Pigion - Ebrill 2024
Cyfarfu aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghanolfan Gynadledda Cymru yng Nghasnewydd ar 17-18 Ebrill. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw a gallwch weld recordiad o bob sesiwn, ynghyd â chrynodeb byr, isod.
Addoli
Llywyddodd yr Archesgob yn yr Ewcharist agoriadol. Cynhaliwyd Hwyrol Weddi yng Nghadeirlan Casnewydd yn ystod y Synod Sanctaidd i gadarnhau penodiad y Canon David Morris yn Esgob Cynorthwyol Bangor. Deon Casnewydd, Ian Black, oedd yn llywyddu a chafwyd y bregeth gan Esgob Llandaf, Mary Stallard. Arweiniwyd yr addoliad boreol gan y Canon Ian Loynd.
Sesiynau dyddiol
- Croeso i ymwelwyr
- Anerchiad Llywyddol
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Lansio llawlyfr gweddi Beunydd gyda Duw
- Hawl i Holi
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar faterion Cyfreithiol a Llywodraethiant
- Adroddiad y Corff Cynrychioladol
- Diweddariad sero net
- Adroddiad y Fainc Esgobion
- Adfer dyfrffyrdd Cymru
- Adroddiad Padarn Sant
- Cynnig Aelodau Preifat
- Ffarwelio
- Cyfarfod nesaf
- Siars y Llywydd
Sesiwn Un
Croeso i ymwelwyr
Croesawodd yr Archesgob gynrychiolwyr o eglwysi a sefydliadau, eraill sef:
- Cytûn a’r Eglwysi Cyfamodedig yng Nghymru: y Parch Siôn Brynach (Prif Weithredwr) a’r Parch Gethin Rhys (Swyddog Polisi)
- Cymdeithas Unedig ar gyfer Lledaenu’r Efengyl: Carol Miller (Rheolwr Ymgysylltu yr Eglwys)
- Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: y Parch Jeff Williams (Llywydd)
- Cymorth Cristnogol Cymru: Mari McNeill (Pennaeth), Rebecca Elliott (Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Cymru).
Anerchiad Llywyddol
Galwodd yr Archesgob Cymru yn ei Anerchiad Llywyddol am atal y “gamdriniaeth ddiesgus” o’n dyfrffyrdd.
Dywedodd fod afonydd yn marw oherwydd llygredd a galwodd ar bobl i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng. Bydd llygredd afonydd Cymru yn ffocws uwchgynhadledd, Adfer Afonydd Cymru, a gaiff ei chynnull gan yr Archesgob, Andrew John, ym mis Tachwedd.
Rôl yr Eglwys yw siarad ar faterion o degwch a chyfiawnder, meddai.
“Wrth i ni wasanaethu’r rhai sydd o cwmpas, gwnawn hynny fel Cristnogion. Nid sefydliad anllywodraethol na braich o lywodraeth mohonom. Cawn ein gorfodi i godi llais ar faterion lle credwn fod rhywbeth o’i le.”
Edrychodd prif anerchiad yr Archesgob Andrew hefyd sut y gallai’r Eglwys yng Nghymru dyfu a ffynnu mewn tirlun ansicr. Cyfeiriodd at egwyddorion a amlinellwyd gan yr Athro John Kay a’r Arglwydd Mervyn King yn eu llyfr, Radical Uncertainty, ar ddyfodol yr Eglwys.
Canmolodd yr Archesgob ròl yr Eglwys mewn digwyddiadau cenedlaethol a thalodd deyrnged am waith clerigwyr a gweinidogion lleyg. Er mwyn i’r Eglwys ffynnu, mae angen iddi ddatblygu a thyfu, meddai’r Archesgob Andrew. Roedd hynny’n golygu addasu newid a dysgu o brofiadau ei gilydd.
Cawn ein gorfodi i godi llais ar faterion lle credwn fod rhywbeth o’i le.
Byddai ffocws newid ar weithrediad Gweinidogaeth a’r Ardaloedd Cenhadaeth – yr unedau daearyddol mawr sydd bellach yn brif grwpiau lleol yr Eglwys. Roedd gwersi pwysig yn dod i’r amlwg ohonynt, tebyg eu potensial ar gyfer cyrraedd ehangach a phrosiectau gwell, gweithio tîm i fanteisio i gael y budd gorau o’r weinidogaeth i bawb, nid dim ond y clerigwr, a’u dewrder wrth gymryd risgiau a bod yn fodlon gwneud camgymeriadau.
Roedd casglu a dadansoddi data mewn ardaloedd yn cynnwys buddsoddiad, aelodaeth ac allyriadau carbon, yn agwedd bwysig arall o dwf, meddai. Roedd hefyd am fod â chwilfrydedd a bod yn barod i esblygu.
Fodd bynnag, daeth yr Archesgob i ben drwy ddweud mai rhan bwysicaf strategaeth yr Eglwys oedd ei gweddigarwch a rhannu ffydd yng Nghrist. Dywedodd fod angen i eglwysi iach fod yn ‘gadarn’ yn y disgyblaethau ysbrydol hynafol”. Soniodd am gyfres Pilgrimage ddiweddaraf y BBC, a ddilynodd enwogion ar Lwybr Pererinion Gogledd Cymru, fel enghraifft o ddiddordeb o’r newydd mewn ysbrydoleb.
“Mae angen i ni roi ein hunain yn gyson i fywyd ac arfer Iesu Grist yn dod yn bobl ddilys, maddeugar a gobeithiol gyda rhywbeth sy’n werth ei rannu.”
Cafodd aelodau gyfle i ymateb i anerchiad yr Archesgob.
Sesiwn Dau
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Cyflwynodd Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, yr adroddiad yn cynnwys adroddiad terfynol gan Grŵp Gweithredu Adolygiad Trefynwy.
Dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, fod Grŵp Adolygu Trefynwy wedi gwneud “darn pwysig o waith a fyddai’n mynd ymhell i fynd i’r afael â’r problemau”. Rhoddodd sicrwydd i aelodau yr ymatebwyd i’r argymhellion adroddiad ac y bu newidiadau cadarnhaol yn y Fainc. Yr her, meddai, oedd rhoi sylw yn barhaus i ddiwylliant ein sefydliad fel na allai’r hyn a ddigwyddodd ddigwydd eto.
“Bydd angen i ni roi sylw parhaus i ddiwylliant ein sefydliad, i herio ein gilydd a chymryd cyfrifoldeb i’n hunain am ein hagweddau ac ymddygiad eu hunain a sut y caiff pethau eu gwneud yma.”
Soniodd yr Esgob Cherry hefyd am yr angen i annog menywod fel arweinwyr yn daleithiol ac adleisiodd alwadau i fod yn agored a thryloyw yn y broses benodi.
Wrth ymateb, tanlinellodd Mr Llewelyn bod trosolwg parhaus yn bwysig a byddai’r Pwyllgor Sefydlog yn parhau i wneud hynny.
Symudwyd argymhelliad yr adroddiad.
Lansio llawlyfr gweddi Beunydd gyda Duw
Llyfryn gweddi yr arferai Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ei ddarllen ar ei daith 20-munud i’r ysgol, 50 mlynedd yn ôl, oedd yr ysbrydoliaeth am lawlyfr newydd yr Eglwys.
Wrth lansio Beunydd gyda Duw, dywedodd yr Esgob Gregory ei fod yn rhoi “hoff weddïau o’n hetifeddiaeth Gristnogol” mewn ffurf gyfleus. Mae’n cynnwys gweddïau byr ar gyfer gweddïau boreol, hwyrol a nos, testunau allweddol ar gyfer ein ffydd, cylch gweddi a awgrymwyd ar gyfer yr wythnos a llithlyfr wythnosol sylfaenol. Roedd hefyd weddïau ar gyfer pob tymor a chyfoeth o ddeunydd gwreiddiol Cymraeg.
“Mae’n adnodd cyfoethog ac yn ddilys yn rhywbeth sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru,” meddai. “Rwy’n credu ei fod yn gyhoeddiad gwerthfawr tu hwnt ac rwy’n ei gymeradwyo i chi.”
Sesiwn Tri
Hawl i Holi
Roedd 10 cwestiwn. Gallwch eu lawrlwytho a’r atebion a roddwyd yma.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar faterion Cyfreithiol a Llywodraethiant
Cariwyd dau newid i’r Cyfansoddiad. Roedd un yn ymwneud â chanonau cadeirlannau i’w gwneud yn glir y gallai esgobion benodi Canonau Lleyg a Chanonau Eciwmenaidd Mygedol. Roedd yr ail yn ymwneud â gwelliannau ar gyfer cynnal Rhestr Cofrestr yr Archesgob.
Cymeradwywyd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog.
Sesiwn Pedwar
Adroddiad y Corff Cynrychioladol
Cyfleoedd gwirioneddol am dwf oedd ffocws Cronfa Dwf yr Eglwys, medai’r Athro Medwin Hughes, cadeirydd y Bwrdd Cynrychioladol, wrth gyflwyno’r adroddiad. Roedd gan y Gronfa, sy’n dilyn y Gronfa Efengyliaeth, £100M ar gyfer prosiectau dros y 10 mlynedd nesaf. Hyd yma, cafodd dau gais Haen Un (rhai dan £10,000) eu cymeradwyo tra bod dau gais Haen Dau yn cael eu hystyried.
“Rydym ar daith,” meddai’r Athro Hughes. “Ni fydd yr holl brosiectau yn gweithio ond mae hynny yn iawn – byddwn yn dysgu o hynny ac yn myfyrio arnynt. Rydym yn canolbwyntio ar gyfleoedd gwirioneddol ar gyfer twf.”
Pasiwyd y cynnig i dderbyn yr adroddiad.
Diweddariad sero net
Gyda dim ond un ym mhob o eglwysi wedi gwneud yr Offeryn Ôl-troed Ynni, roedd cryn bellter i fynd i gyrraedd nod yr Eglwys o fod yn sero-net erbyn 2030, meddai’r Canon Justin Davies, cadeirydd yr Hyb Newid Hinsawdd.
Wrth gyflwyno’r diweddariad, dywedodd Canon Justin bod ffordd newydd o ymchwilio casglu data yn cael ei ymchwilio, ynghyd ag astudiaeth o gaffael ynni gwyrdd ar y cyd. Rydym yn edrych am opsiynau ar gyfer un tariff ynni gwyrdd ar gyfer ein holl adeiladau gyda’r brocer ynni 2Buy2 a byddid yn dod â chynnig gyda manylion llawn i aelodau ym mis Medi.
“Mae ein targedau yn gyffrous ond uchelgeisiol,” meddai. “Mae ein heglwysi yn wynebu heriau mawr felly mae’n bwysig canfod ffyrdd newydd a chyflym i ostwng ein allyriadau i’w lefel isaf. Prynu ynni gwyrdd a thargedu adeiladau allyriad uchel yw’r ffordd ymlaen.”
Adroddiad y Fainc Esgobion
Soniodd John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, am gynlluniau ar gyfer cwrs Adfent darpariaethol a chyfeiriad e-bost Eglwys yng Nghymru ar gyfer yr holl glerigwyr.
Byddai gan y cwrs ar-lein ar gyfer Adfent chwe sesiwn, a gyflwynir gan yr esgobion, ar yr efengylau.
Roedd y Fainc hefyd yn cefnogi newidiadau arfaethedig i’r fframwaith craffter. Cafodd y rhain eu cefnogi gan Caroline Woolland, cadeirydd y Panel Craffter Taleithiol, a ddywedodd y byddai newidiadau yn gwneud y broses yn fwy cynhwysol ac y caiff ei rhannu.
“Y canfyddiad yw ei fod yn rhwystr y mae’n rhaid i chi fynd trwyddi, yn hytrach na bod yn rhan o broses,” meddai. “Nid proses stamp rwber yw dod i banel. Yn syml, cyngor yw ein cyngor. Esgobion sy’n gwneud y penderfyniad terfynol os yw pobl yn mynd ymlaen i gael eu hordeinio ai peidio ... Gobeithiwn y bydd y broses newydd yn helpu tyfu diwylliant o fod yn agored a chraff, pa bynnag gam yr ydym arno.”
Sesiwn Pump
Adfer dyfrffyrdd Cymru
Yr argyfwng sy’n wynebu afonydd a dyfrffyrdd Cymru oedd ffocws cyflwyniad gan yr Archesgob.
Byddai’r mater yn ffocws uwchgynhadledd, a gynhelir gan yr Eglwys yng Nghymru ym mis Tachwedd, meddai. Amlinellu’r broblem a mynd i’r afael â’r heriau oedd y cam cyntaf tuag at weithredu i’w datrys.
Rhoddodd James Wallace, Prif Swyddog Gweithredol River Action, a Dr Christian Dunn, Cyfarwyddwr Cyswllt Grŵp Gwlypdiroedd Bangor, Prifysgol Bangor, ill dau gyflwyniad ar eu gwaith a maint yr argyfwng fel y gwelent ef.
Diolchodd Mr Wallace i’r Archesgob am ei arweinyddiaeth a’i weledigaeth ar y mater, gan ddweud “dyna yn union yr hyn rydym ei angen nawr”. Yr allwedd yw i bob asiantaeth gydweithio i fynd i’r afael â’r broblem ac mae’r Eglwys yng Nghymru mewn sefyllfa unigryw i fynd â’r agenda ymlaen.
Anogodd aelodau i fynd â’r galwad am weithredu i achub afonydd Cymru yn ôl i’w cymunedau. “Rydym mewn argyfwng dŵr ffres ac mae angen i ni weithredu fel mater o frys,” meddai.
Ymatebodd aelodau gydag angerdd a brwdfrydedd.
Sesiwn Chwech
Adroddiad Padarn Sant
Gwrando, ailosod ac ailgyfeiriadu oedd themâu allweddol y flwyddyn, meddai’r Canon Athro Jeremy Duff wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol.
Roedd proses ymgysylltu gyda’r esgobion wedi arwain at ailgomisiynu Padarn Sant fel sefydliad yr Eglwys ar gyfer ffurfiant, addysg, datblygu gweinidogol ac ymchwil a chyfeiriad strategol newydd ar gyfer y chwe mlynedd nesaf.
Bu hefyd werthusiad trwyadl o’r Sefydliad drwy Adolygiad Allanol Cyfnodol. “Fe wnaeth hyn gadarnhau llawer o’r diwylliant, ysbrydoldeb a rhagoriaeth ffurfiannol y Sefydliad sy’n rhoi llu o argymhellion,” meddai.
Cafodd y cynnig i nodi’r adroddiad ei gario’n unfrydol.
Sesiwn Saith
Cynnig Aelodau Preifat
Cafodd cynnig i sicrhau mwy o amser gorffwys ar gyfer glerigwyr drwy ddiwygio’r cydbwysedd gwaith/bywyd a lwfans gwyliau yn y Telerau Gwasanaeth ei gyflwyno gan y Parch Kate O’Sullivan.
Awgrymodd gyfnod rhydd o waith o 48 awr unwaith y mis a dau gyfnod o saith diwrnod o wyliau, yn hytrach na’r chwe diwrnod cyfredol, ar ôl y Nadolig a’r Pasg.
“Y nod yw dechrau newid diwylliant, i gymryd gofal da o’n hasedau – ein clerigwyr – i wneud ein gweinidogaeth yn gynaliadwy,” meddai.
Eiliwyd y cynnig gan Ian Loynd oedd yn sefyll mewn dros y Parch Gareth Rayner-Williams. “Mae’n rhaid i ni ostwng y pwysau ar y rhai sy’n gweithio galetaf i ofalu amdanom a bod yn enghraifft well i’r rhai a wasanaethwn,” meddai.
Ysgogodd y cynnig lawer iawn o drafodaeth ac awgrymu diwygiadanu gan aelodau. Maes o law, cynigiodd yr Esgob Gregory gynnig gweithdrefnol i ddiweddu’r cynnig heb bleidlais i roi amser i’r Fainc i ystyried y mater yn gywir.
“Mae’r Fainc yn fras o blaid y cynnig sylweddol a’r diwygiadau,” meddai. “Ond yn bryderus os gwnawn y penderfyniad hwnnw heddiw, rydym mewn perygl o weithredu ar frys a, gyda chanlyniadau anfwriadol, edifarhau sm hynny.”
Fel yr Esgob sy’n dal y portffolio ar gyfer materion adnoddau dynol, rhoddodd yr Esgob Gregory sicrwydd i aelodau y byddai’n gweithio’n galed i alluogi paratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod mis Medi. Yna symudodd i’r busnes nesaf, dan ddefnyddio Rheol Sefydlog 11.
Pleidleisiodd Aelodau 63 dros, 31 yn erbyn, heb unrhyw ymatal, i symud ymlaen i’r busnes nesaf.
Ffarwelio
Talodd yr Archesgob deyrnged i Ddeon Aberhonddu, Dr Paul Shackerley, oedd wedi sefyll i lawr fel ysgrifennydd y Panel Craffter Taleithiol ar ôl blynyddoedd lawer i ganolbwyntio ar ei waith fel Deon, ac i Ddeon Llandaf, Richard Peers, oedd yn ymddeol. Diolchodd i’r ddau ohonynt am eu gwasanaeth.
Cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf y Corf Llywodraethu ar 4-5 Medi ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, yn Llanbedr Pont Steffan.
Siars y Llywydd
Rydym wedi cofleidio ac ymrwymo ein hunain i fod yn eglwys Duw
Cafodd aelodau eu hannog gan yr Esgob i fod yn “fyw i Dduw ac yn fyw i’r byd”.
Wrth gyfeirio at yr heriau sy’n wynebu Cristnogion mewn gwledydd eraill oherwydd rhyfel, trais a newid hinsawdd, dywedodd, "Rydym yn byw mewn byd rhyfeddol ac yn clywed straeon rhyfeddol. Yr her i ni yw cofleidio’r heriau hynny gyda’r un agwedd ag eraill.
“Rydym wedi cofleidio ac ymrwymo ein hunain i fod yn eglwys Duw. Clywsom adroddiadau o sut mae ffurfiant wrth galon pawb a alwyd, wedi cofleidio esgob newydd, darparu llyfr adnodd gweddi newydd – yn yr holl bethau hyn rydym wedi ymrwymo ein hunain i fod yn eglwys Duw. Mae honno’n eglwys sy’n bodoli nid dim ond ar ei chyfer ei hun ond iddo Ef.”