Datganiad Argyfwng Hinsawdd
Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru argyfwng hinsawdd, ac ymrwymodd yr Eglwys i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030.
Lawrlwythwch
Cafodd y cynnig, a gyflwynwyd gan grŵp amgylcheddol yr Eglwys, CHASE (Church Action for Sustaining the Environment), ei dderbyn gyda mwyafrif llethol.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn ein herio i weithredu ar fyrder a dangos ein gofal dros greadigaeth Duw yn ein holl weithgareddau. Fel rhan o’n hymateb, mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys wedi cael yr orchwyl o lunio cynllun gweithredu ar gyfer yr Eglwys, ond wrth gwrs, does dim angen i ni aros am y cynllun cyn gweithredu’n bersonol. Mae pob esgobaeth yn hybu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd ac yn ymateb i her yr hinsawdd.
Mae sylw i’r cynnig a’r drafodaeth am yr Argyfwng Hinsawdd yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol ar gael ar dudalen pigion y Corff Llywodraethol.