Ein cyfeillion
Trydydd Urdd (Anglicanaidd) Cymdeithas Sant Ffransis (TSSF)
Urdd Grefyddol Ffransisgaidd Anglicanaidd fyd-eang yw TSSF, urdd o ddynion a menywod dros 18 oed, yn lleyg ac ordeiniedig, priod a sengl, hen ac ifanc, ac o wahanol gefndiroedd ethnig ac addysgol. Rydym yn ymrwymo i fyw ein bywydau yn ôl Rheol Bywyd, tra’n preswylio yn ein cartrefi ein hunain, gweithio yn y gymuned a gofalu am ein teuluoedd. Mae rhyw 2500 o aelodau ar draws y byd, 1500 ohonynt yn Ewrop.
Amcanion yr Urdd yw:
- Gwneud ein Harglwydd Iesu Grist yn hysbys i bawb ac yn wrthrych eu cariad
- Lledaenu ysbryd cariad a chytgord
- Byw’n syml
Beth sy’n neilltuol ynghylch ei aelodau?
Mae Tertiaid, yr enw a roddir i’r aelodau, yn awyddus i gael eu cydymffurfio â delw Iesu Grist, yr un yr ydym yn ei wasanaethu trwy weddi, astudiaeth a gwaith, yn ôl esiampl Sant Ffransis a’r Santes Clare. Gostyngeiddrwydd, cariad a llawenydd yw prif elfennau ein bywydau. Rydym yn cael ein hysbrydoli gan her Sant Ffransis i’r Eglwys i ddilyn bywyd Iesu yn agos ar y ddaear, i gyhoeddi’r efengyl a dwyn cyfiawnder a heddwch.
Mae bywyd yr Urdd wedi’i wreiddio mewn addoliad Ewcaristig a gweddi bersonol, a chredwn ein bod wedi’n galw i wasanaethu o fewn yr Eglwys ac yn y byd, wedi’n cyfoethogi a’n nerthu gan gyfnodau o fyfyrio ac encilio. Gwyddom am lawer o ddynion a menywod sanctaidd nad ydynt yn aelodau o urdd grefyddol. Ond i ni, mae hyn yn bwysig i’n ffordd o fyw yn ogystal ag i’n hymroddiad.
Mae Ffransisiaid yn dymuno addoli a gwasanaethu Duw yn ei Greadigaeth ac o’r herwydd maent wedi addunedu i wasanaethu eraill ac i barchu pob agwedd ar fywyd. Rydym yn anelu at ffordd o fyw syml ac at hunan-ymwadu, byw mewn undod â thlodi’r byd a derbyn ei hawl ar ein stiwardiaeth.
Ffransis ei hun sefydlodd y Drydedd Urdd ar gyfer lleygion a oedd yn dymuno byw yn ôl Rheol Bywyd y Ffransisiaid, heb ddod yn aelodau o’r Urdd Gyntaf fel Brodyr. Cafodd Rheol ar gyfer y Drydedd Urdd ei chymeradwyo gan y Pab ym 1221. Mae dynion a menywod yr Urdd Gyntaf yn byw o fewn cymuned dan Reol Ffransisgaidd seiliedig ar yr addunedau traddodiadol – tlodi, diweirdeb ac ufudd-dod. Maent fel arfer yn gwisgo abid brown. Mae’r Ail Urdd (Cymuned y Santes Clare/y Clariaid) yn cynnwys menywod sy’n teimlo’u bod wedi’u galw gan Dduw i fywyd caeëdig o weddi fyfyriol, ynghyd â gwaith i fod yn hunan-gynhaliol.
Yr Urdd yng Nghymru
Yn Ardal Cymru , mae gan yr Urdd tua 80 o Dertiaid, wedi eu rhannu yn saith Grŵp, ynghyd â 10 neu ragor sydd â’u cysylltiad â’r Urdd ar wahanol raddau. Clerigion ordeiniedig sy’n cynrychioli ychydig dros chwarter o’r rhain. Yn ogystal a chyfarfodydd Grŵp ac Ardal, rydym yn trefnu nifer o Ddyddiau Tawel ac un neu ragor o encilion myfyriol blynyddol yng Nghymru: mae’r rhain fel arfer yn agored i bobl o’r tu allan i’r Urdd. Yng Nghymru, rydym yn derbyn ffrwd gyson o ymholiadau gan bobl sy’n dymuno byw dan Reol Bywyd ac wedi’u denu gan esiampl Sant Ffransis.
Am ragor o wybodaeth am TSSF gweler www.tssf.org.uk. I holi ynghylch Aelodaeth, llenwch y ffurflen ar y safle, neu ysgrifennwch at novguard@tssf.org.uk.