Cyn-Eglwysi a Neuaddau Eglwys
Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am gyn-eglwysi ar ôl iddynt gau ar gyfer addoli a neuaddau eglwys sydd wedi cau.
Mae’r rhestr isod yn rhoi manylion y cyn-eglwysi a neuaddau sydd ar werth ar hyn o bryd. Cofiwch y gall rhai ohonynt fod â chynnig wedi’i roi amdanynt eisoes.
Gan amlaf mae’r eiddo yn cael eu cynnig fel rhai rhyddfraint gyda rhai cyfyngiadau ynglŷn â’u defnydd yn y dyfodol; gellir cael gwybodaeth bellach oddi wrth yr asiant sydd wedi’i benodi i’w gwerthu.
Mae’n ofynnol i Gorff y Cynrychiolwyr gydymffurfio â’r ddeddf elusennau wrth werthu ei eiddo. Ni ellir gwarantu cywirdeb y disgrifiadau o’r adeiladau a enwir isod.
Eglwys Sant Tomos, Bylchau
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_Thomas_Church_Bylchau.width-1200.jpg)
Lleolir hen Eglwys Sant Tomos ym mhentref bach gwledig Bylchau gyda mynediad hawdd i dref farchnad hanesyddol Dinbych gerllaw.
Eglwys Sant Ffraid, Glyn Ceiriog
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_Ffraids_Church_Glyn_Ceiriog.width-1200.jpg)
Lleolir Eglwys Sant Ffraid gynt ym mhentref Glyn Ceiriog ar safle uchel ar ochr ogleddol Dyffryn Ceiriog.
Eglwys Sant Issel, Haroldston St Issell
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_Issells_Church_Haroldston_St_Issell.width-1200.jpg)
Lleolir hen Eglwys Sant Issel tua milltir i'r de-ddwyrain o dref sirol Hwlffordd mewn lleoliad isel ger rhannau corsiog yr afon Cleddau.
Eglwys Sant Llywel, Llanllywel
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former-St-Llywels-Church-Llanllywel-962x1024.width-1200.jpg)
Mae’r adeilad a oedd gynt yn Eglwys Sant Llywel wedi ei leoli yn Llanllywel, pentref ar gyrion Brynbuga yn Sir Fynwy wledig.
Eglwys Sant Tydecho, Llanymawddwy
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Llanymawddwy.width-1200.jpg)
Lleolir hen Eglwys Sant Tydecho ym mhentrefan Llanymawddwy sydd i'r gogledd o Ddinas Mawddwy. Mae'r eglwys yn rhestredig Gradd II. Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ailddefnyddio'r hen eglwys hon.
Eglwys Santes Mair, Northop Hall
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_Marys_Church_Northop_Hall.width-1200.jpg)
Mae Eglwys Santes Mair gynt wedi’i lleoli ym mhentref mawr Northop Hall ger Yr Wyddgrug , Sir y Fflint.
Eglwys y Santes Fair Fadlen, Tallarn Green
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_Mary_Magdalene_Tallarn_Green.width-1200.jpg)
Lleolir hen Eglwys Santes Fair Magdalene ym mhentref Tallarn Green sydd tua 5 milltir o bentref Malpas. Mae'r canolfannau o Wrecsam, Chester a Shrewsbury i gyd o fewn pellter moduro hawdd.
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ysbyty Ystwyth
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Former_St_John_the_Baptist_Ysbyty_Ystwyth.width-1200.jpg)
Lleolir hen Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr ar gyrion Cwm Ystwyth Uchaf yn Ysbyty Ystwyth.