Gweinidogaeth ordeiniedig
Ydy Duw yn eich galw chi i’r weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru?
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ordeinio diaconiaid ac offeiriaid er mwyn meithrin disgyblion ac ehangu teyrnas Dduw. Mae’r Eglwys wedi ymrwymo i helpu pobl o bob cefndir i archwilio a dirnad eu galwad i’r weinidogaeth ordeiniedig, boed i’r ddiaconiaeth neilltuol neu i’r offeiriadaeth. Drwy broses o fyfyrio gweddigar a dirnad, bydd eich esgobaeth yn eich cefnogi wrth i chi deithio tuag at ddeall pwrpas Duw ar gyfer eich bywyd.
Mae gweinidogaeth ordeiniedig yn ymrwymiad sylweddol a chyffrous, sy’n gofyn am ystyriaeth ofalus a pharatoi gweddigar. Ar ôl i chi weddïo am eich galwad, y cam nesaf yw siarad ag arweinydd eich eglwys neu gaplan am eich ymdeimlad o’ch galwad, cyn iddynt eich helpu i archwilio pa fath o weinidogaeth sy’n gweddu orau i’ch doniau a’ch galluoedd unigryw chi. Pan fydd yr amser yn iawn, bydd tîm galwedigaethau yr esgobaeth yn cysylltu â chi ac yn rhoi ystyriaeth weddigar i’ch galwad a’ch addasrwydd ar gyfer hyfforddiant ordeinio.
Mae pob gweinidog ordeiniedig yn cofleidio’r alwad i rannu cariad Duw gydol eu hoes. Mae rhai gweinidogion yn llawn amser ac yn derbyn cyflog. Gweinidogaeth ordeiniedig gyflogedig yw’r enw ar hyn.
Mae gweinidogaeth ordeiniedig hefyd yn gallu digwydd law yn llaw â gwaith ac ymrwymiadau eraill, gan gynnig cyfle unigryw i rannu cariad Crist yn yr eglwys ac yn eich bywyd bob dydd. Gweinidogaeth ordeiniedig ddigyflog yw’r enw ar hyn.
Mae’n bosibl y bydd rhai esgobaethau hefyd yn cynnig ffurf wahanol ar weinidogaeth ordeiniedig ddigyflog, sef gweinidogaeth ordeiniedig ddigyflog leol, dull arloesol sy’n edrych ar ffyrdd newydd a dychmygus o ymgysylltu â phobl na fyddai’n cael cyfle i archwilio ffydd fel arall.
I’r weinidogaeth ordeiniedig yn ei chyfanrwydd, mae’r broses ddirnad daleithiol yn digwydd mewn dau gam. Y cam cyntaf yw panel sgwrsio mewn parau, sy’n cael ei gynnal ar-lein dros gyfnod o ddiwrnod. Mae’r ail gam, y Panel Dirnad Taleithiol, yn banel dirnad wyneb yn wyneb sy’n cael ei gynnal dros dri diwrnod.
Drwy gydol y ddau gam, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Esgobaethol sy’n gyfrifol am Ymgeiswyr, gan ddefnyddio’r rhinweddau dirnad i arwain y broses. Bydd y rhinweddau hyn yn destun archwilio manwl gan y naill ochr a’r llall. Mae dogfen yn manylu ar y rhinweddau hyn ar gael yma:
Os yw rhai o’r rhinweddau hyn yn teimlo’n anghyfarwydd i ddechrau, peidiwch â phoeni – bydd eich Cyfarwyddwr Esgobaethol sy’n gyfrifol am Ymgeiswyr a’r tîm galwedigaethau yn eich arwain drwy’r broses ddirnad ac yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd.
Y Broses Ddirnad dau gam
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os mai dyna’r argymhelliad, byddwch yn hyfforddi drwy Athrofa Padarn Sant. Mae’r llwybrau hyfforddi yn amrywio, gyda rhai yn llawn amser (byddwch yn treulio peth amser yn byw yng nghymuned y coleg a pheth amser yn gwasanaethu mewn ardal weinidogaeth/ardal genhadaeth leol) neu’n rhan-amser (wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch gwaith bob dydd). Mae’r holl gostau hyfforddi yn cael eu talu gan yr Eglwys. Os byddwch yn hyfforddi’n llawn amser, byddwch yn derbyn grant tuag at eich costau byw. Am ragor o wybodaeth am gyllid a gweinidogaeth:
Ar ôl cwblhau’ch ffurfiant a’ch hyfforddiant cychwynnol, cewch eich ordeinio’n ddiacon gan eich esgob a dechrau fel curad mewn ardal weinidogaeth/ardal genhadaeth, gan wasanaethu ochr yn ochr ag offeiriad profiadol. Mae’r profiad ymarferol hwn yn eich helpu i’ch paratoi ar gyfer eich gweinidogaeth, gan roi cyfle i chi roi eich hyfforddiant ar waith.
Fel diacon, gallwch weinyddu mewn gwasanaethau priodas a bedydd, ond bydd angen i chi gael eich ordeinio fel offeiriad i weinyddu’r Cymun Sanctaidd. Bydd hyn fel arfer yn digwydd ar ôl eich blwyddyn gyntaf fel curad.
Am ragor o wybodaeth am hyfforddi mewn coleg diwinyddol, gweler gwefan Padarn Sant:
Dirnad eich galwad yn eich esgobaeth
Ewch i wefan eich esgobaeth i bori drwy’r gweinidogaethau a dechrau dirnad union natur galwad Duw ar eich cyfer: