Hafan Amdanom ni Galwedigaethau a Dirnadaeth Gweinidogaeth leyg gydnabyddedig

Gweinidogaeth leyg gydnabyddedig

Ydy Duw yn eich galw chi i’r weinidogaeth leyg gydnabyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru?

Mae yna amryw o weinidogaethau cydnabyddedig yn eich ardal weinidogaeth/genhadaeth leol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys wardeniaid eglwys, swyddogion diogelu, arweinwyr grwpiau cartref, athrawon Ysgol Sul a gweinidogion ieuenctid. Neu efallai eich bod chi’n rhywun sy’n gwasanaethu drwy weddïo a gwrando neu’n helpu i ehangu’r eglwys mewn ffordd benodol.

Mae dirnadaeth a hyfforddiant ar gyfer y gweinidogaethau hyn yn cael eu trefnu’n lleol, dan gyfarwyddyd arweinydd yr ardal weinidogaeth/genhadaeth. Gyda rhai rolau, bydd angen gwneud peth hyfforddiant cenedlaethol hefyd, megis cyrsiau diogelu. Fel gweinidog cydnabyddedig, byddech fel arfer yn cael eich cefnogi a’ch goruchwylio gan arweinydd eich ardal weinidogaeth/genhadaeth neu glerig arall a benodwyd i oruchwylio eich rôl.

Os ydych chi’n teimlo galwad i wasanaethu eich eglwys leol mewn rôl gweinidogaeth leyg gydnabyddedig, siaradwch ag arweinydd eich eglwys neu gaplan i ystyried sut y gallai hynny ddigwydd.