Pigion - Ebrill 2021
Gyda chyfyngiadau pandemig COVID yn dal ar waith, dychwelodd aelodau’r Corff Llywodraethol ar-lein ar gyfer eu cyfarfod deuddydd ar 14-15 Ebrill.
Cynhaliwyd y cyfarfod dros wyth sesiwn ar Weminar Zoom ac fe’i ffrydiwyd yn fyw ar wefan yr Eglwys yng Nghymru o YouTube.
Mae’r recordiad o bob sesiwn yn dilyn, gyda chrynodeb byr o’r busnes. Gallwch lawrlwytho’r holl bapurau a’r agenda o’n storfa Dropbox ar dudalen Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol.
Sesiynau dyddiol
Sesiwn Un
Casgliad
Cafwyd casgliad ar gyfer Cronfa Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru. Gofynnwyd i’r aelodau gyfrannu drwy’r cyfleuster Rhoi yn Syth ar-lein
Teyrngedau
Cydymdeimlodd yr Archesgob â phawb oedd wedi colli rhywun neu a oedd yn dioddef o ganlyniad i bandemig COVID. Sicrhaodd ei fod yn gweddïo drostynt ac yn dymuno’n dda iddynt a diolchodd i’r rhai a fu’n helpu a chynnal eraill.
Nodwyd dwy golled: Y Canon Bill Isaac, a fu’n cynrychioli’r Eglwys Gatholig yn y Corff Llywodraethol, ac Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin. Gwahoddwyd yr aelodau i gofio’n dawel amdanynt a’u teuluoedd.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Pasiwyd tri argymhelliad yr adroddiad gyda mwyafrif llethol. Roedd y rhain yn cynnwys penodi’r Canon Steven Kirk ac Andrew Keyser QC i’r Pwyllgor Sefydlog tan 2023 ac ailbenodi’r Canon Kirk i’r panel aseswyr tan ddiwedd 2026.
Soniodd yr Archesgob am y Coleg Etholiadol ar gyfer Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a fyddi’n dod yn wag pan fyddai’n ymddeol ddydd Sul 2 Mai. Roedd y Pwyllgor Sefydlog yn adolygu’r dyddiad ar gyfer cyfarfod y Coleg yn rheolaidd wrth i gyfyngiadau COVID gael eu llacio. Pleidleisiodd yr aelodau i ganiatáu i’r Coleg Etholiadol gael ei gynnal y tu allan i’r Esgobaeth pe bai angen gwneud hynny i sicrhau lleoliad diogel rhag COVID ar gyfer ei gyfarfod.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Llywodraethu a Chyfreithiol
Pasiwyd argymhellion yr adroddiad, i gyfuno’r penodiadau ac is-bwyllgorau busnes ac i dderbyn yr adroddiad.
Gofynnodd Robert Evans (Mynwy) am gynnydd ar adroddiad Ymchwilio ac Adolygu Mynwy. Atebodd Matthew Chinery, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, fod disgwyl iddo gael ei gyhoeddi tuag adeg y Pentecost.
Sesiwn Dau
Cynnig CHASE (Church Action for Sustaining the Environment)
Cynigiodd Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, gynnig a gyflwynwyd gan grŵp amgylchedd yr Eglwys, CHASE, a oedd yn galw ar yr Eglwys i ddatgan argyfwng hinsawdd a chynllun ar gyfer allyriadau carbon sero-net, yn ddelfrydol erbyn 2030. Dywedodd y cynnig bod angen ymateb byd-eang brys a chyflym i gynhesu byd-eang.
Er ei bod hi’n rhy hwyr i atal tymheredd y byd rhag codi, dywedodd yr Esgob Joanna y gallem helpu i liniaru effeithiau gwaethaf y cynnydd hwnnw. “Yn anffodus, mae’r bywyd rydym yn ei fyw yma eisoes wedi effeithio’n andwyol ar fywydau eraill ar draws y byd,” meddai. “Ond pe bai heddiw yn ddiwrnod o och a gwae yn unig ni fyddai gennym gynnig. Mae’n bosibl atal y cynnydd mewn tymheredd gyda digon o ewyllys gwleidyddol a dyfeisgarwch gan bobl.”
Roedd atebion i’n helpu ni i fyw’n gynaliadwy eisoes ar gael, meddai, gan gydnabod gwaith y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth a oedd wedi bod yn flaenllaw o ran arferion cynaliadwy ers 1973.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu byw a gweithio’n wahanol os ydym am atal y cynnydd mewn tymheredd. Bydd ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol waeth pa mor fach maen nhw’n ymddangos,” meddai’r Esgob Joanna.
Roedd gweithio mewn partneriaeth ag eraill a oedd wedi datgan argyfwng hinsawdd hefyd, fel Llywodraeth Cymru, yn allweddol, ychwanegodd.
“Nid yw’r cynnig hwn yn gofyn i’r Eglwys weithredu ar ei phen ei hun. Gofynnir i ni ymrwymo gyda phartneriaid a gweithio gydag eraill. Rydym yn aelodau, ond yn bleidleiswyr a dinasyddion sy’n malio hefyd, gallwn godi’n llais. Mae ymgyrchwyr dewr ac ymroddgar wedi bod yn gweithio ar hyn ers blynyddoedd. Mae’n bryd i ni ymuno â nhw a phwy a ŵyr, efallai y gwnawn ni wahaniaeth a throi’r fantol.”
Dywedodd yr Esgob Joanna fod Corff y Cynrychiolwyr newydd benodi Hyrwyddwr Newid Hinsawdd, Dr Julia Edwards, a fyddai’n paratoi’r cynllun gweithredu i helpu’r Eglwys gyfan i gyrraedd ei tharged carbon sero-net.
Eiliwyd y cynnig gan y Parch Rebecca Stevens (Mynwy), yr oedd ei phlwyf yn gweithio tuag at ddyfarniad Eco-Eglwys Arian. Meddai, “Mae’r cynnig hwn yn ein cychwyn ar daith ond bydd y llwybr yn cael ei bennu yn y cynllun gweithredu.” Ychwanegodd fod newid hinsawdd yn bryder mawr i bobl ifanc. “Dyma ein cyfle i ddangos i’n cymunedau bod hwn yn fater y byddwn ni’n uno â nhw i weithio arno.”
Roedd dros 20 o aelodau am siarad mewn ymateb i’r cynnig.
Galwodd sawl siaradwr am ailasesu adeiladau eglwysig. Cafwyd anogaeth gan yr Archesgob John i wneud y defnydd gorau o adeiladau. “Efallai fod yna fwy nag un adeilad mewn grŵp mewn ambell ardal ac y gall un adeilad gynnwys pawb. A oes angen cynhesu pob un sy’n golygu eu bod yn gollwng llygredd hefyd?”
Dywedodd Paul Murray (Abertawe ac Aberhonddu) ei bod hi’n amser ystyried hyfywedd ailagor yr holl adeiladau sydd wedi cau yn sgil pandemig Covid. “Bydd arian sylweddol yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw - nawr yw’r amser i ofyn a ddylem gau’r eglwys hon a symud i eglwys arall yn yr ardal weinidogaeth?”
Dywedodd y Parch Adrian Morgan (Abertawe ac Aberhonddu) fod y pandemig wedi profi bod yr Eglwys yn gallu ymateb yn hyblyg a chyflym mewn argyfwng. Gallai cau eglwysi fod yn broses boenus, meddai, “ond bydd pobl yn barod i dderbyn hynny’n gyflym pan fydd wedi’i rheoli’n dda ac yn rhan o strategaeth fwy.”
Argymhellodd siaradwyr eraill gynllun Eco-Eglwys A Rocha UK. Dywedodd Dr Henry Shephard (Llandaf) ei fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer sicrhau effaith. Awgrymodd y Parch Nigel Doyle (Abertawe ac Aberhonddu) y dylai’r cynllun edrych ar gynlluniau cynhyrchu incwm, yn ogystal â darparu canllawiau ar systemau a grantiau cynhesu cost-effeithiol. Rhybuddiodd am y perygl o golli dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau grant yn sgil oedi gweithdrefnau hawlebau.
Gofynnodd y Parch Phil Bettinson (Llanelwy) am byst gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio eglwysi a ficerdai er mwyn i glerigion mewn ardaloedd gwledig leihau carbon ar deithiau byr ond hanfodol. Awgrymodd Clive Hughes (Llanelwy) y dylid codi’r cyfyngiadau ar osod gwydr dwbl ar ffenestri eglwysi hanesyddol i atal colli gwres. Galwodd y Parch Peter Lewis (Llandaf) am adnoddau litwrgïaidd i gyfleu neges cynaliadwyedd. Soniodd Daniel Starkey (Bangor) am annog bioamrywiaeth mewn mynwentydd ac awgrymodd y dylid gwahardd blodau plastig ar feddau. Roedd Tony Mullins (Llandaf) yn gobeithio y byddai’r cynllun yn darparu cronfa o wybodaeth am faterion fel systemau cynhesu a chynlluniau grantiau, y gallai eglwysi fanteisio arnynt.
Wrth ymateb, diolchodd yr Esgob Joanna i’r holl gyfranwyr am eu brwdfrydedd a’u hymroddiad gan ddweud y byddai CHASE a’r Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yn ystyried eu sylwadau.
Pasiwyd y cynnig gyda mwyafrif llethol.
Polisi Buddsoddi Moesegol
Cyflwynodd James Turner, Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, gynnig i ddadfuddsoddi asedau’r Eglwys o danwydd ffosil erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd y cynnig yn galw ar aelodau i fabwysiadu gwelliant i’r Polisi Buddsoddi Moesegol fel na fyddai unrhyw fuddsoddiad yn cael ei wneud mewn unrhyw gwmni sy’n derbyn mwy na 5% o’i drosiant o gynhyrchu neu echdynnu tanwydd ffosil. Cymeradwywyd y diwygiad gan Gorff y Cynrychiolwyr fis Mawrth diwethaf.
“Roedd Corff y Cynrychiolwyr yn glir fod cyfyngu ar ei fuddsoddiad nid yn unig yn rhywbeth yr oedd am ei wneud ac mai dyma’r peth iawn i’w wneud,” meddai. Roedd y portffolio buddsoddi yn amrywiol iawn ac yn cael ei fonitro gan reolwyr cronfeydd a oedd wedi hen arfer trafod strategaethau moesegol.
Eiliwyd y cynnig gan Esgob Tyddewi, cadeirydd y Grŵp Buddsoddi Moesegol.
Esboniodd Mr Turner fod terfyn o bump y cant yn fwy ymarferol na therfyn sero gan nad oedd hi’n bosibl gweld daliadau unigol mewn rhai cwmnïau bob amser ac y byddai’n anodd eu canfod.
Pasiwyd y cynnig gyda mwyafrif sylweddol.
Sesiwn Tri
Adroddiad blynyddol Athrofa Padarn Sant
Mae ‘amrywiaeth dda’ o bobl yn derbyn hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth erbyn hyn meddai’r Archesgob John wrth gyflwyno’r cynnig i nodi adroddiad blynyddol Athrofa Padarn Sant, cangen hyfforddi’r Eglwys.
Dywedodd fod yr amrywiaeth o bobl o oedrannau, cefndiroedd ac ardaloedd gwahanol ledled y dalaith wedi creu argraff arno. Mae wedi’i galonogi hefyd gan yr amrywiaeth eang o weinidogaethau lleyg sy’n dod i’r amlwg a’r sylwadau cadarnhaol am y cwrs Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfaddefodd y Parchedig Athro Jeremy Duff, Prifathro Athrofa Padarn Sant, fod y flwyddyn wedi bod yn un heriol ond eu bod wedi cymryd "dau gam ymlaen am bob cam yn ôl”.
Cyfeiriodd at chwe thema yn yr adroddiad:
- Ffurfiant mewn cymunedau ar gyfer cenhadaeth - hon yw’r thema graidd o hyd, meddai;
- Blaenoriaeth efengylu – helpu pobl i fod â hyder wrth siarad am eu ffydd;
- Parhau i fuddsoddi mewn gwaith ieuenctid a phlant, lle mae rhywfaint o arbenigedd eisoes wedi’i ddatblygu;
- Hygyrchedd ac amrywiaeth – mae angen buddsoddiad gofalus mewn newid ond mae cynnydd yn cael ei wneud;
- Sicrhau dilysu ôl-radd gyda Phrifysgol Durham – buddsoddi mewn ysgolheictod ac ymchwil;
- Hwyliau ac angerdd – er gwaethaf blwyddyn anodd, mae’r Athrofa yn parhau i deimlo’n angerddol am dwf yr Eglwys.
“Yn y bôn, rydym yn barod ac yn awyddus i gefnogi’r gweledigaethau newydd sy’n datblygu ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaethau sy’n deillio o’r esgobaeth a’r esgobion, gan gynnwys ymateb i newid yn yr hinsawdd," meddai’r Athro Duff. “Rydym yn cael ein harwain gan ewyllys yr Eglwys, yn enwedig yr esgobion, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at y cyfarwyddiadau newydd sy’n deillio o’n Heglwys.”
Wrth eilio’r cynnig, mynegodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, bryder am broffil oedran ymgeiswyr sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. “Mae’r canrannau’n awgrymu Eglwys hŷn na fydd yn ddeniadol i deuluoedd iau o bosibl," meddai. “Mae hynny’n achos pryder i bob un ohonom.”
Mae llai nag un y cant o boblogaeth Cymru yn mynychu addoldy, meddai, felly mae angen gweithredu ar frys i gryfhau gweinidogaeth arloesol a gweinidogaeth gyda phobl ifanc a theuluoedd.
“Mae hon yn dasg i’r Eglwys gyfan – darparu cyfleoedd i’r ffyddloniaid dyfu yn eu ffydd er mwyn mynegi a rhannu eu ffydd – rhaid dweud nad ydym wedi gwneud hyn yn effeithiol bob tro," meddai’r Esgob Cherry wrth groesawu’r adnoddau yn ymwneud â disgyblion.
Er mai ychydig o bobl sy’n cynnig eu hunain ar gyfer y weinidogaeth ffurfiol, roedd rhai gweinidogaethau cyffrous ar gael i leygion, ychwanegodd. “Mae hyn yn destun llawenhau. Byddwn ni’n mynd ati fel esgobion ac arweinwyr galwedigaethau i ddatblygu’r gwaith hwn.”
Roedd y Parchedig Peter Lewis (Llandaf), swyddog galwedigaethau, yn pryderu nad yw rhai o’r cyrsiau sydd ar gael i leygion yn hygyrch i’r rhai ag addysg gyfyngedig.
Cyfaddefodd yr Athro Duff fod mwyafrif helaeth y bobl a oedd yn ymgymryd â’r cyrsiau wedi eu haddysgu i safon uchel. “Mae’n fater cymhleth," meddai. “Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, ond nid yw pawb yn teimlo’n ddigon hyderus i ymgymryd â’r cyrsiau. Mae angen i ni weithio gyda phlwyfi ar y mater hwn er mwyn helpu pobl i fentro a gweithio’n agosach i rymuso pobl i deimlo’n gyfforddus i ymgysylltu.”
Pasiwyd y cynnig.
Hawl i Holi
Cyflwynwyd ac atebwyd tri chwestiwn. Gallwch ddarllen y cwestiynau a’r ymatebion yma.
Sesiwn Pedwar
Rhannwyd yr aelodau’n grwpiau ar-lein ar gyfer trafodaeth am ddyfodol yr Eglwys mewn byd ôl-bandemig.
Casglwyd cofnodion pob grŵp a bydd crynodeb yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Sesiwn Pump
Cyflwyniad gan Esgobaeth Llandaf
Yn wreiddiol, roedd 2020 wedi’i chlustnodi’n Flwyddyn Pererindod Esgobaeth Llandaf, meddai Esgob Llandaf, June Osborne. Er bod llawer o’r digwyddiadau arfaethedig wedi cael eu canslo wrth i’r pandemig orfodi pobl i aros gartref a pheidio ag ymgynnull gydag eraill, roedd pererindod yn berthnasol o hyd, ond mewn ffordd gymharol annisgwyl.
“Wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn, roedd clerigion yr esgobaeth wedi mynd ar bererindod gyda’i gilydd i Santiago de Compostela. Dywedodd rhai fod hon yn daith ddiangen, ond roeddwn am i ni fod gyda’n gilydd mewn lle â hanes hir o werthfawrogi gweddi. Mae’r ymdeimlad a gawsom yno o fod yn gymdeithion ar daith gyda’n gilydd wedi para ers hynny. Roedd 2020 yn parhau i fod yn Flwyddyn Pererindod, ac roeddem yn teithio ar hyd ffordd nad oedd wedi’i throedio o’r blaen. Roedd Duw yn ein haddysgu sut i adrodd ei stori a datblygu er budd pawb.”
Roedd rhan o’r daith yn cynnwys dysgu sut i gyfathrebu mewn ffordd newydd. Roedd yr Esgob June wedi cyfarfod â 700 o aelodau Cynghorau Plwyf Eglwysig dros Zoom wrth i’r uwch dîm gyflymu’r newid i Ardaloedd Gweinidogaeth. Y gobaith yw sefydlu 29 o Ardaloedd Gweinidogaeth erbyn mis Ionawr nesaf.
Arwyddair y weledigaeth yw Lle Mae Ffydd yn Cyfrif, a’r tair uchelgais yw: mwy o ymgysylltu ag efengylu ar gyfer pobl ifanc, gan feithrin Cristnogion lleyg hyderus ac arweinyddiaeth leyg ac ymgysylltu â’r gymuned.
Eglurodd Matt Batten, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, sut mae’r esgobaeth yn canolbwyntio ar "adrodd stori lawen”.
“Mae llawer wedi newid, ond yr un yw’r neges o hyd: datgan yr Efengyl, gwneud pobl yn bysgod. Dyna sydd wrth wraidd ein strategaeth gyfathrebu o hyd. Erbyn hyn, mae mwy o gyfleoedd ar gael i rannu’r newyddion da ac rydym yn manteisio ar bob un.”
Allgymorth, meddai, yw "bara menyn" yr Eglwys, ac mae’r esgobaeth ar fin recriwtio Cyfarwyddwr Allgymorth.
“Byddai’n amhosibl gwneud y gwaith hwn heb y diwylliant cywir yn yr esgobaeth," meddai Matt. “Mae gennym gyfle i arloesi a rhoi cynnig ar weithredu’n wahanol – mae gennym ddiwylliant o ymddiriedaeth ac rydym yn tystio i drawsnewidiad godidog.”
Roedd Mike Lawley, cadeirydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, yn awyddus i ganmol ansawdd y lleygion sy’n cynnig eu hunain fel arweinwyr. Adleisiwyd ei sylwadau gan Mike Plaut, cyn gadeirydd CBI Cymru ac aelod o Gabidwl Eglwys Gadeiriol Llandaf. “Mae’r Eglwys mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud gwahaniaeth i’r gymdeithas ehangach," meddai, gan annog pobl i beidio ag aros ar y cyrion ond mynd ati i gymryd rhan, mewn gwleidyddiaeth o bosibl, a "chynnig gobaith ac anogaeth”.
Roedd aelod lleyg amlwg arall, Jane Hutt AS, hefyd yn pwysleisio’r angen i aelodau’r eglwys fod wrth wraidd eu cymunedau, gan nodi’r enghraifft o eglwysi’n dod ynghyd ym Mhenalun er mwyn helpu yn y gwersyll i ffoaduriaid.
Dywedodd Archddiacon Llandaf, Peggy Jackson, mai gweinidogaeth gydweithredol gref gydag arweinyddiaeth leyg hyderus oedd yn gyfrifol am lwyddiant yr esgobaeth. “Dyna’r newid mwyaf, ac mae wedi rhoi’r momentwm i ni lwyddo. Mae pobl a oedd yn ansicr o’r blaen yn teimlo eu bod yn rhan o rywbeth mwy - mae’r gweddill ohonom yn camu ymlaen gan helpu i ddod ynghyd â’r rheiny sydd wedi colli eu hyder o bosibl.”
Cynnig Aelod Preifat ar statws elusen
Cyflwynodd Archddiacon Margam, Mike Komor, gynnig i ganiatáu i Gynghorau Plwyf Eglwysig newid eu statws elusen er mwyn mynd i’r afael â phryderon am atebolrwydd personol.
Mae pryderon wedi’u mynegi, meddai, am faint a chymhlethdod Cynghorau Plwyf Eglwysig yn y dyfodol yn sgil y newid i Ardaloedd Gweinidogaeth. Byddai’r cynnig yn caniatáu iddynt gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol.
Eiliwyd y cynnig gan Tony Mullins (Llandaf), ond yn dilyn cwestiynau gan aelodau, penderfynodd Archddiacon Mike dynnu’r cynnig yn ôl er mwyn i’r Pwyllgor Sefydlog ei ystyried yn fanylach.
Sesiwn Chwech
Amseroedd a Thymhorau (rhan 3)
Cafwyd croeso cynnes i drydedd rhan litwrgi newydd Amseroedd a Thymhorau’r Eglwys gan yr aelodau.
Mae Amseroedd a Thymhorau (rhan 3) yn cwmpasu ‘Cylch Iachawdwriaeth’ blwyddyn yr Eglwys, o Sul y Drindod hyd at Dymor y Deyrnas.
Fodd bynnag, wrth gyflwyno’r gwaith newydd, nododd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, fod angen rhoi’r litwrgi ar waith wrth genhadu, yn ogystal â’i groesawu.
“Mae’r cynnig hwn yn ein gwahodd i weld ein litwrgi fel rhywbeth sy’n cael ei roi ar waith mewn ffordd genhadol ac sy’n ceisio dod â bendith Duw i bobl a chenedl Cymru," meddai. “Dylai ein haddoliad ganolbwyntio ar ymgysylltu, nid perfformiad," meddai. “Dylai fod yn fywiog, gan roi bywyd i addoliad Duw.”
Roedd yr Esgob Gregory yn awyddus i dalu teyrnged i waith SLAC – y Pwyllgor Sefydlog Ymgynghorol ar Litwrgi – gan argymell papur esboniadol am gysylltiadau rhwng litwrgi a chenhadaeth gan un o’i aelodau, y Parchedig Catherine Haynes. Meddai’r Esgob Gregory, "Dydyn ni ddim eisiau cynhyrchu cyfrolau sy’n adnoddau hyfryd ond sy’n aros ar y silff wedyn. Rydym am hyrwyddo addoliad sy’n greadigol, yn feiddgar ac yn groesawgar, gan gynorthwyo ein tystiolaeth gyffredin i bobl Cymru.”
Wrth gefnogi’r cynnig, dywedodd y Canon Mark Preece, cadeirydd SLAC, fod Amseroedd a Thymhorau yn cynnig deunydd ychwanegol i gyfoethogi a bywiogi addoliad, ac yn cynnal y traddodiad Anglicanaidd o ddefnyddio iaith yn effeithiol.
“Mae’r litwrgi hwn yn mynd â ni drwy Amser Cyffredin, y tymor ‘gwyrdd’. Ond does dim byd cyffredin am yr adnoddau hyn. Maen nhw’n cwmpasu gwyliau allweddol, megis yr Holl Saint, yr Holl Eneidiau, Diwrnod y Cofio hyd at uchafbwynt gogoneddus gwledd Crist y Brenin…. Ein gobaith yw y bydd yr adnoddau hyn yn cyfoethogi ein haddoliad, gan ein helpu i weld pethau cyfarwydd trwy lygaid newydd ac mewn goleuni gwahanol.”
Diolchodd yr Archesgob John i’r Comisiwn am ei waith yn paratoi’r gyfres dros y blynyddoedd. Mae’r cysylltiad rhwng litwrgi a chenhadaeth yn "gwbl allweddol" meddai. Fodd bynnag, rhybuddiodd fod hyn yn arwain at oblygiadau ar gyfer hyfforddiant.
“Mae’r litwrgi gorau yn arf cwbl ddiwerth yn nwylo ymarferydd gwael, ac ni fydd yn cyflawni ei bwrpas. Mae angen rhoi blaenoriaeth i hyfforddi pobl i gynnal addoliad da er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl.”
Fodd bynnag, rhybuddiodd yr Archddiacon Cymunedau Eglwysig Newydd, Mones Farah (Tyddewi), fod rhagor o litwrgi "ond yn gwneud y cyfyngiadau’n fwy caethiwus”. Galwodd am "sgerbwd" litwrgaidd y gallai clerigion ychwanegu ato, gan nodi hefyd fod iaith Cristnogaeth yn rhwystr i lawer. “Mae angen i ni feddwl y tu hwnt i’r 2.5 y cant o bobl sy’n mynychu’r eglwysi i’r 97 y cant nad ydyn nhw’n mynychu. Mae iaith yn bwysig yn y cyswllt hwn. Rydym yn byw mewn oes ôl-Wledydd Cred, nid ôl-Gristnogol – mae angen mwy o anffurfioldeb arnom, mwy o ryddid a mwy o allu i ymddiried yn yr arweinyddiaeth leol.”
Roedd y Parchedig Miriam Beecroft (Bangor) yn annog pobl i ddefnyddio’r deunydd newydd mewn ffordd greadigol er mwyn ymgysylltu â’r rhai sy’n dod i mewn i’r eglwys. “Mae llawer o aelodau rheolaidd yn cymryd rhan mewn gwasanaethau ar-lein yn unig a ddim yn ymgysylltu – sy’n dipyn o her yn fy marn i," meddai. Mae angen amrywiaeth dymhorol yn ymatebion cynulleidfaoedd i litwrgi newydd hefyd, meddai.
Gan ddiolch i’r aelodau am eu hymatebion, cyfeiriodd yr Esgob Gregory at sioe deithiol litwrgaidd sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf i helpu i hyfforddi pobl. Hefyd, dywedodd y byddai rhan nesaf y gyfres, rhan pedwar, yn canolbwyntio ar gylch creadigaeth i gyd-fynd â materion amgylcheddol.
Pasiwyd y cynnig gyda mwyafrif llethol.
Cynnig Aelod Preifat ar Flwyddyn Llythrennedd Beiblaidd
Mae blwyddyn o unigedd cymdeithasol yn sgil y pandemig wedi creu argyfwng iechyd ysbrydol, yn ogystal ag argyfwng iechyd meddwl, meddai’r Parchedig Naomi Starkey wrth gyflwyno cynnig i ddynodi 2022 yn Flwyddyn Llythrennedd Beiblaidd. I lawer, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o geisio ymdopi wrth fyw yn y diffeithwch, meddai.
“Dyma’r amser i ddod allan o unrhyw swigod ysbrydol rydym wedi cilio iddynt.”
Mae llythrennedd Beiblaidd yn ganolog i fod yn Gristion hyderus, meddai Naomi. “Mae’r cyfan yn rhan o’n stori – DNA pob Cristion. Mae gafael cadarn ar ysgolheictod yn hollbwysig, ond mae angen hyder arnom hefyd i adrodd ein stori. Ni allwn ddewis a dethol ein ffefrynnau a chyfyngu’r cyfan i lyfr bach o feddyliau bendithiol. Rhaid inni wybod y cyfan, gan gynnwys y darnau lletchwith ac annealladwy. Mae angen i ni symud y tu hwnt i ddelwedd Ysgol Sul o’r Beibl.”
Mae llythrennedd Beiblaidd yn ymwneud â mwy na gwybod darnau o’r Beibl ar ein cof, meddai. Mae’n ymwneud â "beth yw ystyr byw fel Cristion mewn diwylliant sy’n newid, bod yn ddigon hyderus i ofyn cwestiynau a bod â hyder tawel y gallwn gynnig y gobaith sydd gennym yng Nghrist i eraill. Mae’n stori y mae angen i’n cenedl ei chlywed nawr yn fwy nag erioed.”
Wrth eilio’r cynnig, dywedodd y Parchedig Kevin Ellis fod diffyg dealltwriaeth pobl o’r Beibl yn ei ddychryn. “Sut allwn ni adrodd y stori os nad ydym yn gwybod y stori?" gofynnodd. “Mae llythrennedd Beiblaidd ar drai. Y perygl yw bod yr eglwys, yn gyffredinol, wedi anghofio ei stori. Beth am ddechrau o’r newydd ac ailddysgu ac ailadrodd y stori?”
Dywedodd yr Archesgob John ei fod yn cefnogi’r cynnig gyda "fy holl galon, meddwl ac enaid”. “Rhaid i ni ddeall ein hysgrythurau," meddai. “Maen nhw’n llywio ein camau ac yn goleuo ein llwybr – gwae ni os ydyn ni’n eu hanwybyddu.”
Cytunodd Helen Franklin (Bangor) fod angen addysgu pobl am eu ffydd o hyd – yn union fel roedd y dramâu Dirgelwch wedi’i wneud yn yr Oesoedd Canol. “Mae’n rhan o’n hiaith gymdeithasol ond does neb yn gwybod y stori wreiddiol," meddai. “Mae angen i ni drysori’r stori trwy ei defnyddio a sicrhau bod pobl yn ei gwybod a’i deall yn drylwyr.”
Pasiwyd y cynnig gyda mwyafrif llethol.
Sesiwn Saith
Adroddiad Goruchwylwyr Ffyddlon mewn Eglwys sy’n Newid
Mae clerigion heddiw yn wynebu tipyn o argyfwng, meddai Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, wrth gyflwyno cynnig i dderbyn adroddiad ar y weinidogaeth ordeiniedig.
Mae’r twf mewn arweinyddiaeth a gweinidogaeth leyg yn yr Eglwys, yn enwedig wrth greu Ardaloedd Gweinidogaeth sy’n cael eu cynnal gan dimau, wedi arwain at gwestiynau am alwedigaeth clerigion yn yr Eglwys heddiw, meddai.
Bum mlynedd yn ôl, gofynnodd y Fainc i’r Comisiwn Athrawiaethol archwilio rôl tair urdd y weinidogaeth ordeiniedig – diaconiaid, offeiriaid ac esgobion. Arweiniodd hyn at gasgliad o draethodau yn yr adroddiad, Goruchwylwyr Ffyddlon mewn Eglwys sy’n Newid: Deall y Weinidogaeth Ordeiniedig yng ngoleuni Golwg 2020.
“Mae’r Comisiwn wedi gwneud gwaith ardderchog i ni," meddai’r Esgob Gregory. “Dim ond cyfran fach iawn o’r gwaith rydym yn ei weld heddiw – mae’r Comisiwn wedi dewis detholiad o’i waith i’w gyflwyno i ni.
“Rydym wedi ymrwymo i weinidogaeth a rennir, i gyfuniad o weinidogaethau lleyg ac ordeiniedig sy’n gweithio ochr yn ochr gyda’i gilydd. Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Ble mae Duw yn ein harwain? Pa fath o ddyfodol ydym ni eisiau ei weld? Dyma’r cwestiynau y mae’r adroddiad yn eu hystyried.”
Rhybuddiodd yr Esgob Gregory fod y cynnig yn un hawdd i’w basio, ond ddim mor hawdd i’w ymgorffori mewn bywyd bob dydd, gan fod angen i aelodau astudio’r adroddiad yn ogystal â’i dderbyn.
“Peidiwch â phleidleisio os nad ydych chi’n barod i ddatblygu dealltwriaeth o weinidogaeth yr Eglwys, meddwl am yr hyn rydym ni’n gofyn i’n gweinidogaeth ordeiniedig ei wneud, ac ymgysylltu â’r adroddiad hwn a’i gymeradwyo ar sail profiad personol," meddai.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Canon Dr Mark Clavier, cadeirydd y Comisiwn Athrawiaethol. Nod yr adroddiad, meddai, yw pwyso a mesur y sefyllfa bresennol a dirnad lle gallai Duw fod yn ein harwain yn y dyfodol. “Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog sgyrsiau a syniadau a fydd yn ein galluogi i gamu ymlaen yn ddeallus ac yn ffyddlon gyda’n gilydd i ba ddyfodol bynnag sy’n aros amdanom," meddai.
“Nid dyma’r amser hawsaf i fod yn weinidog – dydy’r gwaith a gawsom gan Grist ddim yn hawdd. Wrth i chi ddarllen, dadlau, trin a thrafod rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn fodd i’ch ysbrydoli, adfywio a chryfhau eich gweinidogaeth a’ch galwedigaeth.”
Wrth eilio’r cynnig, dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, ei fod yn "adnodd rhagorol ar gyfer myfyrdod ar sail gweddi ar gyfer holl bobl Dduw, nid clerigion yn unig”. Dywedodd fod y traethodau’n dod yn fyw wrth eu trafod ag eraill.
Roedd Archddiacon Llandaf, Peggy Jackson, wrth ei bodd â phenodau’r adroddiad sy’n trafod gweinidogaethu yng nghyd-destun Cymru. “Mae’n unigryw i Gymru ac yn hynod o ddefnyddiol," meddai.
Dywedodd y Parchedig Ganghellor Pam Powell (Llanelwy) ei bod yn "braf gweld gwedd lorweddol ar y weinidogaeth yn hytrach na gwedd hierarchaidd”. Dywedodd fod pobl yn cael eu hyfforddi gyda’i gilydd ac, o ganlyniad, yn meithrin dealltwriaeth o rolau ei gilydd.
Pasiwyd y cynnig.
Mae cyfres o ffilmiau a sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol ar-lein gydag awduron traethodau’r adroddiad yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf. Mae canllaw astudio ar gyfer grwpiau ar gael hefyd. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.churchinwales.org.uk/en/faith/doctrinal-commission/
Sesiwn Wyth
Ffarwelio
Talodd yr Archesgob John deyrnged i Archddiacon Llandaf, Peggy Jackson, a oedd yn ymddeol ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Wrth ddiolch a dymuno’n dda iddi, nododd ei bod yn adnabyddus am ei gwaith yn hyrwyddo gweinidogaeth menywod.
Dywedodd yr Archddiacon Peggy y bu’n fraint iddi wasanaethu’r Eglwys "ar adeg hynod gyffrous wrth i fenywod gael eu derbyn yn Esgobion ac wrth i’r Eglwys newid er gwell.” Yr uchafbwyntiau iddi hi oedd gwaith y Corff Llywodraethol, meddai, "yn rhannu yn y dadleuon ac yn teimlo ein bod yn cyfrannu at ddyfodol yr eglwys.”
Anerchiad y Llywydd
Wrth annerch yr aelodau am y tro olaf, dywedodd yr Archesgob fod yr Eglwys ar y trywydd iawn i fod yn fwy cynhwysol, wedi’i threfnu’n well ac yn canolbwyntio mwy ar allgymorth.
Er yn cydnabod bod llawer o waith i’w wneud o hyd, roedd yr Archesgob John, sy’n ymddeol ar 2 Mai, yn diolch am y cynnydd a wnaed.
Dywedodd yr Archesgob John ei fod yn "hynod ddiolchgar" ac yn "freintiedig" i gael y cyfle i wasanaethu yn yr Eglwys am y rhan fwyaf o’i oes, a bod yn aelod o’r Corff Llywodraethol am dros 40 mlynedd - fel lleygwr, diacon, offeiriad, esgob ac, am y pedair blynedd diwethaf, fel Archesgob.
Cyfeiriodd yr Archesgob John at weledigaeth ar gyfer yr Eglwys a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Ustus Bankes, un o lunwyr Cyfansoddiad cyntaf yr Eglwys adeg ei datgysylltu dros 100 mlynedd yn ôl. Er gwaethaf rhai methiannau, roedd "teimlad llawen" bod y weledigaeth yn cael ei hadfywio, meddai.
Meddai, "Ni fydd neb ohonom byth yn gwybod p’un ai yw ein geiriau, ein gweithredoedd, ein delweddau wedi annog neu ddeffro yr un enaid heb sôn am eglwys gyfan. Ond nawr wrth i mi gyrraedd diwedd yr anerchiad yn hwn, fy nghyfarfod olaf o’r Corff Llywodraethol, diolchaf am gymaint sy’n dechrau ymddangos yn fwy posibl, hyd yn oed yn fwy tebygol, fel y nodir yng ngweledigaeth John Bankes ar gyfer eglwys Crist yma yng Nghymru.”
Gallwch ddarllen anerchiad llawn yr Archesgob John yma:
Ymddeoliad yr Archesgob
Ymunodd Archesgob Caergaint â’r cyfarfod i dalu teyrnged i’r Archesgob John a diolch iddo am ei waith gyda’r Cymundeb Anglicanaidd, yn enwedig fel aelod o Bwyllgor Sefydlog y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd.
“Rydw i wedi mwynhau gweithio gydag ef yn fawr iawn ac rwy’n ddiolchgar am ei holl gyfraniad at waith yr Eglwys," meddai. “Rwy’n ddiolchgar am ei sgiliau cyfreithiol, am siarad dros rannau o’r Cymundeb nad ydynt yn cael digon o sylw bob amser ac am wneud i ni wrando.”
Dywedodd yr Archesgob Justin ei bod yn ddrwg iawn ganddo nad oedd yn gallu ymweld â Chymru’r llynedd i nodi canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru oherwydd y pandemig. Byddai’n gweld eisiau’r Archesgob John "fel ffrind ac fel rhywun i drin a thrafod gwahanol faterion dros y ffôn”.
Yn ei deyrnged, nododd y prif weithredwr, Simon Lloyd, fod yr Archesgob John wedi gwasanaethu ar y Corff Llywodraethol ers bron i 40 mlynedd – yn ei dro fel cynrychiolydd lleyg cyfetholedig, diacon, offeiriad, esgob ac Archesgob.
“Mae sefyllfa lle mae Llywydd y Corff Llywodraethol wedi gwasanaethu ym mhob un o’r tair urdd yn anghyffredin, os nad yn ddigynsail. Prin iawn yw’r bobl sydd wedi gwasanaethu ers bron i 40 mlynedd hefyd," meddai. “Archesgob, wrth i chi ymddeol, bydd y Corff Llywodraethol yn gweld eisiau eich gwybodaeth fanwl am ei drafodion, eich hiwmor, eich doethineb ac, wrth gwrs, eich atgofion.”
Dywedodd Mr Lloyd fod gofal yr Archesgob John o staff y Swyddfa Daleithiol yn cael ei werthfawrogi’n fawr. “Byddwn yn gweld eich eisiau’n fawr, ond y prif beth rwyf am ei ddweud y prynhawn yma yw diolch. Diolch, fel ysgrifennydd lleyg, ar ran y Corff Llywodraethol, diolch ar ran Corff y Cynrychiolwyr a’i staff a diolch, gen i, am bopeth rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd, am eich arweiniad a’ch cefnogaeth. A diolch am eich cyfeillgarwch.”
Teithiodd Esgob Bangor, Andy John, i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar gyfer darllediad allanol o’r cyfarfod er mwyn cyflwyno anrhegion i’r Archesgob John ar ran yr esgobion a’r Corff Llywodraethol. Ymysg yr anrhegion yr oedd paentiad a gomisiynwyd yn arbennig o gangell yr eglwys gadeiriol.
Talodd yr Esgob Andy deyrnged i waith yr Archesgob fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu ac am ei rôl genedlaethol fel Archesgob Cymru. Hefyd, diolchodd i deulu’r Archesgob John – ei wraig, Jo, eu merch Kate a’u mab Christopher.
“Mae gweithio fel ffigwr cyhoeddus ac arweinydd yn y gymuned yn gallu achosi straen. Yn ystod yr adegau prysuraf ac wrth wynebu’r heriau mwyaf, rydych chi fel teulu wedi gorfod ymdopi a bod yn gefn i’r dyn rydych chi’n ei garu," meddai.
Dywedodd yr Esgob Andy fod ei holl gydweithwyr yn ddyledus i’r Archesgob John. “Fel cydweithwyr, yn enwedig yn sgil colli’r rhan fwyaf o ddathliadau’r canmlwyddiant, buom yn ymwybodol o’r angen a’r her i chi allu dyfalbarhau. Yn ystod y cyfnod hwn, doedd neb yn synnu eich bod yn parhau i weithredu fel arweinydd cyson a phwyllog. Ond y nodweddion personol pwysicaf o bosibl yw eich cynhesrwydd personol, eich ffraethineb, eich gallu gwych i adrodd stori a’ch agwedd gadarnhaol. Mawr yw ein dyled i chi am sefyll yn y bwlch ac am hynny mae’r Eglwys yng Nghymru yn hynod ddiolchgar.”
Wrth ymateb, diolchodd yr Archesgob John i gydweithwyr presennol a chydweithwyr y gorffennol, i staff taleithiol ac i holl aelodau’r Corff Llywodraethol. Gorffennodd ei gyfarfod olaf gyda gweddi a bendith.
Addoli
Archddiacon Tyddewi, Paul Mackness, drefnodd yr addoliad, gan gydgysylltu’r trefniadau ar ran y cydgysylltydd addoli, y Tad John Connell, na fedrai fod yn bresennol:
- Archddiacon Margam, Mike Komor, arweiniodd y gweddïau agoriadol ddydd Mercher.
- Y Canon Marianne Osborne arweiniodd yr Hwyrol Weddi.
- Y Canon Dylan Williams arweiniodd y Foreol Weddi.
Ymwelwyr
Croesawyd cynrychiolwyr o Cytûn ac Eglwysi eraill i’r Corff Llywodraethol:
Y Canon Aled Edwards - Prif Swyddog Gweithredol, Cytûn ac Eglwysi Cyfamodol Cymru
Peredur Griffiths - Galluogwr Ffydd a Thystiolaeth Cytûn ac Eglwysi Cyfamodol Cymru
Y Parchedig Dr Stephen Wigley - Cadeirydd Synod Cymru’r Eglwys Fethodistaidd
Y Parchedig Mark Fairweather Tall - Gweinidog Rhanbarthol, Cymdeithas Bedyddwyr De Cymru
Cyfarfod Nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol ar 6-8 Medi.