Eglwys Sant Llywel, Llanllywel
Mae’r adeilad a oedd gynt yn Eglwys Sant Llywel wedi ei leoli yn Llanllywel, pentref ar gyrion Brynbuga yn Sir Fynwy wledig. Mae’n eglwys restredig Gradd II ac nid yw wedi’i lleoli o fewn Ardal Gadwraeth. Os yw darpar brynwyr yn ystyried unrhyw newidiadau i ddefnydd yr adeilad awgrymir eu bod yn ymgynghori ag adran gynllunio Cyngor Sir Fynwy. Cymerwch olwg ar wefan yr asiant sy’n gwerthu i weld manylion yr arwerthiant ar-lein.
Asiant Gwerthu: Hutchings & Thomas Chartered Surveyors
- Cyfeiriad: The Estates Office, 25-26 Gold Tops, Casnewydd, NP20 4PG
- Ffôn: 01633 214444
- E-bost: ht@hutchings-thomas.co.uk
Nodwch fod yna gynnig eisoes am yr eglwys hon.