Caplan yr Archesgob
Teitl y Swydd: Caplan yr Archesgob
Cyflog: £45,928 - £51,962
Lleoliad: Bangor. Bydd angen teithio ledled Cymru a thu hwnt fel rhan o’r swydd hon, ac aros dros nos o bryd i’w gilydd
Contract: Parhaol. Mae hon yn swydd gyflogedig ac ni fydd yn cynnwys tŷ. Mae'r swydd hon yn agored i ymgeiswyr ordeiniedig a lleyg
Yn adrodd: Bydd Caplan yr Archesgob yn atebol am ei w/gwaith o ddydd i ddydd i Archesgob Cymru. Ar gyfer materion yn ymwneud â chyflogaeth, bydd yn adrodd i Brif Swyddog Gweithredol Corff y Cynrychiolwyr.
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Etholir Archesgob Cymru o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021 ac etholwyd Esgob Bangor yn Archesgob; mae'n parhau i wasanaethu fel Esgob Bangor ac mae’n cael ei gynorthwyo yn y swydd hon gan Esgob Cynorthwyol, Esgob Enlli.
Hanfod y rôl hon yw sicrhau bod Archesgob Cymru yn rhydd i arfer ei weinidogaeth gan wybod bod systemau a phrotocolau cadarn ar waith i sicrhau y bydd yn cael ei friffio'n dda bob amser wrth ymgymryd â'i amserlen heriol.
Manyleb y Person :
Hanfodol
- Sgiliau trefnu cadarn ac amlwg
- Y gallu i weithio dan bwysau a bod yn rhagweithiol pan fydd llai o bwysau o ran amser
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol wedi'u datblygu yn dda
- Ymrwymiad i ragoriaeth yn y gweithle
- Gradd, cymhwyster academaidd cyfwerth neu gefndir mewn diwinyddiaeth a gweinidogaeth
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol a'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau i: HR@cinw.org.uk
Ein polisi yw, mai dim ond ffurflen gais y byddwn yn ei derbyn. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich cais.
Dyddiad cau[
05 Mawrth 2025 am hanner dydd
Dyddiadau Cyfweliad
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ym Mangor ar 18 Mawrth 2025.
Lawrlwytho