Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Gweithredol
Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Gweithredol
Cyflog: (£32,268 – £36,509)
Lleoliad: Caerdydd – Sgwâr Callaghan. Mae'r rôl yn gofyn am rywfaint o deithio yng Nghymru a thu hwnt, ac ambell arhosiad dros nos
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd: Prif Swyddog Gweithredol
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr y dydd)
Diben y Swydd
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Cynorthwyydd Gweithredol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gweithredol i gefnogi gwaith y Prif Swyddog Gweithredol.
Mae tîm cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ei chenhadaeth a'i gweinidogaeth ledled Cymru gyfan. Rydym wedi ein trefnu'n bedwar grŵp – grŵp y Prif Swyddog Gweithredu (Cyllid, Eiddo, Adnoddau Dynol, TG a Llywodraethu); Grŵp y Cwnsler Cyffredinol (Gwasanaethau Cyfreithiol, Diogelu, Diogelu Data), Cenhadaeth a Strategaeth (Addysg, Cyfathrebu, Gweinidogaeth, Efengylu, Trefn Ffydd ac Undod, Newid Hinsawdd) ac Athrofa Padarn Sant (Addysg Ddiwinyddol a Ffurfiant). Mae pob un o'r grwpiau hyn yn cael eu harwain gan aelod o'r Tîm Arwain Gweithredol sy'n cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog Gweithredol.
Mae'r Prif Swyddog Gweithredol wedi'i leoli yn y Swyddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ond yn aml allan o'r swyddfa mewn cyfarfodydd ledled Cymru a thu hwnt. Mae gan y Prif Swyddog Gweithredol berthynas waith agos ag Archesgob Cymru a Chadeirydd Corff y Cynrychiolwyr (elusen ddaliannol yr Eglwys yng Nghymru).
Mae'r Cynorthwyydd Gweithredol yn rôl allweddol a fydd yn dod â gallu ac effeithlonrwydd i reoli llwyth gwaith newidiol, heriol a chymhleth y Prif Swyddog Gweithredol. Bydd y Cynorthwyydd Gweithredol yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ar bob agwedd ar ei waith, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol, menter gref ac ymgysylltu o safbwynt y materion sy'n cystadlu am sylw.
Bydd y Cynorthwyydd Gweithredol yn darparu gwasanaethau gweithredol, gan gynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf, cydlynu a chefnogi cyfarfodydd, paratoi sesiynau briffio, prosesu gohebiaeth, a threfnu logisteg i sicrhau bod gwaith y Prif Swyddog Gweithredol yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ymatebol i ofynion newidiol.
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, llafar ac ysgrifenedig rhagorol, ac yn gallu gweithio fel pwynt cyswllt cyntaf.
- Profiad o ymgysylltu ag amrywiaeth o gydweithwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr mewnol ac allanol ac o feithrin cysylltiadau gwaith effeithiol gyda nhw.
- Sgiliau trefnu cryf a sylw i fanylder, blaengar ac yn gallu cadw i fyny â nifer o bynciau sy'n symud yn gyflym.
- Profiad o gynllunio, blaenoriaethu a chyflwyno gwaith i safon uchel ac erbyn y dyddiad cau gofynnol.
- Yn gallu gweithio'n dda dan bwysau a gweithio'n rhagweithiol ac yn hyblyg i reoli blaenoriaethau cystadleuol a gwella prosesau yn barhaus.
- Yn gallu cydlynu (cofnodi, monitro ac olrhain) gweithgareddau amrywiol a sicrhau bod mewnbynnau gan eraill yn cael eu derbyn a'u rhoi ar waith.
- Sgiliau drafftio da a’r gallu i ymgysylltu â dogfennau a gohebiaeth gymhleth a/neu hir a thynnu sylw at y prif bwyntiau a dadleuon yn gywir.
- Hyfedredd lefel uwch wrth ddefnyddio Microsoft Outlook, Excel, PowerPoint, Word a SharePoint.
- Yn gallu dangos disgresiwn, cynnal cyfrinachedd (yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth sensitif iawn) a defnyddio menter a chrebwyll yn briodol i wneud penderfyniadau.
- Yn barod i wneud y tasgau sy'n ymddangos yn fach sy'n sicrhau bod gwaith y Prif Swyddog Gweithredol yn rhedeg yn esmwyth a bod problemau'n cael eu datrys yn brydlon.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ynghyd â'ch CV i: hr@cinw.org.uk
Dyddiad cau
12 Gorffennaf 2024 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
30 Gorffannaf 2024 wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd
Lawrlwytho