Newid yn yr hinsawdd
Mae Duw'r Ddaear yn erfyn am ein gofal ac os na wnawn ni gyfyngu ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’r nifer o rywogaethau sy’n cael eu difa byddwn yn andwyo ein cartref cyffredin yn barhaol gan atal biliynau o blant Duw rhag ffynnu.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod stiwardiaeth gyfrifol o’r greadigaeth yn rhan annatod o fod yn ddisgybl Cristnogol ac, o ystyried y sefyllfa argyfyngus, yn ymrwymo i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr i sero cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, gan ymgorffori gofal am y byd naturiol ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys, o addoli ac addysgu i reoli adeiladau, tir, ac adnoddau ariannol yn gynaliadwy.
Newyddion
Adnewyddu St Cadoc, Caerllion
Mae Sant Cadog yng Nghaerllion yn cael ei adnewyddu gyda'r nod o gael yr eglwys i sero net. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn cael eu gosod ar gyfer gwresogi dan y llawr a hefyd paneli solar PV. Gadewch i ni gael golwg gyda'r Parchedig Sue Pratten!
Gwahanu gwastraff ar gyfer ailgylchu a thynhau rheoliadau gwastraff bwyd
O 6 Ebrill 2024, mae cyfraith ailgylchu annomestig yn newid yng Nghymru.
Bydd gofyn i bob eglwys a neuadd eglwys fod yn fwy trylwyr wrth ddidoli gwastraff i'w ailgylchu er mwyn galluogi mwy o ailgylchu ac osgoi’r posibilrwydd o groeshalogi.
Darllenwch ein canllaw.
Syniadau nesaf
Y Pecyn Cymorth Ôl-troed Ynni
Mae’r Pecyn Cymorth Ôl-troed Ynni yn un o’r dulliau rydym wedi’u datblygu i fonitro ein cynnydd.
Mae’r briff cyfarwyddiadau atodol yn esbonio sut i gofrestru a defnyddio’r Pecyn Cymorth Ôl-troed Ynni. Gellir defnyddio’r adnodd yn hawdd, mae ar gael i holl eglwysi’r Eglwys yng Nghymru, a bydd yn ein helpu i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd.
Dulliau ymarferol ac ysgrythurol
- Ailddarganfod ein galwad graidd i ofalu am y greadigaeth:
Ein Galwad Cristnogol i Ofalu am y Greadigaeth (PDF) - Mae canllawiau defnyddiol iawn wedi’u paratoi gan Esgobaeth Bangor ar Eco-Eglwys i helpu eglwysi lleol yng Nghymru i gymryd rhan:
Treio'n Ysgafn ar Dir Sanctaidd. Canllaw byr i Eco-Eglwys (PDF) - Gall y llyfryn Eco-Eglwys hynod ddefnyddiol ac ymarferol hwn a luniwyd gan Esgobaeth Llanelwy eich rhoi ar ben ffordd ar eich taith Eco-Eglwys:
Gofalu am ein gilydd, gofalu am greadigaeth Duw (PDF) - Mae’r calendr myfyriol Gofalu am y Greadigaeth, a gynhyrchwyd gan Esgobaeth Tyddewi, yn tynnu sylw at themâu amgylcheddol allweddol drwy gydol y flwyddyn litwrgaidd:
Gofalu am y Greadigaeth drwy’r Flwyddyn Litwrgaidd (PDF) - Hefyd, am ysbrydoliaeth, edrychwch ar straeon a fideos eco-eglwysi bendigedig o Lanelwy.
https://dioceseofstasaph.org.uk/eco-church/eco-church-stories-and-inspiration/ - Mae Eglwys Loegr wedi paratoi gweminarau gwych ar bynciau yn ymwneud â sero net:
Gweminarau ar gyrraedd sero carbon net | Eglwys Loegr - Ar ôl llwyddiant Sul yr Hinsawdd, mae gwefan bwrpasol Dydd Sul yr Hinsawdd yn parhau i fod yn weithredol ac mae ganddi adnoddau gwych o hyd:
Dydd Sul yr Hinsawdd | Cartref | Addoli | Ymrwymo | Siaradwch - Mae rhai cynhyrchion a gwasanaethau defnyddiol iawn a all eich helpu i arbed ynni ac arian wrth Brynu Plwyf:
Prynu Plwyf - Prynu Plwyf - Prynu Gyda'n Gilydd Achub Gyda'n Gilydd - Adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc:
Ffrindiau'r Byd - Mae Cymorth Cristnogol yn cynnig cyfoeth o adnoddau ar effeithiau newid hinsawdd ar ein byd:
Cyfiawnder Hinsawdd - Cymorth Cristnogol
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw awgrym neu adborth yr hoffech ei rannu am Ddi-Garbon Net yr Eglwys yng Nghymru defnyddiwch y ffurflen adborth hon i wneud cyflwyniad. Byddem yn croesawu unrhyw awgrym.