Gweinyddwr Arolygu a Chynorthwyo Ysgolion Eglwys
Teitl y Swydd: Gweinyddwr Arolygu a Chynorthwyo Ysgolion Eglwys
Gradd: D (£30,731 - £34,770)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Y Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae'n destun balchder i'r Eglwys yng Nghymru ei bod yn bartner wrth ddarparu addysg yng Nghymru gyda 145 o ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau ym mhob esgobaeth. O bryd i'w gilydd, mae'n rhaid cynnal arolygiad o gymeriad crefyddol yr ysgolion hyn yn unol ag Adran 50 o Ddeddf Addysg 2005. Hefyd, mae ganddynt Lywodraethwyr Sefydledig sy'n gyfrifol am sicrhau bod cymeriad crefyddol yr ysgol yn cael ei hyrwyddo yn unol â'i gweithredoedd ymddiriedolaeth.
Bydd y cydlynydd yn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol i sicrhau bod y system arolygu Adran 50 yn gweithredu'n ddi-dor ac yn broffesiynol, yn cynnal cronfa ddata o Lywodraethwyr Sefydledig yn ogystal â darparu cymorth i ysgolion ar faterion llywodraethu sy'n ymwneud â'u dynodiad fel ysgolion â chymeriad crefyddol.
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, llafar ac ysgrifenedig rhagorol, a'r gallu i weithio fel pwynt cyswllt cyntaf
- Profiad o ymgysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr mewnol ac allanol amrywiol a meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol gyda nhw
- Sgiliau trefnu cadarn a sylw i fanylion, gallu blaengynllunio a chadw golwg ar sawl mater sy’n symud yn gyflym
- Profiad o gynllunio, blaenoriaethu a chyflwyno gwaith i safon uchel ac erbyn y dyddiad cau gofynnol
- Profiad o reoli prosiectau a digwyddiadau
- Profiad a dealltwriaeth o'r system addysgol bresennol yng Nghymru
- Gallu gweithio’n dda dan bwysau a gweithio’n rhagweithiol ac yn hyblyg i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a pharhau i wella prosesau
- Gallu cydgysylltu (cofnodi, monitro a gwneud gwaith dilynol ar weithgareddau amrywiol a sicrhau y gofynnir am fewnbynnau gan eraill, eu derbyn a gweithredu arnynt)
- Sgiliau drafftio da a gallu i ymgysylltu â dogfennau a gohebiaeth gymhleth a/neu hirfaith a thynnu sylw’n gywir at y prif bwyntiau a dadleuon
- Dangos hyfedredd lefel uwch wrth ddefnyddio Microsoft Outlook, Excel, PowerPoint a Word
- Gallu dangos disgresiwn, cynnal cyfrinachedd (yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth sensitif iawn) a gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun i wneud penderfyniadau
- Parodrwydd i wneud y tasgau sy’n ymddangos yn rhai bach sy’n sicrhau bod gwaith yr adran yn rhedeg yn llyfn a bod problemau’n cael eu datrys yn brydlon
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a'i chyflwyno ynghyd â'ch llythyr eglurhaol yn nodi sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, i'r cyfeiriad e-bost: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
05 Gorffennaf 2024 am 10.00am
Dyddiadau Cyfweliad
11 Gorffennaf 2024 wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Liz Thomas, E-bost ar hr@cinw.org.uk
Lawrlwytho