Cyfrifydd Ariannol
Teitl y Swydd: Cyfrifydd Ariannol
Cyflog: £39,904 - £45,148
(Graddfa gynwysol)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Math o Gontract: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Yn adrodd: Rheolwr Ariannol a Chyfarwyddwr Cyllid
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae'r Adran Gyllid yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyngor ariannol eang ar gyfer Corff y Cynrychiolwyr a chyrff taleithiol eraill drwy wneud y canlynol:
- Datblygu a chynnal strategaeth ariannol effeithiol
- Cydlynu a chynhyrchu rhagolygon ariannol, cyllidebau, cyfrifon rheoli a chyfrifon statudol manwl
- Gweinyddu a rheoli pob incwm a gwariant o ddydd i ddydd
- Rheoli'r portffolio buddsoddi
- Rheoli'r ymddiriedolaethau arbennig drwy'r Gronfa Buddsoddi ar y Cyd
- Gweinyddu cyflogau, ariandaliadau a phensiynau
- Darparu cyngor ariannol cyffredinol i esgobaethau a phlwyfi.
Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfrifydd Ariannol i wneud y canlynol:
Cynorthwyo gyda swyddogaeth rheoli a chyfrifyddu ariannol y sefydliad a chynorthwyo penaethiaid adrannau a swyddogion eraill i ddeall a dehongli gwybodaeth ariannol.
Manyleb y Person
Cymwysterau a Phrofiad Hanfodol:
- Cymhwyster Proffesiynol - AAT, Cyfrifydd rhannol gymwys neu sydd â chymwysterau llawn neu brofiad o weithio mewn rôl cyfrifon rheoli neu gyfrifyddu ariannol am o leiaf tair blynedd.
- Profiad o weithio i Elusen a Sefydliad/Cymdeithas Nid-er-elw – Profiad o weithio mewn tîm cyllid mewn elusen, neu sefydliad nid-er-elw.
- Adroddiadau Ariannol a Chydymffurfiaeth – Dealltwriaeth gref o'r Datganiad o'r Arfer a Argymhellir (SORP) ar gyfer safonau cyfrifyddu elusennau, rheoliadau'r Comisiwn Elusennau, a rheolau treth CThEF (Rhodd Cymorth, TAW ac ati.)
- Cyllidebu a Rheoli Ariannol – Profiad o baratoi cyllidebau, rhagolygon a chyfrifon rheoli.
- Cyfrifyddu Cronfeydd – Gwybodaeth am gyfrifyddu cronfeydd cyfyngedig, anghyfyngedig a gwaddol.
- Archwilio a Rheolaethau Mewnol – Profiad o gefnogi archwiliadau a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau ariannol.
Sgiliau a Chymwyseddau:
- Adroddiadau a Dadansoddi Ariannol – Y gallu i baratoi cyfrifon rheoli cywir a datganiadau ariannol.
- Cymodi – Y gallu i gysoni'n llawn cyfrifon rheoli mantolenni.
- Cydymffurfiaeth Reoleiddiol – Gwybodaeth am ofynion treth elusen, hawliadau Rhodd Cymorth, a rheolau TAW ar gyfer elusennau.
- Hyfedredd mewn Meddalwedd Cyfrifyddu – Profiad o ddefnyddio Sage, Xero, QuickBooks, Xledger neu systemau ariannol sy'n benodol i elusen.
- Gwella Prosesau – Gallu i symleiddio gweithrediadau ariannol a gwella effeithlonrwydd adrodd.
- Cydweithio a Rheoli Rhanddeiliaid – Gallu i gydweithio ag adrannau, ymddiriedolwyr ac archwilwyr allanol eraill.
- Sgiliau Cyfathrebu – Gallu i gyflwyno gwybodaeth ariannol yn glir i gydweithwyr anariannol.
- Awtomeiddio - Gwybodaeth am awtomeiddio prosesau cyllid a thrawsnewid digidol.
Nodweddion Allweddol a Rhinweddau Personol:
- Rhoi Sylw i'r Manylion a Dadansoddol – Cryn sylw i fanylion a'r gallu i adnabod anghysondebau ariannol.
- Trefnus gyda Ffocws ar Derfynau Amser – Y gallu i reoli blaenoriaethau lluosog a gweithio dan bwysau.
- Uniondeb a Chyfrinachedd – Ymrwymiad i reolaeth ariannol foesegol a thryloywder.
- Brwd ynghylch y Sector Elusennol – Cyd-fynd i raddau helaeth iawn â chenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad.
Dyletswyddau Arall
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a anfonir atom ar ffurf PDF.
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
22 Ebrill 2025 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
30 Ebrill 2025 yn bersonol yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Claire Thompson, HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho