Pigion - Tachwedd 2020
Mewn blwyddyn lle dylai’r Eglwys yng Nghymru fod wedi bod yn dathlu ei chanmlwyddiant, cafodd hanes ei greu mewn ffordd annisgwyl. Yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo a achoswyd gan bandemig Covid-19, cynhaliwyd cyfarfod y Corff Llywodraethol ar-lein am y tro cyntaf a phasiodd ei ddeddfwriaeth gyntaf drwy weminar Zoom.
Nid oedd y newid o gyfarfod ffisegol i gyfarfod rhithiol yn gwbl ddidrafferth. Ni fu’n n bosibl gwneud hyn ar gyfer cyfarfod cyntaf y flwyddyn, ym mis Ebrill, ar ddechrau’r cyfnod clo, a bu’n rhaid canslo’r cyfarfod yn gyfan gwbl a gohirio’r busnes. Yna, roedd angen diwygio’r Cyfansoddiad i awdurdodi cyfarfodydd ar-lein a’u rheolau sefydlog. I wneud hynny, roedd rhaid cael cyfarfod wyneb-yn-wyneb gyda chworwm o aelodau gydag ychydig o eitemau ar yr agenda. Cynhaliwyd y cyfarfod ar 8 Medi ac fe’i ffrydiwyd yn fyw i’r holl aelodau ei wylio.
Gyda’r Cyfansoddiad wedi’i ddiwygio, rhoddodd y Corff Llywodraethol gynnig ar gynnal ei gyfarfod cyntaf ar-lein fore trannoeth. Yn anffodus, bu’n rhaid gohirio’r cyfarfod oherwydd amrywiaeth o broblemau technegol yn fuan ar ôl Anerchiad y Llywydd a phennwyd dyddiad newydd ar gyfer 3-4 Tachwedd. Cynhaliwyd y cyfarfod, a oedd ar gyfer busnes hanfodol yn unig, yn llwyddiannus dros dair sesiwn. Fe’i ffrydiwyd yn fyw ac mae’r recordiadau, gyda chrynodeb byr o bob sesiwn, yn dilyn.
Anerchiad y Llywydd
Roedd y cyfnod clo wedi sbarduno eglwysi i feddwl am ffyrdd newydd a chyffrous o weinidogaethu, o wasanaethau ffrydio byw i foreau coffi digidol, yn ôl Archesgob Cymru yn Anerchiad y Llywydd.
Dywedodd yr Archesgob John Davies fod y pandemig wedi dod â chyfleoedd annisgwyl a bod eglwysi’n dangos ysbryd newydd ac agwedd “gallu gwneud”, yn enwedig mewn perthynas â gweinidogaeth ddigidol. Anogodd yr holl eglwysi i gofleidio newid, i “ymddiried a rhoi cynnig arni”.
Meddai, “Rydym wedi bod mewn cysylltiad â miloedd o bobl na fyddem wedi’u cyfarfod fel arall o bosibl; rydym wedi cyffwrdd eu meddyliau, eu calonnau a’u bywydau, ac mewn gwahanol ffyrdd rydym wedi datgelu eglwys sy’n gallu cerdded ochr yn ochr â hwy, eu croesawu a’u haddysgu. Mae hyn yn newydd ac mae’n rhaid iddo bara.”
Dywedodd yr Archesgob John fod y cyfnod clo wedi dod â mwy o ymdeimlad o undod a phwrpas i’r eglwys hefyd. Cyhoeddodd fod corff strategaeth newydd yn cael ei sefydlu, sef Grŵp Ymgynghori’r Archesgob, i gydgysylltu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Darllenwch y Testun yn llawn yma: Anerchiad y Llywydd (Word)
Sesiwn Un
Ailgychwynnodd y cyfarfod ar 3 Tachwedd.
Cyfetholiadau
Cynhaliwyd y bleidlais am aelodau cyfetholedig newydd y Corff Llywodraethol drwy e-bost. Cyhoeddwyd y canlyniadau fel a ganlyn:
- Clerig heb fywoliaeth: Y Parch Ddr Sarah Rogers
- Unigolion lleyg: Geraint Hopkins a Heather Temple-Williams
- O dan 30 oed: Grace Lomas
Pregeth yr Archesgob
Rhoddodd yr Archesgob John bregeth fer gan annog pobl i fwrw ymlaen “yn gryf, dewr a ffyddlon” at adnewyddiad. “Ni fyddwn yn dychwelyd at ryw oes aur ddychmygol,” meddai. “Mae’n rhaid i ni ymroi i symud ymlaen, er bod y cyfnod yn un heriol.”
Adroddiadau’r Pwyllgor Sefydlog
Pasiwyd argymhellion holl adroddiadau’r Pwyllgor Sefydlog, yn cynnwys yr adroddiadau ar Faterion Llywodraethu a Chyfreithiol o fis Ebrill a mis Medi 2020.
Biliau
Cyflwynwyd dau fil i’r cyfarfod, y ddau er mwyn diwygio Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys mewn perthynas â’r Tribiwnlys Disgyblu.
Roedd y cyntaf yn ymwneud ag aelodaeth Paneli’r Tribiwnlys a cham rhagarweiniol y Tribiwnlys. Roedd y Bil wedi’i gyflwyno gerbron y Corff Llywodraethol ym mis Medi 2019 ond roedd wedi’i gyfeirio yn ôl am waith drafftio pellach.
Roedd yr ail yn ymwneud â diogelu, gan ei gwneud hi’n drosedd ddisgyblu i fethu â chydymffurfio â chyngor penodol gan Banel Diogelu Annibynnol y Dalaith heb esgus rhesymol. Gwnaed ymgais i ddiwygio darpariaethau’r Bil hwn mewn perthynas ag atal, ond ni chaniataodd y Cadeirydd ef ar y sail y dylid fod wedi’i gyflwyno yng ngham y pwyllgor dethol.
Pasiwyd y ddau Fil gan fwyafrif clir o ddau draean a daethant yn rhan o gyfraith yr Eglwys yng Nghymru yn syth.
Adroddiad Athrofa Padarn Sant
Cyflwynodd y Prifathro, y Parchedig Athro Jeremy Duff, adroddiad blynyddol cyntaf Athrofa Padarn Sant. Pwysleisiodd fod yr adroddiad wedi’i baratoi ar gyfer cyfarfod mis Ebrill y Corff Llywodraethol, a’i fod yn cwmpasu blwyddyn academaidd 2018-19. Byddai adroddiad newydd yn cael ei gyflwyno fis Ebrill nesaf.
Croesawodd Esgob Tyddewi yr adroddiad a chanmolodd ei ansawdd, gan ddweud ei fod yn hawdd i’w ddarllen ac yn llawn gwybodaeth.
Pasiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad.
Sesiwn Dau
Hawl i Holi
Cyflwynwyd tri chwestiwn i’r cyfarfod.
Roedd y cyntaf, gan y Parch Jonathon Wright (Abertawe ac Aberhonddu) yn ymwneud â phartneriaeth gydag Eglwys Loegr ar ei hymgyrchoedd tymhorol difyr. Wrth ymateb, dywedodd Esgob Bangor fod symudiadau ar droed i wneud hynny. Tynnodd sylw hefyd at ymgyrch Adfent yr Eglwys yng Nghymru, O Dywyllwch i Oleuni. Roedd y cyfryngau digidol yn darparu “cyfle aruthrol i ymgysylltu â’r rhai y tu allan i fywyd yr eglwys neu ar yr ymylon” meddai.
Roedd yr ail, gan y Parch Phil Bettinson (Llanelwy) yn ymwneud â’r cymorth ariannol a ddarparwyd i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Fe’i hatebwyd gan Brifathro Athrofa Padarn Sant, y Parchedig Athro Jeremy Duff a ddywedodd fod adolygiad o gyllid ar gyfer hyfforddiant ar droed a oedd yn “llawer symlach a mwy tryloyw, ac yn fwy addas i deuluoedd modern”.
Roedd y trydydd cwestiwn, gan Justine Ryland (Llandaf), yn gofyn am ddiweddariad gan y Fainc ar y ddarpariaeth ar gyfer perthnasoedd o’r un rhyw. Wrth ymateb, dywedodd yr Archesgob fod yr esgobion yn paratoi deddfwriaeth ddrafft i ganiatáu eglwysi i fendithio uniad cyplau mewn perthnasoedd ymrwymedig o’r un rhyw a oedd wedi’u gweinyddu yn y cyd-destun sifil - naill ai drwy bartneriaeth sifil neu briodas sifil. Rhagwelwyd y byddai’r Bil yn cael ei gyflwyno gerbron y Corff Llywodraethol ym mis Medi 2021. Dywedodd yr Archesgob hefyd fod gwaith paratoi yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Athrawiaethol Sefydlog i ddarparu’r dirwedd ddiwinyddol ar gyfer trafodaeth bellach ar briodas gyfartal.
Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
Roedd llawer o waith wedi’i wneud eleni i gefnogi’r esgobaethau yn ystod argyfwng Covid, meddai James Turner, cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr.
Roedd cost gweinidogaeth wedi cael ei chefnogi’n sylweddol yn nau chwarter cyntaf y flwyddyn ac roedd cyfleuster ar-lein newydd ar gyfer Rhoi yn Syth wedi’i lansio ar wefan y Dalaith i annog pobl i roi’n electronig.
Rhybuddiodd Mr Turner y byddai effaith ariannol y pandemig yn parhau i gael effaith yn y dyfodol gyda buddsoddiadau’n siŵr o ostwng. Roedd gwariant y dyfodol a blaenoriaethau ar gyfer asedau Corff y Cynrychiolwyr yn cael eu hystyried yn ofalus a phob eitem o wariant yn cael ei hadolygu gan ddechrau o sylfaen o sero.
Dechreuwyd strategaeth mwy cydgysylltiedig ar gyfer blaenoriaethau’r Eglwys ym mis Chwefror gyda chyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Sefydlog, Corff y Cynrychiolwyr a’r Fainc. Roedd yn “gyfarfod ffrwythlon a buddiol” meddai Mr Turner wedi’i gynllunio i sicrhau bod adnoddau ariannol yn dilyn gweledigaeth strategol. Bu’n rhaid canslo ail gyfarfod ym mis Mai ond byddai’n cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.
Yn y cyfamser, cytunwyd ar newidiadau i’r polisi buddsoddi moesegol i roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sy’n cael mwy na phump y cant o’u trosiant o danwydd ffosil. Roedd disgwyl i hyn gael ei gyflwyno gerbron y Corff Llywodraethol i’w gymeradwyo ym mis Ebrill.
Eiliodd Syr Paul Silk yr adroddiad, ac ar ôl rhywfaint o drafodaeth, pasiwyd y cynnig i gymeradwyo’r adroddiad yn unfrydol.
Cynnig Aelodau Preifat
Cynigiodd yr Archesgob gynnig i ganiatáu cadeirydd cyfredol Corff y Cynrychiolwyr, James Turner, i aros yn ei swydd nes ei fod yn 76 oed yn sgil argyfwng Covid. “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r capten am gytuno i aros ar y bont yn ystod y dyfroedd stormus hyn,” meddai. Pwysleisiodd na fyddai’r newid yn newid parhaol i’r Cyfansoddiad, gan ddweud, “Mesur a fydd yn gymwys mewn un achos penodol yn unig fydd hyn ac mae wedi’i ysgogi’n gyfan gwbl gan y sefyllfa gyda Covid-19.”
Pasiwyd y cynnig.
Sesiwn Tri
Polisi Diogelu
Roedd angen adolygu polisi diogelu’r Eglwys yn rheolaidd gan fod diogelu’n fater pwysig iawn, meddai Archesgob John wrth iddo gyflwyno cynnig i fabwysiadu’r polisi newydd ar gyfer yr eglwys gyfan.
Ysgrifennwyd y polisi’n rhannol mewn ymateb i’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Roedd yn gwahanu polisi o fanylion canllawiau a gweithdrefnau ac roedd yn cael ei gefnogi’n llwyr gan y Pwyllgor Pobl, y Pwyllgor Sefydlog a’r ymddiriedolwyr.
“Mae’r cynnig hwn yn galw arnom i fabwysiadu’r polisi ar gyfer yr eglwys gyfan – ni ddylid ei newid y tu allan i fframwaith y dalaith. Dyna beth mae’r Ymchwiliad yn ei ofyn gennym.”
Meddai’r Archesgob, “Mae’n ddyletswydd arnom i gynnig atebolrwydd priodol i bawb sy’n dod i’r eglwys.”
Eiliwyd y cynnig gan James Turner.
Dywedodd Elizabeth Thomas (Tyddewi), bod ganddi 25 mlynedd o brofiad o weithio gyda chamdrinwyr. Rhybuddiodd, “Mae’n rhaid i chi feddwl am yr hyn sydd tu hwnt i amgyffred - dwi’n rhyfeddu o hyd beth mae un unigolyn yn gallu ei wneud i unigolyn arall. Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd credu beth maen nhw’n ei glywed.”
Mae camdrinwyr yn glyfar iawn, meddai. “Un o’r pethau cyntaf roedden nhw’n ei wneud oedd mynd i eglwys gan eu bod yn credu y byddai pobl yn garedig wrthyn nhw. Mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn.”
Nodwyd bod cyfathrebu da a hyfforddiant yn ffactorau allweddol i lwyddiant y polisi.
Pasiwyd y cynnig.
Bodd y Corff Llywodraethol yn:
- yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo arferion diogel i blant ac oedolion sydd mewn perygl yn ein heglwysi a’n cymunedau a’r gwaith a wnaed gan dimau gwaith achos, datblygu polisi a hyfforddiant Diogelu’r Dalaith;
- mabwysiadu Polisi Diogelu’r Eglwys yng Nghymru 2020 fel y Polisi Diogelu ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru yn ei chyfanrwydd;
- anfon y Polisi at bob Esgobaeth ac ardaloedd Gweinidogaeth / Cenhadaeth i’w fabwysiadu a’i weithredu.
Ystadegau’r Offeiriadaeth
Canolbwyntiodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, ar broffiliau oedran clerigion wrth iddi gyflwyno’r adroddiad ar Ystadegau’r Offeiriadaeth.
Roedd yna wahaniaeth mawr rhwng y rhai o dan 46 oed a’r rhai dros 46 oed, meddai. Roedd 89 o glerigion gweithredol o dan 46 oed a 468 o glerigion gweithredol dros 46 oed.
Er bod yr adroddiad bron yn ddwyflwydd oed bellach, gan fod y ffigurau yn dangos y sefyllfa hyd ddiwedd 2018, roedd yn datgelu rhai tueddiadau a fyddai’n fannau cychwyn defnyddiol ar gyfer trafodaeth ym mhob esgobaeth, meddai. Tynnodd sylw hefyd at y gostyngiad graddol yn nifer y Gweinidogion Lleyg Trwyddedig gan ddweud ei fod yn codi cwestiynau am eu rôl. Roedd y Fainc yn trafod y cwestiynau hynny gyda’r cyfarwyddwyr gweinidogaeth, meddai.
Gofynnodd y Parch Miriam Beecroft (Bangor) pa strategaeth oedd ar waith ar gyfer yr offeiriadaeth ar ôl 2020. “Dwi ddim yn meddwl bod neb wedi cael camargraff am yr heriau sydd o’n blaenau,” atebodd Esgob Cherry. “Ond rwy’n synhwyro bod yna awydd am ardaloedd gweinidogaeth sy’n cael eu gwasanaethu gan weinidogion ordeiniedig a lleyg ac ymrwymiad gwirioneddol i bobl ordeiniedig, trwyddedig a chomisiynedig hefyd. Mae angen cynllun arall arnom sy’n edrych ymlaen am y 5-10 mlynedd nesaf o leiaf.”
Pasiwyd y cynnig i nodi’r ystadegau a nodwyd yn yr adroddiad.
Adroddiad Cymdeithas y Gweddwon, Plant Amddifad a Dibynyddion
Dosbarthodd Cymdeithas y Gweddwon, Plant Amddifad a Dibynyddion dros £83,000 i’r rhai mewn angen yn 2019, meddai Archddiacon Llanelwy, Andy Grimwood, wrth gyflwyno ei adroddiad blynyddol.
“Mae’r arian hwnnw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i sefyllfa ariannol y derbynwyr ac yn gwneud eu bywydau ychydig yn haws,” meddai. Anogodd unrhyw un a oedd am gyfrannu i gysylltu â Louise Davies, y Pennaeth Cyllid, i gael rhagor o fanylion (Louisedavies@churchinwales.org.uk).
Pasiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad yn unfrydol.
Adroddiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Roedd hwn yn adroddiad ysbrydoledig a oedd yn dangos yn glir fod gan y Brifysgol weledigaeth go iawn, sef ysbrydoli a thrawsnewid ei chymuned yn ogystal â darparu addysg, meddai Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, wrth gyflwyno’r cynnig i dderbyn yr adroddiad. Canmolodd ei ymrwymiad i fod yn gyflogwr Cyflog Byw hefyd.
Dywedodd Archesgob Llanelwy, Gregory Cameron, fod yr Eglwys yn falch iawn o’i chysylltiad â’r Brifysgol ond y byddai’n hoffi gweld adroddiad sydd wedi’i deilwra’n fwy i’r Eglwys.
“Sut maen nhw’n annog cymunedau ffydd, caplaniaeth?” awgrymodd. “Allwn ni glywed gan fyfyrwyr ynglŷn â sut maen nhw’n gweld ysbrydolrwydd ar waith ym mywyd y brifysgol? Ymgysylltu â ni yn fwy uniongyrchol ar bethau yr hoffem ni ddysgu amdanynt.”
Soniodd y Parch Ddr Emma Whittick, caplan campysau’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, am brosiect newydd i interniaid i weithio fel efengylwyr ar y campws.
Pasiwyd y cynnig i dderbyn yr adroddiad.
Adroddiad Cronfa’r Genhadaeth Dramor
Wrth gyflwyno’r Adroddiad dywedodd yr Archesgob John fod £20,000 wedi’i roi i wahanol fuddiolwyr dros y tair blynedd diwethaf – o hyfforddiant meddygol i feddyg yn Uganda i ddarparu cyfarpar newydd i ysgol ddiwinyddiaeth yn Beirut, ar ôl ffrwydrad. “Mae unrhyw beth sy’n cael ei gyfrannu’n cael ei werthfawrogi’n fawr,” meddai. “Mae’n dangos tosturi a charedigrwydd yr eglwys i lefydd eraill.”
Pasiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad.
Ffarwelio
Talodd yr Archesgob John deyrnged i Lister Tonge, a ymddeolodd fel Deon Casnewydd eleni. Tynnodd sylw at ei ddiddordeb mewn caethwasiaeth fodern a’i waith fel ymddiriedolwr y Clewer Initiative. Talodd deyrnged hefyd i arweinyddiaeth Lister gyda’r gwaith o ad-drefnu Cadeirlan Casnewydd. “Roedd hyn yn rhywbeth dewr iawn ac mae’r trawsnewidiad wedi bod yn rhyfeddol,” meddai’r Archesgob.
Rhoddodd yr Archesgob ddiolch i Lis Perkins hefyd, a oedd yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd. Bydd yn parhau i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
Y cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol ar 14-15 Ebrill 2021.
Addoliad
Arweiniodd Cydgysylltydd Addoliad y Corff Llywodraethol, y Tad John Connell yr aelodau mewn gweddïau agoriadol ym mis Medi, ac wrth i’r cyfarfod ailymgynnull ar 3 Tachwedd.
Y Dr Adrian Morgan arweiniodd yr Hwyrol Weddi, a bore trannoeth arweiniodd y Tad John y Weddi Foreol i agor ail ddiwrnod y cyfarfod. Darllenwyd y llithoedd gan aelodau’r Corff Llywodraethol.