Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru
Darllenwch adroddiad o'r gynhadledd
Canolbwynt yr uwchgynhadledd genedlaethol, a gynhaliwyd gan yr Eglwys yng Nghymru, oedd yr argyfwng sy'n wynebu afonydd Cymru. Cynhaliwyd uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru, dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru, ar 7-8 Tachwedd, yng Nghaerdydd. Darllenwch yr adroddiad yma.
Cyflwyniadau’r Uwch Gynhadledd
Daeth uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru ag ystod eang o arbenigwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd. Cyflwynwyd themâu allweddol gan 25 o banelwyr mewn pump sesiwn, a ddilynwyd gan drafodaeth a myfyrdod. Gweld rhestr lawn o'r panelwyr a gwylio eu cyflwyniadau ar y dudalen hon.
Dyfroedd byw
Roedd Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru a gynhaliwyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddyfrffyrdd a phwysigrwydd afonydd glân a diogel i'n hiechyd a'n hecosystem. Mae'r fideo hon yn tynnu sylw at ddiwinyddiaeth y tu ôl i'r uwchgynhadledd, ac yn dangos natur hanfodol dŵr i'n bywyd a'n treftadaeth Gristnogol.
Gweddi dros afonydd
Dywedwch eich stori wrthym
Fe wnaethom wahodd mwy na 90 o bobl a sefydliadau i uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru ond rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy ohonoch chi â diddordeb yn ein dyfrffyrdd. Felly os ydych chi'n poeni am ansawdd dŵr, os oes gennych chi syniadau i'w rhannu neu os hoffech chi gymryd rhan mewn trafodaethau yn y dyfodol, cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni.
Ni fyddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost neu sylwadau ag unrhyw un arall, heb ofyn i chi yn gyntaf.