Cyfarfu aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 5-6 Medi. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw a gallwch weld recordiad o bob sesiwn, ynghyd â chrynodeb byr, isod.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Cyfreithiol a Llywodraethu
Ffarwelio
Siars y Llywydd
Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf
Diwrnod Un - 5 Medi
Cymun Bendigaid
Addoliad
Cafodd yr addoliad ei gydlynu gan y Parch James Tout.
Cynhaliwyd Ewcharist Sanctaidd a Hwyrol Weddi ddydd Mawrth a chynhaliwyd Gweddïau Agored ddydd Mercher yn yr ystafell gynadledda.
Sesiwn Un
Croeso i ymwelwyr
Estynnodd yr Archesgob groeso i wahoddedigion a chynrychiolwyr o eglwysi eraill. Roedd y rhain yn cynnwys y Parch Siôn Brynach, prif weithredwr Cytûn, y Parch Andrew Charlesworth, cadeirydd Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd, y Parch Brian Matthews o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Sheran Harper, Llywydd Byd-eang Undeb y Mamau a Jennie Weaver, swyddog ymgysylltu a chodi arian gyda Cymorth Cristnogol Cymru.
Anerchiad Llywyddol
Anogodd yr Archesgob yr esgobaethau i “dorri tir newydd” gyda’u cynlluniau ar gyfer efengylu, gan ddefnyddio’r cyllid newydd a ddarparwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr.
Dywedodd y gallai fod yna “fynegiant eang” i’r ffyrdd o wario’r arian, ond byddai’n rhaid i bob cais gadw’r “cymeriad hanfodol hwnnw o dystiolaethu i’r newyddion da yn Iesu Grist.”
Ychwanegodd y byddai “ecoleg gymysg o allgymorth” yn darparu platfform mwy sylweddol i rannu gobaith ledled Cymru, a allai gynnwys mentrau o Ardaloedd Gweinidogaeth, cyfleoedd trwy fedyddiadau, angladdau neu briodasau, prosiectau arloesol neu hyd yn oed cyfleoedd i blannu eglwysi.
Cymharodd yr Archesgob Andrew hyn gyda stori Nehemeia a gynlluniodd i ailadeiladu waliau Jerwsalem.
Dywedodd fod angen strategaeth recriwtio ar lefel y dalaith i ddod o hyd i bobl newydd i ymuno â’r Eglwys.
Dywedodd hefyd fod angen llawer iawn o gymorth ar y gweithlu cyfredol mewn Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth i gynnal “meddylfryd gwydn a chenhadol” mewn amgylchedd heriol.
Canmolodd waith y Grŵp Blaenoriaethau Gweithredol a oedd yn adolygu strwythur llywodraethu canolog yr Eglwys ac yn ceisio nodi ffactorau gweinidogol allweddol sy’n galluogi Ardaloedd Gweinidogaeth i ffynnu.
Yn y cyfamser, roedd y Gymuned Ddysgu Esgobaethol/y Dalaith yn esiampl o’r “diwylliant newydd o gefnogaeth y naill i’r llall ar draws yr esgobaethau.” Bydd y grŵp, sy’n cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Hydref, yn dwyn ynghyd enghreifftiau o bob cwr o’r dalaith mewn ymarfer gwrando a dysgu i rannu arferion gorau.
Cyhoeddodd yr Archesgob hefyd y byddai uwchgynhadledd hinsawdd Cymru gyfan yn cael ei chynnal gan yr Eglwys yng Nghymru y flwyddyn nesaf, gan ganolbwyntio ar ddyfrffyrdd a thirwedd Cymru.
Bydd y digwyddiad dau ddiwrnod yn dod ag academyddion, ymgyrchwyr, grwpiau pwysau a rhanddeiliaid ynghyd i drafod effaith diwydiant, amaethyddiaeth a chartrefi ar yr amgylchedd.
Roedd gan Gymru, meddai, “gyfle i ailgynllunio ein hymagwedd at ynni, dŵr, defnydd tir a chynaladwyedd cyflenwad bwyd ac ar lefel leol” ac roedd yr Eglwys yng Nghymru mewn sefyllfa dda i ddod â phobl ynghyd mewn “sgwrs dda a phartneriaeth”.
Cyfeiriodd yr Archesgob Andrew at daith yr Eglwys ei hun tuag at garbon sero net a oedd wedi gwneud cynnydd cynnar da. Apeliodd ar i’r eglwysi ddefnyddio’r Pecyn Ôl-troed Ynni, gan eu herio i’w gwblhau erbyn y Nadolig.
Ateb gan Dr Heather Payne, ar ran Mainc yr Esgobion:
1. Comisiwn Gwyddoniaeth y Cymundeb Anglicanaidd (ACSC):
Yn 2020 sefydlodd y Cymundeb Anglicanaidd Gomisiwn Gwyddoniaeth (ACSC), gyda'r briff canlynol:
i hyrwyddo’r defnydd o wyddoniaeth fel tanwydd ar gyfer ffydd ac wrth addoli
i fod yn adnodd i'r Gymundeb Anglicanaidd gyfan ar gyfer arweinyddiaeth ddewr a hyderus mewn materion sy'n ymwneud â gwyddoniaeth
i hyrwyddo gwyddoniaeth fel ffordd o astudio byd Duw ac ateb yr ymrwymiad sylfaenol i feithrin perthynas â chreadigaeth Duw
i gefnogi galwedigaeth aelodau'r eglwys y mae eu bywiolaethau neu eu hastudiaethau yn dibynnu ar wyddoniaeth a thechnolegau cysylltiedig neu’n cyfrannu atynt.
i fod yn wybodus am wyddoniaeth ar gyfer materion y mae Cristnogion yn poeni amdanynt, ac am dechnolegau sy’n galw am lais yr Eglwys
i gefnogi a chynghori mentrau academaidd ac ymarferol yn rhyngwyneb gwyddoniaeth a ffydd
2. Galwad Lambeth: Gwyddoniaeth a Ffydd
Daw llawer o'n tystiolaeth Gristnogol trwy weithredoedd bywyd bob dydd. O’n dull o deithio i’r gwaith, i addoli, i weld teulu neu ffrindiau, neu raglen frechu fyd-eang yn erbyn coronafeirws a’n profiadau o fywyd bob dydd – boed yn fwyd, lloches, gofal, adloniant – maent yn cael eu cyflawni yn sgil amrywiol dechnolegau digidol a ffisegol. Rhoddodd Duw sgiliau arbennig i rai pobl i’w galluogi i ddarganfod a datblygu gwybodaeth wyddonol, ond rydym ni i gyd yn defnyddio'r wybodaeth honno rywfodd neu'i gilydd, bob dydd.
Sefydlwyd Comisiwn Gwyddoniaeth y Cymundeb Anglicanaidd i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac ymgysylltiad diwinyddol â syniadau gwyddoniaeth, er mwyn tanategu'r pum marc cenhadaeth.[1] Lansiwyd y Comisiwn yng Nghynhadledd Lambeth yng Nghaergaint ym mis Awst 2022 gan Archesgob Caergaint.[2] Meddai, "Frodyr a chwiorydd annwyl, fydd gan eglwys sy'n gwrthod neu’n methu â chymryd rhan yn y meysydd hyn ddim i'w ddweud wrth fyd lle mae’r dyfodol yn cael ei benderfynu gan newidiadau gwyddonol a thechnolegol."[3] Trafodwyd Galwad Lambeth ar Wyddoniaeth a Ffydd[4] gan 560 o esgobion mewn grwpiau bychain, i ganolbwyntio ar berthnasedd gwyddoniaeth i'w gwaith fel arweinwyr eglwysig.[5] Wrth i'r Alwad ddatblygu ac ymffurfio yn y Taleithiau, mae'n defnyddio gwaith diweddar ECLAS (Arfogi Arweinyddiaeth Gristnogol yn Oes Gwyddoniaeth)[6] i fynd i'r afael â materion ymarferol, megis:
y canfyddiad o wrthdaro rhwng gwyddoniaeth a ffydd
gwyddonwyr weithiau heb fod yn gadarn yn eu galwedigaeth fel disgyblion
arweinwyr eglwysig weithiau heb fod yn hyderus wrth drafod doethineb ffydd yng nghyd-destun cwestiynau gwyddonol.
Mae'r Alwad ddiwygiedig wedi'i chyhoeddi, ac mae'n gwahodd pob Talaith i gymryd camau ymarferol yn seiliedig ar yr Alwad. Bydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd, sef yr Esgob Anthony Poggo, yn gweithio gyda'r Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd, i gefnogi ac annog archesgobion i adrodd ar gynnydd, gan ddechrau gyda phenodiad Esgob arweiniol dros Wyddoniaeth.
3. Partneriaethau Anglicanaidd ac Eciwmenaidd byd-eang
Mae'r cyfle hwn i gyfuno ein hymagwedd at wyddoniaeth a ffydd hefyd yn cynnig llwybr pwerus at newid cenhadol. Gall natur fyd-eang ein Cymundeb Anglicanaidd, sydd wedi'i gwreiddio mewn cymunedau lleol, ein neges gyffredin o obaith yn Iesu Grist, ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd gwyddoniaeth yn ei holl ffurfiau – amaethyddiaeth, ecoleg, gofal iechyd, cyfathrebu - gyffwrdd â phob un o'n 5 nod o genhadaeth sef dweud, addysgu, gweini, trawsnewid a thrysori. Rydym ni mewn cwmni da - dywedodd y Pab Francis a chynghrair o 40 o arweinwyr ffydd byd-eang yn COP 26 ym mis Hydref, 2021: 'Mae ffydd a gwyddoniaeth yn bileri hanfodol o wareiddiad dyn, gydag egwyddorion ategol a rennir. Rhaid i ni fynd i'r afael [â’r heriau sy'n ein hwynebu] gan ddefnyddio gwybodaeth wyddonol a doethineb crefydd: i wybod mwy ac i falio mwy'.[7]
4. Ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i'r ACCSC
Roedd yr Esgob Jo Penberthy yn rhan o Gynhadledd Lambeth a chyda'i thraethawd ymchwil PhD mewn ffiseg cwantwm a diwinyddiaeth, roedd yn gwbl briodol i fod yn Esgob Arweiniol cyntaf ar gyfer Gwyddoniaeth. Yn anffodus, mae ei salwch a'i hymddeoliad yn gadael bwlch y bydd y Fainc yn gobeithio ei lenwi unwaith y bydd wedi ailgychwyn yn llawn yn ddiweddarach eleni.
Penodwyd Dr Heather Payne yn aelod o'r Comisiwn Gwyddoniaeth yn 2020 ac mae wedi darparu papurau trafod academaidd i'r Comisiwn ar y pynciau canlynol :
Pandemig Covid a systemau ffydd
Moeseg fiofeddygol a'r angen am safbwynt diwylliannol byd-eang
Systemau ffydd a chredoau iechyd cymunedol a thraddodiadol
5. Rhaglen Ymchwil:
Mae Rhaglen ymchwil ar y gweill, dan arweiniad Dr Jacquie Bay o Brifysgol Auckland, ac mae Heather yn un o’r cyd-ymchwilwyr. Cynhaliwyd y gweithdy ymchwil cyntaf yn Kenya ym mid Awst 2023, gyda diwinyddion, gwyddonwyr ac Esgobion Affricanaidd yn bresennol. Mae'r ymchwil yn defnyddio methodoleg ymholiadau gwerthfawrogol, gyda’r bwriad o hyrwyddo’r gwaith o gyd-gynhyrchu materion sy’n flaenoriaeth a pherthnasol i daleithiau Anglicanaidd ym mhob rhan o'r byd. Dylid rhoi sylw gofalus i wahaniaethau diwylliannol ac ethnig er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau lleol priodol yn cael eu datblygu, sydd wedi eu llywio gan Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a chysyniadau fel Gofal Iechyd Cyffredinol, er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiynau allweddol canlynol:
Sut mae Anglicaniaid yn deall y berthynas rhwng y gwahanol systemau gwybodaeth sef gwyddoniaeth, ffydd a diwylliant?
Pa fathau o gymorth ymarferol sydd fwyaf effeithiol wrth hyrwyddo arwain agweddau mewn gwyddoniaeth a diwinyddiaeth?
Sut gall arwain agweddau Anglicanaidd mewn gwyddoniaeth wasanaethu Duw a dylanwadu ar lewyrch dynol yn yr eglwys a'r byd?
6. Y camau nesaf:
Bydd gweithdai pellach yn Jamaica ym mis Tachwedd 2023 ac Oceania yn Chwefror 2024, ac ar ôl hynny, bydd canfyddiadau ymchwil yn cael eu rhannu gydag Esgobion blaenllaw. Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau i gefnogi esgobion arweiniol ar y gweill, yn arwain at Gam 3 Lambeth o fisoedd Gorffennaf - Medi 2024. Bydd gwaith pellach yn cynnwys mesurau i werthuso ac adrodd ar effaith ACSC wrth gefnogi cenhadaeth.
Yng Nghymru, y flaenoriaeth yn awr yw adeiladu ar waith sy’n llwyddo, megis eco-eglwysi, ac ymgysylltu â chlerigion, addysgwyr diwinyddol a gwyddonwyr i ennyn sgyrsiau a straeon am enghreifftiau cyfredol o ddwyn ynghyd gwyddoniaeth a ffydd. Mae'r cam hwn o wrando yn gofyn i chi anfon sylwadau ac awgrymiadau at Heather naill ai wyneb yn wyneb neu drwy e-bost i acc@churchinwales.org.uk. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Llywodraethol yn y dyfodol.
[6] Equipping Church Leaders in an Age of Science (ECLAS) was established in 2013 focussed on the UK and latterly North America with similar aims https://www.eclasproject.org The Archbishop of Canterbury, Address to Faith Leaders, February 2021
I ddechrau, wrth gwrs, nid yw'n anarferol i gadeirlan esgobaeth fod yn rhywle heblaw'r ganolfan drefol fwyaf yn yr esgobaeth – dyna fel y mae yn hanner yr esgobaethau yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae yna enghreifftiau yn Lloegr hefyd.
Ond y pwynt mwyaf arwyddocaol yma yw cenhadaeth - nid yw’r ffaith nad oes cadeirlan yn Abertawe yn atal cenhadaeth effeithiol a chreadigol. Mae llawer iawn o waith cenhadol da iawn yn digwydd yn Abertawe a'r cyffiniau dan arweiniad tîm gweinidogol medrus a chreadigol iawn ac nid wyf yn sicr beth fyddai dynodi 'cadeirlan' yn ei ychwanegu at hyn.
Ateb gan Esgob Llandaf
Dyma’r cefndir - bu i Bwyllgor Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru sefydlu Gweithgor yn 2006 i adolygu a gwneud argymhellion ynghylch Cynrychiolaeth Menywod yn yr Eglwys yng Nghymru ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys. Rhan o'r symbyliad i sefydlu gweithgor oedd ymateb i Nodau Datblygu’r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig a sicrhau cynrychiolaeth gyfartal o fenywod mewn penderfyniadau ar holl lefelau sefydliadau. Roedd ymrwymiad hefyd gan y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd y byddent yn ymroi i sicrhau cyfiawnder o ran rhywedd ym mhob talaith Anglicanaidd.
Cyflwynodd y Gweithgor, dan gadeiryddiaeth Dr Gill Todd, adroddiadau yn 2009, 2013, 2015 a 2019. Roedd yr adroddiad cychwynnol yn disgrifio'r sefyllfa ac yn cydnabod bod angen rhagor o waith i weithredu newid. Rhannwyd penderfyniadau dilynol y Corff Llywodraethol gydag ardaloedd gweinidogaeth/cenhadaeth, esgobaethau, esgobion ac Athrofa Padarn Sant, i’w hastudio a’u cymhwyso a gofynnwyd am farn rhanddeiliaid. Mae'r gwaith yn parhau a bydd y Corff Llywodraethol yn cael adroddiad cynnydd ar gynrychiolaeth menywod yn 2025 yn seiliedig ar ddata sy'n cael ei ddarparu gan yr esgobaethau ar hyn o bryd.
Ers 2019, mae'r esgobaethau wedi bod yn gweithio ar argymhellion adroddiad 2019 ac mae rhai esgobaethau wedi sefydlu eu grwpiau eu hunain i fonitro cynrychiolaeth menywod.
Bydd data interim yr esgobaethau a ddaeth i law'r Pwyllgor Sefydlog yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru ar ôl cyfarfod y Corff Llywodraethol. Mae ychydig o ddata ar ôl i'w dderbyn gan yr esgobaethau hynny sydd newydd newid i drefn ardaloedd gweinidogaeth yn ddiweddar. Caiff y data hwn ei gyhoeddi maes o law.
Mae gwaith yn parhau o hyd ar weithredu yn fwy tryloyw, cynhwysol a thecach ar bob lefel yn yr Eglwys yng Nghymru: yn ei strwythurau llywodraethu, wrth wneud penderfyniadau Esgobaethol, ac mewn Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth. Os mai swyddogaeth graidd Eglwys yw cyhoeddi Efengyl cariad, parch a chyfiawnder i bawb, rhaid iddi barhau i weithio dros ddiwylliant o gydraddoldeb a thriniaeth deg i bawb sy'n rhan ohoni, a disgwyl dim llai gan ei haelodau.
Ateb gan Tim Llewelyn
Cadarnhaodd y Corff Llywodraethol diwethaf y cyfyngiadau oedran ar gyfer aelodaeth o'r Corff Llywodraethol ym mis Ebrill 2016. Roedd hyn yn sgil adroddiad cynhwysfawr gan Weithgor y Pwyllgor Sefydlog a oedd yn ystyried terfynau oedran ar draws yr Eglwys yng Nghymru gyfan nid dim ond Sefydliadau’r Dalaith.
O ran cefndir, mae'r Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd yn gweithredu ystod o derfynau oedran. Mae'r rhain yn cynnwys:
yr oedrannau ieuengaf a hynaf ar gyfer rhai penodiadau
oedran ymddeol ar gyfer amrywiol benodiadau, yn cynnwys pwyllgorau a chyrff eraill
cyfyngiadau oedran ar gyfer bod yn aelod o sefydliadau a phwyllgorau penodol.
Cafwyd sawl adroddiad ar gyfer Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol ar y pwnc hwn yn y blynyddoedd cyn adroddiad 2015 ac roedd hefyd yn fater ar agendâu sefydliadau eraill yr Eglwys yng Nghymru. Yn eu plith roedd y Corff Llywodraethol, Mainc yr Esgobion a rhai Cynadleddau Esgobaethol, gyda dau wedi pasio penderfyniadau yn 2014 yn gofyn am adolygu rhai neu’r cyfan o derfynau oedran yr Eglwys.
Yn llyfr Deuteronomium, fe welwn fod Moses yn 120 oed pan fu farw, ond nid oedd ei lygaid yn wan, na'i nerth yn pallu. Byddaf wrth gwrs yn ymgynghori â'r Pwyllgor Sefydlog i ofyn a yw'n ystyried bod yr amser wedi dod i adolygu'r mater hwn unwaith eto. Er hynny, rwy'n credu ei bod yn annhebygol y bydd yn argymell newid terfynau oedran uchaf er mwyn darparu ar gyfer pobl oed Moses!
Ateb gan Esgob Llandaf
Diolch am y cwestiwn, Jonathon. Mae tair rhan i'ch cwestiwn a byddaf yn eu hateb yn eu tro.
Faint o swyddi SAC sy'n cael eu dyrannu i'r Eglwys yng Nghymru?
Bydd aelodau SAC yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o Bwyllgor A (mae tri phwyllgor i gyd). Fodd bynnag, nid oes nifer penodol o leoedd fesul ffydd / enwad / argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol ar Bwyllgor A.
Bydd cyfansoddiad Pwyllgor A yn amrywio o’r naill SACRE i’r llall oherwydd, yn ôl y gyfraith, dylid ystyried amrywiaeth gwahanol grwpiau cred crefyddol ac anghrefyddol yn yr ardal. Er hynny, er budd effeithlonrwydd SACRE, gellir diystyru'r gynrychiolaeth gymesur hon.
Mae gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol (17 o'r 22) un cynrychiolydd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru. Mae gan bedwar Awdurdod Lleol ddau gynrychiolydd, tra bod gan Bowys, sy'n cwmpasu'r ardal ddaearyddol fwyaf, dri chynrychiolydd.
Sut mae esgobaethau yn mynd ati i lenwi swyddi gwag, a faint o swyddi sy'n wag ar hyn o bryd?
Mater i'r ALl yw mynd at Esgobaeth berthnasol yr Eglwys yng Nghymru pan fydd swydd wag yn codi. Bydd y cais hwn naill ai'n cael ei drin yn uniongyrchol gan, neu mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth. Nid oes gweithdrefn unffurf ar draws y chwe esgobaeth.
Mae Cyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ac aelodau o dimau Addysg yr Esgobaeth i gyd yn eistedd ar y SACs sydd o fewn eu hardal ddaearyddol. Mae'r Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol hefyd yn eistedd ar SAC awdurdod lleol.
Yn ogystal, bydd Esgobaethau yn enwebu unigolion i gynrychioli'r Eglwys yng Nghymru ar SAC. Mae dulliau dethol yr enwebeion hyn yn amrywio o esgobaeth i esgobaeth. Felly, penderfyniad lleol ydyw.
Ar hyn o bryd, mae dwy swydd wag ar draws y SACs.
Pa hyfforddiant a chydlynu Taleithiol a ddarperir i sicrhau bod cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ein cymunedau yn y ffordd orau bosibl?
Mae modd i’r Eglwys yng Nghymru gael 28 o gynrychiolwyr ar SACs. Mae 16 o'r swyddi hyn yn cael eu cyflawni gan DDEs, aelodau o'r tîm addysg neu y tîm Plant a Theuluoedd Ifanc, tra bod gan gynrychiolydd arall brofiad sylweddol o SACRE, ar ôl bod yn Gadeirydd WASACRE am sawl blwyddyn. Mae pawb yn deall eu rôl a’u gwaith yn drylwyr yn ogystal â'r dirwedd addysgol gyfredol yng Nghymru.
Mae Canllawiau'r Eglwys yng Nghymru ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gael yn hwylus ar ein gwefan. Er eu bod yn amlinellu sut y dylid cyflwyno gwerthoedd a moeseg crefydd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, maent hefyd yn rhoi’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer RVE. Maent hefyd yn awgrymu dulliau enghreifftiol o gyflwyno. Deallwn fod nifer o'r ymgynghorwyr Addysg Grefyddol/SAC yn argymell y wefan i bob ysgol yn eu hardal.
Er nad oes unrhyw hyfforddiant ychwanegol yn bodoli ar gyfer aelodau Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru sydd heb fod wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â thimau Esgobaethol, mae Elizabeth Thomas, ein Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol, yn fwy na pharod i hwyluso hyn neu ateb ymholiadau unigol wrth iddynt godi.
Ateb gan Esgob Mynwy
Diolch, Cathryn, am eich cwestiwn pwysig.
Mae Duw yn gofyn i ni am lawer wrth i ni ymateb i'w alwad ar ein bywydau, ac mae Mainc yr Esgobion yn ymwybodol iawn o'r holl waith y mae cynifer o leygion a gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ffyddlon ac ymroddgar yn yr eglwysi a’r cymunedau lleol yn ein Talaith. Rydym ni i gyd, yn lleygion, yn glerigion ac yn esgobion, yn rhan o'r un eglwys ac rydym yn ymwybodol bod mwy o alw arnom ar bob lefel.
Fel sefydliad, rydym yn cydnabod na fu erioed amser mewn hanes pan oedd popeth yn cyfateb yn briodol i’r hyn y dylai fod. Rydym hefyd yn cydnabod bod fel petai mwy fyth o reolau a rheoliadau y mae'n rhaid i ni eu dilyn ym mywyd beunyddiol yr eglwys leol heddiw - ac y gall hyn deimlo'n feichus iawn yn enwedig i'r rhai sydd wedi gwasanaethu'n ffyddlon ers blynyddoedd lawer.
Mae llawer i'w wneud o hyd, yn enwedig yn yr esgobaethau lle mae'r newid i sefydlu Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth yn fater diweddar iawn. Fe fyddwch chwithau yn cofio i’r olaf o'n Hardaloedd Gweinidogaeth yn esgobaeth Mynwy gael ei llunio a'i chomisiynu ddim ond 6 mis yn ôl. Mae Ardaloedd Gweinidogaeth yn dal i ymrafael â'r trefniadau newydd o ran llywodraethu a chyllid, yn ogystal â datblygu gweledigaeth o'r newydd ar gyfer eu bywyd a'u cenhadaeth gyda'i gilydd.
Un o fanteision meysydd gweinidogaeth yw'r egwyddor o waith tîm; clerigion a chynulleidfaoedd bellach yn gweithio mewn partneriaeth nid ar eu pen eu hunain; yn cefnogi ac annog ei gilydd ar draws ardal ehangach.
Mae ein staff esgobaethol a thaleithiol hefyd yn adnodd gwych, yn enwedig gyda mwy o feysydd gwaith arbenigol – maent bob amser yn wrth law i helpu ac yn hapus i bobl gysylltu â nhw. Mae llawer o staff y dalaith yma os hoffech chi sgwrs am adnoddau a chefnogaeth i helpu Ardaloedd Gweinidogaeth.
O ran dysgu parhaus a rhannu ein profiad, menter ddefnyddiol y mae'r Fainc yn ei threfnu yw Cymuned Ddysgu yr Esgobaeth. Mae’r cynulliad hwn yn digwydd ym mis Hydref lle bydd tua hanner dwsin o gynrychiolwyr o'r holl esgobaethau yn cyfarfod â'r holl esgobion ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfres o gyflwyniadau sy'n canolbwyntio ar feysydd penodol gan gynnwys gweithio mewn cyd-destun gwledig, cyd-destun trefol, mewn eglwysi cadeiriol ac wrth blannu eglwysi. Y syniad yw ein bod yn dysgu gyda'n gilydd, yn rhannu syniadau ac arferion da ac yn dirnad ffyrdd ymlaen o'r pethau nad oedd wedi gweithio cystal a pham.
Nid oes ateb syml i'ch cwestiwn, Catherine. Rydym yn llwyr ddeall bod heriau mawr i’w hwynebu, ond credwn hefyd fod yna gyfleoedd. Rydym yn ymateb i alwad Duw cystal ag y gallwn ac yn ymddiried ynddo i'n harwain a'n cryfhau ar gyfer y gwaith y dymuna inni ei wneud yn ein hoes. Mae cydweithio fel corff Crist, rhannu adnoddau a syniadau a chefnogi ein gilydd mewn gweddi a gweithred yn bethau y gall pob un ohonom eu gwneud.
I orffen dyma eiriau olaf Dewi Sant, sy'n berthnasol i ni heddiw fel yr oeddent yn y dyddiau gynt: 'Byddwch lawen, gan gadw'r ffydd a gwneud y pethau bychain', gan ychwanegu, a gadewch i Dduw wneud y gweddill.
Adroddiad Mainc yr Esgobion
Cyflwynodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, yr adroddiad ar ran Mainc yr Esgobion.
Rhoddodd grynodeb o’r adroddiad a sylwadau ar ei brif feysydd, cyn gwahodd unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol i ofyn unrhyw gwestiynau a oedd ganddynt neu roi sylwadau ar unrhyw ran o’r Adroddiad.
Holodd Tony Mullins, aelod lleyg etholedig dros Esgobaeth Llandaf, am ofalu am ffabrig eglwysi. Dywedodd fod gwirfoddolwyr dan bwysau yn sgil pryderon am gynnal a chadw adeiladau.
Dywedodd yr Esgob Cherry fod y Fainc yn bryderus a’u bod nhw a staff Corff y Cynrychiolwyr yn edrych yn ofalus ar beth roedd yr Eglwys ei angen gan adeiladau yn y dyfodol.
Ni chafwyd mwy o gwestiynau na sylwadau gan yr aelodau.
Adroddiad a chyfrifon Corff y Cynrychiolwyr
Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, fod 2022 wedi bod yn flwyddyn gyffrous ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gyfeiriad yr Eglwys i’r dyfodol. Ond roedd hefyd wedi bod yn flwyddyn drychinebus i’r marchnadoedd ariannol. Sicrhaodd yr aelodau fod y Corff yn cadw llygad manwl ar y cronfeydd ac nad cynllunio oedd ei waith ond gwasanaethu a chefnogi’r Eglwys a sicrhau bod yna ddigon o arian i ddatblygu a bwrw ymlaen â’i chynlluniau cyffrous.
O ran yr Adolygiad o Dâl Clerigion, cydnabu’r Athro Hughes bod y gwaith yn cymryd llawer o amser, ond roedd hi’n bwysig ei gael yn iawn. Gofynnwyd am gyngor gan arbenigwyr pensiwn a’r gobaith oedd y byddai’r gwaith yn cael ei ddatblygu dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Pasiwyd y cynnig i gymeradwyo’r adroddiad.
Adroddiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Ar ôl bod yn y swydd am ddiwrnod yn unig, cymeradwyodd yr Is-ganghellor newydd, yr Athro Elwen Evans KC, adroddiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’r aelodau. Dywedodd ei fod yn dangos ymrwymiad llwyr y brifysgol i’w thraddodiad Cristnogol ac i’r Eglwys yng Nghymru – o’i gwreiddiau dros 200 mlynedd yn ôl fel Coleg Dewi Sant, i’w chysylltiadau agos ag Athrofa Padarn Sant heddiw – talodd yr Athro Evans deyrnged i’w rhagflaenydd, yr Athro Medwin Hughes, hefyd.
Cafodd yr aelodau ddiweddariad ar feysydd gwaith penodol yn ymwneud â’r cynllun 10 mlynedd, cyn rhannu’n grwpiau i’w trafod. Disgrifiodd Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, y Gweithgor Blaenoriaethau, amlinellodd yr Archesgob gynnydd Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwys, adroddodd yr Athro Medwin Hughes ar y Gweithgor Dosbarthu Cyllid a gwahoddodd y Dr Heather Payne drafodaeth ar fformat cyfarfodydd y Corff Llywodraethol yn y dyfodol. Bu’r grwpiau’n ystyried y cwestiynau canlynol am dros awr:
Pan ymunoch chi â’r Corff Llywodraethol i ddechrau, beth oeddech chi’n ei ddisgwyl a pha mor agos yw’r realiti i’r disgwyliad hwnnw?
Beth ddylen ni ddechrau ei wneud, rhoi’r gorau i’w wneud a pharhau i’w wneud yn y Corff Llywodraethol?
Beth yw’ch ymateb i’r blaenoriaethau ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru fel y’u nodwyd gan yr Archesgob?
Beth yw’r ffordd orau i Gorff y Cynrychiolwyr a’r Esgobaeth gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yn eich ardal leol?
Beth sy’n ein hatal ni rhag tyfu?
Pe baech chi’n cael sgwrs un-i-un gyda’r Archesgob, beth fyddech chi’n ei ddweud wrtho?
Bil i ddiwygio Coleg Etholiadol yr Archesgob a Cholegau Ethol Esgobion
Roedd gofyn i’r Corff Llywodraethol fynd i gam pwyllgor er mwyn trafod y Bil cyn pleidleisio arno. Penodwyd y Barnwr Andrew Keyser, KC, yn gadeirydd y pwyllgor a gwahoddodd Moira Randall, cadeirydd y Pwyllgor Dethol, i gyflwyno ei adroddiad ac amlinellu ei argymhellion. Esboniodd fod y Bil yn gam olaf mewn proses hir. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd tri adroddiad gan ddau weithgor ar y materion hyn, yn ogystal â dwy ddadl o sylwedd yn y Corff Llywodraethol a llawer o drafod yn y Pwyllgor Sefydlog. Roedd y Bil a ddeilliodd yn y pen draw o’r adroddiadau a’r dadleuon hyn yn cynnwys cynigion a oedd eisoes wedi bod yn destun llawer o ddadlau a chraffu. O ganlyniad, bu’r Pwyllgor Dethol yn ymdrin â nifer fach o fân ddiwygiadau a gynigiwyd, a chafodd pump ohonynt eu mabwysiadu gan y Corff Llywodraethol. Cynigiwyd un diwygiad na chafodd ei argymell, ac ni chafodd ei fabwysiadu gan y Corff Llywodraethol yn y cam pwyllgor.
Ar ddiwedd y cam pwyllgor, cafodd y Bil ei gynnig gan Archddiacon Tyddewi, Paul Mackness, a’i eilio gan Archddiacon Llandaf, Rod Green. Pasiwyd y Bil gan fwy na dau draean yn y tair urdd a’i gyhoeddi gan y Llywydd.
Diwygiad i Reoliadau Pennod V
Cyflwynodd Esgob Llandaf ddiwygiad i helpu Cynadleddau Esgobaethol i lenwi “swyddi gwag achlysurol” ar y rhestr o etholwyr esgobol a’r rhestr atodol i’w bwyllgor sefydlog. Byddai’r diwygiad yn golygu bod modd penodi pobl rhwng etholiadau ffurfiol. Pwysleisiodd Esgob Gregory nad oedd rheidrwydd ar unrhyw esgobaeth i wneud hyn, ond roedd yn system gwerth chweil a oedd wedi bod yn gweithio’n dda i’w esgobaeth ef ac roedd yn dymuno gallu parhau i’w defnyddio.
Mynegodd Hannah Rowan (cyfetholwyd gan Mynwy) ei phryder y byddai’r diwygiad yn rhoi mwy o bŵer a dylanwad i nifer fach o bobl. Dadleuodd fod modd galw Cyfarfod Cyffredinol Brys ar-lein yn sydyn bellach. “Gadewch i ni beidio ag ildio ein democratiaeth yn rhy hawdd,” meddai.
Amddiffynnodd y Canon Ddr Jason Bray (Llanelwy) ac is-lywydd etholedig Pwyllgor Sefydlog Esgobaeth Llanelwy, y diwygiad, gan ddweud y byddai’n “ganiataol ac nid rhagnodol” ac yn caniatáu mwy o hyblygrwydd.
Wrth ymateb, sicrhaodd yr Esgob Gregory yr aelodau bod llenwi swyddi gwag yn y ffordd hon yn “bosibilrwydd anfynych iawn yn wir” a bod pawb am fod mor ddemocrataidd â phosibl.
Pasiwyd y cynnig.
Cynnig:
Ym Mhennod V (Rheoliadau) ail-rifo Rheoliad 4.5 fel 4.6 a mewnosod:
4.5 Gall Cynhadledd Esgobaethol wneud darpariaeth i ddirprwyo etholiadau i lenwi swyddi gwag achlysurol ar y rhestr o Etholwyr Esgobol a’r rhestr atodol i’w Bwyllgor Sefydlog. Bydd etholiadau o’r fath yn bwrw ymlaen fel arall fel y nodir yn Rheoliad 4.4
Arweiniwyd y gweddïau a rhoddwyd yr anerchiad gan Sheran Harper, Llywydd Byd-eang Undeb y Mamau. Roedd ei hanerchiad teimladwy yn canolbwyntio ar drais yn y cartref, ym Mhrydain a thramor. Diolchodd i’r aelodau am eu gweddïau a’u partneriaeth yn y rhaglen Restored a gofynnodd am eu cymorth ar gyfer yr ymgyrch ryngwladol ym mis Tachwedd – 16 Days of Activism Against Gender Violence.
“Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni symud yr agenda ymlaen i ddarparu lle diogel lle mae pob menyw a phlentyn yn cael eu caru, eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn cael cyfle i ffynnu,” meddai.
Trafodaeth lawn yn dilyn grwpiau trafod
Diolchodd Simon Lloyd, Ysgrifennydd y Dalaith, i hwyluswyr a chofnodwyr pob grŵp trafod o’r diwrnod cynt ar Flaenoriaethau, Twf a Chydnerthedd. Rhoddodd grynodeb o’r adborth i bob cwestiwn.
O ran y Corff Llywodraethol, roedd y sylwadau yn gadarnhaol ar y cyfan. Roedd pobl yn hoffi’r teimlad o fod yn deulu, yn falch bod y cyfarfodydd yn llai ffurfiol nag yn y gorffennol ac yn gwerthfawrogi gallu eistedd o amgylch byrddau yn lle mewn rhesi. Cafwyd sylwadau bod sgiliau anghytuno a gwrando’n astud ar ei gilydd aelodau wedi gwella.
Roedd yr awgrymiadau ar gyfer newid yn cynnwys derbyn adroddiadau heb gynigion ac i aelodau beidio ag ailadrodd pethau. Roedd yna alwadau hefyd am fwy o weddi ac y dylai fod yn fwy radical.
Roedd yr ymatebion i’r blaenoriaethau a bennwyd gan yr Archesgob yn cynnwys ymdeimlad nad oeddynt yn ddigon heriol a’u bod yn swnio fel datganiadau gwerth ac nid blaenoriaethau. Roedd dymuniad i weld mwy o gyfeiriad at Dduw a defnydd o iaith genhadu ac efengylu glir.
Roedd awgrymiadau am gymorth ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth gan Gorff y Cynrychiolwyr a’r Esgobaethau yn cynnwys cyllid i weinyddwyr Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth a gweithwyr cyflogedig fel y gallent ryddhau clerigion i genhadu gan y dylai “offeiriaid fod yn offeiriaid”. Galwyd am fwy o glerigion hefyd ac i brosesau ymgeisio am grantiau fod yn haws.
Roedd y ffaith bod gan glerigion ormod i’w wneud yn un o’r rhesymau dros atal twf yr eglwys. Roedd hynny’n cynnwys gofalu am adeiladau a phethau eraill a oedd yn tynnu eu sylw ac yn dwyn eu hamser rhag medru bod yn offeiriaid. Roedd teimlad hefyd fod yna ddiffyg hyder i ddatgan newyddion da yr Efengyl a gwybodaeth o’r Efengyl.
Roedd negeseuon i’r Archesgob yn cynnwys canmoliaeth a diolch am ei Anerchiad fel Llywydd a negeseuon o sicrwydd fod ganddo’r gefnogaeth angenrheidiol. Roedd dymuniad iddo ganolbwyntio ar adeiladu’r Deyrnas, nid gwasanaethu’r sefydliad, i roi’r gorau i ail-frandio ac i addasu mewn byd sy’n newid.
Ymatebodd nifer o’r aelodau i’r adborth gan Mr Lloyd gyda sylwadau pellach. Dywedodd cadeirydd y sesiwn, Archddiacon Tyddewi, Paul Mackness, fod yr holl sylwadau wedi’u nodi ac y byddent yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sefydlog fel rhan o’r drafodaeth ehangach.
Ardaloedd Gweinidogaeth fel Sefydliadau Corfforedig Elusennol
Cafodd y cynnig i alluogi Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth i ffurfio fel Sefydliadau Corfforedig Elusennol ei gynnig yn gyntaf fel Cynnig Aelod Preifat ddwy flynedd yn ôl gan Archddiacon Margam, Mike Komor. Er na phasiwyd y cynnig bryd hynny, roedd y drafodaeth yn dangos yn glir bod awydd am y newid, yn dilyn gwaith pellach ar y cynigion.
Esboniodd Matthew Chinery, y pennaeth gwasanaethau cyfreithiol, fod y gwaith wedi’i wneud bellach a bod templed cymeradwy wedi’i baratoi i Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth ei ddefnyddio i sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol. Er bod yr holl Ardaloedd hyn yn elusennau, roedd hyn yn ymwneud â symud i fath gwahanol o elusen a fyddai’n cynnig buddion i ymddiriedolwyr. Roedd pob Sefydliad Corfforedig Elusennol yn derbyn rhif elusen gofrestredig, ac roedd hynny’n hwyluso’r broses o hawlio buddion.
Pleidleisiodd yr aelodau o blaid y cynnig i ddiwygio Pennod IV (C) 12, gan alluogi Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth i ffurfio Sefydliadau Corfforedig Elusennol, ar ôl ymgynghori â’u Harchddiacon.
Bydd canllawiau pellach ar y weithdrefn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Cynnig Aelod Preifat
Cafodd cynnig i sefydlu comisiwn annibynnol i archwilio Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth, a hwythau wedi’u comisiynu’n ffurfiol ledled Cymru bellach, ei gynnig gan y Parch Ddr Jonathon Wright a’i eilio gan y Parch Sam Aldred, y ddau o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.
Cyflwynwyd diwygiad gan y Parch James Henley (Mynwy). Er ei fod yn cytuno bod gwerthuso’n bwysig a’n bod ni’n dysgu’r gwersi yr oedd angen i ni eu dysgu, roedd yn dadlau y byddai comisiwn o’r fath yn wastraff amser ac yn gostus. “Allwn ni ddim mynd ati i gontractio’n allanol ein cydgyfrifoldeb i werthuso a dirnad,” meddai. “Mae’n rhaid i ni berchnogi hynny ein hunain.”
Pasiwyd y cynnig diwygiedig.
Cynnig
Mae bron 12 mlynedd wedi pasio ers cynhadledd ‘Nawr yw’r Amser’ yn Llandudno, lle cafodd Golwg 2020 ei lansio. Nod Golwg 2020 oedd trawsnewid yr Eglwys yng Nghymru, yn rhannol, drwy fabwysiadu Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth ym mhob esgobaeth yn y Dalaith.
Ers mis Mehefin 2023, mae pob esgobaeth wedi comisiynu’n ffurfiol Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth, gan ddisodli’r system plwyfi fel yr uned weinyddol leol sylfaenol. Mae Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth yn nodi newid sylfaenol yn strwythur yr Eglwys yng Nghymru. Mae ganddynt oblygiadau hirdymor sy’n newid neu’n cael effaith sylweddol ar lywodraethu, cyllid, cenhadaeth a gweinidogaeth.
Mae’r Corff Llywodraethol hwn:
a)yn cymeradwyo hunanwerthuso o fewn esgobaethau a rhannu arfer da ar draws y Dalaith;
b)yn croesawu camau’r Archesgob i sefydlu Cymuned Ddysgu i helpu ein myfyrdod;
c)yn cyfeirio’r Pwyllgor Sefydlog, yn dilyn cyfarfod cyntaf y Gymuned Ddysgu yr hydref hwn, i ddatblygu cynigion i ehangu ac ymsefydlu dulliau cadarn o hunanwerthuso mewn esgobaethau ac o gydweithio ar draws y dalaith.
Fideo Cysylltiadau Eciwmenaidd a chwestiynau
Cyflwynodd Esgob Llanelwy y cynnig, gan bwysleisio ei fod yn ymwneud â’n cymdeithas â Christnogion ledled y byd a’r rhan rydym yn ei chwarae mewn eciwmeniaeth ryngwladol. Roedd hynny’n amserol, meddai, ar ôl i Gyngor Eglwysi’r Byd gyfarfod y llynedd ac i Gynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd gwrdd eleni, gyda’r ddau yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Eglwys yng Nghymru.
Cafodd y cynnig ei eilio gan Ddeon Tyddewi, Sarah Rowland Jones. Cafodd diwygiad, a awgrymwyd gan y Parch Mark Thomas (Abertawe ac Aberhonddu), i ychwanegu pedwerydd cymal ei dderbyn gan yr Esgob Gregory. Yna, pasiwyd y cynnig gan yr aelodau.
Cynnig
Bod y Corff Llywodraethol:
a)yn croesawu ymwneud yr Eglwys yng Nghymru â’r gwahanol offerynnau eciwmenaidd rhyngwladol;
b)yn diolch i bawb sy’n gweithio’n galed i sicrhau cynrychiolaeth gref o’n bywyd a’n cenhadaeth ar y lefel ryngwladol;
c)yn cadarnhau ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i’r mudiad eciwmenaidd byd-eang fel rhan o ewyllys Duw ar gyfer tystiolaeth unedig i’r Efengyl
d)yn archwilio ffyrdd o gefnogi a gweddïo dros yr eglwys sy’n cael ei herlid ledled y byd.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog. Argymhellwyd bod y Corff Llywodraethol yn cyfarfod ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar 4-5 Medi 2024 ac yn Venue Cymru, Llandudno, ar 30 Ebrill-1 Mai 2025. Pasiwyd hyn a chymeradwywyd yr adroddiad.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar Faterion Cyfreithiol a Llywodraethu
Cafodd mân ddiwygiadau cyfansoddiadol eu cynnig nad oedd yn gofyn am weithdrefn Bil. Roedd y rhain yn cynnwys: newidiadau golygyddol i ddisodli iaith rywiaethol gydag iaith niwtral o ran rhywedd; ymestyn y dyddiad cau i gynadleddau cyfarfodydd festri a deoniaeth er mwyn rhoi mwy o amser i drysoryddion baratoi cyfrifon; ac aildrefnu Canonau a oedd yn ymwneud â chysylltiadau ag eglwysi eraill.
Cymeradwywyd yr adroddiad.
Ffarwelio
Talodd yr Archesgob Andrew deyrnged i ddau aelod a oedd yn ymddeol - yr Esgob Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi tan ddiwedd mis Gorffennaf, a Mike Komor, Archddiacon Margam ers 2018. Dymunodd ymddeoliad hapus i’r ddau.
Siars y Llywydd
Daeth y cyfarfod i ben gyda siars gan yr Archesgob Andrew. Roedd aelodau, meddai, wedi ymgodymu’n ddyfal â’i gilydd i ddeall ewyllys Duw a dirnad beth yr oedd Ef yn ein galw i’w wneud. Anogodd yr aelodau i fod yn “llunwyr naratifau ac agendâu a rannwn â’n gilydd yn y cymundeb”, ac i raeadru hyn i eraill. Dylent hefyd ddwyn i ystyriaeth ein hoes a’n hamseroedd a gwrando beth mae Duw yn ei wneud yn y byd hwn.
Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf
Bydd y Corff Llywodraethol yn dychwelyd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn ei gyfarfod nesaf ar 17-18 Ebrill.