, ynghyd â gwybodaeth am y Corff Llywodraethol a'r ymrwymiad sydd ei angen fel aelod, ar gael hefyd yma.
Gofynion Cyfethol ar gyfer 2025
Bydd y nifer canlynol o aelodau yn cael eu hethol gan y Corff Llywodraethol ar gyfer dechrau’r trieniwm 2025-2027:
- Dau leygwr o dan 30 oed (trwy etholiad STV);
- Un clerig sydd naill ai wedi bod yn yr Urddau Eglwysig am lai na phedair blynedd neu sydd wedi'i drwyddedu ond nad yw'n derbyn tâl gan yr Eglwys yng Nghymru (etholiad cyntaf i'r felin).
Hefyd, bydd Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol yn penodi:
- Dau leygwr; ac
- Un clerig.
Sut i gyflwyno'r ffurflen
Anfonwch ffurflenni wedi'u llenwi at John Richfield, johnrichfield@churchinwales.org.uk heb fod yn hwyrach na hanner dydd, dydd Llun 16 Rhagfyr 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â John Richfield, gweler uchod.
Proses ac amserlen ar gyfer rheoli cyfethol aelodau
Dyma'r amserlen sy'n nodi'r broses ar gyfer rheoli'r trefniadau cyfethol newydd.
Rhagfyr 2024 | 16 Rhagfyr, Canol dydd: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymgeiswyr cymwys ar gyfer etholiad (trwy enwebiad neu hunan-enwebiad) i'r categorïau perthnasol. |
Ionawr 2025 |
6-20 Ionawr: Etholiadau i’w cynnal trwy e-bost. 29 Ionawr: Cyfarfod Is-bwyllgor Penodiadau a Busnes i ystyried ei gyngor i'r Pwyllgor Sefydlog ar ei benodiadau. Bydd y cyngor hwn yn seiliedig ar ganlyniadau'r etholiadau esgobaethol, yr STV a phleidleisiau cyntaf i'r felin. |
Chwefror 2025 | 18 Chwefror: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog lle bydd ei benodiadau'n cael eu hystyried a'u gwneud. |