Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant
Mae'r gronfa hon bellach wedi cau
Yn anffodus, mae Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant yn dod i ben gyda’r cyfarfod olaf i ystyried unrhyw geisiadau yn cael ei gynnal ym mis Mai 2024 (y ceisiadau i ddod i law erbyn 31 Mawrth 2024). Dylid hefyd anfon unrhyw roddion erbyn 31 Mawrth 2024 fel y gellir eu dosbarthu yng nghyfarfod mis Mai.
Hoffai’r Ymddiriedolwyr ddiolch i bawb am eu rhoddion dros yr 20 mlynedd diwethaf. Erbyn i'r Gronfa gau, bydd wedi dosbarthu dros £1 miliwn o bunnoedd i'r prosiectau gwych sy'n cefnogi plant mewn angen yng Nghymru.
Hanes
Sefydlwyd Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant gan yr Eglwys yng Nghymru yn 2001 fel ymateb i benderfyniad Cymdeithas y Plant i dynnu allan o Gymru.
Mae’r gronfa’n cael ei gweinyddu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a staff Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru sy’n darparu gwasanaeth clerigol a gweinyddol o ddydd i ddydd.
Mae’r gronfa yn elusen gofrestredig. Ein rhif elusen yw 1102236.
Mae pum Ymddiriedolwr, a benodir gan Fainc yr Esgobion. Cadeirydd y bwrdd Ymddiriedolwyr yw’r Parchedig J Michael Williams. Natasha Aldrige yw Ysgrifennydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Beth yw diben y gronfa?
Mae’r gronfa wedi’i sefydlu i gefnogi plant mewn angen a’u teuluoedd a chymunedau lleol drwy roi grantiau i sefydliadau dilys yn y drefn flaenoriaeth a chategorïau canlynol:
- Y rhai sydd yn Esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru.
Mae’r categori hwn yn cynnwys y prosiectau cyfrifoldeb cymdeithasol sydd eisoes ar waith gan 3 Esgobaeth yng Nghymru a phrosiectau plwyfi unigol. Mae ceisiadau gan y grŵp hwn yn cael eu trin yr un fath, nid oes yr un grŵp penodol yn cael blaenoriaeth dros un arall a dyfernir grantiau ar sail teilyngdod pob cais am grant a gyflwynir. - Y rhai sy’n gysylltiedig â chyrff Cristnogol eraill sy’n aelodau o CYTUN.
Mae’r categori hwn yn cynnwys unrhyw gais a wneir o dan faner gorfforaethol un o’r enwadau Cristnogol eraill yng Nghymru, fel y Methodistiaid, Presbyteriaid. Eto, dyfernir grantiau ar sail teilyngdod pob cais a gyflwynir. - Sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phlant mewn angen yng Nghymru.
Mae’r categori hwn yn cynnwys unrhyw gais gan grwpiau seciwlar, e.e. Barnardos, Tŷ Hafan, grwpiau ar ôl ysgol ac unwaith eto dyfernir grantiau ar sail teilyngdod pob cais am grant.
Grantiau
Pa mor aml y mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn dyfarnu grantiau?
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau.
Faint o arian mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ei roi fel arfer?
Nid oes swm penodol o arian sy’n cael ei ddyfarnu i geisiadau llwyddiannus. Gall grantiau amrywio o gyn lleied â £100 i gymaint â £5000, ac o dan amgylchiadau prin iawn bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau brys ac yn dyfarnu grant o fwy na £5000 o bosibl.
Oes modd i mi weld copi o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr?
Cewch, lawrlwythwch:
- CACP 2020 Adroddiad Blynyddol (PDF)
- CACP 2019 Adroddiad Blynyddol (PDF)
- CACP 2018 Adroddiad Blynyddol (PDF)
- CACP 2017 Adroddiad Blynyddol (PDF)
- CACP 2016 Adroddiad Blynyddol (PDF)
O ble daw’r arian?
Codir yr arian drwy’r Eglwys yng Nghymru o gasgliadau mewn gwasanaethau arbennig fel gwasanaethau Cristingl a gynhelir mewn eglwysi plwyf ledled y dalaith. Hefyd o focsys casglu personol, rhoddion a digwyddiadau unigol, fel teithiau beicio noddedig, canu’r clychau noddedig, diwrnodau gerddi agored a llawer mwy.
Lawrlwythwch:
Pa Brosiectau Plant sydd wedi’u cefnogi gan y Gronfa?
Lawrlwythwch:
- The Archbishop Fund For Children newsletter VI 2019/20 - English (PDF)
- Cylchlythyr VI 2019/20 Cronfa Plant yr Archesgob - Cymraeg (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter VI 2019 (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter V 2018 (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter IV 2016 (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter III 2014 (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter II 2012 (PDF)
- The Archbishop Fund For Children newsletter I 2011 (PDF)