Pigion - Medi 2021
Am y tro cyntaf mewn dwy flynedd roedd aelodau’r Corff Llywodraethol yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb ar ddiwrnod cyntaf eu cyfarfod ym mis Medi.
Yn sgil llacio cyfyngiadau pandemig COVID, roedd modd cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb i’r aelodau drafod Bil arwyddocaol. Cynhaliwyd y cyfarfod mewn lleoliad newydd i’r Corff Llywodraethol, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, yng Nghasnewydd, ar 6 Medi.
Cynhaliwyd ail ddiwrnod y cyfarfod yn ôl ar-lein ar 8 Medi, gan adael diwrnod rhwng y ddau er mwyn i’r aelodau deithio adref. Cafodd y ddau gyfarfod eu ffrydio’n fyw a gallwch wylio’r recordiadau isod, gyda chrynodeb byr o bob eitem ar yr agenda.
Sesiynau dyddiol
Medi 6 2021
Medi 8 2021
Medi 6 - Sesiwn Un
Ennyd i fyfyrio
Arweiniodd yr Uwch Esgob, Esgob Bangor, Andy John, y cyfarfod fel Llywydd. Dechreuodd drwy ofyn i’r aelodau gofio’r rhai a fu farw neu a oedd wedi dioddef o ganlyniad i bandemig Covid.
Talodd deyrnged hefyd i’r Hybarch Sue Pinnington, MBE, Archddiacon Cymoedd Gwent ers 2018, a fu farw’n sydyn yn ei chartref ym mis Gorffennaf.
Casgliad
Cyhoeddwyd casgliad ar gyfer yr elusen Drysau Agored i gefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ledled y byd. Gwahoddwyd aelodau a oedd yn dymuno cyfrannu i wneud trosglwyddiad banc i gyfrif banc Corff y Cynrychiolwyr lle byddai’r casgliad yn cael ei goladu.
Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo ym mis Hydref, ac unrhyw roddion a dderbynnir wedi hynny yn cael eu hanfon ymlaen.
Anerchiad y Llywydd
Roedd pandemig Covid wedi newid “tirwedd bywyd” ac wedi codi cwestiynau am beth oedd yn hanfodol mewn ffordd gwbl ddigynsail, meddai’r Esgob Andy yn ei Anerchiad.
Anogodd yr Eglwys i edrych am Dduw yn y byd sy’n newid ac ymateb i heriau newydd.
Mae Covid wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar yr economi a’n lles cenedlaethol, meddai. Diolchodd i bawb a fu’n gofalu am eraill mewn cartrefi nyrsio a gofal ac ysbytai, a chanmolodd eglwysi am fod yn “olau ar eu traed”, gan ddarganfod ffyrdd newydd, ar-lein o fod yn eglwys a dod o hyd i ffyrdd arloesol o wasanaethu’r gymuned.
Roedd digwyddiadau allanol wedi llywio’r diben Cristnogol erioed, meddai, gan bwysleisio, “Nid maint yr her sy’n sylweddol ond maint yr ymateb ffyddlon.”
Rhybuddiodd yr Esgob Andy, sydd hefyd yn Esgob Bangor, y byddai sefydliadau sy’n methu ag addasu i newidiadau mewn perygl o gael eu “ffosilieddio”. Meddai, “Mae methu ag ymateb i heriau newydd yn golygu diffyg rhyddid i ddarganfod beth mae Duw yn ei wneud o’n cwmpas ni. Gallwn ddychmygu pa fath o eglwys fyddai gennym pe bai ein cyndeidiau wedi parhau’n ddidaro am gaethwasiaeth a heb ddatblygu dealltwriaeth lawnach o werth dynoliaeth a luniwyd ar lun a delw Duw. Neu sut eglwys fyddai gennym pe na baem wedi deall pwysigrwydd menywod yn cael eu galw i’r offeiriadaeth a’r esgobaeth?”
Wrth annerch aelodau a oedd yn pryderu am Fil a oedd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol i awdurdodi gwasanaeth i fendithio partneriaethau o’r un rhyw, cydnabu’r Esgob Andy y byddai’r newid yn boenus i’r rhai a fyddai’n ei ystyried yn wyriad o air Crist.
Meddai, “Ond mae pob datblygiad yn wyriad i ryw raddau; mae rhywbeth yn newid pan fydd yna fynegiant newydd o ymarfer. A hyd yn oed pan fo newid o’r fath yn ymddangos yn gydnaws â safbwynt a ddatganwyd, mae’n newid serch hynny. Pan newidiodd yr eglwys ei safbwynt ar wahardd cig â gwaed ynddo neu pan welodd fod caethwasiaeth o unrhyw fath yn ddrwg, cafwyd newid.
“Ni ddylai ‘awdurdod y ddoe tragwyddol’ fod yn faen melin o amgylch ein gyddfau ond dylai fod yn sail i ni gofleidio’n ddewr yr hyn y mae Duw yn ei wneud yn y byd o’n cwmpas. Mae cenhadaeth yn ganolog i ffydd bob amser. Ac mae bod yn effro i Dduw, i beth allai ddigwydd nesaf, yn rhan o barhau i fod yn chwilfrydig ac yn agored i gyfle newydd.”
Roedd yr Esgobion, meddai, wrthi’n mynd i’r afael â materion dwfn dyfodol yr Eglwys – ei strwythur a’i chenhadaeth – er mwyn sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar genhadaeth ac yn addas i’w diben.
Canmolodd drawsnewidiad yr Eglwys yng Nghymru o’i system plwyfi traddodiadol i system Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth. Mae’r platfformau newydd yn cadw’r hyn a oedd yn dda am y plwyfi gan ein galluogi i gofleidio mynegiannau newydd o’r eglwys hefyd, meddai.
“Wrth i fynegiannau amrywiol o’r eglwys ddod yn fwy normal, fe fydd yna gwestiynau newydd ynghylch sut rydyn ni’n meithrin galwadau – i’r offeiriadaeth, a hefyd arweinwyr lleyg a fydd yn cynnig y cymorth a’r cyfeiriad sydd eu hangen. Ond yn bendant, mae ecoleg (neu economi) gymysg, hybrid bywyd yr eglwys yma i aros a hynny ar draws Cymru gyfan.”
Gan annog aelodau i chwilio am Dduw drwy’r newidiadau sy’n digwydd o’u hamgylch, gorffennodd yr Esgob Andy ei araith trwy ddweud, “Mae gweld ein tasg fel hyn yn golygu ein bod yn agored i’r hyn y mae Duw wedi’i baratoi ar gyfer y rhai sy’n ei garu. Gweld y dasg drwy lygaid Crist a bod yn rhydd i wneud beth sy’n wirioneddol bwysig.”
Medi 6 - Sesiwn Dau
Adnoddau Digwyddiadau Bywyd
Adeiladu pontydd rhwng eglwysi a’r rhai sy’n dod atynt ar adegau allweddol yn eu bywydau yw nod cyfres newydd o adnoddau sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru yr hydref hwn.
Dychwelodd y Canon Dr Sandra Millar, pennaeth Digwyddiadau Bywyd Eglwys Loegr, i’r Corff Llywodraethol i gyflwyno gwaith ymchwil diweddaraf ei thîm ar yr effaith y gallai digwyddiadau fel bedyddiadau, priodasau ac angladdau ei chael ar daith ffydd pobl.
“Dros y flwyddyn rydyn ni’n cyfarfod mwy o bobl drwy ddigwyddiadau bywyd na’r niferoedd sy’n dod i’r eglwys dros gyfnod y Nadolig,” meddai Dr Millar, a amcangyfrifodd ein bod yn dod i gysylltiad â thua 860,000 o bobl drwy ddigwyddiadau bywyd bob blwyddyn ar draws yr Eglwys yng Nghymru. “I lawer o bobl, dyma’r cyfle cyntaf maen nhw wedi’i gael i ddod i eglwys a chyfarfod Duw.”
Yr her oedd gweinidogaethu i’r bobl hyn a’u gwneud yn ddisgyblion hefyd, meddai. “Mae hon yn daith o genhadaeth i fod yn ddisgybl – eu gwneud nhw’n rhan o stori teyrnas Dduw.”
Cyflwynodd y Parch Chris Burr, tiwtor mewn astudiaethau gweinidogol yn Athrofa Padarn Sant, y gyfres newydd o adnoddau, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Roedd y rhain yn cynnwys gwahoddiadau i ddarllen gostegion priodas cwpl, cardiau gweddi yn y seddi a magnedau gweddi i’r oergell hyd yn oed. Roedd adnoddau fideo a chymorth ar-lein hefyd yn “ffenestr ar gyfer pobl nad oedden nhw’n dod i’r eglwys i weld pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei gynrychioli”.
Roedd Mr Burr yn gobeithio y byddai eglwysi’n croesawu’r adnoddau, ac y byddent yn helpu i ysbrydoli ffyrdd newydd o adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd. Mae’n “rhaid i ddigwyddiadau bywyd fod yn ganolog i weinidogaeth a chenhadaeth”, meddai.
Medi 6 - Sesiwn Tri
Bil i awdurdodi gwasanaeth bendithio partneriaethau o’r un rhyw
Cyflwynodd yr Esgobion Fil, sy’n cael ei ystyried fel un dadleuol, i awdurdodi gwasanaeth bendithio cyplau o’r un rhyw mewn partneriaeth sifil neu briodas.
Cyflwynodd y Pwyllgor Dethol lawer o welliannau, rhai teipograffigol yn bennaf, yn ogystal â thri gan aelodau o’r Corff Llywodraethol. Cafodd y Rheolau Sefydlog eu hatal i alluogi’r Corff Llywodraethol i gyfarfod fel pwyllgor, dan lywyddiaeth Ei Anrhydedd y Barnwr Andrew Keyser QC. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwelliannau eu pasio’n gyflym.
Fodd bynnag, rhoddodd y Barnwr Keyser rybudd i’r Parch Ddr Jonathon Wright (Abertawe ac Aberhonddu), a gyflwynodd welliant a oedd yn cyffwrdd ar ran sylfaenol o’r Bil. Roedd Dr Wright am weld y Bil yn cael ei ohirio hyd nes y gellid ei ystyried yn gyfannol fel rhan o athrawiaeth yr Eglwys ar briodas, a’i gyflwyno gyda phriodas o’r un rhyw yn y dyfodol.
Dywedodd y Barnwr Keyser ei fod wedi penderfynu gwrthod y gwelliant gan ei fod yn tanseilio pwrpas sylfaenol y Bil, ond roedd yn caniatáu trafodaeth gyfyngedig.
Dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, y byddai’n “gyfle cenhadol a bugeiliol anferth wedi’i golli am genhedlaeth arall… Bydd y gri yn codi, ‘Pa mor hir, O Arglwydd, pa mor hir?”
Roedd y Parch Richard Wood (Bangor) yn teimlo y byddai’r gwelliant yn cryfhau’r Bil. “Heddiw rydyn ni'n mynd i niweidio a dychryn pobl yn yr eglwys beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais. Os ydyn ni’n mynd i wneud hynny fe ddylen ni ei wneud unwaith ac am y rheswm gorau… Mae’r gwelliant yn ein hannog i ofyn y prif gwestiwn - cwestiwn sy’n rhaid i ni ei drafod cyn gynted â phosibl.”
Roedd y Parch Phil Bettinson (Llanelwy) yn teimlo bod digon o amser wedi’i neilltuo’n barod i drafod y mater. Meddai, “Faint o amser yw mwy o amser? Dwi wedi bod yma ers 10 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn ei drafod am 10 mlynedd. Faint eto sy’n rhaid i ni aros? Faint mwy o bobl sy’n rhaid i ni eu colli wrth i’r gwelliant hwn fynnu ein bod yn aros yn ein hunfan? Gadewch i ni bleidleisio yn ei erbyn a bwrw ymlaen â’r Bil.”
Awgrymodd Jonathan Sadler (cyfetholwyd) y gallai cyplau o’r un rhyw deimlo nad oedden nhw’n cael eu haeddiant gyda’r Bil “cyfaddawd”. Byddai’n eu tramgwyddo, yn ogystal â’r rhai sydd yn erbyn partneriaethau o’r un rhyw, rhybuddiodd.
Roedd yr Archddiacon Mones Farah (Tyddewi) hefyd yn pryderu bod y Bil yn gyfaddawd. “Rwy’n poeni wrth i ni wneud rhywbeth gam wrth gam, pan nad ydyn ni wedi cytuno ar y nod eto… Dydy cyfaddawd yn dda i ddim i neb, mae pobl wastad yn teimlo eu bod yn colli allan,” meddai.
Gofynnodd y Canon Steven Kirk (cyfetholwyd Llandaf) i’r Corff Llywodraethol wrthod y gwelliant. “Os ydych chi’n derbyn y gwelliant hwn, mae’r eglwys yn dweud, “Credwn na fyddai Duw yn bendithio cyplau nawr ond efallai y byddai’n gwneud hynny yn y dyfodol’, meddai,
Collwyd y gwelliant go 77 pleidlais i 27, gyda neb yn atal ei bleidlais.
Medi 6 - Sesiwn Pedwar a Phump
Cafwyd y brif ddadl ar y Bil ac fe’i cynigiwyd gan Esgob Llanelwy, Gregory Cameron.
Er ei fod yn ymwybodol fod rhai aelodau’n ystyried bod y Bil yn gwyro o athrawiaeth y Beibl a ffydd hanesyddol yr Eglwys, gofynnodd a fyddai’r aelodau’n “ddigon dewr i wneud penderfyniad o blaid cariad ffyddlon a thrugaredd, a fydd yn dod â gobaith a llawenydd?”
“Nid wyf am warafun yr hawl i aelodau goleddu argyhoeddiadau a bod yn ddisgyblion ffyddlon, ond rwyf am i ni ganiatáu safbwyntiau ac argyhoeddiadau pobl eraill hefyd,” meddai, gan amlinellu’r rhesymau dros ei argyhoeddiad ei hun.
“Credaf fod yn rhaid cymryd y cam hwn oherwydd fy mod i’n ceisio bod yn ddilynwr ffyddlon i Iesu Grist, i garu fel y carodd ef, ac i fodloni dyheadau’r rhai sydd mewn perthynas ymroddedig, sydd mor gryf, os nad cryfach, na llawer o briodasau heterorywiol.”
Gan gredu mai gair Duw yw’r Beibl, dywedodd yr Esgob Gregory ei fod wedi dysgu ei ddarllen mewn cyd-destun. “Alla i ddim ufuddhau’n llwyr yn ddi-gwestiwn i bob adnod… Onid yw hi’n amser i ni feddwl yn gyd-destunol wrth ystyried y Beibl mewn perthynas â rhyw, fel rydyn ni i gyd bron iawn yn ei wneud gyda materion fel ysgariad a bwyd ac arian a throsedd?”
Wrth eilio’r Bil, dywedodd Esgob Llandaf, June Osborne, mai un ffordd o feddwl oedd gan y Fainc ynghylch uniondeb y ddarpariaeth fugeiliol hon. Yn ei barn hi, roedd y Cymundeb Anglicanaidd wedi treulio pedwar degawd yn ymgodymu gyda mater cydberthnasoedd o’r un rhyw ac wedi hen dderbyn bod rhaid i bob Talaith benderfynu ar ei hiachawdwriaeth ei hun yn hyn o beth. “Fydd neb yn ei wneud drosom ni,” rhybuddiodd.
Rhybuddiodd yr Esgob June am fethu â gweld yr unigolion wrth wraidd y mater. “Rydyn ni’n gwneud anghyfiawnder mawr â sancteiddrwydd, ac yn arbennig â goruchafiaeth cydberthnasoedd dynol, os ydyn ni’n trin cydberthnasoedd o’r un rhyw fel math, neu’n bychanu’r partneriaethau hyn i drafodaeth ar beth sy’n digwydd yn yr ystafell wely yn unig,” meddai.
Tynnodd sylw at dri chyfrifoldeb: dyletswydd mewn perthynas ag apologeteg, gan ddadlau o blaid y ffydd a’i chymeradwyo; dyletswydd i efengylu; a dyletswydd i genhadu.
“Weithiau rydyn ni’n sôn amdano fel ‘ysbryd seciwlar yr oes’ ond rwy’n diolch i Dduw am frwdfrydedd y rhai sydd wedi chwalu’r muriau sydd wedi ein rhannu am gyfnod mor hir gan wahodd pawb o gwmpas yr un bwrdd, mewn un wledd Babette fawr,” meddai.
Cyfrannodd 31 o siaradwyr at y ddadl, a siaradodd llawer ohonynt yn angerddol.
Plediodd y Canon Steven Kirk (Llandaf) ar yr Eglwys i beidio â gwrthod neb sy’n chwilio am gysur ganddi. “35 mlynedd yn ôl ro’n i’n ofni’r Eglwys, dim Duw, ond yr Eglwys, o gael fy ngwrthod, y byddai pobl yn dod i wybod. Rwy’n gobeithio ein bod ni wedi symud ymlaen ac rwyf am weld Eglwys hael ac agored sy’n mynegi cariad Iesu Grist i bawb,” meddai.
Awgrymodd Jacob Martin (cyfetholwyd) fod yna gysylltiad rhwng gostyngiad mewn niferoedd a symudiad i ffwrdd o athrawiaeth draddodiadol yr Eglwys. “Y ddadl yw nad ydyn ni’n adlewyrchu cymdeithas Cymru ond ai’r Bil hwn yw’r ymateb cywir?” gofynnodd. “Mae pobl yn galw ar yr Eglwys i fod yn Eglwys eto, yn fwy nag y mae wedi bod erioed. Mae wedi profi tranc pan fo’i neges wedi’i chuddio a’i cholli.”
Roedd y Parch Andrea Jones (Llanelwy) wedi bendithio cathod, cŵn, bochdewion a neidr hyd yn oed. Roedd llongau tanfor trident wedi’u bendithio, meddai; ond roedd dau berson sy’n cael priodi yn ôl cyfraith y wlad yn cael eu hatal rhag derbyn bendith.
Roedd safbwynt yr Eglwys ar briodas o’r un rhyw yn “rhwystr pellach arall i bobl ifanc”, meddai Daniel Starkey (Bangor). “Allwn ni ddim disgwyl i bobl newid pwy ydyn nhw.”
Dywedodd Helen Franklin (Bangor) fod croesawu pobl yn bwysig ond bod eu herio’n bwysig hefyd. “Heriodd yr Iesu bobl i ymwadu â’r hunan, i godi’r groes a’i ddilyn ef. Allwn ni ddim gwneud fel y mynnom. Ar adegau efallai na fydd modd i ni gael y cyfan, er mwyn ein hiechyd ac iechyd yr eglwys. Efallai nad ydym mewn sefyllfa eto lle gallwn gynnig y croeso a ddymunwn.”
Dywedodd Melody Lewis (Llanelwy) fod ei ffydd wedi’i “rhyngblethu ag apologeteg” a oedd yn gwneud iddi deimlo cywilydd. “Rydyn ni’n ymddiheuro’n byth a beunydd am agwedd yr Eglwys – at gaethwasiaeth, menywod, cyplau o’r un rhyw. Ond sylfaen ffydd yw cariad… does dim angen i’r ffydd ymddiheuro, mae’r ffydd yn gariadus. Mae’r Bil hwn yn gam tuag at ymddiheuriad a chydraddoldeb.”
Roedd Archddiacon Llanelwy, Andy Grimwood (Llanelwy), yn pryderu am undod y Cymundeb Anglicanaidd. Pe bai’r Bil yn cael ei basio, byddai’n “taflu i ffwrdd 400 mlynedd o athrawiaeth uniongred draddodiadol yn seiliedig ar yr ysgrythur”. Roedd hefyd yn ofni y byddai’n gwthio pobl o’r Eglwys.
“Rwy’n falch o glerigion Cymru,” meddai. “Maen nhw wedi rhoi eu bywydau i wasanaethu Duw a nawr maen nhw’n gweld y pyst yn cael eu symud. Rwy’n pryderu am y gwirfoddolwyr lleyg hynny, sy’n rhoi o’u hamser am ddim, gan ddefnyddio eu doniau i wasanaethu Crist, rwy’n pryderu y bydd clerigion, lleygion, cymunedau eglwysig, na allant yn gydwybodol weithio gyda’r newid hwn, yn gadael ac y bydd twf yn diflannu.”
Nododd y cymal cydwybod, a gofynnodd iddo gael ei wneud yn gymal parhaol i glerigion a lleygion.
Cyfaddefodd y Parch Matthew Davis (Mynwy) y byddai wedi gwrthwynebu’r Bil ychydig flynyddoedd yn ôl ond nid erbyn hyn. “Ar ôl gweld y Crist byw yn fy mrodyr a’m chwiorydd LGBT yn yr eglwys fe welais ffrwyth yr ysbryd ynddyn nhw – ffyddlondeb, hunanreolaeth a charedigrwydd… Roedd y bobl hyn yn rhannu eu bywydau â mi, eu poenau, eu cariad ac mewn rhai achosion eu gwrthodiad creulon gan y ffydd a oedd mor annwyl iddyn nhw…Doedd fy marn ddim yn gydnaws â’r credoau a oedd gen i am ddilyn Iesu. Roedd angen i mi edifarhau ac rwy’n gobeithio fy mod i wedi gwneud hynny.”
Dywedodd Hannah Burch (Llandaf) ei bod yn siarad fel menyw hoyw mewn perthynas ymroddedig gyda menyw ddeurywiol. “Mae ein ffydd yn bwysig iawn i ni ac rydyn ni wedi cael ein galw’n ddwfn i’r Eglwys Anglicanaidd – rydyn ni’n caru’r eglwys hon ac wedi ymroi iddi. Mae gennym ni fywyd gweddi cyfoethog. Does gen i ddim syniad o’r alwad yn eich bywydau chi ond i fi, rydw i wedi fy ngalw i berthynas â Ruth a’r profiad sydd gen i o’m perthynas yw ei bod yn berthynas dda, fywiocaol.”
Rhannodd y Pennaeth Ian Loynd (Mynwy) safbwyntiau ei ddisgyblion LGBT ifanc. “Alla i ddim mynd i’r eglwys lle mae pobl yn neis i fi yn fy wyneb ond ddim am i fi fod yn fi,” meddai un.
Roedd y Parch Adrian Morgan (cyfetholwyd) yn teimlo bod angen mwy o amser ar gyfer trafodaeth iawn ar y mater. “Os ydyn ni’n mynd i ddweud ‘iawn’ yna mae’n rhaid i ni ddweud ‘iawn’ â’n holl galon. Cymerwch saib, defnyddiwch strwythurau’r eglwys i gael dadl dda a chadarn, i glywed mwy o’r lleisiau rydyn ni wedi’u clywed heddiw ac yn fanylach, cyn dod i benderfyniad – penderfyniad a fydd yn cael ei wneud ar ôl i bobl gael eu clywed a’u gwerthfawrogi,” meddai.
Ymateb i’r drafodaeth oedd y ‘peth anoddaf’ y bu’n rhaid iddo ei wneud, meddai’r Esgob Gregory.
Ymddiheurodd i aelodau’r Gymdeithas Efengylaidd a oedd yn teimlo ei fod wedi cam-gynrychioli neu feirniadu eu safbwyntiau. Nid oedd ganddo fwriad o ddilorni eu ffordd o feddwl, eu diwinyddiaeth na’u gweinidogaeth.
“Ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych, dydw i ddim yn cytuno â rhai o’r safbwyntiau a gyflwynwyd y prynhawn yma, ac rwy’n ei chael hi’n anodd iawn pan mae pobl yn dweud mai un ffordd sydd o ddarllen y Beibl a hynny mewn ffordd sy’n gwrthwynebu cydberthnasoedd hoyw a lesbiaidd; oherwydd nid dyna fy argyhoeddiad i. Ac rwy’n gwrthod cael fy ngalw’n “anuniongred” ar sail fy argyhoeddiad am y ffordd rwy’n darllen yr ysgrythur… dydw i ddim yn dymuno bychanu na thanseilio eich dealltwriaeth chi o ffydd. Ond mae’n rhaid i mi ofyn i chi ganiatáu i mi gael fy nealltwriaeth i hefyd.”
Dywedodd yr Esgob Gregory fod eglwysi’n tyfu pan maen nhw’n gwahodd pobl i mewn, nid yn eu cau allan. “Oes, mae yna enghreifftiau gwych o dwf efengylaidd yn fy esgobaeth i ac yn y Dalaith ac rwy’n diolch i Dduw amdanynt. Ond rydych chi’n llwyddo nid oherwydd eich ffiniau ond oherwydd dyfnder eich ffynhonnau.”
Mae Crist, meddai’r Esgob Gregory, wedi’i gymell i sefyll “gyda phobl agored i niwed a’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, a chynnig rhyddid a gobaith iddyn nhw.”
“Ni fyddaf yn eu bradychu, am unrhyw bris nid yn y byd hwn na’r un nesaf, rwy’n credu mai dyna yw ewyllys Crist.”
Gorffennodd trwy ddweud, “Annwyl ffrindiau sydd wedi ymrwymo i ddealltwriaeth benodol o’r Beibl, bydd croeso i chi bob amser yn yr Eglwys yng Nghymru a byddwn yn dysgu cymaint gennych chi. Ond mae’n ddrwg gen i, ond nid ar draul bradychu fy mrodyr a’m chwiorydd hoyw a lesbiaidd. Os ydyn nhw am ofyn am fendith Duw, ni fyddaf yn eu gwahardd ac rwy’n eich annog i bleidleisio dros y Bil hwn.
Pasiwyd y Bil gan y tair urdd.
Lleygion: 49 o blaid, 10 yn erbyn, un yn ymatal
Clerigion: 28 o blaid, 12 yn erbyn, dau yn ymatal
Esgobion, pedwar o blaid, dim yn erbyn, dim ymatal
Ffarwelio
Dyma oedd cyfarfod Corff Llywodraethol olaf y Canon Carol Wardman a oedd yn ymddeol fel Cynghorydd ar yr Eglwys a Chymdeithas i’r Esgobion ar ôl 10 mlynedd yn y swydd. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu Carol yn cynghori ar nifer o faterion yn y byd cyhoeddus, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd a chaethwasiaeth fodern. Bu’n gyfrifol am gydgysylltu’r grŵp amgylcheddol, CHASE a’r Fforwm Materion Byd-eang, a bu’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru. Gan ddiolch iddi am ei gwaith, dywedodd yr Esgob Andy fod ei chydweithwyr yn swyddfa’r Dalaith wedi gwerthfawrogi ei phresenoldeb yn fawr. “Rydych wedi bod yn gydweithwraig ardderchog ac rydyn ni’n ddyledus iawn i chi,” meddai.
Wrth ymateb, dywedodd Carol ei bod wedi bod yn “fraint aruthrol” gweithio yn yr Eglwys a diolchodd i’w chydweithwyr. “Gobeithio y bydd yr Eglwys yn parhau i ymyrryd mewn materion cyhoeddus,” meddai. “Gwyddom mai yno mae consýrn Duw.”
Medi 8 - Sesiwn Un
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Cymeradwywyd argymhellion dau adroddiad y Pwyllgor Sefydlog.
Roedd y rhain yn cynnwys ethol Dr Siȃn Miller a Dr Heather Payne fel cadeirydd ac is-gadeirydd y Pwyllgor am weddill y cyfnod tair blynedd; a chyfethol Syr Paul Silk i’r Pwyllgor i sicrhau cysylltiadau agos rhwng y Gweithgor Diwygio Llywodraethu a’r Pwyllgor Sefydlog.
Cynhelir cyd-gyfarfod arall o’r Pwyllgor Sefydlog a Chorff y Cynrychiolwyr ddydd Llun 11 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno.
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar ddiogelu a bydd yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan y Pwyllgor Diogelu newydd.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Cyfreithiol a Llywodraethu
Cymeradwyodd y Corff Llywodraethol yr Adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:
Bil ar gyfer Amrywiad Litwrgaidd
Cyhoeddodd y Pwyllgor Sefydlog Fil i awdurdodi a rheoleiddio mân amrywiadau i Litwrgïau Awdurdodedig. Y dyddiad cau i aelodau gynnig diwygiadau yw 23 Hydref 2021.
Argymhellion y Gweithgor Diwygio Llywodraethu
Derbyniodd y Pwyllgor Sefydlog adroddiad gan y Gweithgor Diwygio Llywodraethu, a wnaeth nifer o argymhellion i ddiwygio’r Cyfansoddiad.
Roedd y rhain yn cynnwys newidiadau i Goleg Etholiadol yr Archesgob. Yn gyntaf, newid symbyliad coleg etholiadol yr Archesgob, o orseddu Esgob yr esgobaeth wag i’r synod sanctaidd, ac egluro dyddiad perthnasol cymhwysedd etholwyr i gymryd rhan mewn coleg etholiadol. Yn ail, gwelliant i roi mwy o hyblygrwydd i leoliad coleg etholiadol yr Archesgob, pe bai sefyllfa Covid-19 yn gofyn am hynny.
Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
Elwodd yr esgobaethau ar £6.2 miliwn yn ychwanegol gan Gorff y Cynrychiolwyr i’w helpu i ymateb i bandemig Covid, meddai James Turner, yn ei adroddiad olaf fel cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr cyn iddo ymddeol yn yr hydref.
Gyda’r Grant Bloc hefyd wedi’i bennu ar £6.2 miliwn, roedd hynny’n golygu bod cyfanswm y cyllid i’r esgobaethau yn £12.4 miliwn yn 2020. Roedd Corff y Cynrychiolwyr wedi cydnabod angen yr esgobaethau ac wedi ymateb yn gyfrifol, meddai Mr Turner.
Roedd y cyllid ychwanegol hwnnw wedi golygu bod Corff y Cynrychiolwyr wedi cael colled net o £9.4 miliwn.
Cyfeiriodd Mr Turner at gynlluniau Corff y Cynrychiolwyr i ariannu cadeirlannau a fyddai’n cael ei gymeradwyo ar gyfer gweithredu yn y flwyddyn nesaf gobeithio.
Ac ar ôl naw mlynedd fel cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, cyhoeddodd Mr Turner hefyd pwy fyddai’n cymryd yr awenau pan fyddai’n ymddeol ym mis Tachwedd.
Roedd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn “ddyn o allu aruthrol”.
“Mae cyflawniadau gyrfa Medwin yn drawiadol iawn a byddai eu crynhoi yma’n gwneud anghymwynas ag ef. Digon yw dweud ei fod yn ddyn o allu aruthrol sydd â chyfoeth o brofiad proffesiynol a fydd yn hynod ddefnyddiol i Gorff y Cynrychiolwyr a’r Eglwys yng Nghymru yn fwy cyffredinol.”
Wrth drosglwyddo’r awenau, rhybuddiodd Mr Turner nad oedd aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr i’r gwangalon. Meddai, “Rwy’n dymuno’r gorau i Medwin ac yn sicrhau y bydd yn fy ngweddïau wrth iddo ymgymryd â’r swydd ddiddorol iawn hon, y bydd yn ei mwynhau yn fawr rwy’n siŵr. Hoffwn hefyd ddiolch i holl aelodau Corff y Cynrychiolwyr a’i bwyllgorau y bûm yn gwasanaethu gyda nhw - nid yw bod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr i’r gwangalon ac rwyf wedi gwerthfawrogi eu hymroddiad a’u diwydrwydd dros y blynyddoedd. Rwyf hefyd wedi mwynhau cefnogaeth a doethineb llawer o aelodau staff ac am fynegi fy niolch iddyn nhw hefyd.”
Talwyd teyrngedau i Mr Turner am ei gyflawniadau yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd. Diolchodd Dr Heather Payne, a gadeiriodd y cynnig, iddo am ei arweiniad.
“Mawr yw ein diolch i James am fod yn was gwych i’r eglwys dros y blynyddoedd. Mae’n hyblyg ac yn ddatryswr problemau heb ei ail. Mae’n Gristion i’r carn ac wedi bod yn arweinydd penigamp, gan ganolbwyntio ar waith yr Arglwydd Iesu,” meddai.
Dywedodd yr Uwch Esgob, Andy John, “Fel Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, mae James yn aelod awtomatig - ex-officio – o’r Corff Llywodraethol, felly mae wedi bod yn ffigwr allweddol yn nhrefniadau llywodraethu’r eglwys am flynyddoedd lawer, ac mae gennym ni i gyd lawer i fod yn ddiolchgar iddo. Cyn iddo ddod yn gadeirydd Corff y Cynrychiolwyr roedd James yn gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf, bu’n aelod o sawl Coleg Etholiadol ac yn aelod o weithgorau eraill. Mae ymrwymiad James i’r Eglwys yng Nghymru ar lefel leol, esgobaeth a thaleithiol wedi bod yn sylweddol iawn ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn… Bydd holl aelodau’r Corff Llywodraethol am ymuno â mi wrth i ni ddweud diolch i James, a dymuno ymddeoliad hapus iawn iddo.”
Cafodd y cynnig i dderbyn yr adroddiad ei basio gyda mwyafrif llethol.
Medi 8 - Sesiwn Dau
Cynnig ar yr Argyfwng Hinsawdd
Roedd blwyddyn o lifogydd difrifol, tanau gwyllt, sychder a thymereddau a dorrodd bob record yn golygu bod datganiad y Corff Llywodraethol o argyfwng hinsawdd mor amserol a heriol ag erioed, meddai’r Parch Rebecca Stevens (Mynwy) wrth gyflwyno diweddariad ar y cynllun gweithredu i gyrraedd carbon sero-net erbyn 2030.
Dechreuodd trwy ganolbwyntio meddyliau gyda chyfrifiad. Drwy gyfarfod ar-lein heddiw roedd y Corff Llywodraethol wedi cynhyrchu 1% yn unig o’r allyriadau carbon roeddynt wedi’i gynhyrchu drwy deithio i gyfarfod wyneb yn wyneb ar ddiwrnod cyntaf y cyfarfod ddydd Llun.
Ers cyfarfod mis Ebrill, roedd yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd, Julia Edwards, wedi dechrau ar ei swydd ac yn ymgysylltu ag eraill i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiad. Cymeradwywyd polisi amgylcheddol Corff y Cynrychiolwyr hefyd er mwyn cynnwys y targed carbon sero yn ei holl waith.
Gallai pobl nawr gysylltu â’r Hyrwyddwr Newid Hinsawdd gydag awgrymiadau neu sylwadau’n uniongyrchol drwy ddefnyddio’r botwm ‘Galwad i Weithredu’ ar dudalen Newid Hinsawdd gwefan y Dalaith.
“Yr her nawr yw i ni barhau i gyhoeddi ein gweithgareddau eco a charbon isel cynyddol yn eang fel y gall pawb ysbrydoli ei gilydd. Mae eco-brosiectau lleol hefyd yn galluogi cynulleidfaoedd i estyn allan mewn cenhadaeth i’w cymuned ehangach.”
Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan ymgyrchydd ifanc Ayub Khan, myfyriwr o Grucywel a oedd ar fin astudio’r gyfraith a gwleidyddiaeth yn y brifysgol.
Dywedodd nad oedd yn “ymgyrchydd blin, ond ei fod yn ymgyrchydd siomedig”.
“Rwy’n siomedig gyda fy ngweithredoedd fy hun, yn drist oherwydd diffyg ymdrech gan lywodraethau cartref a thramor, a methiant fy hynafiaid i ystyried realiti newid yn yr hinsawdd. Nid myth yw newid yn yr hinsawdd, na stori dylwyth teg, na ffuglen, mae’n ffaith ac yn wir. Dyma’r bygythiad mwyaf rydyn ni’n ei wynebu’n ddi-os.”
Roedd y term “cynhesu byd-eang” yn dwyllodrus, meddai. “Nid yw’n swnio’n beryglus na bygythiol o reidrwydd. Yn wir, i ni Brydeinwyr, yn rhynnu ar ein hynys unig oer, mae’n swnio’n eithaf apelgar… nid yw’n amlygu’r gwirionedd wrth i’n byd unigryw, gwerthfawr a gwych gynhesu.”
Amlinellodd Ayub yr ystadegau brawychus ynghylch cynhesu byd-eang. Yr argyfwng hinsawdd oedd y mater “mwyaf syml a chymhleth y mae dynoliaeth wedi’i wynebu erioed”.
“Syml, gan ein bod ni’n gwybod ac yn deall beth sy’n rhaid i ni ei wneud i gyfyngu sgil-effeithiau uniongyrchol a hirdymor ein hesgeulustod… Cymhleth a phroblematig am fod systemau economaidd modern yn troi o gwmpas cynlluniau proffidiol sefydliadau sy’n dibynnu ar losgi tunelli o danwydd ffosil, gan niweidio ecosystemau er mwyn creu twf economaidd di-dor.”
Galwodd Ayub ar i bobl gael eu llywio gan ddata gwyddonol a gan eu ffydd eu bod yn geidwaid creadigaeth Duw. Fe’u heriodd hefyd i feddwl beth fyddai eu gwaddol nhw.
“Fel dinasyddion byd-eang mae’n rhaid i ni uno yn y nod unigol, anhunanol, i greu dyfodol sy’n werth byw ynddo. Boed i’ch gwaddol fod yn niogelwch a lles ein planed.”
Siaradodd llawer o’r aelodau mewn ymateb i’r cyflwyniad, gan godi materion ymarferol i eglwysi, fel defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan i blannu coed a gwarchod mannau gwyrdd.
Awgrymodd y Parch Nigel Doyle (Abertawe ac Aberhonddu) y gallai ynni’r haul a gwres o’r ddaear ddod yn ffrwd incwm i lawer o’n hadeiladau.
Galwodd yr Esgob Andy John (Bangor) am ymgyrch gydag elusennau eraill i helpu i leihau cost gwneud newidiadau mawr i adeiladau hanesyddol.
Cyfeiriodd y Parch Peter Lewis (Llandaf) at gyfle cenhadol. “Mae angen i ni edrych ar sut y gallwn fendithio’n pobl a gweld sut maen nhw’n cael eu galw i newid y gymuned o’u hamgylch. Mae’n gyfle gwych i weld ysbryd Duw yn tyfu o’n mewn.”
Galwodd y Parch Adrian Morgan (cyfetholwyd Abertawe ac Aberhonddu) am sgwrs briodol am gynaliadwyedd ein hadeiladau. Dywedodd ei fod wedi pregethu mewn eglwys yn ddiweddar lle'r oedd y periglor yn gyfrifol am 20 o eglwysi ac yn teithio cannoedd o filltiroedd rhyngddynt. “Mae ein ffydd wedi’i fuddsoddi mewn brics a morter,” meddai.
Atgoffodd Lis Perkins (Bangor) yr aelodau am bwysigrwydd amgylcheddol prynu cynhyrchion Masnach Deg. Dywedodd fod hyn yn un ffordd hawdd o wneud gwahaniaeth.
Dywedodd Ms Stevens fod yr holl sylwadau wedi’u nodi wrth iddi ddiolch i’r cyfranwyr.
Medi 8 - Sesiwn Tri
Blwyddyn Llythrennedd Beiblaidd
Amcan y Flwyddyn Llythrennedd Beiblaidd oedd ymrwymo i well dealltwriaeth o’n ffydd ni ein hunain, meddai Esgob Bangor, Andy John wrth gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau digwyddiad y flwyddyn nesaf ar ran Efengylu Taleithiol, Twf Eglwysi a’r Rhwydwaith Arloesi.
Gwahoddodd eglwysi i ymgysylltu ag adnoddau dysgu newydd, setiau sgiliau a phlatfformau digidol, fel podlediadau. Dyna dri maes, meddai, lle y gallem weld cynnydd cyflym i ddathlu ein ffydd mewn gwahanol ffyrdd.
Un syniad ynglŷn â dysgu oedd i eglwysi ganolbwyntio ar Efengyl Luc bob Sul fel cymorth i ddeall stori Iesu. Syniad arall oedd comisiynu deunydd yn delio â “Darnau Dymunol”, “Darnau Dychrynllyd” a “Darnau Anodd” y Beibl.
Gallai datblygu setiau sgiliau gynnwys ail-afael yn y grefft o ddweud stori, gan ddefnyddio drama neu, yn syml, adrodd hanes. Gallai hyn hefyd gael ei wneud yn ddigidol “fel y bydd pobl yn clywed podlediad ysgogol sy’n gwneud yr ysgrythur yn real ac yn fyw”, meddai’r Esgob Andy.
Galwodd yr Esgob Gregory am lawlyfr ar ddull IKEA i adeiladu cyrsiau wedi eu paratoi’n barod. “Mae angen i ni wneud y flwyddyn mor hawdd i’w gweithredu fel y byddai’n fwy anodd i’w hanwybyddu nag i gyfranogi ynddi,” meddai.
Awgrymodd yr Archddiacon Paul Mackness (Tyddewi) “ddarnau” eraill o’r Beibl i’w cynnwys, fel y darnau tywyll, y darnau rhyfedd a’r darnau rhyfeddol.
Dywedodd y Parch Naomi Starkey (Bangor), y gyntaf i awgrymu’r Flwyddyn Llythrennedd Beiblaidd, fod y ddadl gynharach ar fendithio cyplau o’r un rhyw yn pwysleisio, yn ei barn hi, bwysigrwydd cynyddol llythrennedd Beiblaidd. “Rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn i greu disgyblion ymhlith ein pobl fel y bydd gennym beth o’r gwaith sylfaen wedi’i wneud pan fydd materion o bwys yn codi,” meddai.
Ofnai Helen Wilcox (Bangor) fod y termau am y “darnau” Beiblaidd yn babaneiddio ein hagwedd at yr ysgrythur. “Cyfres o dermau lleihaol ydyn nhw sy’n sarhau’r rhai sy’n defnyddio’r adnoddau,” meddai.
Roedd y Parch Jon Price (Bangor) yn cytuno ei bod hi’n bryd cynnal Blwyddyn o Lythrennedd Beiblaidd. “Yn aml iawn mae trothwy gwybodaeth pobl yn eithaf isel ac mae angen i ni weithio o’i gwmpas i’w helpu i dyfu yn eu ffydd. Yn yr ail le, ni fu’r byd erioed â chymaint o angen i glywed y newyddion da sydd yn y Beibl, felly mae angen eglwys sydd â’r gallu i gyfathrebu’r newyddion da hynny fydd yn dod â phobl wyneb yn wyneb â Duw a’u bywydau’n cael eu newid gan yr hyn a glywant.”
Mewn ymateb dywedodd yr Esgob Andy nad oedd angen adnoddau newydd gan fod digon ar gael ar-lein, yn ddwyieithog ac yn ddigidol. Gwahoddodd bobl i addasu deunyddiau i’w cyd-destun eu hunain.
“Ein hamcan yw rhoi sgiliau, yn hytrach nag adnoddau, i bobl – eu helpu i fod yn fwy mentrus. Mae gwneud rhywbeth DIY yn y cyd-destun lleol yn fwy llwyddiannus na gwneud rhywbeth wedi ei dynnu i lawr oddi ar y silff.”
Cwestiwn ac Ateb
Gofynnodd Mrs Heather Temple-Williams (Llandaf) beth oedd yr esgobaethau yn ei wneud i fonitro cydraddoldeb a chynhwysiant ymhlith gweinidogaethau ac arweinyddiaeth ordeiniedig a lleyg.
Ymatebodd Esgob Llandaf, June Osborne, trwy ddweud nad oedd yn gallu dweud beth oedd yn digwydd ar draws yr esgobaethau, ond ei bod yn teimlo fod yr amser yn iawn i bawb ailystyried ein hagwedd tuag at gynhwysiant ac amrywiaeth.
Yn dilyn penderfyniad y Corff Llywodraethol yn 2019, mae cynllun gweithredu wedi ei fabwysiadu a’i ddosbarthu ymhlith yr esgobaethau. Mae rhai wedi sefydlu gweithgorau i fonitro cynrychiolaeth menywod. Ymgynghorwyd â’r esgobaethau yn ystod yr haf unwaith eto ac roedd disgwyl iddynt gynnwys gwybodaeth am eu gwaith ar faterion cydraddoldeb a chynhwysiant eraill hefyd.
“Byddwn yn ymgynghori ac yn casglu gwybodaeth ychwanegol am y gwaith mae ein hesgobaethau yn ei wneud i barhau i weddnewid yr eglwys yn gorff sy’n gallu defnyddio doniau ei holl bobl i’r eithaf,” meddai’r Esgob June.
Gofynnodd Daniel Starkey (Bangor) beth oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r tranc yn aelodaeth yr eglwys, yn arbennig ymhlith y bobl ifanc.
Dywedodd yr Esgob June fod y cwestiwn “ yn un o’r pwys pennaf i ni.” Pwysleisiodd waith y Gronfa Efengylu, y Pwyllgor Efengylu Taleithiol, Eglwysi Arloesi a Thwf Eglwysi a’r Cynulliad Arbenigwyr Ieuenctid yn 2019.
Roedd nifer y gweithwyr ieuenctid, ysgolion a theuluoedd wedi eu cynyddu ac roedd yr esgobion wedi gofyn i Athrofa Padarn Sant ddarparu hyfforddiant ychwanegol i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc – rhaglen sydd i’w rhoi ar waith yn 2022.
Roedd Eglwysi Adnoddau wedi’u hagor yn esgobaethau Llanelwy a Llandaf ac roeddent yn creu argraff ar y rhai dan 30 oed.
“Ein dyhead a’n huchelgais weddigar yw aelodau newydd ar draws pob un o’r grwpiau oedran”, meddai’r Esgob June.
Diolchodd Daniel i’r Esgob June am ei hymateb. “Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y bydd y cynlluniau’n cael eu gweithredu. Rwy’n teimlo rhyw dristwch ar ôl cyrraedd adref o feddwl cyn lleied o bobl o’m hoedran i oedd yn y gynulleidfa.”
Yr eglwys ôl-bandemig
Mewn sesiwn lawn dan arweiniad yr Esgob Andy, cyflwynwyd syniadau ar sut y dylai’r eglwys ôl-bandemig edrych, syniadau a oedd wedi’u trafod mewn grwpiau yng nghyfarfod mis Ebrill.
Thema allweddol, meddai, oedd y dyhead i ddychwelyd i addoli yn bersonol, er gwaethaf manteision addoli ar-lein. “Yn ddi-os, mae pobl wedi teimlo bod y ffordd rydyn ni’n elwa’n bersonol yn hanfodol bwysig. Mae’r eglwys yn cael ei gwahodd i ail-gysylltu â’i hamcan creiddiol – addoli, gwasanaethu a bendithio cenedl y Cymry. Mae angen i ni yn bersonol fynd yn ôl at y pethau hynny.”
Cafodd heriau ariannol eu cydnabod hefyd. Mae’r pandemig wedi rhoi’r cyfle i ni ofyn i bobl newid o gyfrannu trwy roi arian mân ar blât casglu i roi trwy ddebyd uniongyrchol.
Mae’r defnydd o gyfryngau digidol a chyfryngau cymdeithasol wedi galluogi pobl i fod yn fwy creadigol a’r her bellach yw adeiladu ar hynny mewn modd sy’n canolbwyntio ar bobl.
Fodd bynnag, mae angen i’r meini melin, y pethau a oedd yn ei gwneud hi'n anodd i wasanaethu Crist, gael eu hailystyried. “Rhaid i ni fod yn strategol ynglŷn â’n hadeiladau a’u defnyddio’n wahanol,” meddai’r Esgob Andy.
Galwodd Bob Evans (Mynwy) am amrywiaeth lleol wrth symud ymlaen. “Mae gwahanol eglwysi wedi ymateb yn wahanol am fod eu blaenoriaethau’n wahanol,” meddai. “Mae’n egwyddor bwysig sydd angen ei diogelu wrth i ni symud ymlaen. Rhaid i ni ochel rhag safoni, er enghraifft, ni fydd cyfrannu digyswllt yn cael croeso mewn rhai eglwysi.”
Roedd y Parch Adrian Morgan (cyfetholedig Abertawe ac Aberhonddu) eisiau strategaeth esgobaethol ar gau eglwysi er mwyn tynnu’r straen oddi ar glerigion lleol. Galwodd hefyd am ragor o wahanol fathau o addoli a mwy i apelio at bobl ifanc. “Gall eglwys barhau’n deyrngar i’w hen ffyrdd tra’n cofleidio’r newydd ar yr un pryd,” meddai.
Rhybuddiodd Hannah Burch (Llandaf) yn erbyn rhoi pobl ifanc a phobl hŷn mewn categorïau caeth. “Mae deuoliaeth gamarweiniol rhwng addoli traddodiadol ar gyfer y bobl hŷn ac addoli newydd ar gyfer yr ifanc,” meddai Hannah, 31 oed. “Nid oedran sydd bob amser yn rhannu dewisiadau. Rhaid i ni helpu’r bobl iau i siarad iaith yr eglwys a’r eglwys hefyd i siarad iaith y bobl iau. Mae’r eglwys yn cael ei chynnal a’i meithrin gan ddoethineb a chyfoeth y rhai sydd wedi bod yn addoli’n ffyddlon am flynyddoedd.”
Pwysleisiodd Andrew Sims (Llandaf) bwysigrwydd gwasanaethau digidol. “Rydyn ni’n dal i gael cannoedd lawer o hits ar y gwasanaeth wythnosol rydyn ni’n ei ddarlledu’n fyw,” meddai. “Mae’n ddarpariaeth aruthrol i bobl anabl, y rheiny sydd mewn ysbytai, teuluoedd sydd ar eu gwyliau ac sy’n ymuno â ni o’u carafán a’u pabell. Dydw i ddim am i ni golli golwg ar ba mor werthfawr y bu hyn.”
Diolchodd yr Esgob Andy i’r cyfranwyr a dywedodd y byddai’r holl bwyntiau’n cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Sefydlog.
Dyddiadau’r cyfarfod nesaf
Bydd y Bwrdd Llywodraethol yn cyfarfod nesaf ddydd Mercher a dydd Iau 27-28 Ebrill yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.