Strwythur
Talaith yw’r Eglwys yng Nghymru sy’n cynnwys chwe esgobaeth. Mae pob Esgobaeth yn cynnwys archddiaconiaethau. Mae’r archddiaconiaethau’n cynnwys plwyfi sydd wedi eu strwythuro ymhellach ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth tîm mewn un neu fwy o wahanol grwpiau. Bydd y math o grŵp yn dibynnu ar yr anghenion lleol, ond bydd cysondeb yn eu strwythur ym mhob Esgobaeth ar draws yr archddiaconiaethau. Mae ein strwythurau naill ai wedi eu had-drefnu’n ddiweddar, neu wrthi’n cael eu had-drefnu, a hynny’n rhoi rhwyddineb i’r grwpiau sy’n bod eisoes.
Esgobaethau
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnwys chwe esgobaeth. Caiff pob esgobaeth ei harwain gan Esgob Esgobaeth.
Archddiaconiaethau
Ardaloedd o fewn esgobaethau yw archddiaconiaethau, pob un yn cael ei chynnal gan Archddiacon sy’n cynorthwyo’r Esgob yng ngweinidogaeth yr Esgobaeth. Mae’n bosibl, er nid oes raid, i archddiaconiaethau gael eu rhannu ymhellach yn Ddeoniaethau.
Deoniaethau
Grwpiau o Ardaloedd Cenhadaeth/Gweinidogaeth sy’n cael eu cydgysylltu gan Ddeon Ardal yw Deoniaethau. Clerig hŷn o fewn y ddeoniaeth yw’r Deon Ardal fel arfer.
Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth
Grŵp neu dîm o Eglwysi, Plwyfi neu Fywoliaethau o fewn ardal ddaearyddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i rannu swyddogaethau gweithredol neu weinyddol – dyna yw Ardal Cenhadaeth neu Weinidogaeth. Gall Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth gael eu rhannu ymhellach yn fywiolaethau neu blwyfi. Caiff clerigion eu neilltuo i Ardal Gweinidogaeth er y gallant gael eu neilltuo i faes cyfrifoldeb arbennig. Bydd Arweinydd gan bob Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth.
Bywiolaethau
Gall bywoliaeth gynnwys un plwyf neu ragor sydd wedi eu dwyn ynghyd i ffurfio grŵp sy’n rhannu adnoddau ac yn cefnogi ei gilydd. Cofiwch fod gan enwau bywiolaethau darddiad eglwysig, ac na fydd ganddynt o reidrwydd unrhyw gysylltiad ag enwau sifil y lleoliadau.
Plwyfi
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnwys mwy na 380 o blwyfi. Mewn rhai Esgobaethau yr un yw’r Plwyf a’r Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth. Os ydych yn byw yng Nghymru, byddwch yn byw mewn plwyf. Mae pob plwyf yn cwmpasu ardal ddaearyddol fechan. Mae un neu ragor o eglwysi sy’n rhannu cyfrifoldebau gweithredol ymhob plwyf.