Gweddiau dros Wcráin
Gweddi dros Heddwch yn y Byd
Dywedir y weddi hon bob dydd am hanner dydd gan lawer o bobl o bob ffydd, ac o ddim
D duw cariadus,
Arwain ni o farwolaeth i fywyd, o anwiredd a chelwydd at yr gwirionedd.
Arwain ni o anobaith i obaith, Oddiwrth ofn i ymddiriedaeth.
Arwain ni o gasineb i gariad, o ryfel i heddwch.
Boed i dangnefedd lenwi ein calonnau, ein byd, a’n cyfanfyd.
Amen.
Lawrlwythwch
Ymbilio dros Wcráin
Mae’r drefn seml hon yn cynnig fframwaith ar gyfer cyfnod o weddi dros Wcráin, trefn sy’n fwriadol ‘agored’, gan roi cyfleoedd i’r sawl sy’n cymryd rhan i’w haddasu yn ôl y gofyn. Gan fod y newyddion o Wcráin yn newid o awr i awr gellir ychwanegu ymbiliau penodol wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Gan hiraethu am Deyrnas cyfiawnder a thosturi,
gweddïwn ar ein Tad grasol,
trwy Grist, Tywysog Tangnefedd
ac yn nerth yr Ysbryd Glân.
Dros bawb sydd wedi eu dal yn llanast gwrthdaro ...
dros bawb sydd wedi profi erchyllterau ...
dros bawb sy’n ofni beth a ddaw yfory...
Arglwydd, clyw ni:
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n cynnal isadeiledd y wlad a’r gwasanaethau brys ...
dros bawb sy’n cysgodi rhag y bomiau, y taflegrau a’r bwledi ...
dros bawb sy’n codi arfau er mwyn gwarchod eu cymunedau ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n ffoi rhag enbydrwydd trais ...
dros deuluoedd ac anwyliaid sydd wedi eu gwahanu ...
dros wledydd sy’n agor eu calonnau a’u cymunedau er mwyn croesawu’r diymgeledd....
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros y clwyfedig a phawb sy’n gofalu drostynt ...
dros bawb sy’n dod â chymorth brys dyngarol ...
dros bawb sy’n cysuro’r galarus ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n wan a bregus ...
dros bawb sydd ag anableddau ac anghenion arbennig ...
dros fenywod beichiog, plant bychain newydd-anedig a’r amddifaid ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n wynebu perygl wrth amddiffyn eu cenedl ...
dros bawb sy’n ceisio dilyn llwybrau diplomataidd ...
dros bob proffwyd dewr sy’n siarad dros gyfiawnder yn wyneb camwedd ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros newyddiadurwyr sy’n agor llygaid y byd i weld gorthrwm rhyfel ...
dros bawb sy’n dylanwadu ar galonnau a meddyliau ...
dros bawb sy’n ymdrechu er mwyn datgelu’r gwirionedd ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n arwain: yn Wcráin, yn Rwsia ac mewn gwledydd eraill ...
dros bawb sy’n ceisio eu dibenion hunanol eu hunain heb ystyried y dioddef a ddaw i eraill...
dros bawb sydd am weithio’n daer i weld goleuni yn trechu pob tywyllwch...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros lywodraethau a gwleidyddion ledled y byd ...
dros gymodwyr a thangnefeddwyr, llysgenhadon a diplomyddion ...
dros yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n diystyru rhyddid a sofraniaeth gwledydd eraill...
dros bawb sydd wedi eu difa gan atgasedd oddi mewn ...
dros bawb sy’n magu casineb a chreulondeb ...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dros bawb sy’n edrych dros ffiniau ac yn gweld nid gelynion ond cyfeillion ...
dros bawb sy’n dirnad dy lun dwyfol di yn eu chwiorydd a’u brodyr...
dros bawb sy’n dyheu am guro pob cleddyf yn gaib a phob gwaywffon yn gryman...
Arglwydd, clyw ni
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Dduw, ein noddfa a’n nerth,
ein craig a’n hamddiffynnydd,
yr wyt ti’n clywed wylofain dy bobl
ac yn edrych yn dosturiol ar y dolurus.
Yn dy nerth gwyrthiol,
dyro i’r rhai sy’n gormesu wir edifeirwch
a’r gras i’th dangnefeddwyr gymodi, iacháu ac adfer.
Tro galonnau dy holl bobl at ffyrdd cyfiawnder, daioni a thrugaredd
a dyro i’n byd weledigaeth o’th Deyrnas ogoneddus
ble yr wyt ti’n teyrnasu yng ngrym cariad perffaith,
yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân.
I ti y bo’r gogoniant am byth.
Amen.