Gweinidogaeth leyg gomisiynedig
Ydy Duw yn eich galw chi i’r weinidogaeth leyg gomisiynedig yn yr Eglwys yng Nghymru?
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cadarnhau ffurfiau ar weinidogaethau lleyg cyhoeddus achrededig, neu weinidogaethau comisiynedig. Ar hyn o bryd, mae tri math o weinidogaeth gomisiynedig:
Mae galwad unigolion i’r gweinidogaethau hyn yn cael ei ddirnad yn lleol, yn yr ardal weinidogaeth/genhadaeth, ac mae’r hyfforddiant a’r gofynion ar gyfer y rolau hyn yn amrywio o un esgobaeth i’r llall. Y cam cyntaf felly yw siarad ag arweinydd eich eglwys neu gaplan am eich ymdeimlad o’ch galwad, a fydd yn eich helpu i bwyso a mesur y cyfleoedd gwahanol sydd ar gael yn eich esgobaeth benodol chi. Dyma fydd dechrau eich taith ddirnad, lle gallwch weld a ydy’r weinidogaeth gomisiynedig yn addas i chi, ac a ydych chi’n addas ar gyfer gweinidogaeth gomisiynedig.
Arweinydd Addoliad
Mae Arweinwyr Addoliad yn weinidogion lleyg comisiynedig sy’n cynorthwyo gweinidogion trwyddedig ac ordeiniedig i arwain gwasanaethau addoliad. Gallai eu gwaith gynnwys:
- arwain gwasanaethau boreol a hwyrol weddi
- cynorthwyo gyda Gweinidogaeth y Gair pan fo’r Cymun yn cael ei weinyddu
- arwain Gwasanaethau’r Gair, o fewn a thu allan i’r eglwys, pan na fydd pregeth neu Gymun
- arwain yr ymbiliau neu alluogi eraill i wneud hynny
- annog yr Eglwys i ddatblygu creadigrwydd ac arfer da o ran ei litwrgi a’i haddoliad
Am ragor o wybodaeth, mae taflen am arweinwyr addoliad ar gael yma:
Cynorthwy-ydd Bugeiliol
Mae Cynorthwywyr Bugeiliol yn weinidogion lleyg comisiynedig sy’n cefnogi gweinidogion ordeiniedig i ddangos cariad tebyg i Grist a chonsyrn tuag at eraill trwy ofal bugeiliol o fewn a thu allan i’r eglwys. Mae eu gwaith yn cynnwys:
- bod gyda’r claf a’r dioddefus, gwrando arnynt a gweddïo drostynt
- ymweld â’r cleifion a’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi ar ran yr eglwys
- ymgymryd â dirnadaeth a hyfforddiant ychwanegol ar gyfer arbenigeddau ychwanegol megis priodasau, bedyddiadau, gweinidogaeth galar, gweinidogaeth Ewcaristig, neu weinidogaeth gweddïo ac iachau
Am ragor o wybodaeth, mae taflen am gynorthwywyr bugeiliol ar gael yma:
Categyddion
Gweinidogion lleyg comisiynedig yw categyddion sy’n cynorthwyo gweinidogion ordeiniedig i helpu pobl i ddyfnhau eu ffydd trwy ddysgu a galluogi astudio o fewn yr eglwys leol. Mae eu gwaith yn cynnwys:
- annog yr eglwys i dyfu mewn gwybodaeth, ffydd a disgyblaeth trwy astudio a myfyrio
- galluogi eraill i archwilio eu credoau drostynt eu hunain
- arwain mewn modd a fydd yn hwyluso grwpiau astudio ar gyfer rhaglenni a chyrsiau ar fod yn ddisgyblion
- cynorthwyo i baratoi ymgeiswyr ar gyfer bedydd a chonffyrmasiwn
Am ragor o wybodaeth, mae taflen am gategyddion ar gael yma:
Gweinidogaeth Gomisiynedig yn yr Eglwys yng Nghymru – Categydd (PDF)
Dirnad eich galwad yn eich esgobaeth
Ewch i wefan eich esgobaeth i bori drwy’r gweinidogaethau a dechrau dirnad union natur galwad Duw ar eich cyfer: