Pigion - Medi 2022
Cyfarfu aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru, Casnewydd, ar 7-8 Medi 2022. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw a gallwch weld y recordiad o bob sesiwn, ynghyd â chrynodeb byr, isod.
Sesiynau dyddiol
Medi 7 - Cymun Bendigaid
Addoliad
Llywyddodd yr Archesgob yng nghyfarfod agoriadol yr Ewcharist Sanctaidd ar 7 Medi.
Gweinyddodd y Parch Zöe King (Llandaf) a phregethodd Esgob Llandaf yn yr Hwyrol Weddi ar y nos Fercher.
Arweiniwyd y Gweddïau Agoriadol ar 8 Medi gan y Tad John Connell, Cydlynydd Addoliad.
Casgliad
Gwnaed casgliad ar gyfer Brynawel Rehab, canolfan adsefydlu breswyl ar gyfer pobl sy’n ddibynnol ar gyffuriau, alcohol a phethau eraill ger Caerdydd. Mae mwy o fanylion ar gael yn www.brynawel.org
Medi 7 – Sesiwn Un
Croeso i ymwelwyr
Croesawodd yr Archesgob gynrychiolwyr eglwysi eraill i’r cyfarfod, sef;
- Canon Malcolm Kingston, Eglwys Iwerddon
- Y Parch Ddr Stephen Wigley, Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd
- Y Parch Beti-Wyn James, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
- Y Parch Brian Matthews, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- Canon Aled Edwards, Cytûn ac Eglwysi Cyfamodedig Cymru
Diolchodd yr Archesgob i’r Canon Aled Edwards, sy’n ymddeol ar ôl 23 mlynedd fel Prif Weithredwr Cytûn, am ei waith dros eglwysi Cymru, ei ymgyrchu ar faterion cymdeithasol ac am fod yn eiriolwr dros ffoaduriaid. Dywedodd y bu’n fraint gweithio gydag ef.
Er Cof
Safodd aelodau i ddangos parch, cofio a diolch am ddau gyn gydweithiwr hir eu gwasanaeth a fu farw ers mis Ebrill.
Roedd Sylvia Scarf OBE wedi gwasanaethu am 45 mlynedd, rhwng 1966 a 2011, yn gyntaf fel aelod cyfetholedig Dan 30 ac a gafodd wedyn ei hethol gan Esgobaeth Llandaf. Dim ond un cyfarfod a gollodd, pan oedd yn mynychu’r Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd ar ran y Corff Llywodraethol. Roedd Sylvia hefyd yn gyn aelod o Gadeiryddion y Corff Llywodraethol, y Pwyllgor Sefydlog ac yn Ddirprwy Gadeirydd y Bwrdd Cenhadaeth ac yn gyn Gadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn Plant.
Roedd yr Archddiacon Hywel Jones, a fu farw ym mis Awst, wedi gwasanaethu fel Archddiacon Aberteifi rhwng 1990 a 2006, pan ymddeolodd fel Archddiacon a hefyd o’r Corff Llywodraethol. Yn ystod ei gyfnod fel Archddiacon roedd hefyd wedi gwasanaethu fel Ficer Llanychaearn gyda Llanddeiniol.
“Fel aelod o’r Corff Llywodraethol, roedd Hywel yn adnabyddus ac boblogaidd nid yn unig am ei ymroddiad i faterion tebyg i gadw safonau mewn mynwentydd ond hefyd am y cellwair roedd yn aml yn ei ddefnyddio wrth annerch y Corff Llywodraethol,” meddai’r Archesgob Andrew.
Anerchiad Llywyddol
Yn ei Anerchiad Llywyddol cyhoeddodd Archesgob Cymru fuddsoddiad sylweddol yng ngweinidogaeth yr eglwys.
Dywedodd y byddai’r Eglwys yng Nghymru yn gwario dros £100M o’i chronfeydd cyfalaf dros y degawd nesaf i helpu ei heglwysi i wasanaethu eu cymunedau yn fwy effeithlon. Byddid yn buddsoddi i ddatblygu gweinidogaethau a chynlluniau newydd, yn ogystal â chryfhau gwaith presennol.
Hwn yw’r buddsoddiad “mwyaf difrifol a sylweddol” a wnaeth yr Eglwys ers 1920 meddai’r Archesgob Andrew a thalodd deyrnged i ymddiriedolwyr yr Eglwys, y Corff Cynrychiolwyr am eu “harweinyddiaeth a’u gweledigaeth” wrth gytuno i fuddsoddi’r arian. Cynhelir ymgynghoriadau gydag eraill ar y mathau o ddatblygiadau sy’n debygol o fod yn fwyaf ffrwythlon.
Cyhoeddodd yr Archesgob hefyd y rhoddir £37M pellach dros y 10 mlynedd nesaf i sicrhau fod gweinidogaeth greiddiol yr eglwys ar sail ariannol gadarn yn arbennig yn yr esgobaethau mwy newydd, sef Mynwy ac Abertawe ac Aberhonddu, nad oedd ganddynt gronfeydd hanesyddol.
Wrth sôn am yr argyfwng costau byw, cyhoeddodd yr Archesgob Andrew y byddai’r Eglwys yng Nghymru yn ymgyrchu dros weithredu yn ystod y misoedd i ddod. Dywedodd ei bod yn gywilyddus fod cynifer o blant ym Mhrydain yn byw mewn tlodi a bod teuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi. Galwodd ar archfarchnadoedd i wneud mwy i helpu siopwyr, tebyg i dreblu eu dewis o nwyddau sylfaenol i gynnwys mwy o fwydydd ffres. Gwahoddodd eglwysi hefyd i fod yn hael, gan ofyn i bob cynulleidfa gyfrannu 10 blwch o eitemau sylfaenol ar gyfer rhwydwaith dosbarthu banciau bwyd yn ystod Adfent.
Cafodd Aelodau gyfle i ymateb i anerchiad yr Archesgob. Roedd Deon Casnewydd, Ian Black, yn ddiolchgar i’r Archesgob am dynnu sylw at yr argyfwng costau byw. “Rydym mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Mae pawb ohonom yn adnabod pobl sydd ar y dibyn,” meddai.
Galwodd Archddiacon Llanelwy, Andy Grimwood, ar y Corff Cynrychiolwyr i gefnogi eglwysi a chlerigwyr gyda biliau gwresogi. “Mae ofn y bydd yn rhaid i eglwysi gau oherwydd na all pobl fforddio eu gwresogi,” meddai. “Ni chredaf y dylem fod yn cau eglwysi pan mae ein gwlad ar adeg o argyfwng – dylid eu cadw ar agor ac efallai fod yn hybiau twym. Dylai’r Corff Cynrychiolwyr hefyd ystyried rhyw ffordd o helpu clerigwyr gyda chost gwresogi.”
Medi 7 – Sesiwn Dau
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Mae’r Fainc Esgobion a’r Corff Cynrychiolwyr wedi gwneud llawer iawn o waith wrth ffurfio’r cynllun 10 mlynedd ar gyfer twf yr eglwys, meddai Dr Siân Miller, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog.
Roedd y Pwyllgor Sefydlog yn gweithio i gydlynu’r gwaith drwy gysylltu gyda’r Corff Llywodraethol, esgobaethau a’r eglwys yn ehangach, meddai. Mae’r broses honno yn waith hollbwysig ac mae mewnbwn y Corff Llywodraethu yn hanfodol i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen i helpu tyfu’r Eglwys.
Soniodd Dr Miller hefyd am bedwerydd cyd-gyfarfod preswyl y Fainc, y Pwyllgor Sefydlog, Ymddiriedolwyr y Corff Cynrychiolwyr, yr Ysgrifenyddion Esgobaethol a’r Uwch Staff Taleithiol a gynhelir ym mis Hydref. Byddai hwn yn gyfarfod i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar drafodaethau yn y Corff Llywodraethol, y drafodaeth yn y cyfarfod cynllunio ariannol a gynhaliwyd ym mis Medi a doethineb y rhai oedd yn bresennol. Yr allbwn disgwyliedig yw cyfeiriad teithio clir, mabwysiadu nodau uchelgeisiol a chymeradwyo dulliau clir ar gyfer cael mynediad i gronfeydd ychwanegol.
Tynnodd Dr Miller hefyd sylw at Ymchwiliad Trefynwy a Grŵp Gweithredu yr Adolygiad a fu’n cwrdd yn rheolaidd ers ei sefydlu ym mis Ionawr i drafod y cylchoedd polisi neu weithdrefnol a ddynodwyd gan yr Adolygiad.
Cafodd pob un o bedwar argymhelliad y Pwyllgor Sefydlog eu pasio. Roedd hyn yn cynnwys mabwysiadu’r Siarter Urddas fel polisi ffurfiol yr Eglwys yng Nghymru ac awdurdodi digideiddio cofnodion plwyfi.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Cyfreithiol a Llywodraethiant
Oherwydd gohirio’r Cyfarfod brynhawn Iau, gohiriwyd yr Adroddiad ar Faterion Chyfreithiol a Llywodraethiant.
Cwestiynau
Gofynnwyd pum cwestiwn yn y cyfarfod hwn.
- Y Parch Dr Jonathon Wright (Abertawe ac Aberhonddu) ar y cymarebau rhwng clerigwyr cyflogedig a staff Archddiaconiaid ac esgobaethol, a atebwyd gan yr Archesgob.
- Ms Cathryn Brooker (Mynwy) ar nifer yr esgobaethau, a atebwyd gan Esgob Mynwy.
- Archddiacon Llanelwy, Andrew Grimwood, ar gynnydd yr adolygiad cydnabyddiaeth ariannol clerigwyr, a atebwyd gan Ddirprwy Gadeirydd y Corff Cynrychiolwyr.
- Y Parch Lance Sharpe (Abertawe ac Aberhonddu), yn ymwneud â strwythur tâl clerigwyr, a atebwyd gan Esgob Cynorthwyol Bangor.
Adroddiad Mainc yr Esgobion
Bu cynllun 10-mlynedd yr Eglwys dros dwf yn rhan fawr o drafodaethau’r esgobion yn eu dau gyfarfod ers mis Ebrill, meddai’r Archesgob, gan roi adroddiad y Fainc. Roedd cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr a chadeirydd y pwyllgor sefydlog wedi ymuno â nhw ar gyfer y drafodaeth.
Roedd gwaith arall yn cynnwys paratoi cylch gorchwyl ar gyfer y Fainc, yn unol ag argymhelliad Grŵp Gweithredu Adolygiad Mynwy.
Pasiwyd yr argymhelliad fod y Corff Llywodraethol yn cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer ei fabwysiadu.
Adroddiad y Corff Cynrychiolwyr
Yn ei adroddiad cyntaf fel cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr, dywedodd yr Athro Medwin Hughes fod incwm yn dal i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig er ei fod wedi cynyddu yn 2021. Rhybuddiodd y bu 2022 yn flwyddyn heriol iawn a bod angen y “stiwardiaeth gryfaf” ar asedau. Fodd bynnag, rôl y Corff Cynrychiolwyr yw cefnogi’r Eglwys a sicrhau fod cyllid yno i fynd â’i chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y degawd nesaf yn eu blaen.
“Mae mor dda ein bod yn buddsoddi mewn creadigrwydd a brwdfrydedd,” meddai. “Ni fydd popeth yn gweithio ond atebolrwydd yw’r mater allweddol a’n bod wedi gwneud ein gorau. Bydd y Corff Cynrychiolwyr yn parhau i fuddsoddi a bydd fframwaith ar gyfer atebolrwydd.”
Cymeradwywyd yr adroddiad.
Medi 7 – Sesiwn Tri
Cyflwyniad esgobaethol: Abertawe ac Aberhonddu
Rhoddwyd sylw i weinidogaeth wledig, cadeirlan a dinas mewn ffilm gan Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas.
Amlinellodd Deon Aberhonddu y datblygiadau yn y Gadeirlan, yn cynnwys y côr, gwaith ieuenctid a phartneriaethau lleol. Disgrifiodd y Parch Andrew Perrin ei weinidogaeth i 25 eglwys yn Ardal Gweinidogaeth Gorllewin Maesyfed a her gwasanaethu ardaloedd daearyddol helaeth gyda chyn lleied o glerigwyr.
Dangosodd y Parch Steve Bunting o Abertawe sut y cafodd Eglwys Sant Thomas ei thrawsnewid yn hyb cymunedol, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r rhai mewn angen, ynghyd â’i haddoliad a gweinidogaeth. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys dod yn ganolfan adnoddau ar gyfer yr esgobaeth.
Disgrifiodd Cherrie Bija, Prif Swyddog Gweithredol Faith in Families yn yr esgobaeth, sut mae’r elusen yn helpu rhai y mae byw mewn trawma ac argyfwng yn ffordd arferol o fyw iddynt. “Ein gweledigaeth yw y gall pob plentyn gyrraedd eu potensial llawn a chyfle i fyw eu bywyd gorau posibl, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u dilysu,” meddai.
Dangosodd John Meredith, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, weinidogaeth mewn ysgolion, yn cynnwys Project Touchline, sy’n anelu i ddatblygu bywyd ysbrydol plant drwy chwaraeon. Cyflwynodd y Swyddog Efengyliaeth, Mandy Bayton, y cynlluniau ar gyfer canmlwyddiant yr esgobaeth.
Dywedodd yr Esgob John, “Rydym wrthi’n pacio ein bagiau ar gyfer y daith ar hyn o bryd ond mae’r weledigaeth o ble’r ydym yn mynd dal ychydig yn ansicr. Mae gennym fwyd ar gyfer maeth, dŵr i dorri syched, gair Duw i’n llywio a’r cyfle i wasanaethu.”
Medi 7 - Sesiwn Pedwar
Cronfa Efengyliaeth
Dywedodd Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, fod pedair esgobaeth wedi cael grantiau o’r Gronfa Efengyliaeth hyd yma. Sefydlwyd y Gronfa yn 2018 gyda chyllideb o £10m.
Wrth roi diweddariad ar y prosiectau dywedodd yr Esgob John, yr esgob arweiniol ar efengyliaeth, bod y pwyllgor wedi trefnu ymweliadau i bob un o’r pedwar i’w gweld ar waith. Dywedodd fod y prosiectau yn wahanol iawn i’w gilydd, yn gwneud gwahanol bethau mewn gwahanol gyd-destun.
Rhoddodd timau’r prosiect yn esgobaethau Llanelwy a Llandaf gyflwyniadau byr ar waith eu prosiectau.
Cyflwynodd Diane McCarthy, Ysgrifennydd Esgobaeth Llanelwy, ffilm am Eglwys Stryt yr Hôb yn Wrecsam, y prosiect cyntaf i’w gefnogi gan y Gronfa. Dywedodd fod y profiad a’r dysgu ohono wedi annog mathau newydd o weinyddiaeth ar draws yr Esgobaeth.
Mae Stryt yr Hôb yn ymestyn allan i bobl ifanc yn neilltuol, gyda sesiynau galw heibio i fyfyrwyr, grŵp rhiant a phlentyn Bouncing Beans yn ogystal â Chyrsiau Alpha a grŵp pêl-droed dynion Bridge the Gap. Agorodd caffe Tabernacl ym mis Mai. “Daw pobl i fewn am goffi a darganfod Iesu,” meddai’r Parch Andy Kitchen, Uwch Arweinydd. “Mae’r buddsoddiad yn dwyn ffrwyth gan i ni weld twf mewn rhifau a hefyd dwf ysbrydol tra bod Eglwys Plwyf San Silyn gerllaw yn parhau i ffynnu. Ychwanegodd fod rhaglen intern ar fin dechrau a gobeithiai y byddai hynny’n “arwain at ordinhad.”
“Fel canlyniad i Covid, mae ein hamserlen gweithredu tua blwyddyn tu ôl i’r cynllun ond rydym yn dal i obeithio gweld ein heglwys newydd gyntaf yn 2024.”
Fodd bynnag, nid yw’r oedi hwn wedi atal yr Esgobaeth rhag dysgu gwersi gan Stryt yr Hôb a chreu eglwysi hyb cenhadaeth mewn adeiladau presennol yn yr Wyddgrug, Bae Penrhyn, y Trallwng a Threffynnon, i ailfywiogi cynulleidfaoedd a chefnogi twf. “Mae’r hyn a ddysgwyd o Stryt yr Hôb wedi helpu i lunio gwerthoedd yr Esgobaeth: Tyfu Ffyrdd, Dod â Gobaith a Dangos Cariad. Gobeithiwn y bydd y buddsoddiad hwn yn bendithio’r holl esgobaeth a’r dalaith,” meddai Mrs McCarthy.
Roedd prosiect Esgobaeth Llandaf hefyd â ffocws ar bobl ifanc gyda sefydu cynllun Young Faith Matters sy’n cynnwys Flourish, prosiect Cristnogol ar gyfer ysgolion ac eglwys newydd yng nghanol Caerdydd, Eglwys Dinasyddion.
Dywedodd y Parch Mark Simpson, ficer cyswllt Eglwys Dinasyddion, y bu’r twf yn “hynod” gyda 500 o bobl yn mynychu erbyn hyn. Y nod oedd newid barn ystrydebol pobl ifanc o eglwys a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn perthyn. Mae’r gwasanaeth ar foreau Sul, sydd â ffocws ar deuluoedd, yn tyfu’n rhy fawr i’r gofod sydd ar gael. Caiff y gwasanaeth min nos ei anelu at bobl ifanc a mae bob amser yn dod i ben gyda pizza. Cafodd ei fan goffi boblogaidd ei defnyddio i hyfforddi pedwar ceisiwr lloches ar gyfer gwaith.
Adroddiad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Eleni yw dauganmlwyddiant y brifysgol, a oedd yn wreiddiol yn Goleg Dewi Sant, sefydliad eglwysig yn Llanbedr Pont Steffan. Am y tro cyntaf, roedd ei is-ganghellor, hefyd yn gadeirydd y Corff Cynrychiolwyr – yr Athro Medwin Hughes.
“Buom yn dathlu ein 200fed penblwydd, yn dathlu ymrwymiad gydol oes coleg Anglicanaidd,” dywedodd, wrth gyflwyno ei adroddiad. Mae’n amser i edrych i’r dyfodol, yn ogystal ag yn ôl, gyda ffocws ar drawsnewid addysg a bywydau, datblygu rhwydwaith proffesiynol yng Nghymru a buddsoddi mewn prifysgolion technegol.
“Gall addysg newid bywydau. Mae pymtheg y cant o holl blant oed cynradd Cymru mewn ysgolion eglwys – am gyfle i ddatblygu rhwydwaith o athrawon Cristnogol proffesiynol,” meddai’r Athro Hughes.
Wrth eilio’r adroddiad, llongyfarchodd yr Archesgob Andrew yr Athro Hughes ar ei gyfnod fel is-ganghellor, a diolchodd iddo am ei arweinyddiaeth a wnaeth “gyfraniad enfawr”.
Pasiwyd y cynnig i dderbyn yr adroddiad.
Adroddiad Cynhadledd Lambeth
Sgyrsiau un-i-un gydag esgobion eraill oedd rhan fwyaf gwerthfawr Cynhadledd Lambeth eleni, meddai’r Archesgob Andrew, wrth gyflwyno ei adroddiad, Eglwys Duw ar gyfer Byd Duw.
Adroddodd ddwy stori am esgobion y gwnaeth gwrdd â nhw oedd yn wynebu heriau enfawr oedd yn bygwth bywydau yn eu hesgobaethau yn Ne Swdan a Liberia. “Roedd yr egni yn y sgyrsiau a gawsom wrth i ni ddysgu sut beth oedd hi yw bod yn Gristion mewn rhannau eraill o’r byd. Gofynnaf am eich gweddïau dros yr esgobion a’r eglwysi hynny,” meddai.
Blwyddyn o Weddi
Cafodd taith gweddi blwyddyn o hyd i ddatblygu bywydau ysbrydol pobl ei lansio gan yr Esgob John Lomas, cadeirydd y Grŵp Ysbrydoleb.
O fyfyrdodau i deithiau a labrinthau gweddi, bob mis caiff pobl eu llywio drwy wahanol ffyrdd o weddïo, naill ai ar ben eu hunain neu gydag eraill, gyda chyfres o adnoddau ar-lein. Mae’r gweddïau a gynigir yn gyfuniad o weddi ar gyfer ein taith bersonol a gweddi dros y gymuned ehangach a’r byd. Mae gan bob mis thema, darn o’r Beibl, myfyrdod, ffordd neilltuol o weddi ac awgrymiadau ar gyfer cerddoriaeth, celf a llyfrau ar gyfer gweddi pellach.
Gwahoddodd yr Esgob John bawb i gymryd rhan. Dywedodd, “Yn ogystal â helpu i ddyfnhau ein ffydd, aiff gweddi â ni tu allan i ni’n hunain i’r byd ehangach. Dangoswyd fod eistedd yn dawel adre mewn gweddi yn helpu i wella ein lles cyffredinol. Mae’n amser i ddod â beth bynnag y teimlwn angen ei ddweud gerbron Duw. Rwy’n falch iawn i fedru eich gwahodd, a’ch annog i ymuno mewn Blwyddyn o Weddi. Yn syml iawn, mae’n agor ymagwedd wahanol at weddi bob mis. Efallai y byddwch yn gyfarwydd â rhai, efallai eich bod yn hoffi rhai, gall rhai fod yn newydd, efallai nad yw rhai y ffordd iawn i chi. Yn bwysig, y mae i weddio yn y ffordd yr ydych yn fwyaf cysurus gyda hi.”
- Ymunwch yn y Flwyddyn o Weddi yn www.churchinwales.org.uk/yearofprayer
Medi 8 – Sesiwn Pump
Cynlluniau’r dyfodol ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru
Atebol, ffrwythlon a thorri tir newydd – dyna oedd y tair egwyddor a ddynodwyd gan yr Archesgob wrth iddo gyflwyno’r sgwrs ar gynllun buddsoddiad 10-mlynedd ar gyfer yr Eglwys.
Disgrifiodd ymrwymiad £100m y Corff Cynrychiolwyr fel “rhodd gyda gweledigaeth” gan ddweud, “Mae’r potensial i ni wneud mwy nag y bu modd i ni ei wneud, efallai yn ein hanes, ger ein bron heddiw. Ni ellir gorddatgan mawredd yr hyn yr ydym yn ymrwymo ein hunain iddo heddiw. Nid y gwariant sydd dan sylw ond os canfyddwn ffordd o wneud nefoedd ar y ddaear yn weladwy, yna mae’n sicr y byddwn wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol hardd.”
Tanlinellodd yr Archesgob Andrew yr angen am “ddull cyfunol” lle nad yw un traddodiad neu bolisi yn cael ei roi yn erbyn un arall. “Mae’n rhaid i dwf mewn disgyblion newydd fod y prism yr ydym yn gweld ein buddsoddiad yn y dyfodol drwyddo.” Byddai eglwysi yn dysgu gan ei gilydd, yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd, a byddai llinell gref o atebolrwydd yn golygu na fyddai angen ofni methiant. “Eglwys aeddfed nad yw’n cael unrhyw broblem torri rhywbeth i lawr a’i daflu ar y tân os nad yw’n dwyn ffrwyth,” meddai. “Dylem ddysgu fel bod yr hyn a ddysgwn yn ffurfio arfer gwell.”
Amlinellodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr, faint y buddsoddiad. Tanlinellodd mai gwaith y Corff Cynrychiolwyr yw rheoli’r buddsoddiad tra mai esgobion fyddai’n arwain y penderfyniadau ar sut y gwerid yr arian. Talodd deyrnged i stiwardiaeth cenedlaethau blaenorol oedd wedi gofalu am y cyllid, sy’n awr yn gyfanswm o £1,134m.
“Mae stiwardiaeth yn golygu edrych ar ôl yr hyn sy’n gweithio’n dda yn awr. O fewn ein traddodiad mae clerigwyr sy’n gweithio mor galed i gadw cymuned ffydd ar draws Cymru ac mae angen i ni barchu hynny. Mae hefyd gyfleoedd gwych i glustnodi adnoddau mewn ffordd sy’n ysgogi twf ac yn caniatáu ffyniant.”
Anogodd aelodau i ddatblygu cynlluniau sy’n parchu amrywiaeth esgobaethau, yn datblygu twf rhifyddol ac ysbrydol, yn gwella effeithlonrwydd cenhadaeth a threfniadaeth ac a fyddai’n atebol i genedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd, “Dyma’r amser, y cyfle, yn ysbryd y Duw byw, i fuddsoddi a chreu adnoddau newydd. Mae’r adnoddau a’r ewyllys gennym. Mae pawb ohonom yn teimlo fod Crist yn ein galw i’r cyfnod cyffrous iawn hwn i’r Eglwys yng Nghymru.”
Mae pedwar llinyn mewn strategaeth gydlynus, meddai’r Athro Hughes:
- Cyhoeddi’r Efengyl yng Nghymru
- Tystiolaeth wirionedd Crist yn ein gwahanol gymunedau;
- Y gallu i adeiladu cymunedau newydd sy’n arddangos pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol;
- Creu disgyblion gweithgar.
“Dyma’r cyfle y mae Duw yn ein galw ato ac mae’r Corff Cynrychiolwyr yn ymroddedig i gefnogi’r gwaith hwnnw.”
Medi 8 - Sesiwn Chwech
Trafodaethau ar gynlluniau’r dyfodol
Rhannodd aelodau yn dri grŵp trafod, gyda ffocws ar gwestiynau allweddol am gynlluniau’r dyfodol ar gyfer yr Eglwys, cyn bwydo’n ôl mewn sesiwn lawn.
Edrychodd Grŵp Un ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn eglwys dwf. Cytunent gyda’r angen i fod yn strategol a bwriadol am fwy o dwf. Ystyriwyd bod mwy o “esgidiau ar y ddaear” a’r angen i gynnig gweinidogaeth arbenigol yn flaenoriaethau. Roedd y rhwystrau a wynebwyd yn cynnwys cystadleuaeth rhwng esgobaethau ac ymlyniad at adeiladau oedd yn atal pobl rhag teithio.
Canolbwyntiodd Grŵp Dau ar sut y gallai adeiladau’r eglwys gefnogi efengyliaeth. Cytunwyd fod adeiladau’n mynd â llawer iawn o egni, arian a phryder a bod angen mwy o gymorth a chyngor ar geisiadau grant a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, mae llawer o eglwysi yn adnoddau pwysig mewn cymunedau a dylent fod ar agor y rhan fwyaf o’r amser a gweithredu mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cenhadaeth.
Trafododd Grŵp Tri ffyrdd o fod yn fwy hyderus mewn rhannu ffydd. Cydnabuwyd pryder ac embaras am dramgwyddo, cael eu camddeall, ofni methu ateb cwestiynau neu nad yw eu rôl nhw oedd hynny. Mae angen datblygu gwahanol ffyrdd o siarad gyda gwahanol grwpiau.
Codwyd pwyntiau pellach gan aelodau yn y drafodaeth ddilynol mewn sesiwn grŵp. Roedd hyn yn cynnwys: yr angen am bartneriaethau eciwmenaidd i dyfu pob eglwys; goresgyn cystadleuaeth drwy sicrhau y caiff arian ei ddosbarthu yn gymesur; hyfforddiant ar gyfer lleygwyr; gwell ymwybyddiaeth o ystadegau i sicrhau ein bod yn gwybod beth ydym yn ei gyfrif a’n bod yn cyfrif y peth iawn; cydnabyddiaeth o’r Gymraeg a’r angen i ymddiried yn Nuw ac i weddïo.
Diolchodd yr Archesgob Andrw i’r aelodau am rannu eu syniadau. “Caiff y cyfan eu casglu a’u defnyddio i lywio ein cyfarfodydd nesaf fel y gallwn wneud cynlluniau ffyddlon a deallus,” meddai.
Llythrennedd Beiblaidd – cyflwyniad Cymdeithas y Beibl
Mae colli gobaith yn y Beibl ym Mhrydain heddiw, meddai’r Athro Paul Williams, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Beibl, mewn cyflwyniad i aeloidau.
Atgoffodd nhw bod gwreiddiau Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, yn dilyn taith 26 milltir Mary Jones i gael Beibl gan y Parch Thomas Charles yn y Bala. Newidiodd y profiad ei fywyd ac arwain at ffurfio’r Gymdeithas yn 1804.
Fodd bynnag heddiw rydym wedi dod yn anwybodus o’r Beibl a dim yn ei ddysgu. “Fe wnaethom ymladd drosto ac yna anghofio amdano,” meddai Mr Williams. “Ond mae Duw ar waith yn ein byd ac nid oes dim byd yn anochel am ddirywiad.”
Dywedodd fod ffocws Cymdeithas y Beibl yn awr ar gynyddu hyder yn y Beibl a newid y sgwrs amdano mewn cymdeithas ehangach.
Disgrifiodd Nigel Langford, cyfarwyddwr cenhadaeth gartref Cymdeithas y Beibl, ei bartneriaethau ac adnoddau, oedd yn cynnwys rhifyn teulu o’r Beibl Newyddion Da a Beiblau ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin.
Gohirio’r cyfarfod
Gohiriwyd y cyfarfod ar ôl y chweched sesiwn, yn dilyn y cyhoeddiad am dostrwydd Ei Mawrhydi y Frenhines. Daeth yr Archesgob a’r cyfarfod i ben gyda gweddïau drosti a chanwyd yr Anthem Genedlaethol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod llawn nesaf ar 19-20 Ebrill yn Venue Cymru, Llandudno.