Pigion - Ebrill 2023
Cyfarfu aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Venue Cymru, Llandudno ar 19-20 Ebrill. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw a gallwch weld recordiad o bob sesiwn, ynghyd â chrynodeb byr, isod.
Sesiynau dyddiol
19 Ebrill - Cymun Bendigaid
Addoliad
Cafodd yr addoliad ei gydlynu gan Gaplan yr Archesgob, y Parch James Tout.
Cynhaliwyd Ewcharist Sanctaidd a Hwyrol Weddi ddydd Mercher yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno a chynhaliwyd Addoliad Bore dydd Iau yn Venue Cymru.
Croes Cymru
Yn ystod yr Ewcharist Sanctaidd, fe wnaeth yr Archesgob fendithio Croes Cymru, rhodd gan Ei Fawrhydi y Brenin Charles i’r Eglwys yng Nghymru i nodi ei chanmlwyddiant. Byddai’r Groes, sy’n cynnwys crair sanctaidd, yn arwain yr orymdaith yng Nghoroni’r Brenin ym mis Mai.
Synod Cysegredig
Cynhaliwyd cyfarfod Synod Cysegredig yn ystod Hwyrol Weddi i gadarnhau ethol yr Esgob Mary Stallard yn Esgob Llandaf.
Casgliad
Oherwydd yr ymladd treisgar sy’n mynd rhagddo yn Sudan, gofynnodd yr Archesgob i gyfraniadau gael eu gwneud i Eglwys Sudan, yn hytrach nag i Sefydliad Bevan.
19 Ebrill – Sesiwn Un
Croeso i ymwelwyr
Estynnodd yr Archesgob groeso i Siôn Brynach, Prif Swyddog Gweithredol newydd Cytûn, Rita Kelly o Eglwys Iwerddon, y Parch Ganon Dr Jenny Hurd yn cynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd, Geoff Williams, Darpar Lywydd Annibynwyr Cymru, Brian Huw James o Eglwys Bresbyteraidd Cymru a’r Parch Andrew Sully, yn cynrychioli Cymorth Cristnogol Cymru.
Teyrngedau
Gofynnwyd i Aelodau sefyll mewn teyrnged i ddau aelod a fu farw ers y cyfarfod diwethaf. Roedd Ei Anrhydedd y Barnwr Michael Evans, a fu farw ym mis Tachwedd, wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cyfreithiol a Chadeirydd pensiynau staff y Bwrdd Cynrychiolwyr.
Bu’r hybarch John Rogers, a wasanaethodd fel Deon Llandaf rhwng 1993-99, farw ym mis Chwefror.
Anerchiad Llywyddol
Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae angen i ni gyd ddiwygio i gyfyngu cynhesu byd-eang, meddai Archesgob Cymru yn ei Anerchiad Llywyddol.
Mae adroddiad diweddaraf yr IPCC (Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn “ddarllen sobreiddiol” meddai’r Archesgob Andrew John.
Rhybuddiodd eglwysi i beidio syrthio i fagl meddwl nad oedd fawr y medrent ei wneud, gan alw arnynt yn hytrach i fod yn “broffwydol actif” – yn eu dewisiadau personol, eu gweinidogaeth a’u heiriolaeth ar lywodraethau i alw am newid.
Cyhoeddodd yr Archesgob y byddai yr Eglwys yn cynnal Uwchgynhadledd Amgylcheddol y flwyddyn nesaf i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd gyda’r nod o wneud Cymru yn “enghraifft o arfer da”.
Cafodd Aelodau gyfle i ymateb i’r anerchiad.
19 Ebrill – Sesiwn Dau
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Tim Llewellyn, Cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog. Cytunwyd yn unfrydol ar ei ddau argymhelliad – i benodi Sue Rivers i’r panel o gadeiryddion Corff Llywodraethol tan ddiwedd mis Rhagfyr 2028 ac i gymeradwyo’r adroddiad.
Adroddiad Grŵp Gweithredu Adolygiad Mynwy
Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd Tim Llewellyn, cadeirydd y Grŵp, y cafodd 19 o’r 28 argymhelliad eu gweithredu’n llawn. Tynnodd sylw at y Siarter Urddas ac apelio dros iddi gael ei hyrwyddo ym mhob eglwys.
Hawl i Holi
Roedd tri chwestiwn. Gallwch lawrlwytho’r cwestiynau a’r atebion yma.
Adroddiad Mainc Esgobion
Cyflwynodd yr Archesgob adroddiad y Fainc ac atebodd gwestiynau.
19 Ebrill – Sesiwn Tri
Adroddiad Gweithgor Adolygu y Coleg Etholiadol
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ddeon Llanelwy, Nigel WIlliams, cadeirydd y Gweithgor. Pasiwyd y cynnig fod y Corff Llywodraethu yn cymeradwyo adroddiad Medi 2022.
19 Ebrill - Sesiwn Pedwar
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Lywodraethiant a Materion Cyfreithiol
Cyflwynodd Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, yr adroddiadau o fis Medi 2022 ac Ebrill 2023. Cymeradwywyd yr holl argymhellion.
Cynnig Aelodau Preifat
Cynigiodd Tim Llewelyn welliant i Bennod V y Cyfansoddiad yn ymwneud ag absenoldeb Esgob oherwydd salwch. Eiliwyd y cynnig gan Hazel Evans (Tyddewi) a chafodd ei gymeradwyo.
Amserau a Thymhorau rhan IV
Cyflwynodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ran IV litwrgi Amserau a Thymhorau sy’n canolbwyntio ar gylch creu. Pasiwyd y cynnig i groesawu’r adnodd, a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ymgynghorol Sefydlog ar Litwrgi, ac i gymeradwyo ei ddefnyddio. Gwahoddwyd Aelodau i wneud gweithred o ymroddiad i gyfrifoldebau amgylcheddol.
20 Ebrill – Sesiwn Pump
Cyflwyniad Addysg
Cafodd y berthynas sy’n datblygu a’r bartneriaeth ddyfnach rhwng yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Lloegr a’r Gymdeithas Genedlaethol eu hamlinellu gan Esgob Llandaf, Mary Stallard, Liz Thomas, Cyfarwyddwr Taleithiol Addysg, y Parch Nigel Genders, Prif Swyddog Addysg Eglwys Lloegr ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Genedlaethol ac Andy Wolfe, Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Eglwys Lloegr.
20 Ebrill - Sesiwn Chwech
Adroddiad Blynyddol Sefydliad Padarn Sant
Amlinellwyd yr adroddiad gan y Parch Ddr Mark Griffiths, Deon DIsgyblaeth, a’r Parch Ddr Manon Ceridwen James, Deon Hyfforddiant Gweinidogaethol Mewnol. Cafodd y cynnig i’w nodi ei eilio gan Esgob Mynwy, Cherry Vann, a chafodd ei basio yn unfrydol.
Diweddariad blynyddol ar Sero Net
Amlinellodd yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd, Dr Julia Edwards, a’r Pennaeth Gwasanaethau EIddo, Alex Glanville, gynllun 10-pwynt ar gyfer eglwysi symud ymlaen tuag at sero net. Fe wnaethant hefyd lansio’r offeryn Ôl-troed Carbon gydag arddangosiad byw gan Dan Priddy o Eglwys San Mihangel yn Aberystwyth.
Adroddiad Diogelu
Rhoddodd Anthony Griffiths, Cyfarwyddwr Diogelu a Phennaeth y Tîm Diogelu Taleithiol, wybodaeth i aelodau ar waith achos, hyfforddiant a heriau a blaenoriaethau parhaus.
Diweddariad gan y Corff Cynrychiolwyr
Rhoddodd yr Athro Medwin Hughes ddiweddariad i aelodau ar Adolygiad Cydnabyddiaeth Ariannol Clerigwyr, grŵp dyrannu Cronfa Dwf yr Eglwys a Grŵp Adolygu Dosbarthiad Cronfeydd. Caiff manylion pellach am waith y Corff Cynrychiolwyr ei gynnwys yn ei adroddiad blynyddol yn y cyfarfod ym mis Medi.
Adroddiad o gyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd
Disgrifiodd y Canon Brianna Rouse a’r Esgob Mary Stallard y cyfarfod y buont ynddo yn Accra, Ghana, ym mis Chwefror ar ran yr Eglwys yng Nghymru.
Ffarwel i’r Canon Steven Kirk
DIolchodd yr Archesgob Andrew a thalu teyrnged i’r Canon Steven Kirk, sy’n ymddeol ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth bron ddi-dor fel aelod o’r Corff Llywodraethol. Estynnwyd dymuniadau da hefyd i’r Parch Ganon Chris Smith, cyn Archddiacon Morgannwg, a ymddeolodd o weinidogaeth yn 2020.
Y cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol ar 5-6 Medi yn y Ganolfan Confensiwn Ryngwladol yng Nghasnewydd.