Cymhwystra aelodaeth
Rôl
Mae'r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfyniadau sy'n effeithio ar Ffydd, Trefn ac Addoliad yr Eglwys. Mae ganddo hefyd bwerau i wneud rheoliadau ar gyfer rheolaeth gyffredinol a llywodraethu da yr Eglwys, ac ar ei eiddo a materion eraill (o Bennod 11 Adran 33 o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru).
Y Corff Llywodraethol yw prif ddeddfwrfa'r Eglwys yng Nghymru, sef Senedd yr Eglwys yng Nghymru yn fras.
Cymhwysedd
Unrhyw glerig sy'n dal neu sydd wedi dal –
- anrhydedd;
- uwch-swydd mewn cadeirlan;
- bywoliaeth neu swydd arall o fewn yr Eglwys yng Nghymru;
- trwydded gan Esgob Esgobaethol yng Nghymru.
Unrhyw gymunwr lleyg dros 18 mlwydd oed a than 75 mlwydd oed sydd –
- yn preswylio, neu wedi preswylio am gyfnod o 12 mis, yn un o blwyfi ’r Eglwys yng Nghymru;
- neu y mae ei enw'n ymddangos ar gofrestr etholiadol unrhyw blwyf yng Nghymru;
- nad yw'n perthyn i gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â'r Eglwys yng Nghymru.
Nid yw clerigion neu leygion sydd wedi’u cyflogi’n llawn amser gan Gorff y Cynrychiolwyr, Byrddau Cyllid Esgobaethau neu unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o fewn yr Eglwys yng Nghymru neu sydd wedi bod felly am y 12 mis blaenorol yn gymwys i fod yn aelod o'r Corff Llywodraethol nac o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor.
Ymrwymiad
Mae'r Aelodau'n gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd o gael eu hethol neu eu cyfethol i ddechrau.
Rhaid i'r Corff Llywodraethol u gyfarfod unwaith y flwyddyn; yn ymarferol, mae fel arfer yn cyfarfod ddwywaith. Yn gyffredinol, mae'r cyfarfodydd yn para ychydig dros 24 awr, o amser cinio ar Ddiwrnod 1 i brynhawn Diwrnod 2. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Llanbedr Pont Steffan a Llandudno yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Os caiff aelod ei ethol i'r Pwyllgor Sefydlog, mae'n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn yng Nghaerdydd ac Amwythig, ac mae ei Is-bwyllgorau'n cyfarfod hyd at deirgwaith y flwyddyn, yng Nghaerdydd neu pan fydd aelodau eisoes wedi ymgynnull.
Arbenigedd
Mae busnes y Corff Llywodraethol yn cwmpasu agenda eang iawn sy'n amrywio o lywodraethu'r Eglwys, litwrgi ac athrawiaeth, i faterion sy'n bryder cymdeithasol. O'r herwydd, mae’r Corff Llywodraethol angen aelodau sydd ag ystod eang o ddiddordebau. Er mwyn i'r Corff Llywodraethol gynrychioli barn yr Eglwys yn ei chyfanrwydd mae'n bwysig bod aelodau'n gallu adlewyrchu barn eu heglwysi lleol yn ogystal ag adrodd yn ôl iddynt ar waith y Corff Llywodraethol.
Treuliau
Darperir llety a phrydau bwyd mewn cyfarfodydd a rhoddir ad-daliad rhesymol am gostau teithio.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y Corff Llywodraethol, ffoniwch John Richfield ar (029) 20 348200 neu e-bostiwch johnrichfield@churchinwales.org.uk