Hafan Amdanom ni Galwedigaethau a Dirnadaeth

Galwedigaethau a Dirnadaeth

Galwad gan Dduw i wneud beth?

Galwedigaeth – yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw canfod beth y mae Duw yn eich galw i fod ac i’w wneud. Beth bynnag fo’ch taith, mae gan bawb alwedigaeth. Beth yw eich galwedigaeth chi?

I bob un ohonom, bydd ein galwedigaeth yn golygu gwasanaethu Duw drwy ddisgyblaeth ffyddlon yn ein bywydau bob dydd a defnyddio’r doniau a’r galluoedd a roddwyd gan Dduw gyda’n teulu, yn ein gweithle neu yn ein cymuned. Law yn llaw â hynny, i rai, mae’r alwad hon hefyd yn arwain at ddefnyddio’r doniau a’r galluoedd hynny ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys.

Mae Duw yn galw pobl i weinidogaethau amrywiol, yn lleyg ac yn ordeiniedig. Yn yr Eglwys yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, ymwelwyr bugeiliol, arweinwyr addoliad, efengylwyr, gweinidogion lleyg trwyddedig (Darllenwyr), arloeswyr, diaconiaid ac offeiriaid.

Os ydych yn ystyried galwad i weinidogaeth benodol, neilltuwch amser i wneud y canlynol:

  • Gweddïo – gwrando ar union natur galwad Duw.
  • Siarad – trafod eich galwad gyda’ch ffrindiau, eich teulu ac arweinwyr eich eglwys.
  • Gweithredu – pori drwy’r dolenni isod a gofyn i arweinwyr eich eglwys eich rhoi mewn cysylltiad â’r tîm galwedigaethau yn eich esgobaeth.

Yn gyffredinol, mae gweinidogaethu yn yr Eglwys yng Nghymru yn perthyn i bedwar categori: Cydnabyddedig, Comisiynedig, Lleyg Trwyddedig ac Ordeiniedig.

Gweinidogaeth leyg gydnabyddedig

Mae amryw o weinidogaethau cydnabyddedig yn eich ardal weinidogaeth/ardal genhadaeth leol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys wardeniaid eglwys, swyddogion diogelu, arweinwyr grwpiau cartref, athrawon Ysgol Sul neu weinidogion ieuenctid. Neu efallai eich bod chi’n gweddïo ac yn gwrando neu’n helpu i ehangu’r eglwys mewn ffordd benodol.



Gweinidogaeth leyg gomisiynedig

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cadarnhau ffurfiau ar weinidogaeth leyg gyhoeddus, achrededig a elwir yn weinidogaethau comisiynedig. Ar hyn o bryd, mae tri math o weinidogaeth gomisiynedig: Arweinydd Addoliad, Cynorthwy-ydd Bugeiliol a Chategydd.



Gweinidogaeth leyg drwyddedig

Mae Gweinidogion Lleyg Trwyddedig yn cael eu trwyddedu gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer gweinidogaeth gyhoeddus gynrychiadol. Maen nhw’n chwarae rôl hollbwysig ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru, gan wasanaethu ochr yn ochr â chlerig i feithrin ffydd a hyrwyddo cenhadaeth. Lleygion yw’r rhain sydd wedi’u hyfforddi a’u trwyddedu gan yr esgob i gyflawni eu gweinidogaeth.



Gweinidogaeth ordeiniedig

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ordeinio diaconiaid ac offeiriaid er mwyn meithrin disgyblion ac ehangu teyrnas Dduw. Mae’r Eglwys wedi ymrwymo i helpu pobl o bob cefndir i archwilio a dirnad eu galwad i’r weinidogaeth ordeiniedig, boed i’r ddiaconiaeth neilltuol neu i’r offeiriadaeth.