Pigion - Ebrill 2022
Cyfarfu aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghanolfan Gynadleddau Ryngwladol Cymru, Casnewydd, ar 27-28 Ebrill. Roedd y cyfarfod yn cael ei ffrydio yn fyw a gallwch wylio’r recordiad o bob sesiwn, ynghyd â chrynodeb byr, isod.
Sesiynau dyddiol
Ebrill 27 – Sesiwn Un
Cymun Agoriadol
Yr Archesgob Andrew John a lywyddodd yn y gwasanaeth agoriadol o Gymun Sanctaidd.
Yn ystod y gwasanaeth, urddodd dri Chanon metrowleidyddol, y Parchedig Athro Dr Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant, y Parchedig Dr Ainsley Griffiths, Cyfarwyddwyr Ffydd, Trefn ac Undod a Simon Lloyd, Ysgrifennydd Taleithiol.
Teyrngedau i gyn-gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog
Safodd yr aelodau ar eu traed fel teyrnged i gyn-gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, Lis Perkins, a fu farw ar Sul y Pasg.
Yn aelod ers blynyddoedd o’r Pwyllgor, roedd Lis wedi gwasanaethau fel Cadeirydd rhwng 2016 a 2020, y fenyw gyntaf i fod yn y swydd honno. Roedd yn dal yn aelod hyd fis Hydref y llynedd.
Yn ystod ei chyfnod, bu Lis ar nifer o bwyllgorau eraill, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu a fu’n cynghori ar argymhellion Adolygiad yr Eglwys yng Nghymru yn 2012 a Phwyllgor y Canmlwyddiant a fu’n arwain y cynlluniau i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yn 2020.
Roedd yn dal i gyfrannu’n helaeth at fywyd ei phlwyf ym Mhorthaethwy, gan drefnu gŵyl gerddorol yn flynyddol, ac roedd hefyd yn Hwylusydd Masnach Deg i Esgobaeth Bangor.
Anerchiad y Llywydd
Galwodd Archesgob Cymru ar i Eglwys Uniongred Rwsia gondemnio’r rhyfel yn Wcráin yn ei Anerchiad y Llywydd.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John bod ymosodiad direswm Rwsia yn “alaethus” gan gefnogi’r galwadau ar i’r eglwys yn Rwsia gondemnio lladd pobl gyffredin, pwyso am atal y tanio ar unwaith a mynnu diwedd i’r rhyfel.
Soniodd yr Archesgob hefyd am yr heriau y mae’r Eglwys yng Nghymru yn eu hwynebu ac amlinellodd gynigion dewr ac uchelgeisiol ar gyfer y degawd nesaf er mwyn eu cyflawni.
Disgyblaeth ac efengylu fyddai’r blaenoriaethau a byddai buddsoddiad “newydd a sylweddol” o’r cronfeydd canolog, yn cael eu cyflawni mewn ffordd fydd yn galluogi esgobaethau i lunio cyllidebau at y dyfodol gyda mwy o sicrwydd.
Roedd yr esgobion hefyd yn archwilio ffyrdd o weithio mwy gyda’i gilydd ar gyfer yr eglwys gyfan, yn hytrach na’u hesgobaeth eu hunain yn unig. Roedd y strwythurau presennol yn cael eu harchwilio i weld a oeddynt yn galluogi i nodau uchelgeisiol gael eu gwireddu.
Ebrill 27 – Sesiwn Dau
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Mae’r Pwyllgor Sefydlog wedi cytuno ar fandad newydd dros genhadaeth ac efengylu, dywedodd y cadeirydd, Dr Siȃn Miller, wrth gyflwyno’r adroddiad.
Roedd y Pwyllgor wedi cytuno i gymeradwyo a mabwysiadu argymhelliad y Fainc ar gyfer y mandad newydd, i gadarnhau ei benderfyniad i weithio ar ddiben, uchelgais, gwerthoedd a nodau’r Eglwys a gwahodd adroddiadau am y camau hyn cyn diwedd 2022.
Tynnodd Dr Miller sylw hefyd at Ymchwiliad ac Adolygiad Mynwy. Roedd grŵp gweithredu’n cael ei benodi i gynghori ar broses ac amserlen i weithredu ar yr argymhellion. Byddai dan gadeiryddiaeth Tim Llewelyn a byddai’n cynnwys yr Esgob Tim Thornton, cyn Esgob Truro a’r Esgob yn Lambeth fel aelod annibynnol.
Pasiwyd holl argymhellion y Pwyllgor Sefydlog.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Cyfreithiol a Llywodraethu
Amlinellodd y Canon Steven Kirk, cadeirydd yr Is-bwyllgor Drafftio, bedwar argymhelliad yr adroddiad ar gyfer diwygio a chywiro’r Cyfansoddiad. Pasiwyd y tri cyntaf ond cyfeiriwyd y pedwerydd - diwygiad i egluro pwy oedd Cofrestrydd yr Archesgob a sut y caiff ei benodi - yn ôl at y Pwyllgor Sefydlog i gael mwy o eglurder am ymddeol ac ymddiswyddo.
Adroddiad Mainc yr Esgobion
Amlinellodd yr Archesgob Andrew gynllun 10 mlynedd i feithrin disgyblion newydd a galluogi i ardaloedd gweinidogaeth a chenhadaeth ffynnu.
Rhyddhawyd rhagor o arian gan yr ymddiriedolwyr ac roedd y ffordd yr oedd yn cael ei ddosbarthu i esgobaethau yn newid. Roedd y gwaith yn parhau ar y manylion ond diolchodd i Gorff y Cynrychiolwyr am ei egni a’i ymroddiad.
Croesawodd yr Archesgob benodiad dau esgob newydd, John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, a Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor. Gan yr Esgob John yr oedd y portffolio efengylu, twf a rhwydweithiau arloesi a gan yr Esgob Mary yr oedd addysg.
Gan gyfeirio at Adolygiad Mynwy, cydnabu’r Archesgob Andrew iddo fod yn fater anodd ac yn gyfnod cythryblus. Dywedodd bod yr Eglwys wedi ymateb yn gyflym wrth sefydlu grŵp gweithredu a chael craffu o’r tu allan “fel nad ydym yn marcio ein gwaith cartref ein hunain”.
Ebrill 27 – Sesiwn Tri
Cyflwyniad Mynwy
Arweiniodd yr Esgob Cherry Vann yr esgobaeth trwy gyfnod o newid cadarnhaol a hanfodol, dywedodd Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Isabel Thompson, wrth gyflwyno cyflwyniad o’r esgobaeth.
Talodd deyrnged i waith “eithriadol” timau Trosglwyddo’r Ardal Weinidogaeth oedd wedi golygu bod bron hanner yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn awr wedi eu comisiynu, er gwaethaf heriau’r pandemig a, chyn hynny, cyfnod hir o ansicrwydd ac anesmwythyd. Diolchodd hefyd i’r clerigwyr a’r staff mewn esgobaethau eraill oedd wedi rhannu eu profiadau a’u hadnoddau i wneud yr “her anferth” yn un y gellid ei chyflawni.
Amlinellodd yr Esgob Cherry weledigaeth yr esgobaeth oedd yn seiliedig ar bum nod cenhadaeth y Cymundeb Anglicanaidd. Dan faner Ffydd yn Ein Dyfodol, y themâu oedd: Disgyblaeth, Stiwardiaeth, Cyfiawnder Cymdeithasol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chreu a’r Amgylchedd.
Dywedodd y bydd y ddogfen â’r weledigaeth yn cael eu lansio yng Nghynhadledd yr Esgobaeth eleni a byddai’n sail ar gyfer cais yr esgobaeth i’r Gronfa Efengylu.
Cyflwynodd Archddiacon Mynwy, Ian Rees, bum ffilm i adlewyrchu pob thema yn y weledigaeth o rannau gwahanol o’r esgobaeth.
Wrth gloi’r cyflwyniad, dywedodd yr Esgob Cherry, “Mae Esgobaeth Mynwy yn lle gwahanol iawn i’r un y deuthum i iddo ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Gallaf innau ddweud fy mod yn falch o’r ffordd y mae’r clerigwyr, Gweinidogion Lleyg Trwyddedig a chynulleidfaoedd yr esgobaeth wedi dod at ei gilydd, symud ymlaen o gyfnod anodd iawn o helynt a gofid ac yn awr yn edrych ymlaen at yr hyn yr ydym yn ei gredu yw’r dyfodol cyffrous sydd gan Dduw mewn golwg i ni.”
Ebrill 27 - Sesiwn Pedwar
Adroddiad Athrofa Padarn Sant
Roedd y misoedd diwethaf wedi gweld adnewyddu cyfeiriad strategol Athrofa Padarn Sant wrth iddi ymateb i’r newid yng nghyfeiriad yr Eglwys, dywedodd y Pennaeth, y Parchedig Athro Jeremy Duff.
Ei nod oedd sicrhau bod cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yn eistedd gyda’i gilydd yn ganolog iddi. “Rydym yn ystyried bod tyfu eglwysi a gwasanaethu cymunedau yn anodd,” dywedodd. “Felly mae’n rhaid i’n gwasanaethau cefnogi fod yn rhai o’r radd flaenaf.”
Wrth eilio’r cynnig i dderbyn yr adroddiad, talodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, deyrnged i waith y staff ac am bopeth yr oeddynt wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn “fwyaf heriol” yn hanes Athrofa Padarn Sant, oherwydd cyfnodau clo’r pandemig.
Tynnodd sylw at rai o ganfyddiadau’r adroddiad. Roedd mwyafrif y rhai sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn awr yn fenywod – 70% - a ddaeth ar ôl blynyddoedd o bryder am anghyfartaledd o ran rhyw mewn gweinidogaethau trwyddedig. Roedd hefyd fwy o ymgeiswyr dan 50 oed na drosodd.
Ond, dywedodd bod y nifer isel o Weinidogion Lleyg Trwyddedig sy’n cyflwyno eu hunain yn parhau yn bryder.
Pasiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad.
Hawl i Holi
Gofynnwyd pum cwestiwn yn y cyfarfod hwn.
- Huw Marshall, am broblemau ymarferol cyffredin - a atebwyd gan yr Ysgrifennydd Taleithiol, Simon Lloyd
- Dan Priddy, am y defnydd o ynni yn yr Eglwys yng Nghymru, a atebwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, Alex Glanville
- Y Gwir Barchedig Ian Black, am Ymchwiliad ac adolygiad Mynwy, a atebwyd gan Tim Llewelyn
- Y Parchedig Dr Jonathon Wright, am weledigaeth strategol, a atebwyd gan yr Archesgob
- Syr Paul Silk, am aelodaeth Eglwys Uniongred Rwsia o Gyngor Eglwysi’r Byd, a atebwyd gan Esgob Llanelwy
Ebrill 28 – Sesiwn Pump
Cynnig Newid Hinsawdd
Gan gyflwyno dogfen fframwaith ar gyfer yr Eglwys i gyrraedd ei tharged carbon sero net, dywedodd Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, mai “dogfen ar waith” yw hi.
Ei diben yw nodi’r llwybr ar gyfer pob rhan o’r eglwys a bydd ei hargymhellion yn cael eu hadolygu yn gyson a’u diweddaru, gan roi cyfle i ddysgu o’r profiad. Nid ydym yn y maes “dyheadau, gobeithion a dymuniadau”, dywedodd yr Esgob Joanna. Yn hytrach rydym yn gwneud y gwaith i weithredu ar ein gobeithion ar gyfer y blaned. Pwysleisiodd, fel cymuned ffydd, bod ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd wedi ei wreiddio yn ein cyfrifoldeb am stiwardiaeth ac felly mae’r Fframwaith yn cychwyn gyda gweddi.
Trafododd yr aelodau’r Fframwaith mewn grwpiau a chynhaliwyd sesiwn i roi adborth dan arweiniad Alex Glanville, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, a Julia Edwards, Hwylusydd Newid Hinsawdd.
Eiliwyd y cynnig gan Dan Priddy (Tyddewi). Rhoddodd anogaeth i’r Eglwys dderbyn y Fframwaith i’w breichiau’n angerddol – nid dim ond ei dderbyn - ac i ymwneud ag o ar bob lefel.
Pasiwyd y cynnig:
Bod y Corff Llywodraethol
i) Yn cefnogi’r Fframwaith ar gyfer Carbon Sero Net, yn amodol ar y pwyntiau allweddol o’r gwaith grŵp, ac yn
ii) Annog pob lefel o’r Eglwys i dderbyn a mabwysiadu’r Fframwaith i’n galluogi i wireddu ein huchelgais carbon sero net
Ebrill 28 - Sesiwn Chwech a Saith
Cyflwyniad Ysgolion yr Eglwys
Roedd Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, i fod i agor y cyflwyniad ar ysgolion ond bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl am resymau personol. Yn hytrach, clywodd yr aelodau gan brif weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol, y Parchedig Nigel Genders, a ddisgrifiodd waith y Gymdeithas a’i pherthynas â’r Eglwys.
Cyflwynodd yr Esgob Mary Stallard – a fu’n gaplan ysgol - y cyflwyniad a dywedodd ei fod yn “gyfle gwych i’r Corff Llywodraethol ddathlu gwaith rhyfeddol ein hysgolion”. Nododd bod mwy na 26,000 o blant yn cael eu haddysgu yng 146 o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru – “nifer anferthol o bobl ifanc yr ydym yn eu derbyn i’n cymunedau”. Talodd deyrnged i staff yr ysgolion am eu hymrwymiad a’u gwaith caled, yn arbennig yn ystod y pandemig. Diolchodd hefyd i dimau addysg yr esgobaethau ac aelodau cyrff llywodraethol yr ysgolion.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol, Elizabeth Thomas, bod y cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru yn “un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i addysg ers degawdau”.
Mae Addysg Grefyddol yn awr yn rhan o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, sy’n dod dan y Dyniaethau. Amlinellodd Mrs Thomas gyfarwyddyd yr Eglwys ar gyfer dysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, oedd wedi cael ei gynhyrchu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd bod yr Eglwys yn ymroddedig i gefnogi athrawon a hefyd i rannu ymchwil i ddatblygu’r cwricwlwm ymhellach. Roedd timau’r esgobaeth hefyd wedi gweithio ar y cyd ar adnoddau i ysgolion i gefnogi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Defnyddiodd disgyblion o Ysgol Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru, Caerdydd, eu sgiliau iaith i berfformio cân newydd o Weddi’r Arglwydd mewn Eingl-Sacsoneg, Cymraeg a Saesneg, dan arweiniad y cyfansoddwr Tim Riley.
Roedd yr ysgol yn ddiweddar wedi dod y gyntaf yn Esgobaeth Mynwy i gael statws Ysgol sy’n Lloches am ei hymrwymiad i groesawu ffoaduriaid a chyflwynodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, y wobr i’r disgyblion. “Rydym yn falch ohonoch, yn falch o’r dystiolaeth yr ydych yn ei chyflwyno wrth ofalu am y dieithryn, ac yn falch eich bod chi, ein pobl ifanc, yn arwain y ffordd ac yn gosod esiampl i ni i gyd,” dywedodd.
Cynnig Brys
Ysgogwyd trafodaeth frys ar y rhyfel yn Wcráin gan gwestiwn gan Syr Paul Silk (cyfetholedig) yn gynharach yn y cyfarfod. Roedd Syr Paul am gael gwybod sut y mae’r Eglwys yng Nghymru yn bwriadu ymateb i’r alwad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Wcráin dros Ryddid Crefyddol, a sefydliadau sifil eraill yn Wcráin, i Gyngor Eglwysi’r Byd wahardd Eglwys Uniongred Rwsia rhag bod yn aelodau.
Yn ei ymateb, cynigiodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, y dylai Syr Paul ymuno ag o i ddwyn cynnig brys - nid i alw am daflu Eglwys Rwsia allan, ond i Gyngor Eglwysi’r Byd ymbellhau oddi wrth Eglwys Rwsia ac unrhyw eglwys arall oedd yn cefnogi’r ymosodiad ar Wcráin.
Eiliwyd y cynnig gan Syr Paul ac fe’i pasiwyd yn unfrydol.
Cynnig: “Bod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn galw ar Gyngor Eglwysi’r Byd i weithredu’n glir a phriodol i ymbellhau’r Cyngor o weithredoedd yr eglwysi hynny sy’n aelodau, gan gynnwys Eglwys Uniongred Rwsia, sydd wedi rhoi cefnogaeth i’r rhyfel ymosodol direswm yn erbyn Wcrain gan Ffederasiwn Rwsia, ac yn galw ar bob Cristion i sefyll gyda’r rhai a orthrymir a gwneud popeth yn eu gallu i weithio dros heddwch.”
Mesur Litwrgi
Pasiwyd mesur i awdurdodi a rheoleiddio mân amrywiadau yn y litwrgïau.
Casgliad
Gwnaed casgliad ar gyfer Apêl Wcráin Cymorth Cristnogol. Rhoddwyd yr arian trwy god penodol yn uniongyrchol i Gymorth Cristnogol.
Croesawodd y Corff Llywodraethol Mari McNeill, pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru a Dr Nathan Munday, swyddog ymgysylltu eglwysi a chodi arian ar gyfer Cymru. Roedd gan Gymorth Cristnogol fwrdd arddangos yn y cyfarfod.
Y cyfarfod nesaf
Bydd y Corff Llywodraethol yn dychwelyd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar gyfer ei gyfarfod nesaf ar 7-8 Medi.