Golwg 2020
Gwasanaethu’r gymuned, ysbrydoli pobl, trawsffurfio’r eglwys
Yn dilyn Arolwg yr Eglwys yng Nghymru, mae newidiadau cyffrous ar y gweill wrth i’r Eglwys yng Nghymru nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2020.
Yr ydym yn edrych o’r newydd ar ein strwythur a’n gweinidogaeth i weld sut y gallwn roi’r gwasanaeth gorau i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain a sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau cyfoethog. Ein gweledigaeth yw bod yn galon weddigar i’r gymuned, yn rhannu’r neges Gristnogol mewn ffordd a fydd yn ennyn diddordeb, yn ysbrydoli ac yn trawsffurfio.
Mae rhai o’r newidiadau’n rhai radical, ac yn gwthio yn erbyn ffiniau hen draddodiadau hir sefydledig. Mae eraill yn datblygu newidiadau i’r weinidogaeth sydd eisoes ar y gweill. Mae’r cyfan, fodd bynnag, yn newidiadau y nodasom ni, fel Eglwys, fod angen amdanynt ac wrth eu gwneud gyda’n gilydd, byddwn yn rhoi egni newydd i’n bywyd a’n gweinidogaeth ledled y wlad.
Symposiwm cynnydd ardal gweinidogaeth 2017
Cynhaliwyd Symposiwm yn canolbwyntio ar ardaloedd gweinidogaeth a ffurfiant ardal gweinidogaeth ym Mae Caerdydd ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf 2017, gan ddod â thua 50 o gynadleddwyr o bob rhan o'r dalaith ynghyd.
Cyn y digwyddiad fe baratôdd yr esgobaethau erthyglau yn gosod eu sefyllfaoedd eu hunain o ran ffurfiant ardal gweinidogaeth yn ogystal â'u hymagweddau ato. Cafodd yr erthyglau hyn eu coladu mewn llyfryn ar gyfer y symposiwm, sydd ar gael i'w weld yma:
Ardaloedd Gweinidogaeth
Un o’r newidiadau mwyaf radical yw creu “Ardaloedd Gweinidogaeth”. Ailosodir ffiniau
traddodiadol plwyfi i greu ardaloedd llawer mwy, a wasanaethir gan dîm o bobl, yn glerigion a lleygion.
Mae’r Ardaloedd Gweinidogaeth yn adlewyrchu’r newidiadau enfawr a fu yn ein cymdeithas. Lluniwyd y drefn blwyfol, gydag un offeiriad yn gwasanaethu un gymuned fechan, pan oedd pobl yn byw ac yn gweithio yn yr un plwyf. Bu newid mawr – erbyn hyn, mae’r cymunedau y mae pobl yn perthyn iddynt yn amrywiol iawn, a bydd pobl yn teithio llawer.
Mae’r Ardaloedd Gweinidogaeth yn ymestyn dros ardal ddaearyddol eang. Yn lle dibynnu ar glerigion unigol i wasanaethu i nifer cynyddol o gynulleidfaoedd, gwasanaethir gan dîm cymysg o weinidogion, rhai ohonynt yn gyflogedig ond y rhan fwyaf heb fod felly. Fe all y bydd rhai yn arbenigwyr mewn math arbennig o weinidogaeth, er enghraifft gweinidogaeth i bobl ifainc neu i’r sawl sydd heb ond ychydig, neu ddim, cysylltiad â’r eglwys. Bydd gan eglwysi unigol o hyd arweinwyr lleol, sy’n rhan o’r tîm gweinidogaeth.
Hyfforddi at y Weinidogaeth
Mae Ardal Gweinidogaeth yn alwad ar i holl bobl Dduw mewn ardal arbennig gydweithio yn eu cenhadaeth a’u tystiolaeth, a phawb yn cyflwyno’u doniau at greu gwasanaeth cyflawn. Mae’n alwad ar i bawb a elwir i’r weinidogaeth mewn ardal o’r fath i fod yn gymdeithas Gristnogol gydymddibynnol ac i weithredu fel tîm lle y daw gwahanol ddoniau ynghyd i gyfannu a chyfoethogi ei gilydd. Fel rheol, arweinir y tîm gan offeiriad cyflogedig.
Mae hyfforddiant ar y gweill i baratoi gweinidogion ordeiniedig a lleyg i weithio mewn unedau mwy yn rhan o dîm o weinidogion ac i ddatblygu gweinidogaethau arbenigol.
Cefndir
Yn 2011, comisiynodd yr esgobion dîm o gynghorwyr i gynnal arolwg o’r Eglwys o’r bôn i’r brig.
Tri aelod y tîm oedd:
- Yr Arglwydd Richard Harries, cyn-Esgob Rhydychen; cadeirydd y gweithgor;
- Yr Athro Charles Handy, cyn-Athro yn Ysgol Fusnes Llundain;
- Yr Athro Patricia Peattie, cyn-Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Esgobol yr Alban.
Teithiodd Gweithgor yr Arolwg i bob esgobaeth yng Nghymru a chyfarfu â mwy na 1,000 o bobl mewn cyfarfodydd cyhoeddus i weld pa newidiadau y dymunent eu gweld. Hefyd, gwahoddodd bobl i ysgrifennu ato gyda syniadau at lunio eglwys y dyfodol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd ar wahân â chlerigion blaenllaw pob esgobaeth, â chynghorwyr yr esgobion, ymgeiswyr a staff coleg diwinyddol Cymru, Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, a phrif aelodau staff Corff y Cynrychiolwyr.
Yn y cyfarfodydd agored, gofynnwyd i bobl pa agwedd ar eu hesgobaeth a’r Eglwys yr oeddent fwyaf cadarnhaol ynglŷn â hi, a pha newidiadau yr hoffent eu gweld i wneud gweinidogaeth yr Eglwys yn fwy effeithiol. Gofynnwyd iddynt hefyd sut y byddent yn datrys heriau megis y gostyngiad a ragwelir yn nifer y clerigion ac mewn adnoddau ariannol.