Tiwtor Cynghori ar Anabledd a Chymorth Dysgu
Teitl y Swydd: Tiwtor Cynghori ar Anabledd a Chymorth Dysgu
Cyflog: £23,386 pro rata (£45,148 FTE)
Lleoliad: Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn atebol i: Cyfarwyddwr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth, Tiwtor yn yr Hen Destament Oriau Gwaith: 18 hours/pw
Diben y Swydd
Mae Athrofa Padarn Sant yn anelu at ragoriaeth ym mhob maes gwaith, gydag ymrwymiad canolog i roi’r dysgwr yn gyntaf, ac mae pob rôl o fewn Athrofa Padarn Sant yn cyfrannu at yr ymrwymiad hwn.
Diben y rôl hon yw cynorthwyo Athrofa Padarn Sant i ddatblygu dulliau dysgu hygyrch, yn arbennig i’r rhai ag anableddau, ac hefyd i rhai a allai fod angen cymorth gyda sgiliau astudio.
Byddwch yn darparu cymorth, cyngor ac arbenigedd a hyfforddiant i’r sefydliad er mwyn datblygu dealltwriaeth y staff a’r dysgwyr, ac o ran arfer gorau a sut i gymhwyso polisi yn ymarferol mewn lleoliadau addysgol a gweinidogaethol.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â dau aelod arall o’r tîm Cymorth Dysgu, y Rheolwr Gwasanaethau Dysgu sy’n cynorthwyo dysgwyr gyda’r broses Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ac yn cyd-drafod â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, a’r gweinyddwr. Byddwch yn sicrhau bod cynlluniau cymorth dysgu priodol yn cael eu datblygu a’u gweithredu, ac yn gweithio’n uniongyrchol â dysgwyr a staff i hyrwyddo hyn.
Byddwch hefyd yn cynghori staff ac yn cynorthwyo dysgwyr yn uniongyrchol i wella eu sgiliau astudio.
Mae gan Athrofa Padarn Sant oddeutu 400 o ddysgwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn ddysgwyr rhan-amser. Creu Cymuned yw un o’n gwerthoedd craidd, a byddwch yn rhan werthfawr o dîm cyfeillgar sy’n teimlo’n gryf am ddatblygiad ein dysgwyr.
Manyleb y Person :
Hanfodol
- 2 flynedd o brofiad proffesiynol yn y maes hwn
- Addysg hyd at lefel gradd
- Yn gallu ac yn barod i weithio gyda chyrff perthnasol yn y sector i gynyddu lefel sgiliau.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion pobl anabl a phrofiad o roi cyngor a chyfarwyddyd i amrywiaeth o bobl anabl a’u cynghori ar newidiadau rhesymol a chymorth.
- Dealltwriaeth dda o ystod o anableddau, ac yn barod i ddatblygu eich gwybodaeth ymhellach.
- Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyflwyno rhagorol, a gyda’r hyder a’r gallu i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd yn effeithiol.
- Yn gallu uniaethu â dysgwyr unigol wyneb-yn-wyneb a gan ddefnyddio technoleg ar-lein megis Teams.
- Rhinweddau a phrofiad personol i feithrin hyder y dysgwyr a’u cefnogi i gynyddu eu potensial i ddysgu i’r eithaf.
- Y gallu i negodi a dylanwadu, ysgogi ac ysbrydoli eraill i newid eu hymddygiad, sy’n aml mewn perthynas â materion anodd a sensitif
- Sgiliau trefnu rhagorol, gan gynnwys y gallu i weithio o fewn terfyn amser tynn, blaenoriaethu gwaith yn effeithiol a chadw cofnodion cywir
- Yn gallu adnabod a datrys materion gyda thact, gan gynnwys arferion a gweithdrefnau amhriodol, a dod o hyd i atebion creadigol ac ymarferol mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol
- Profiad o ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a chadw cyfrinachedd
- Y gallu i ddefnyddio Office 365 neu raglen debyg
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Dealltwriaeth o egwyddorion cynhwysiant a chydraddoldeb ar draws pob un o’r nodweddion diogelu a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac ymrwymiad iddynt, ynghyd ag ymwybyddiaeth o’r rhwystrau i fynediad y mae pobl sydd â nodwedd warchodedig yn eu hwynebu, yn arbennig o fewn addysg.
- Y gallu i gydweithio
- Amyneddgar a thrugarog
- Empathi tuag at genhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch llythyr eglurhaol, I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
20 Ionawr 2025 am 10:00 am
Dyddiadau Cyfweliad
31 Ionawr 2025 wyneb-yn-wyneb
Rhagor o wybodaeth
I gael sgwrs anffurfiol gyda Charlie Hadjiev am ofynion y swydd, cysylltwch â HR@cinw.org.uk.
Lawrlwytho