Y Gymraeg
Y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru
Fel nifer o wledydd eraill ble mae dwyieithrwydd (neu amlieithrwydd) yn agwedd bwysig o fywyd dyddiol ac o’r hunaniaeth genedlaethol, mae gan Gymru drysorau ieithyddol a diwylliannol arbennig ac, fel Eglwys, ymfalchïwn yn y fath gyfoeth. Mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yn yr Eglwys yng Nghymru wrth i Gristnogion ledled y wlad addoli, tystio a gwasanaethu Duw a’u cymunedau. Ledled Cymru cynhelir bedyddiadau, priodasau ac angladdau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog. Gallwch ddysgu mwy am y ‘digwyddiadau bywyd’ hyn yma. Ein gobaith ydy parhau i ddatblygu ein darpariaeth fel y bydd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth yn y Gymraeg – fel yn y Saesneg – yn cryfhau ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu.
Gofal ein Gwinllan
Cyfres newydd o weminarau yn Gymraeg ydy Gofal ein Gwinllan, yn olrhain sut y bu’r Eglwys yng Nghymru yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Gymraeg, ei llên a’i diwylliant. Cynhelir y gyfres gyntaf yn ystod Gwanwyn 2021, yn canolbwyntio ar yr ail ganrif ar bymtheg, gyda gweddill yr hanes i ddilyn yn y cyfresi a fydd yn dilyn.
Prynwch y llyfr i gyd-fynd â'r gyfres:
- Gwylio cyfres 1
- Gwylio cyfres 2
- Gwylio cyfres 3
- Gwylio cyfres 4
- Gwylio cyfres 5
- Gwylio Cyfres 6
- Gwylio Cyfres 7
- Gwylio Cyfres 8
Adnoddau
Cyhoeddir holl litwrgïau yr Eglwys yng Nghymru yn ddwyieithog a cheir llu o adnoddau eraill, nifer ohonynt wedi eu cyhoeddi gan y Cyngor Ysgolion Sul. Yn ogystal â phrif wefan y Cyngor ceir hefyd:
- gair.cymru sy’n cynnig llu o adnoddau Cristnogol Cymraeg i’w lawrlwytho am ddim;
- beibl.net, sef y Beibl cyfan mewn Cymraeg lafar syml;
- gobaith.cymru, sy’n cyflwyno nifer fawr o emynau a chaneuon mawl i’w lawrlwytho am ddim;
- Cristnogaeth.cymru, sy’n cynnig llawer o wybodaeth am y ffydd a llu o gysylltiadau difyr a defnyddiol.
Ychydig o hanes
Ers cyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd yn 1567 a chyfieithiad enwog yr Esgob William Morgan o’r Beibl cyfan yn 1588 rhoddwyd cyfle i bobl y wlad hon i ddarllen Gair Duw yn Gymraeg. Ar ben hynny, ers cyfieithiad Salesbury o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (hefyd yn 1567) darparwyd litwrgïau swyddogol yn Gymraeg i fynegi ffydd a mawl y Cymry. Gydol y canrifoedd wedyn, bu’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd yr Eglwys a chenedlaethau wedi addoli, tystio ac arfer eu ffydd drwy eu mamiaith. Erbyn hyn, bydd nifer fach o eglwysi o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn gweithredu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg tra bo llawer o rai eraill yn ddwyieithog a nifer hefyd yn uniaith Saesneg. Mae newid o ran patrymau siarad yr iaith a chynnydd o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfleoedd a heriau newydd i’n gwlad ac mae’r Eglwys yng Nghymru am gymryd lle blaenllaw wrth sicrhau ffyniant y Gymraeg. Ein gobaith ydy gweld eglwys sy’n tystio’n ffyddlon, llawen a hyderus yn y ddwy iaith fel bod pawb yn medru “clywed ... yn eu hieithoedd nhw am fawrion weithredoedd Duw” (cf. Actau 2:11).