Argyfwng Wcráin - Gweddïau ac Adnoddau
Mae ymosodiad didrugaredd Rwsia ar Wcráin wedi dychryn ac arswydo pawb ohonom. Mae argyfwng dyngarol yn datblygu’n gyflym wrth i bobl ffoi am eu bywydau ac mae’n rhaid i ni ymateb yn gyflym i helpu. Rwyf yn galw ar ein heglwysi a chymunedau yng Nghymru i gyfrannu’n hael at apêl Cymorth Cristnogol a llofnodi y deiseb i’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud mwy i helpu ffoaduriaid. Mae’n rhaid i ni hefyd barhau i weddïo dros Wcráin a’i holl bobl yn y cyfnod ofnadwy hwnArchesgob Cymru, Andrew John
Mae ymosodiadau mileinig Rwsia ar Wcráin yn cael effaith gwbl ddinistriol ar ei thrigolion. Dianc a throi yn ffoaduriaid fu’r hanes i filiynau, menywod a phlant yn bennaf, tra bod y rhai sydd wedi aros yno yn wynebu amodau cynyddol enbyd.
Yn ôl ffigurau’r Cenhedloedd Unedig, bydd angen cymorth a nodded ar 12 miliwn o bobl yn Wcráin ei hun, ac o bosibl, bydd angen lloches a chymorth ar bedair miliwn a mwy o ffoaduriaid o’r wlad mewn gwledydd cyfagos yn ystod y misoedd nesaf.
Rydym wedi llunio'r dudalen hon i helpu eglwysi ac unigolion sydd am ymateb.
Gweddïo
Fel Cristnogion, mae ein hymateb wedi'i wreiddio mewn gweddi. Defnyddiwch y gweddïau hyn i weddïo dros bawb sydd mewn angen yn awr.
Uno mewn gweddi
Ar ddydd Sul 3 Ebrill 2022, daw eglwysi a Christnogion ar draws y DU ac Iwerddon at ei gilydd mewn weithred o dystiolaeth i weddïo a goleuo canhwyllau dros Wcráin, am ddiwedd i’r gwrthdaro, a thros bawb sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel. Rydym yn gwahodd eglwysi ar draws Cymru i ymuno yn y foment bwysig hon.
Mae Cymorth Cristnogol wedi paratoi gweddi yr ydym yn eich gwahodd i’w rhannu yn ystod eich act o addoliad ar 3 Ebrill, ac os yn bosibl mewn digwyddiad mwy cyhoeddus gydag eglwysi a’r gymuned letach.
- Am fanylion pellach a’r gweddi yn Gymraeg a Saesneg, plîs ewch i: Gweddio dros Wcrain - Cymorth Cristnogol
Gyda’n gilydd fel Cristnogion ar draws yr ynysoedd hyn a chyda’n chwiorydd a’n brodyr yn eglwysi Wcráin, gweddïwn am ddiwedd i’r gwrthdaro ac am heddwch yn ein byd.
Rhoi
Yr angen mwyaf ar hyn o bryd yw rhoddion ariannol er mwyn darparu bwyd, llety dros dro a hanfodion achub bywyd yn gyflym i'r rhai sydd ar ffiniau Wcráin ac yn ffoi rhag trais marwol.
Gallwch gyfrannu drwy:
- Apêl Ddyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) sy'n cael ei gefnogi gan nifer o elusennau gan gynnwys Cymorth Cristnogol.
- Apêl Argyfwng Esgobaeth-USPG yn Ewrop sy'n ceisio cefnogi gwaith rheng flaen caplaniaid ledled Ewrop yn ogystal ag elusennau Cristnogol sy'n gwneud gwaith dyngarol yn Wcráin gan ymateb i ffoaduriaid sy’n cyrraedd y gwledydd cyfagos.
Cefnogi
Hybiau cymunedol
Wrth i'r Llywodraeth greu mwy o lwybrau i ffoaduriaid ymgartrefu yn y DU mae llawer o eglwysi, ysgolion a grwpiau cymunedol yn awyddus i gynnig cymaint o gymorth ag y gallant.
Mae'r elusen Link International wedi partneru gydag eglwysi a sefydliadau ledled y Gogledd i ddod ynghyd ag adnoddau i helpu pobl anghenus iawn sydd wedi'u heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin, wrth iddynt gyrraedd ein cymunedau.
Mae ganddynt gymorth a chyngor ar sut i sefydlu hyb cymunedol i helpu ffoaduriaid yn: https://www.link-international.org/ukraine
Cartrefi
Mae'r elusen Gristnogol, Housing Justice Cymru, yn chwilio am wirfoddolwyr i gynnig gwely sbâr i ffoaduriaid fel bod ganddynt rywle diogel i gysgu. Os hoffech ddarllen mwy am eu rhaglen o gynhaliaeth, ewch ihttps://housingjustice.org.uk/cymru/hosting
Gallwch hefyd gofrestru i noddi ffoaduriaid yn ymgyrch Llywodraeth y DU - Cartrefi i Bobl Wcráin. https://homesforukraine.campaign.gov.uk/
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun hwn. Mae hi'n gweithio gyda chynghorau Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru.
Mae hyn yn cynnwys cynllunio canolfannau croeso a sicrhau y gall pobl sy’n cyrraedd o feysydd y gad ddefnyddio’r holl wasanaethau cofleidiol angenrheidiol.
Ewch i’r wefan i gael mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/diweddariad-ar-y-cynllun-cartrefi-i-wcrain-yng-nghymru
Welcome Churches
Wrth baratoi ar gyfer pobl sy'n cyrraedd y DU o Wcráin, mae Welcome Churches wedi lansio ukrainewelcome.org. Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth yn Saesneg, Wcreineg a Rwsieg i bobl sy'n cyrraedd y DU o Wcráin i'w helpu i ymgartrefu a chysylltu â chymuned, i gael eu croesawu a chael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Ystyriwch a allai eich eglwys chi ymuno â'r rhwydwaith o eglwysi croesawgar.
Am fwy o wybodaeth am Welcome Churches ewch i: https://welcomechurches.org/