Cynhyrchydd Cynnwys Digidol
Teitl y Swydd: Cynhyrchydd Cynnwys Digidol
Cyflog: £28,610 - £32,370 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Archesgob Cymru, Bangor / Ystyrir trefniadau gweithio hybrid.
Math o gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae Archesgob Cymru yn ffigwr cyhoeddus allweddol ac mae ganddo broffil amlwg yn y cyfryngau. Rydyn ni’n ceisio cefnogi ei rôl gyda mwy o adnoddau digidol. Dyma gyfle cyffrous i berson creadigol, ymroddedig a chroyw, sy'n awyddus i fod yn rhan o weinidogaeth egnïol ac amrywiol. Bydd y rôl yn cynnwys teithio, ffilmio'r Archesgob mewn digwyddiadau, a rhywfaint o waith ar benwythnosau.
Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad
Hanfodol
- Profiad o gyfathrebu, newyddiaduraeth neu gysylltiadau cyhoeddus ym maes yr eglwys/ffydd.
- Cysylltiadau sefydledig ag unigolion yn y cyfryngau, a'r gallu i gynnal a datblygu cysylltiadau proffesiynol.
- Gallu gweithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau ynghylch addasrwydd y cyfryngau ac ymgyrchu.
- Gwybodaeth weithredol dda am yr Eglwys yng Nghymru, ei strwythurau a'r materion y mae'n eu hwynebu.
- Dealltwriaeth dda o faterion cyhoeddus a materion eciwmenaidd.
- Gwybodaeth eang am ddiwylliant a bywyd cymunedol Cymru ac empathi â nhw
- Gwybodaeth weithredol o'r arlwy gyfathrebu lawn gan gynnwys y cyfryngau traddodiadol, y cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu mewnol, cyfathrebu print a sianeli digidol.
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw at derfynau amser.
- Y gallu i ymchwilio i faterion a rhannu ffeithiau perthnasol gan gadw at derfynau amser.
- Y gallu i weithio mewn tîm amlddisgyblaethol a chynllunio a chyflwyno prosiectau aml-sianel gyda chydweithwyr.
Gofynion Sgiliau
- Y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Sgiliau ysgrifenedig rhagorol.
- Sgiliau cynhyrchu digidol effeithiol, gan gynnwys ffilmio, cynhyrchu cyfryngau digidol, golygu a gweithredu o fewn CMS yn ogystal â thrwy blatfformau allanol lluosog.
- Y gallu i gadw cyfrinachedd.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
10 Ionawr 2025 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
21 Ionawr 2025 yn bersonol ym Mangor
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Grahame Davies ar HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho