Pigion - Medi 2024
Cyfarfu aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar 4-5 Medi. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw a gallwch weld recordiad a darllen chrynodeb byr, isod.
Addoliad
Yr Archesgob oedd yng ngofal y Cymun agoriadol yng Nghapel Prifysgol Dewi Sant gyda’r Esgob Anthony Poggo yn traddodi’r bregeth. Arweiniwyd yr hwyrol weddi, hefyd yn y capel, gan y Canon Hannah Rowan, gyda’r Parchedig James Henley yn pregethu. Arweiniwyd yr astudiaeth Feiblaidd yn neuadd y celfyddydau ar yr ail fore gan Archddiacon Tyddewi, Paul Mackness. Cydlynwyd yr holl addoliad gan Gaplan yr Archesgob, y Parchedig James Tout.
Cafwyd casgliad ar gyfer yr elusen National Energy Action, sy’n cynorthwyo pobl sy’n ei chael hi’n anodd cadw’n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartref.
Sesiynau dyddiol
- Croeso i ymwelwyr
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad Mainc yr Esgobion
- Cwrs Adfent 2024
- Cwestiynau ac Atebion
- Telerau Gwasanaeth Clerigion
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar faterion llywodraethiant a chyfreithiol
- Adroddiad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Hwyrol Weddi
- Drysau Agored y DU
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
- Anerchiad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd
- Bil Diogelu’r Cyhoedd
- Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol
- Ffarwelio
- Cyfarfod nesaf
Sesiwn Un
Croeso i ymwelwyr
Croesawodd yr Archesgob gynrychiolwyr o eglwysi a sefydliadau eraill, sef:
- Cytûn a’r Eglwysi Cyfamodedig yng Nghymru: Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol
- Y Cymundeb Anglicanaidd: Yr Esgob Anthony Poggo, Ysgrifennydd Cyffredinol
- Eglwys Loegr: Y Parchedig Jon Carter (Esgobaeth Llundain)
- Eglwys Ddiwygiedig Unedig Cymru: Y Parchedig Martin Sbaen, Swyddog Eciwmenaidd a Rhyng-ffydd
- Yr Eglwys Fethodistaidd: Y Canon Dr Jennie Hurd, Cadeirydd Rhanbarth Cymru
- Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: Y Parchedig Jeff Williams, Llywydd
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru: Y Parchedig Aneurin Owen, Llywydd
- Partneriaid y Gymdeithas Unedig yn yr Efengyl: Carol Miller, Rheolwr Ymgysylltu ag Eglwysi
- Cymorth Cristnogol Cymru: Mari McNeill, Pennaeth, Rebecca Elliott, Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Cymru
Anerchiad y Llywydd
Nododd yr Archesgob Andrew John fod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd diweddar ym Mharis wedi taflu goleuni ar dîm newydd yn cynnwys ffoaduriaid; pobl “sy’n chwilio am rywle lle y gallant adeiladu dyfodol heb fomiau a thrais”. Roedd pob un o’r ffoaduriaid wedi diolch i eraill a oedd wedi eu helpu yn ystod eu taith, gyda’r hen wireb o Affrica yn cael ei dwyn i gof: “Os am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os am fynd yn bell, ewch gyda’ch gilydd.”
Dim ond un enghraifft o’r wireb honno yw perthynas yr Eglwys yng Nghymru â’r Cymundeb Anglicanaidd: “Gwell, gyda’n gilydd”. Ond does dim modd cymryd y pethau sy’n dod â phobl at ei gilydd yn ganiataol yn ein byd “bregus”, meddai’r Archesgob John. Yna cyflwynodd yr hanes adnabyddus yn 1 Brenhinoedd am Eleias yn cyfarfod â Duw nid mewn tân, gwynt na daeargryn, ond mewn llef ddistaw fain. Mae Duw yn gofyn ddwywaith i’r proffwyd, yng nghanol ei frwydrau â’i elynion: “Beth a wnei di yma, Eleias?” Yn ddiweddarach eleni bydd yr Eglwys yn ymgynnull fel Cymuned Ddysgu ar draws yr esgobaethau er mwyn gofyn yr un cwestiwn, myfyrio ac adeiladu.
Gyda phob un o’r esgobaethau bellach wedi ad-drefnu eu hunain yn ardaloedd gweinidogaeth, mae gan bob un ffocws o’r newydd ar rannu adnoddau ac ar “ymrwymiad cyffredin i ardal neilltuol, ar adeiladu timau sy’n cynnwys doniau holl bobl Dduw, ar edrych tuag allan oherwydd bod Duw yn caru’r byd gymaint”.
Mae Duw eisoes wedi dechrau ailadeiladu Eglwys newydd, sy’n wahanol iawn i’r eglwys roedd y rhan fwyaf o’r aelodau wedi cael eu bedyddio iddi, meddai’r Archesgob John. “Ond mae’n eglwys sydd mewn sefyllfa well ac sydd wedi’i siapio’n fwy creadigol i estyn allan mewn gwasanaeth cariadus ac yng Nghrist Iesu.” Un enghraifft o hyn yn ei esgobaeth ei hun yw caplan awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sydd â’r dasg o weinidogaethu i’r miloedd o dwristiaid ac ymwelwyr bob blwyddyn; gan ddarganfod sut y gallai Duw fod ar waith eisoes a datblygu perthnasoedd i gymryd rhan.
“Mae’r cyfuniad hwn, o waith nodedig o arloesol, ochr yn ochr â’n hymrwymiad i Ardaloedd Gweinidogaeth, yn darparu ffordd newydd a chyffrous o weld ein gwaith fel eglwys,” meddai. “Gwell, gyda’n gilydd.”
Rydym bob amser wedi bod ar ein gorau wrth i ni fod yn ddewr ac yn unedig
Rhan allweddol arall o’r darlun yw’r gobaith sy’n deillio o Gronfa Twf yr Eglwys. Mae ceisiadau uchelgeisiol ond ystyriol am gyllid yn dod i law yn rheolaidd, gan ddangos bod llawer o bobl ledled yr Eglwys yn parhau i fod yn “llawn egni am y dasg o rannu’r newyddion da”. Mae’n rhaid i’r cynigion fod o sylwedd, ychwanegodd yr Archesgob John - gan godi allan o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yn yr esgobaethau. Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw ymestyn yr Eglwys, gan ei gorfodi i deimlo’r “anesmwythder” a ddaw o roi cynnig ar bethau newydd a thorri tir newydd. Yn union fel Elias, a gafodd ei orfodi i adael ei fyd cyfforddus a dibynnu ar gigfrain am fwyd yn yr anialwch; dyma sut mae bendith yn dod. “Rydym bob amser wedi bod ar ein gorau wrth i ni fod yn ddewr ac yn unedig.”
Hefyd, cyfeiriodd at yr uwchgynhadledd amgylcheddol sy’n cael ei chynnal gan yr Eglwys yng Nghymru ym mis Tachwedd, a fydd yn canolbwyntio ar sut i adfer afonydd Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys 18 mis o baratoi a bydd yn dwyn ynghyd 70 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r DU. Dyma un o’r cynulliadau mwyaf o’i fath erioed, gyda chynrychiolwyr o’r byd academaidd, ffermwyr, y diwydiant dŵr ac eraill. Mae adfer afonydd yn fater cymhleth lle mae gwahanol ofynion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond mae’r Eglwys wedi ymrwymo i barhau â’r drafodaeth hyd yn oed os nad oes modd dod i gytundeb. Byddai adnoddau a chynlluniau newydd fel “mabwysiadu afon” yn cael eu lansio wedyn, gan danlinellu ymrwymiad yr Eglwys i Gymru.
O safbwynt y Cymundeb Anglicanaidd, mae’r rhan fwyaf o sylw yn cael ei hawlio gan anghytundebau ynghylch rhywioldeb a pherthnasoedd o’r un rhyw. Wrth reswm, mae’r materion hyn yn bwysig, ond mae’n hollbwysig hefyd i ni wneud y ddiwinyddiaeth hon gyda’n gilydd. Nid dyhead annelwig oedd gweddi Iesu y byddai’r Eglwys yn un, ond datganiad o realiti. “Mewn geiriau eraill, ei weddi oedd y gallem ymgnawdoli’r gwirionedd a darganfod yn gyson y llawenydd o fod yn un corff.” Pe bai’r Cymundeb yn gallu aduno ar sail cenhadaeth a chyfiawnder cymdeithasol, gallai ailddysgu mai ystyr syml cymundeb yw “perthyn i’n gilydd yn Iesu a gwneud ei waith”.
Dywedodd yr Archesgob John wrth yr aelodau ei fod wedi cyfarfod â rhai Anglicaniaid o Kyiv yn ddiweddar. Yng nghanol trasiedi rhyfel, roeddent wedi darganfod beth yw ystyr byw’n ffyddlon, er gwaethaf y perygl. Roedd y gwrthdaro wedi helpu’r Cristnogion hyn i ddychwelyd i’r dasg sylfaenol, syml o ymddiried yn barhaus yn Nuw. “Ni fydd modd i ni fod yn dystion i’r llefydd hyn fel Gaza ac Wcrain os nad ydym yn gwneud hynny gyda’n gilydd.”
Anfonodd Duw yr Elias trallodus yn ôl i wneud yr un peth ag erioed. Ond roedd ei gyfarfyddiad â Duw wedi newid y proffwyd, roedd wedi’i adfywio a’i ail-ysbrydoli. Mae’r cwestiwn a ofynnwyd iddo yn berthnasol o hyd i’r Eglwys yng Nghymru: “Beth rydym yn ei wneud? Fel yntau, a wnawn ni wrando ar ei lais a mynd ato? Gyda’n gilydd, yn well ac yn hyderus lawen, a wnawn ni fynd ati’n ddiwyd i wneud gwaith Duw er mwyn cyhoeddi enw Crist?”
Yn ystod y cwestiynau yn dilyn yr anerchiad, dywedodd Dr Barney Hawthorne (Llandaf) ei fod yn synnu nad oedd eitem benodol ar yr agenda yn ymwneud â Chronfa Twf yr Eglwys, a gofynnodd a fyddai modd cynnal trafodaeth sefydlog ar y mater hwn ym mhob cyfarfod o’r Corff Llywodraethol. Pe bai rhagor o wybodaeth ar gael am y ceisiadau, gan gynnwys y rhai a lwyddodd a’r rhai a wrthodwyd, gallai helpu’r Eglwys ar bob lefel i lwyddo.
Gofynnodd Elizabeth Crawford (Mynwy) am yr uwchgynhadledd afonydd, gan holi yn benodol am yr amserlen fwy hirdymor y tu hwnt i’r cyfarfod yn yr hydref.
Nododd Dr Cynan Llwyd, yn y llun, ysgrifennydd cyffredinol Cytûn, bwysigrwydd adeiladu pontydd, nid argaeau, yn ystod argyfwng, gan wahodd pobl i ddefnyddio Cytûn fel pont i ddod â phobl at ei gilydd.
Mewn ymateb, mewn perthynas â Chronfa Twf yr Eglwys, dywedodd yr Archesgob John y byddai unigolyn newydd yn cael ei benodi yn dilyn ymadawiad y cyfarwyddwr efengylu. Cytunodd ei bod yn bwysig bod adborth o’r Gronfa a sut roedd hi’n cael ei rhedeg yn cael ei rannu gyda’r Eglwys, a dywedodd y byddai’r Gymuned Ddysgu yn canolbwyntio ar y mater hwn. Nid ymarferiad cyfnewid gwybodaeth yn unig yw hyn, gan fod “dirnadaeth a doethineb yn eiddo i gorff cyfan Crist” ac felly ni allai’r Eglwys dyfu heb glywed gan bawb, yn enwedig y rhai ar yr ymylon.
O safbwynt yr uwchgynhadledd afonydd, dywedodd fod grŵp llywio yn goruchwylio’r broses a’r rhaglen. Hefyd, roedd yr Eglwys yn noddi’r gwaith ar ôl yr uwchgynhadledd a fyddai’n cynnwys Siarter i Gymru, ac un rhan o hynny yw galwad i wahardd weipiau gwlyb (yr achos unigol mwyaf o garthffosiaeth yn cael ei blocio). “Mae’n bosibl y cawn ni dân gwyllt go iawn yn yr uwchgynhadledd oherwydd rydym yn dod â phobl at ei gilydd sydd ag agenda wahanol iawn. Mae tensiwn go iawn yma,” meddai’r Archesgob. Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi ariannu’r uwchgynhadledd gyfan mewn arwydd o haelioni mawr, ac mae hyn yn cael effaith sylweddol y tu hwnt i’r Eglwys, ond roedd yn amheus y byddai angen llawer o arian ar ôl blwyddyn gyntaf y prosiect.
O safbwynt eciwmeniaeth, dywedodd yr Archesgob John mai’r hyn sy’n ei gyffroi yw dysgu o’r hyn y mae eglwysi eraill yn ei wneud yn anffurfiol, boed hynny’n ymwneud â defnyddio gweinidogion arloesi neu synodau’r Eglwys Gatholig Rufeinig ar synodaiaeth. Efallai nad oedd fforwm i ddysgu’n gynhyrchiol gyda’n gilydd rhwng enwadau wedi’i ddarganfod eto, cyfaddefodd, ond “dyma’r perl gwerthfawr”.
Adroddiad Mainc yr Esgobion
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, yn y llun, a esboniodd fod y fainc wedi cyfarfod tair gwaith ers cyfarfod diwethaf y Corff Llywodraethol. Dywedodd fod cyfarfod gydag esgobion Celtaidd eraill yn Iwerddon wedi bod yn bleserus ac yn hynod werth chweil i’r fainc. Cyfeiriodd yr Esgob Davies at y gwaith y mae’r esgobion wedi’i wneud ynghylch Blaenoriaethau’r Eglwys, sy’n seiliedig ar gred pob Cristion.
Byddai panel ymgeiswyr newydd yn cael ei sefydlu, fel estyniad i’r panel dirnadaeth taleithiol, i gynghori’r esgobion ar faterion sy’n deillio o ymgeiswyr sydd i gael eu hordeinio sydd am drosglwyddo eu llwybr hyfforddiant, neu eraill sy’n dymuno trosglwyddo o Eglwysi eraill i Gymru.
Mae’r Eglwys yn parhau i chwarae rôl weithredol ym mywyd y Cymundeb Anglicanaidd, ac mae wedi cyfrannu syniadau at ymgynghoriadau litwrgaidd rhyngwladol.
Er gwaethaf y beichiau gweinyddol anochel ar yr esgobion, fe wnaeth yr Esgob Dorrien sicrhau’r Corff Llywodraethol bod eu holl waith yn “cael ei arwain gan yr Ysbryd ac yn canolbwyntio ar yr efengyl y mae’n fraint i bob un ohonom ei phroffesu”. Mae’r fainc yn unedig, ac mae’n gwerthfawrogi’r amrywiaeth a geir yn yr Eglwys yng Nghymru yn fawr.
Wrth agor y cwestiynau, gofynnodd Archddiacon Cymoedd Gwent, Stella Bailey (Mynwy), a fyddai’r adroddiad Cerdded mewn Didwylledd yn cael ei gyhoeddi.
Dywedodd yr Esgob Davies y byddai’n cael ei gyhoeddi.
Gan fod ardaloedd gweinidogaeth bellach wedi’u sefydlu ym mhob esgobaeth, dywedodd Tony Mullins (Llandaf) fod llawer o bobl wedi cael eu brifo o ganlyniad i gau eglwysi. Roedd yn teimlo fel “dillad newydd yr ymerawdwr” gan fod llawer o sôn am ardaloedd gweinidogaeth, ond nad oes llawer i’w weld eto, ac mae angen gwneud llawer o waith o hyd i helpu pobl drwy’r “newid poenus” hwn. Pa ran o efengylu a thwf yr eglwys fyddai’n mynd i’r afael â hyn? Mewn ymateb, dywedodd Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, ei fod yn rhannu’r boen a nodwyd gan Mr Mullins, ar ôl gwasanaethu fel offeiriad plwyf ac arweinydd ardal weinidogaeth yn y gorffennol. Mae pethau cyffrous yn digwydd ym mhob esgobaeth, ond roedd yn cyfaddef bod angen mwy o feddwl cydgysylltiedig, yn enwedig gan y grwpiau efengylu ledled y dalaith. Mae adnoddau ar gael i “ddileu rhywfaint o’r ofn ynglŷn ag efengylu”, a byddai’r adnoddau hyn yn helpu i uno pobl ar draws eglwysi gwahanol iawn, meddai.
Dywedodd y Parchedig Annabel Elletson (Abertawe ac Aberhonddu), yn y llun, nad yw wedi gweld yn yr adroddiad unrhyw sôn am weinidogaeth gyda phobl hŷn, a gofynnodd a fyddai modd i un esgob gael y dasg o oruchwylio’r maes pwysig hwn. Mae’n elfen gynyddol o weinidogaeth yr Eglwys ac mae’n cael effaith ar aelodau teuluol pobl hŷn hefyd.
Dywedodd Esgob Enlli, David Morris, mai ef sy’n gyfrifol am y gwaith hwn fel rhan o’i ddyletswyddau caplaniaeth, a’i fod yn cytuno bod y gwaith hwn yn bwysig iawn.
Sesiwn Dau
Cwrs Adfent 2024
Cyflwynwyd y cwrs Adfent gan Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, a ddywedodd fod llawer yn yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn gofyn am weinidogaeth addysgu fwy gweithredol gan yr Esgobion. Roedd yr Archesgob Andrew wedi herio’r esgobion i ysgrifennu cwrs Adfent, a ffrwyth y gwaith yw O Deuwch Ac Addolwn. Gall pob eglwys yng Nghymru ddefnyddio’r adnodd hwn yn ystod y misoedd nesaf. Cyfres o astudiaethau Beiblaidd yw’r cwrs yn y bôn, ac mae pob esgob wedi ysgrifennu astudiaeth yr un. Yna cafodd yr aelodau gyfle i gymryd rhan yn sesiwn ragarweiniol y cwrs ar eu llechi, wedi’u hysgogi gan fideo dan arweiniad yr Archesgob. Wedi hynny, anogodd yr Esgob Gregory yr aelodau i fynd â’r cwrs i’w plwyfi, ac awgrymodd fod aelodau’r eglwysi yn cynnal eu hastudiaethau Beiblaidd eu hunain bob wythnos cyn y Sul. “Treuliwch yr Adfent gyda’ch esgobion – cyfle heb ei ail!”
Cwestiynau ac Atebion
Cwestiwn 1
Gofynnwyd y cwestiwn cyntaf gan y Parchedig Geraint John (Llandaf), yn y llun, a gyfeiriodd at y ffaith fod Mainc yr Esgobion wedi croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i wahardd therapi trosi yn 2022. Roedd am wybod beth sydd wedi cael ei wneud ers hynny i sicrhau nad oes unrhyw therapi trosi yn digwydd yn yr Eglwys yng Nghymru, ac a allai’r esgobion gymryd camau i wahardd yr arfer eu hunain cyn i waharddiad deddfwriaethol ddod i rym. Dylai hyn gynnwys diffinio therapi o’r fath mewn cyd-destun Cristnogol, cadarnhau nad yw dysfforia rhywedd nac atyniad i rywun o’r un rhyw yn bechadurus ac nad oes angen eu ‘hiacháu’, gofyn i Lywodraeth Cymru beidio â chreu unrhyw esemptiadau crefyddol yn ei deddfwriaeth, a disgyblu unrhyw un yn yr Eglwys sy’n cyflwyno therapi o’r fath.
Ateb
Ymatebodd yr Esgob Gregory drwy nodi bod y fainc wedi cyhoeddi ei fod yn gwrthwynebu therapi trosi am y tro cyntaf yn 2021, mewn ymateb i ymgynghoriad llywodraeth y DU ar ei gwaharddiad ei hun. Mae therapi trosi hoyw yn “gamdriniaeth sy’n achosi trawma”, meddai’r Esgob Gregory, a “does dim lle iddo yn y byd modern”. Ar ôl i Gymrodoriaeth Efengylaidd yr Eglwys yng Nghymru ofyn am eglurhad, ailadroddodd yr esgobion fod “unrhyw therapi sy’n honni newid rhywioldeb rhywun yn ein barn ni yn gamdriniol ac y dylid ei wahardd”. Rôl yr Eglwys yw cynnig “croeso, derbyniad a chyfeillgarwch”, ac – os gofynnir amdani – gweddi am ras, arweiniad a bendith Duw heb ganlyniad diffiniedig. Ar hyn o bryd, mae’r Fainc yn gweithio ar gam-drin ysbrydol yn yr Eglwys, ac mae therapi trosi yn rhan o gylch gwaith y prosiect hwn, meddai’r Esgob Gregory. Mae safbwynt yr Eglwys ar rywioldeb yn cael ei ailystyried hefyd, a bydd y datganiad a wnaed yn 2002 yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir, er na ellir rhagfarnu canlyniad hyn yn llawn eto. Ond dywedodd yr Esgob Cameron y dylai Mr John fod “yn dawel ei feddwl bod pob un o’i bedwar cwestiwn yn cyd-fynd yn fras â chyfeiriad y gwaith hwn”. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi oedi ei gwaith deddfwriaethol ei hun er mwyn cydweithio â llywodraeth San Steffan ar ei chynlluniau i wahardd therapi trosi, a chaiff y cynlluniau hyn eu cefnogi gan yr esgobion.
Dywedodd Mr John ei fod wedi cael ei galonogi gan atebion yr esgob a gan ymrwymiad parhaus y Fainc i amddiffyn pobl LHDTC+ yn yr Eglwys.
Cwestiwn 2
Gofynnwyd yr ail gwestiwn gan Archddiacon Llanelwy, Andy Grimwood (Llanelwy), yn y llun, a ofynnodd i Gorff y Cynrychiolwyr ddarparu gwybodaeth am gyfanswm cost yr holl swyddi sydd wedi ennill cyflog o dros £60,000 y flwyddyn ers 2014.
Ateb
Wrth ymateb, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, fod Corff y Cynrychiolwyr yn cyflogi amrywiaeth o bobl ag arbenigeddau gwahanol, gan gynnwys cyfrifwyr, arbenigwyr TG ac arbenigwyr diogelu. Mae lefelau cyflog yn cael eu meincnodi yn erbyn rolau tebyg yn rhanbarth De Cymru. Roedd nifer y bobl sy’n derbyn cyflog dros £60,000 wedi mwy na dyblu yn ystod y degawd diwethaf, ond rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun cynnydd o 43.7% mewn cyflogau cyfartalog yn y DU. Roedd cyflog o £60,000 yn 2014 yn cyfateb i dros £85,000 eleni.
Cafodd pump o bobl eu talu dros £60,000 yn 2014, a heddiw mae saith o bobl yn derbyn cyflog dros £85,000. Mae rhai cyflogau a oedd yn sylweddol is na’r trothwy yn 2014 bellach wedi mynd dros y trothwy oherwydd chwyddiant. Mewn rhai blynyddoedd cafodd pobl eu cyfrif dwywaith, gan fod aelodau staff uwch a oedd yn gadael wedi gorgyffwrdd am gyfnod byr gyda’r staff a oedd yn eu disodli yn ystod y cyfnod trosglwyddo, sy’n golygu bod dau gyflog ar y gyflogres. Gallai hyn gynyddu’r niferoedd a gafodd eu cyfrif mewn ffordd artiffisial hefyd. Dim ond yn ystod un flwyddyn y cafodd swyddi ychwanegol dros £60,000 eu creu ar ôl proses ailstrwythuro yn 2023.
Dywedodd fod ymddiriedolwyr Corff y Cynrychiolwyr yn deall bod angen tâl rhesymol i recriwtio staff da mewn marchnad swyddi gystadleuol, a’i fod yn credu bod yr Eglwys yn cael “gwerth rhagorol am yr arian rydym ni’n ei dalu”. Pe bai esgobaeth dan bwysau ac yn cael trafferth yn recriwtio, roedd yr Athro Hughes yn cydnabod y gallai fod yn rhwystredig gweld gwariant Corff y Cynrychiolwyr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr Corff y Cynrychiolwyr yn cael eu henwebu gan yr esgobaethau. Ac mae llawer o arian Corff y Cynrychiolwyr yn cael ei wario ar waith rheoli risg na allai’r esgobaethau unigol fynd i’r afael ag ef eu hunain. Gallai rhai tasgau gweinyddol a chydymffurfiaeth gael eu cyflawni gan Gorff y Cynrychiolwyr yn ganolog ar ran yr esgobaethau, ac er bod hyn wedi arwain at wariant cynyddol, mae’n arbed arian i’r Eglwys yn gyffredinol yn yr hirdymor. I gloi, meddai’r Athro Hughes, “Unig ddiben Corff y Cynrychiolwyr yw gwasanaethu, ac weithiau er mwyn gwasanaethu mae’n rhaid i ni fuddsoddi.”
Diolchodd yr Archddiacon Grimwood i’r Athro Hughes am ei ateb, ond gofynnodd a yw’r amser wedi dod i adolygu holl gyflogau lleygion ar lefel daleithiol, ac os felly, sut y gellid cynnal adolygiad o’r fath (ac a allai Corff y Cynrychiolwyr gael unrhyw rôl). Dywedodd yr Athro Hughes y byddai’r mater hwn yn cael ei ystyried gan bwyllgor AD Corff y Cynrychiolwyr yn y lle cyntaf, a dywedodd y byddai’n darparu mwy o fanylion i Archddiacon Grimwood maes o law.
Cwestion 3
Gofynnodd Elizabeth Crawford (Mynwy), yn y llun, beth oedd yr amserlen ar gyfer diweddaru Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben o hyd.
Ateb
Dywedodd Tim Llewelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, fod testun y cyfansoddiad wedi cael ei ddiweddaru a’i ddiwygio yn gyson gan y Corff Llywodraethol ers ei gyflwyno am y tro cyntaf adeg datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru. Byddai ailysgrifennu’r cyfansoddiad yn llawn yn mynd â llawer iawn o amser y Corff Llywodraethol a Chorff y Cynrychiolwyr, a byddai angen adnoddau staffio y tu hwnt i allu Corff y Cynrychiolwyr. Nid oes unrhyw gynlluniau i ymgymryd â phrosiect o’r fath, meddai, ond mae croeso i unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol gynnig gwelliannau mwy graddol i’r Pwyllgor Sefydlog.
Diolchodd Ms Crawford i Mr Llewelyn am ei ymateb a dywedodd ei bod yn pryderu’n benodol am gynnwys y geiriau “ardal weinidogaeth” yn y Cyfansoddiad. “Pryd fydd gwaith y pwyllgor sefydlog yn ymwneud â chynnwys y geiriau hyn yn cael ei gwblhau?” gofynnodd.
Dywedodd Mr Llewelyn y byddai’n rhaid iddo holi pryd y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau.
Cwestion 4
Daeth y cwestiwn olaf gan Dr Heather Payne (Llandaf), yn y llun, a holodd Esgob Llandaf, Mary Stallard, am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith mae’r Eglwys yn ei wneud i gyflwyno Galwad Cynhadledd Lambeth ar Ffydd a Gwyddoniaeth.
Mewn ymateb, fe wnaeth yr Esgob Mary ganmol eiriolaeth Dr Payne oddi mewn i’r Cymundeb Anglicanaidd dros wyddoniaeth a ffydd, yn enwedig wrth sefydlu rhwydwaith gofal iechyd Anglicanaidd yn 2021. Mae’n rhaid i alwadau, rhwydweithiau a chomisiynau’r Cymundeb gael eu gwreiddio mewn cymunedau lleol bob amser, ac ni ddylent fod yn fentrau o’r brig i lawr yn unig, meddai. Roedd Cynhadledd Lambeth 2022 wedi cyhoeddi galwad gref ar i Anglicaniaid ym mhobman gynnwys gwyddoniaeth a ffydd mewn sgyrsiau, yn enwedig o ystyried cynnydd cyflym datblygiadau gwyddonol ym mhob maes, o frechlynnau i ddeallusrwydd artiffisial.
Cafodd Galwad Lambeth ei dilyn gan weminarau gwybodaeth eleni, gan annog taleithiau i ddatblygu cynlluniau yn ymwneud â sut i ddyfnhau eu ffydd trwy ein gwybodaeth wyddonol a roddwyd gan Dduw. Cynhaliodd esgobion gwyddoniaeth arweiniol ymgynghoriad eang â’u cymunedau er mwyn dysgu sut y gallent wasanaethu’r eglwys bresennol ac estyn allan at y rhai y tu hwnt. Mae’r Eglwys yng Nghymru eisoes wedi dechrau’r gwaith hwn trwy fesur a lleihau allyriadau carbon, a thrwy gynnal yr uwchgynhadledd ar afonydd yn y dyfodol agos. Soniodd hefyd am Fenter Clewer, defnyddio data i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, a defnyddio technoleg at ddibenion cenhadaeth a gweinidogaeth mewn nifer o blwyfi. Mae rhwydwaith o wyddonwyr a diwinyddion yn cael ei sefydlu i rannu arbenigedd hefyd, meddai’r Esgob Mary.
Yna cynigiodd yr Ysgrifennydd Taleithiol, y Canon Simon Lloyd, yn y llun, ymateb pellach i gwestiwn cynharach yn dilyn anerchiad yr Archesgob John yn ymwneud â Chronfa Twf yr Eglwys. Dywedodd wrth aelodau y byddai gwerth £100m o’r Gronfa yn cael ei ddosbarthu mewn dwy haen, y naill ar gyfer ceisiadau hyd at £10,000, a’r llall ar gyfer ceisiadau rhwng £10,000 a £5m. Hyd yn hyn, mae’r pwyllgor wedi cymeradwyo dau grant haen un, a bydd yn ystyried naw cais arall yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae tri phrosiect haen dau wedi’u cymeradwyo hyd yn hyn, gan gynnwys dau grant gwerth cyfanswm o £5.6m yn Llanelwy ac un grant gwerth £1.3m ym Mynwy. Cyn bo hir, bydd y pwyllgor yn ystyried pedwerydd cais ail haen o Abertawe sy’n werth £2.8m. Byddai hynny’n golygu bod cyfanswm o £10m wedi’i gymeradwyo gan y Gronfa, meddai. Mae’r esgobaethau yn paratoi llawer mwy o geisiadau, ychwanegodd.
Telerau Gwasanaeth Clerigion
Yna ystyriodd y Corff Llywodraethol gynnig aelod preifat a gyflwynwyd yng nghyfarfod mis Ebrill, sy’n cynnig ychwanegu cyfnod o 48 awr yn rhydd o waith unwaith y mis, yn ychwanegol at y 24 awr i ffwrdd bob wythnos, at y Telerau Gwasanaeth Clerigion safonol. Hefyd, byddai’n cynyddu’r gwyliau sydd i’w cymryd ar ôl y Nadolig a’r Pasg o’r chwe diwrnod presennol i saith diwrnod. Cyn y gellid trafod y cynnig yn llawn, ac ystyried sawl gwelliant, cafodd y ddadl ei thorri’n fyr gan fecanwaith gweithdrefnol fel y gallai unrhyw ganlyniadau anfwriadol gael eu hystyried yn fanylach.
Ers mis Ebrill, mae pwyllgor AD Corff y Cynrychiolwyr wedi cyfarfod, ac mae’n cefnogi’r cynnig a’r gwelliant arfaethedig a fyddai’n ymestyn yr un ddarpariaeth i glerigion anghyflogedig.
Dywedodd Tim Llywelyn, cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, fod telerau gwasanaeth diwygiedig sy’n adlewyrchu’r cynigion hyn wedi cael eu drafftio, a’u cymeradwyo, gan Gorff y Cynrychiolwyr a’r Pwyllgor Sefydlog.
Cafodd y cynnig ei eilio wedyn gan yr Esgob Gregory, yn y llun, a ddywedodd fod y telerau gwasanaeth diwygiedig yn mynd i’r afael â’r holl bryderon a’r cwestiynau a godwyd yn ystod y ddadl ym mis Ebrill. Roedd y Fainc a’r pwyllgorau amrywiol i gyd eisiau bod mor hael â phosibl: “Rydyn ni wir eisiau i glerigion Cymru wybod bod hierarchaeth yr Eglwys ar eich ochr chi, ac eisiau i chi ffynnu.” Ond roedden nhw hefyd yn pryderu am fod yn rhy ragnodol, gan fod clerigion yn ddeiliaid swyddi ac nid yn weithwyr cyflogedig, a phe bai’r telerau gwasanaeth yn mynd yn rhy fanwl, gallai’r gyfraith ddechrau ystyried clerigion fel gweithwyr cyflogedig. Dylai’r canllawiau fod yn “golegaidd”, ac yn seiliedig ar dimau gweinidogaeth a rennir ac nid ar “achubwyr unigol”. Ni ddylid disgwyl i glerigion anghyflogedig wneud gwaith offeiriaid cyflogedig pan fyddant i ffwrdd o’r gwaith. Ac yn olaf, dylai clerigion gael y rhyddid i dderbyn cyfrifoldeb am eu lles eu hunain a pheidio â gorfod dibynnu ar archddiaconiaid neu esgobion i reoli eu horiau gwaith mewn ffordd iach.
Croesawodd y Parchedig Richard Mulcahy (Mynwy) y cynigion newydd, er nad yw’n credu eu bod yn mynd yn ddigon pell. Nid oedd yn siŵr bod cydbwysedd y cyfrifoldeb rhwng clerigion ac esgobion wrth reoli eu horiau gwaith wedi cael ei bennu’n gywir, ond roedd yn hapus i fwrw ymlaen am y tro.
Fe wnaeth y Parchedig Kate O’Sullivan (Mynwy), yn y llun, a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol ym mis Ebrill, ddiolch i’r esgobion a’r pwyllgorau am gymryd y syniad o ddifri yn hytrach na’i anwybyddu. Dywedodd ei fod yn gam ymlaen, gan nodi nad oes gan guradiaid na chlerigion iau sy’n aelodau o dimau y rhyddid y credir sydd gan offeiriaid i reoli eu dyddiaduron eu hunain.
Gofynnodd yr Archddiacon Andy Grimwood a oes modd i archddiaconiaid orfodi hyn, gan ddweud ei fod yn ymwybodol o glerigion nad ydynt yn cymryd eu gwyliau, a rhai sydd wedi camddefnyddio’r broses. Roedd yn awyddus i fynd i’r afael â’r ddau fater.
Dywedodd Deon Casnewydd, Ian Black, mai marathon ac nid ras wib yw’r weinidogaeth, a dywedodd fod croeso mawr i’r telerau gwasanaeth newydd gan y byddent yn galluogi clerigion i redeg y ras i’w diwedd. Er ei bod yn wir y dylai clerigion ofalu am eu horiau eu hunain, mae ganddynt gyfrifoldeb i ofalu am ei gilydd hefyd, ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol o bwysau strwythurol sy’n ei gwneud hi’n anodd i glerigion roi’r gorau i feddwl am eu gwaith.
Canmolodd y Parchedig Adam Pawley (Llanelwy) y ffaith fod gan y telerau gwasanaeth newydd yn cynnig cydbwysedd da.
Dywedodd y Parchedig Kevin Ellis (Bangor) ei bod yn dda bod yr Eglwys yn ymddiried mewn clerigion i reoli eu dyddiaduron eu hunain, ac roedd yn cefnogi’r telerau newydd yn llawn.
Dywedodd Moira Randall (Llandaf) fod gan gynulleidfaoedd ddyletswydd gofal tuag at y clerigion sy’n eu gwasanaethu hefyd, ac y dylent sicrhau bod clerigion yn cymryd eu gwyliau.
Roedd y Canon Rosie Diamond (Bangor) yn cefnogi’r cynigion, ond dywedodd mewn rhai amgylchiadau efallai na fyddai’n bosibl dod o hyd i glerig arall i gynnal gwasanaeth Cymun Bendigaid, a bod angen adlewyrchu hyn yn y telerau newydd.
Yna cafwyd pleidlais ar y cynnig ac fe’i cefnogwyd yn unfrydol.
Sesiwn Tri
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, Tim Llewelyn, yn y llun. Dywedodd fod yna fwriad wedi bod i gyflwyno cynnig yng nghyfarfod mis Ebrill i ddiddymu’r terfyn oedran uchaf ar gyfer sefyll mewn etholiad i’r Corff Llywodraethol, ond nad oedd hyn wedi digwydd yn y pen draw gan na allai’r aelod a oedd yn gyfrifol am y cynnig fynychu’r cyfarfod. Yn hytrach, roedd y pwyllgor sefydlog o’r farn y gallai diddymu terfynau oedran gael “canlyniadau anfwriadol” ac felly roedd yn well gan y pwyllgor barhau â’r sefyllfa bresennol am y tro, er y gallai unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol gyflwyno’r ddadl eto pe dymunai.
Nododd y Parchedig Kevin Ellis (Bangor) y byddai’r dyddiadau arfaethedig yn 2028 yn gwrthdaro ag wythnos y Pasg, ac yn ôl y telerau gwasanaeth a ddiwygiwyd yn ddiweddar, dylai llawer o glerigion fod ar eu gwyliau yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd y Parchedig Ruth Rowan (Mynwy) wedi sylwi ar linell yn yr adroddiad sy’n datgan y byddai ffurflenni hunanwerthuso yn cael eu hanfon i’r ardaloedd gweinidogaeth, ac roedd am wybod beth oedd ystyr hynny.
Gofynnodd y Parchedig Richard Mulcahy (Mynwy) a yw’n rhy gynnar gosod dyddiadau hyd at 2030 o ystyried bod y cyfarfod hwn i fod i ystyried diwygiadau i gyfarfodydd y Corff Llywodraethol. Gofynnodd hefyd a oes asesiad wedi’i gwblhau o’r ôl troed carbon sy’n deillio o’r ffaith fod aelodau o bob cwr o Gymru yn ymgynnull ar gyfer y cyfarfodydd.
Yna pleidleisiwyd o blaid dyddiadau newydd arfaethedig y pwyllgor sefydlog ar gyfer cyfarfodydd y Corff Llywodraethol hyd at 2030, ar wahân i ddyddiadau Ebrill 2028 a gafodd eu tynnu’n ôl i’w hystyried ymhellach. Hefyd, pleidleisiwyd dros dderbyn yr adroddiad ehangach.
Drannoeth, cyflwynodd yr ysgrifenyddiaeth ddyddiadau diwygiedig mis Ebrill 2028, (Ebrill 26-27) i’r Corff Llywodraethol, fel nad ydynt yn gwrthdaro â’r Pasg. Roedd yr aelodau o blaid y dyddiadau newydd.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog ar faterion llywodraethiant a chyfreithiol
Cyflwynodd Mr Llewelyn adroddiad llywodraethiant a chyfreithiol y Pwyllgor Sefydlog. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn gwahodd y Corff Llywodraethol i gymeradwyo cred y Pwyllgor Sefydlog y dylai’r Eglwys yng Nghymru barhau i ddefnyddio esemptiad rhag rheoliadau’r llywodraeth ar adeiladau rhestredig.
Roedd hyn yn golygu y byddai angen sefydlu system fewnol o reolaethau ar newidiadau i’w gannoedd o adeiladau eglwys rhestredig, sef proses hawlebau gadarn. Mae adolygiad o’r system hawlebau wedi adrodd yn ôl ac wedi dod i’r casgliad y dylid cadw’r system, esboniodd.
Dywedodd Bob Evans (Mynwy) ei fod yn cefnogi’r argymhelliad hwn yn gryf, gan nodi’r ffaith fod eithrio’r Eglwys yn hyn o beth yn golygu bod modd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion diogelu treftadaeth ag anghenion gweinidogaeth. Mynnodd mai dim ond yr Eglwys all sicrhau cydbwysedd rhwng y materion hyn, nid y broses gydsynio ar gyfer adeiladau rhestredig sifil. Hefyd, gallai’r Eglwys fabwysiadu agwedd hirdymor at ei heiddo, sy’n anodd i’r broses sifil.
Dywedodd Nicholas Cooke KC (Mynwy), yn y llun, ei fod yn gryf o blaid cadw’r system hawlebau, gan nodi na fyddai’r broses seciwlar gyfochrog byth yn ystyried cenhadaeth yr Eglwys. Hefyd, byddai dileu’r broses hawlebau yn llawer mwy costus, o ystyried bod cangellorion a phwyllgorau cynghori esgobaethol yn cynnig eu gwasanaethau am ddim.
Fe wnaeth y Parchedig Richard Mulcahy (Mynwy) atgoffa’r aelodau fod y broses hawlebau yn cwmpasu pob eglwys, nid eglwysi rhestredig yn unig. Gofynnodd a fyddai modd i’r system hawlebau fod â ‘chyffyrddiad ysgafnach’ ar gyfer adeiladau mwy modern, na fyddai’n cael unrhyw broblem yn gwneud newidiadau mawr iddynt o dan y broses seciwlar.
Roedd y Parchedig Matt Davis (Mynwy) hefyd o blaid cadw’r system hawlebau. Dywedodd fod eglwysi mewn ardaloedd tlotach, fel ei ardal ei hun, yn ei chael hi’n anodd sicrhau’r cyngor a’r gwaith proffesiynol sydd ei angen i fynd drwy’r broses hawlebau, gan fod diffyg pobl fedrus ar gael i helpu yn lleol. “Rwy’n credu bod y system hawlebau yn addas, ond mae angen darparu cymorth mewn rhai ardaloedd sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi.”
Dywedodd Alex Glanville, Cyfarwyddwr Strategaeth Eiddo yr Eglwys, fod yr adolygiad cychwynnol wedi canolbwyntio ar fodolaeth yr hawlebau a’r esemptiad eglwysig, ond unwaith y byddai’r mater hwn wedi’i setlo, byddai’r cam nesaf yn dechrau – sef archwilio sut y gellid gwella’r system hawlebau. Byddai ymgynghoriad eang yn cael ei gynnal er mwyn i eglwysi ac esgobaethau fynegi eu barn, a byddai argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Corff Llywodraethol fis Medi nesaf.
Pleidleisiodd y Corff Llywodraethol i gymeradwyo argymhelliad cyntaf yr adroddiad.
Yna cyflwynodd Mr Llewelyn yr ail argymhelliad, sy’n welliant technegol bach i’r cyfansoddiad yn ymwneud ag Eglwys Gadeiriol Casnewydd. Cafodd ei basio’n gyflym.
Yna cyflwynodd Mr Llewelyn y drydedd eitem, sef cymeradwyo’r adroddiad cyfan gan y Pwyllgor Sefydlog ar faterion cyfreithiol a llywodraethiant.
Dywedodd y Parchedig Ruth Rowan (Mynwy), yn y llun, nad yw’r rhan fwyaf o blant yn cael eu geni ar eu dyddiad disgwyliedig, ac felly nid yw’r rhan fwyaf o dadau yn gwybod pryd y bydd angen iddynt gymryd eu cyfnod byr o absenoldeb tadolaeth. Cwestiynodd y polisi sy’n datgan bod angen 28 diwrnod o rybudd er mwyn rhoi rhybudd am absenoldeb tadolaeth.
Holodd y Parchedig Adam Pawley (Llanelwy) am y ddarpariaeth ar gyfer tadolaeth sydd ar gael i ordinandiaid, a gofynnodd hefyd a allai clerigion gymryd absenoldeb tadolaeth yn dilyn marw-enedigaeth (fel y mae’r gyfraith yn darparu ar ei gyfer).
Awgrymodd Archddiacon Wrecsam, Hayley Matthews (Llanelwy), y gellid defnyddio iaith absenoldeb rhiant a phrif riant a rhiant eilaidd, yn hytrach nag absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb tadolaeth.
Wrth ymateb i’r ddadl ac yn dilyn trafodaeth yn ystod yr egwyl, dywedodd Mr Llywelyn fod penderfyniad wedi’i wneud i dynnu’r polisi tadolaeth yn gyfan gwbl er mwyn trafod y mater eto gyda’r pwyllgor AD, mewn ymateb i rai pryderon am ddrafftio a phryderon eraill a godwyd gan aelodau. Cynigiodd y dylai’r Corff Llywodraethol dderbyn yr adroddiad ar wahân i’r paragraffau sy’n ymwneud â’r polisi tadolaeth.
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig hwn.
Adroddiad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cyflwynwyd adroddiad y brifysgol gan Gwilym Dyfri Jones, profost campysau Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dywedodd fod rhan fawr o lwyddiant y brifysgol yn deillio o’i phartneriaethau, gan gynnwys ei pherthynas hirdymor ag Athrofa Padarn Sant, sy’n parhau i ffynnu a thyfu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r brifysgol wedi sefydlu prentisiaeth newydd mewn cenhadaeth a gweinidogaeth yn y gweithle, sydd wedi croesawu naw myfyriwr llawn amser yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r cymhwyster hwn yn gweithio gyda nifer o enwadau ledled Cymru, gan “ddarparu modd o gydnabod arweinyddiaeth mewn eglwysi”. Mae adolygiad diweddar o ddarpariaeth Athrofa Padarn Sant wedi cydnabod ei safonau uchel o safbwynt darpariaeth academaidd a chymorth i fyfyrwyr.
Mae ymchwil ddiwinyddol yn ffynnu ar y ddau gampws, meddai Mr Dyfri Jones, gan gynnwys cydweithio rhyngwladol. Hefyd, mae caplan Anglicanaidd newydd wedi’i benodi yn ddiweddar. Hefyd, dywedodd fod cyfle i ganolfan Gymraeg y brifysgol weithio gyda’r Eglwys i hybu ei gwaith ei hun ar ddwyieithrwydd.
Dywedodd Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, fod ei esgobaeth yn hynod falch o’i chysylltiad â’r brifysgol.
Sesiwn Pedwar
Hwyrol Weddi
Sesiwn Pump
Drysau Agored y DU
Fe wnaeth Jim Stewart, yn y llun, rheolwr cysylltiadau eglwysig Cymru’r elusen Drysau Agored, ddechrau ei gyflwyniad trwy siarad am waith grŵp eiriolaeth yr eglwys sy’n cael ei herlid. Bob mis Ionawr, mae’r elusen Drysau Agored yn llunio Rhestr Gwylio’r Byd, sy’n nodi’r 50 gwlad yn y byd lle mae’n fwyaf anodd bod yn Gristion. Mae llawer o gredinwyr yn defnyddio’r rhestr hon i lywio eu gweddïau. Yn ôl Drysau Agored, mae un o bob saith Cristion yn fyd-eang yn wynebu erledigaeth neu wahaniaethu. Rhaid i’r chwech arall weddïo a chefnogi eu brodyr a’u chwiorydd gan ystyried goblygiadau dilyn Crist, meddai Mr Stewart. Gall erledigaeth amrywio o fwlio, aflonyddu, cam-drin, trais, carcharu a hyd yn oed farwolaeth. Mewn rhai gwledydd, mae’r pwysau ar Gristnogion ar ffurf gwahaniaethu cyfreithiol llai ymosodol ond llawn mor llechwraidd, ynghyd ag ymdrechion i wthio credinwyr allan o fywyd cyhoeddus.
Ond er gwaethaf hyn, mae’r eglwys sy’n cael ei herlid mewn llawer o wledydd yn parhau i sefyll dros yr Iesu, meddai Stewart, gan gyfeirio at un enghraifft yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo lle roedd eglwys a ddioddefodd ymosodiad bomio wedi llwyddo i ail-agor flwyddyn yn ddiweddarach, gan ddangos cryn ddewrder, gyda phenwythnos lawn o wasanaethau cyhoeddus. Roedd gweinidog o Falaysia a gafodd ei gipio oddi ar y stryd yn 2017 gan y gwasanaethau diogelwch wedi bod yn dysgu’r Ysgrythur ar ei gof er mwyn paratoi ar gyfer y cyfryw sefyllfa, dywedodd ei wraig wrth yr elusen Drysau Agored. Roedd ei wraig wedi dioddef trawma i ddechrau ac wedi dioddef pyliau o banig a phryder ar ôl i’w gŵr ddiflannu, ond ers hynny mae wedi canfod heddwch ac anogaeth trwy encilio ac astudio’r Beibl, meddai Mr Stewart.
Roedd stori Sadrach, Mesach ac Abednego yn llyfr Daniel wedi bod yn ysbrydoliaeth i waith Drysau Agored eleni, esboniodd. Yn y stori hon, tynnodd y tri Hebread “linell yn y tywod” gan wrthod addoli’r ddelw aur. Yn yr un modd, mae un Cristion ifanc – Leah Sharibu – a gafodd ei herwgipio gan gefnogwyr Islamaidd milwriaethus yng Ngogledd Nigeria yn parhau i fod mewn caethiwed flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn wahanol i’w holl ffrindiau a gafodd eu rhyddhau ar ôl troi at Islam, gwrthododd hon wneud hynny, gan dynnu llinell yn y tywod hefyd.
Yn Saudi Arabia, mae Cristnogion sy’n addoli mewn eglwysi cudd yn defnyddio apiau’r Beibl ar eu ffonau yn hytrach na chopïau caled, gan ei bod hi’n hawdd dileu apiau os yw’r awdurdodau yn darganfod eu cynulliadau, meddai Mr Stewart. Hefyd, arweiniodd yr aelodau mewn gweddi dros yr eglwys gudd yn Affganistan yn benodol.
Dywedodd Mr Stewart mai prif weddi Drysau Agored yw y byddai pob crediniwr sy’n cael ei erlid yn aros yn agos at Grist, a gorffennodd drwy arwain yr aelodau wrth ganu’r emyn “Take the name of Jesus with you”.
Fe wnaeth y Parchedig Ruth Coombs (Llandaf), yn y llun, ganmol Drysau Agored, gan ddweud bod copi o lenyddiaeth yr elusen ar gael ym mhob eglwys yn ei hardal weinidogaeth, a chyn bo hir byddent yn dechrau gweddïo unwaith y mis dros bob un o’r 10 gwlad ar frig Rhestr Gwylio’r Byd.
Dywedodd y Parchedig Mark Thomas (Abertawe ac Aberhonddu) ei fod wedi cael ei galonogi wrth wrando ar hanesion ffyddlondeb Cristnogion ym mhedwar ban byd, a’i fod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r eglwys sy’n cael ei herlid ymysg ei gynulleidfa ei hun. Gofynnodd a oes adnoddau penodol ar gael ar gyfer Cristnogion iau i’w helpu i weddïo.
Dywedodd Mr Stewart fod Drysau Agored yn cynhyrchu adnoddau i deuluoedd, fel pasbortau gweddi, er mwyn gweddïo dros wledydd penodol, a allai ennyn diddordeb plant.
Gofynnodd y Parchedig Emma Dale (Llanelwy) a fyddai modd gefeillio eglwysi yng Nghymru gyda chynulleidfa benodol sy’n cael ei herlid dramor, er mwyn datblygu cysylltiadau agosach a gweddïo’n fwy diriaethol.
Dywedodd Mr Stewart fod Drysau Agored yn cynnig cyfleoedd i arweinwyr eglwysi gymryd rhan mewn gweminarau chwarterol a chael mynediad at adnoddau eraill yn uniongyrchol gan Gristnogion tramor, sydd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael i’r cyhoedd.
Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
Cyflwynodd yr Athro Medwin Hughes, yn y llun, cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, adroddiad blynyddol a chyfrifon Corff y Cynrychiolwyr. Roedd yn dda ganddo adrodd bod Corff y Cynrychiolwyr wedi derbyn adroddiad archwilio diamod gan ei archwilwyr allanol, tra bod y gronfa fuddsoddi gyffredin wedi ennill £46m.
Roedd y rhan fwyaf o incwm Corff y Cynrychiolwyr wedi deillio o’i fuddsoddiadau, ac roedd yr incwm hwn wedi cynyddu £1.6m yn 2023. Hefyd, roedd Corff y Cynrychiolwyr wedi talu costau’r esgobion, ac roedd wedi llwyddo i dalu am gyfanswm o 30% o holl wariant yr Eglwys yng Nghymru. Roedd hefyd yn canmol y ffrydiau ariannu gwahanol sydd wedi’u trefnu gan Gorff y Cynrychiolwyr, gan gynnwys Cronfa Twf yr Eglwys, cronfa newydd sy’n ychwanegiad “cyffrous” at yr Eglwys.”Mae Corff y Cynrychiolwyr yn bodoli am un rheswm, sef cefnogi ac ariannu esgobaethau ac ardaloedd gweinidogaeth yr Eglwys,” atgoffodd yr Athro Hughes yr aelodau. “Mae’n gweithredu fel ceidwad ei hadnoddau ac fel ffordd o alluogi’r Eglwys i gyhoeddi’r Efengyl.”
Ni chynhaliwyd trafodaeth, a phleidleisiodd aelodau Corff y Cynrychiolwyr i dderbyn yr adroddiad.
Sesiwn Chwech
Anerchiad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd
Cyflwynodd yr Esgob Gregory yr Esgob Anthony Poggo, yn y llun, ysgrifennydd cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd. Cafodd ei eni yn Sudan ond bu’n rhaid iddo ffoi o’r wlad pan oedd yn flwydd oed, a doedd dim modd iddo ddychwelyd nes ei fod yn naw oed, meddai’r Esgob Cameron. Yn fab i offeiriad Anglicanaidd, cafodd ei addysgu yn Juba, De Sudan, ac yn Rhydychen hefyd. Bu’n gweithio i’r Scripture Union i ddechrau, ac fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn Sudan yn ddiweddarach. Yn 2007 fe’i hetholwyd yn esgob yn Ne Sudan, gwlad sy’n cael ei rhwygo gan ryfel a chynnen fewnol, ond gwlad lle mae’r Eglwys yn gwneud gwaith hynod bwysig i gadw undod cymunedau. Yn 2017 daeth yn gynghorydd Archesgob Caergaint ar faterion y Cymundeb Anglicanaidd ym Mhalas Lambeth, ac yn 2022 daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Cymundeb.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod gwerthfawr o’r Cymundeb Anglicanaidd,
Dechreuodd yr Esgob Anthony ei araith drwy ddiolch i’r Eglwys am y cyfle i fwynhau cymdeithas aelodau’r Corff Llywodraethol. “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod gwerthfawr o’r Cymundeb Anglicanaidd,” meddai. Canmolodd gyfraniad llawer o Anglicaniaid o Gymru at faterion y Cymundeb, gan gynnwys presenoldeb Archesgob Cymru mewn Cyfarfodydd Archesgobion, presenoldeb Esgob Llandaf yn y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd (ACC), ac aelodau lleyg sy’n aelodau o rwydweithiau a mentrau amrywiol. Dylai’r Eglwys yng Nghymru ymfalchïo yn ei gwaith ar gyfiawnder rhywedd, yr amgylchedd, a diogelu, a dylai fod yn hynod falch mai Cymru yw’r dalaith gyntaf sydd â mwy o esgobion benywaidd na gwrywaidd.
Ysgrifenyddiaeth yw Swyddfa’r Cymundeb Anglicanaidd (ACO) yn hytrach na phencadlys y Cymundeb, ac roedd am atgoffa’r aelodau bod yr ACO yn annibynnol ar Balas Lambeth, ac yn gwasanaethu 42 talaith mewn 165 o wledydd. “Rydyn ni’n gweld ein hunain yn dîm galluogi sy’n gwasanaethu ac yn cryfhau bywyd y cymundeb. Mae ein swyddogaeth yn ymwneud â chysylltu eglwysi Anglicanaidd ledled y byd, mewn cenhadaeth a chymdeithas fyd-eang.”
Mae meithrin cysylltiadau rhyng-ffydd ac eciwmenaidd, a gwrando ar bawb yn y Cymundeb, yn elfennau canolog o’i rôl. Yn ystod ymweliadau ag Eglwysi sy’n aelodau o’r Cymundeb, dywedodd yr Esgob Anthony ei fod yn ceisio gwrando a dysgu, a rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu o daleithiau eraill. Erbyn hyn mae wedi ymweld â 21 o daleithiau’r Cymundeb, ac mae pedwar ymweliad arall wedi cael eu cynllunio cyn diwedd 2024. Yn aml, mae ei deithiau yn weithredoedd o undod, yn enwedig wrth ymweld ag Anglicaniaid sy’n wynebu heriau enfawr mewn gwledydd fel Sudan (lle mae’r archesgob yno wedi’i alltudio oherwydd y rhyfel cartref), Myanmar a Jerwsalem.
Roedd yr ymweliadau hyn yn fodd o’i atgoffa mewn ffordd drawiadol “ein bod yn un teulu”, meddai’r Esgob Anthony. Hefyd, mae’r ACO yn cefnogi Pedwar Offeryn y Cymundeb: yr ACC, Cyfarfodydd yr Archesgobion, Cynhadledd Lambeth ac Archesgob Caergaint. Y prosiect mawr nesaf sy’n cael ei baratoi yw’r ACC nesaf yn 2026, a fydd yn cael ei gynnal yn Iwerddon. Ac yn anad dim, y Pum Nod Cenhadaeth yw sylfaen yr holl waith o hyd.
Hefyd, mae’r ACO yn ceisio cynnwys blaenoriaethau Anglicanaidd mewn sgyrsiau byd-eang, fel y rhwydweithiau gwyddoniaeth a ffydd a drafodwyd yn gynharach yn y Corff Llywodraethol, ac yn y Cenhedloedd Unedig lle mae cynrychiolydd Anglicanaidd wedi mynegi safbwyntiau’r Cymundeb ac wedi tynnu sylw at sefyllfa’r Eglwys sy’n cael ei herlid. Mae gwaith eciwmenaidd yn cael ei wneud hefyd, meddai’r Esgob Anthony, gan gyfeirio’n benodol at uwchgynhadledd o esgobion Anglicanaidd a Chatholig ym mis Ionawr. Hefyd, mae’r ACO yn cynhyrchu ac yn rhannu adnoddau ar bob math o bynciau, gan gynnwys cenhadaeth, eglwys ddiogel, yr amgylchedd, ac urddas pobl.
“Mae ein Cymundeb Anglicanaidd yn cynnwys sawl cymdeithas, ond rydym yn parhau i fod yn un teulu. Rydym yn canolbwyntio ar berthnasoedd, sy’n ein huno fel Cymundeb,” meddai.
Rhannodd yr Esgob Anthony straeon am dwf a gobaith er mwyn rhoi hwb i aelodau’r Corff Llywodraethol. Mae’r Eglwys Anglicanaidd wedi tyfu’n aruthrol yn Kenya. Pan astudiodd ddiwinyddiaeth yn Nairobi ar ddechrau’r 1990au, roedd niferoedd yr Eglwysi yn gostwng wrth i lawer o Gristnogion ifanc adael i ymaelodi ag enwadau Pentecostalaidd newydd. Roedd yn cofio mynd ar fws ym 1992 a chlywed jôc y casglwr tocynnau bod mwy na digon o le iddo ar y bws oherwydd bod “y bws mor wag ag eglwys Anglicanaidd”. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach roedd popeth wedi newid - mae’r eglwys gadeiriol yn Nairobi yn cynnal 15 o wasanaethau bob dydd Sul.
“Rwyf am ein hannog i feddwl am ffyrdd arloesol o weithredu yn yr eglwys, yn hytrach na dim ond dweud ‘Dyma sut rydym ni wedi bod yn gwneud pethau erioed’,” meddai. Ystyriwch blannu eglwysi, meddai, gan ganmol y model HTB yn Lloegr sydd wedi helpu i adfywio cynulleidfaoedd segur.
Mae blaenoriaethau’r ACO yn cynnwys helpu i feithrin heddwch ac eirioli dros eglwysi Anglicanaidd sy’n wynebu gwrthdaro, fel Eglwys Jerwsalem sy’n galw am gadoediad yn Gaza. Mae undod yn thema arall, esboniodd yr Esgob Anthony, gan egluro bod gweithgor wedi ei sefydlu yn 2023 i archwilio “cwestiynau diwinyddol yn ymwneud â strwythur a’r broses gwneud penderfyniadau yn y Cymundeb Anglicanaidd”, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gymru. Yn olaf, mae gweddi yn ganolog i’r ACO – bob blwyddyn mae’n gweddïo dros bob un o’r 42 talaith yn eu tro.
Mae gwaith yr ACO yn cael ei ariannu gan gyfraniadau’r taleithiau, ond mae’r cyfraniadau hyn yn lleihau wrth i’r esgid ariannol wasgu mewn llawer o daleithiau. Diolchodd yr Esgob Anthony i’r Eglwys yng Nghymru am ei chefnogaeth.
Wrth gloi, dywedodd ei fod yn cael ei lorio “gan y straeon llawn gobaith rwy’n eu clywed wrth deithio’r Cymundeb”. Mewn ardaloedd sy’n wynebu dioddefaint mawr, mae’r Eglwysi Anglicanaidd yn “camu i mewn i fod yn ddwylo a thraed Crist”, a diolchodd i’r aelodau am eu gwasanaeth ffyddlon eu hunain i’r Arglwydd yn eu cyd-destun. “Gadewch i ni barhau i gerdded gyda’n gilydd yng nghenhadaeth Crist. Mae cymaint mwy sy’n ein huno nag sy’n ein rhannu yn nheulu annwyl ein Cymundeb.”
Yna cyflwynodd yr Esgob Anthony wydr ysgythredig i’r Archesgob Andrew, fel atgof fod teulu Duw yn fregus a bod angen ei “drafod â gofal a gweddi”. Mae’r gwydr wedi’i ysgythru â symbol Rhosyn Cwmpawd y Cymundeb Anglicanaidd gan gyfeirio at yr angen byd-eang am genhadaeth ac undod. Yn gyfnewid am hynny, cyflwynodd yr Archesgob John roddion i’r Esgob Anthony, gan ddiolch iddo am “eich gwaith rhagorol yn cynnwys pob rhan o’r Cymundeb Anglicanaidd”.
Gofynnodd Grace Okutubo (Llandaf) sut y gellid cysylltu ffyrdd newydd, arloesol o weithredu yn yr eglwys â thraddodiadau hynafol.
Gofynnodd y Parchedig Mark Thomas (Abertawe ac Aberhonddu) a allai’r Esgob Poggo sôn wrth yr aelodau am y taleithiau tlotaf yn y Cymundeb a’r rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf, a sut y gallem weddïo drostyn nhw.
Dywedodd Deon Tyddewi, Sarah Rowland Jones, yn y llun, ei bod wedi ymwneud â bywyd y Cymundeb drwy wasanaethu ar ei gomisiynau ers iddi ddod yn ddiacon am y tro cyntaf ddegawdau yn ôl. “Mae wedi cyfoethogi fy mywyd mewn cynifer o ffyrdd,” meddai. Yn aml, mae’r Eglwys yng Nghymru yn byw dan gysgod ei chymydog mawr yn Lloegr, felly mae’n galonogol cysylltu â thaleithiau Anglicanaidd eraill sy’n debycach i Gymru. Roedd yn annog yr aelodau i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Cymundeb.
Wrth ymateb, dywedodd yr Esgob Anthony fod cyd-destun yn hollbwysig. “Peidiwch â chau eich meddyliau a dweud, ‘Dyma sut rydyn ni wastad wedi gwneud pethau yma yn yr eglwys, a dydyn ni ddim yn bwriadu newid’, oherwydd gallech golli’r cyfle i gyrraedd rhai rhannau pwysig o deulu Duw.” Mae’n ymddangos bod pobl Prydain yn byw yn ôl yr 11eg Gorchymyn: “Meindiwch eich busnes.” Ond yn ei ddiwylliant ef, mae cyfle i weinidogion herio a galw pobl i ffordd Crist yn uniongyrchol, meddai.
Mae llawer o daleithiau yn wynebu problemau, meddai’r Esgob Poggo. Roedd yn cofio herio archesgob unwaith am fethiant y dalaith i dalu ei chyfraniadau i’r ACO, ond cafodd wybod bod angen yr arian i drwsio to swyddfa’r dalaith oedd yn gollwng dŵr. Ond mae llawer o’r eglwysi hynny sy’n cael trafferthion ariannol yn gyfoethog yn yr ysbryd, a dyna pam mae cyfnewid rhwng taleithiau mor werthfawr.
I gloi’r sesiwn, arweiniodd yr Esgob Cameron yr aelodau mewn gweddi dros yr Esgob Poggo a’r Cymundeb Anglicanaidd.
Bil Diogelu’r Cyhoedd
Cyflwynodd yr Archesgob eitem ychwanegol yn ymwneud â dedfrydau Carcharu er mwyn Diogelu’r Cyhoedd (IPP), yn dilyn Bil Aelod Preifat diweddar yn Nhŷ’r Arglwyddi. Gofynnodd i’r Barnwr Nicholas Cooke CB am eglurhad ymhellach. Pe bai’n cael ei basio, byddai’r bil yn arwain at ail-ddedfrydu tua 2,750 o bobl sydd yn y carchar ac ar drwydded ar hyn o bryd dan yr IPP, meddai. Mae dedfrydau IPP yn amhenodol ac maen nhw wedi arwain at rai carcharorion yn treulio cyfnodau hir, “arteithiol” yn y carchar neu ar drwydded, meddai’r Barnwr Cooke.
“Mae’n rhaid i ni berswadio’r llywodraeth i fabwysiadu’r bil aelod preifat hwn ac yna defnyddio amser y llywodraeth i sicrhau ei fod yn cael ei basio.”
Dywedodd yr Archesgob Andrew y byddai, gyda chymeradwyaeth y Corff Llywodraethol, yn ysgrifennu at y Llywodraeth yn mynegi cefnogaeth yr Eglwys i ail-ddedfrydu. Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid y dull gweithredu hwn.
Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol
Wrth agor y ddadl, dywedodd y cadeirydd, yr Esgob Gregory, ei bod yn bwysig bod y Corff Llywodraethol yn “effeithiol” yn ei fywyd ac wrth ymgysylltu ag eraill. Rhaid i aelodau deimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth i’r Eglwys yng Nghymru a’n “tystiolaeth i Deyrnas Dduw”. Fodd bynnag, nid yw’n rhad cynnal cyfarfodydd y Corff Llywodraethol, ac mae angen “buddsoddiad pum ffigwr” bob tro. Roedd angen y sesiwn hon er mwyn “manteisio ar eich doethineb” yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethol yn y dyfodol, meddai’r Esgob Cameron.
Ymrannodd yr aelodau yn grwpiau bach er mwyn trafod pa rannau o weithdrefnau a chyfarfodydd y Corff Llywodraethol sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd, a beth y gellid ei wella neu ei newid.
Ar ôl trafod, cyflwynodd sawl aelod adborth ar y sgyrsiau a gynhaliwyd o gwmpas eu byrddau.
Dywedodd y Parchedig Richard Mulcahy (Mynwy) fod ei grŵp wedi canmol y parch sy’n cael ei ddangos i bawb gan aelodau’r Corff Llywodraethol. Byddai’n dda pe bai’r Corff Llywodraethol yn gallu trafod mwy o faterion cyhoeddus a gyflwynir ar y llawr mewn modd amserol. Hefyd, roedd yn cwestiynu ai’r Corff Llywodraethol yw’r cyfrwng gorau ar gyfer lledaenu gwybodaeth o’r lefel daleithiol i'r plwyfi. Hefyd, gellid cynnal mwy o drafodaethau am dwf yr eglwys, y tu hwnt i’r Gronfa.
Roedd Caroline Woollard (Mynwy) yn anghytuno â Mr Mulcahy, gan ddweud bod lledaenu gwybodaeth trwy aelodau’r Corff Llywodraethol yn hanfodol. Roeddent yn canmol y rhyngweithio rhwng aelodau, y siaradwyr gwadd a’r esgobion, gan ddweud bod yr agenda wedi’i chynllunio’n dda i gynnwys pynciau gwahanol.
Dywedodd Melody Lewis (Llanelwy), yn y llun, fod ei bwrdd yn credu y gallai neilltuo cyfnod penodol i bobl ifanc yn ystod cyfarfodydd y Corff Llywodraethol fod yn ddefnyddiol, oherwydd gallai camu ymlaen a defnyddio’r meicroffon yn ystod y trafodaethau cyffredinol fod yn brofiad brawychus iddynt.
Dywedodd Deon Llanelwy, Nigel Williams, fod ei fwrdd ef yn dymuno gweld mwy o drafodaethau ar efengylu a thwf mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.
Fe wnaeth Archddiacon Caerfyrddin, Matthew Hill, ganmol y rhwydweithio a’r drafodaeth anffurfiol y tu allan i sesiynau ffurfiol y Corff Llywodraethol, yn ogystal â’r hyblygrwydd a’r ymatebion i gwestiynau yn ystod y cyfarfodydd.
Wrth gloi, dywedodd yr Esgob Cameron y byddai adborth ysgrifenedig manylach gan bob grŵp yn cael ei gasglu a’i ystyried.
Ffarwelio
Cyflwynodd yr Archesgob deyrnged i Tudur Jones, a oedd yn ymddeol fel y cyfieithydd Cymraeg ar ôl gwasanaethu ym mhob cyfarfod o’r Corff Llywodraethol dros yr 20 mlynedd diwethaf. “Rydym yn ei ystyried yn un ohonom ni,” meddai, gan ddiolch iddo am ei ymroddiad a’i broffesiynoldeb.
Atebodd Mr Jones, gan ddweud ei fod wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau dros y blynyddoedd, ond mai gyda’r Eglwys yng Nghymru yr oedd wedi teimlo’n fwyaf cartrefol. “Mae hynny’n golygu llawer i mi. Byddaf yn trysori’r atgofion, ac rwy’n dymuno’n dda i chi.”
Cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol ddydd Mercher 30 Ebrill a dydd Iau 1 Mai 2025 yn Venue Cymru, Llandudno.