Pennaeth Rheoli’r Ystad a Thrafodiadau
Teitl y Swydd: Pennaeth Rheoli’r Ystad a Thrafodiadau
Cyflog: Gradd G - Gan ddechrau ar £52,704 (£52,704 - £59,629)
Graddfa gynwysol
(Byddwn yn talu lwfans car hefyd)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae'r swydd hon yn rôl newydd o fewn Adran Eiddo wedi'i had-drefnu. Byddwch yn arwain tîm bach sy'n cyflwyno trafodiadau eiddo ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys asedau ledled Cymru a bydd angen cryn dipyn o deithio. Byddwch hefyd yn darparu cyngor ar reoli’r ystad i uwch reolwyr.
Mae'r Pennaeth Rheoli’r Ystad a Thrafodiadau yn gyfrifol am drefnu a chynllunio’r gwaith o reoli’r ystad gan gynnwys gwerthu eiddo, pryniannau, gosodiadau, hawddfreintiau, trwyddedau, darparu cyngor cyffredinol ar reoli’r ystad, nodi cyfleoedd datblygu, ac ati, gan gynnwys gweinyddu arian. Byddwch yn gyfrifol am ddewis a phenodi gwerthwyr tai a gosod tai ledled Cymru ac am gynnal rhestr briodol o ymgynghorwyr. Efallai y byddwch yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo pan fo angen.
Mae'r Adran Eiddo Taleithiol yn mynd trwy gyfnod o newid ac ailstrwythuro er mwyn bod mewn sefyllfa well i ddiwallu anghenion newidiol yr Eglwys yng Nghymru. Bydd yn cynnwys pedwar tîm yn cydweithio'n agos, gydag adrannau eraill o fewn y sefydliad ac aelodau o'r Esgobaeth. Bydd y timau hyn yn canolbwyntio ar gefnogi ein Heglwysi, gan ddarparu cyngor a chymorth ar arolygu adeiladau, ar reoli’r ystad a thrafodiadau, ac ar drawsgludo a darparu a rheoli data a gwybodaeth.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Syrfëwr Siartredig MRICS neu FRICS sydd â phrofiad o reoli portffolio eiddo amrywiol ac yn arbennig mewn perthynas â gwerthu, caffaeliadau a gwaredu eiddo o bob math, yn enwedig eiddo preswyl.
- Profiad amlwg o weithio drwy weithdrefnau a drefnir yn ddemocrataidd, e.e. systemau pwyllgorau a byrddau.
- Profiad o weithio gydag asiantaethau cenedlaethol a statudol.
- Profiad o reoli a datblygu tîm o staff proffesiynol eraill.
- Gwybodaeth a phrofiad cadarn o reoli eiddo, yswiriant a materion cysylltiedig.
- Cyfathrebwr gwych ar lafar ac ar bapur ac yn gallu paratoi a gwneud cyflwyniadau sy’n cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, yn ôl yr angen.
- Tact a diplomyddiaeth
- Yn deall cyfrifiaduron.
- Rhaid bod â thrwydded yrru gyfredol a bod yn barod i deithio ar draws y Dalaith i archwilio eiddo yn ôl y galw
- Wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a anfonir atom ar ffurf PDF.
Dyddiad cau
03 Mawrth 2025 – 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
12 Mawrth 2025 wyneb yn wyneb yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Michael Plane atHR@cinw.org.uk
Lawrlwytho