Swyddog Adnoddau Dynol (x3)
Teitl y Swydd: Swyddog Adnoddau Dynol (x3)
Cyflog: £40,902
Lleoliad: Gweithio Gartref
Noder os gwelwch yn dda: Rydym ni'n chwilio am Swyddogion Adnoddau Dynol i i weithio yn ardaloedd y Gogledd, y Canolbarth, a De Cymru
Math o gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Rheolwr AD
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Bydd y Swyddog Adnoddau Dynol yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth ac arweiniad ar arferion gorau i weithwyr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bydd yn cynorthwyo'r tîm Adnoddau Dynol ehangach gyda phrosesau recriwtio, cynefino a chylch bywyd gweithwyr. Bydd yn cefnogi rheolwyr llinell a gweithwyr gan roi cyngor ar AD. Ar brydiau, bydd yn rhoi cyngor i uwch glerigion. Bydd yn cefnogi ac yn cydlynu trefniadau gweithredol y broses adolygu gwaith, gan nodi anghenion hyfforddi a datblygu a dod o hyd i ddarparwyr priodol.
Bydd yn sefydlu swyddogaeth Dysgu a Datblygu a fydd yn cynnwys creu a darparu hyfforddiant mewnol yn bennaf ar gyfer gweithwyr Corff y Cynrychiolwyr. Bydd yn datblygu perthynas â darparwyr hyfforddiant allanol.
Bydd yn cefnogi'r Rheolwr Adnoddau Dynol gyda chydymffurfiaeth AD ac yn arwain ar ddatblygu polisi. Bydd yn sicrhau bod polisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i gydymffurfio ag arferion gorau a newidiadau mewn deddfwriaeth.
Bydd yn aelod gweithredol o fywyd y tîm, gan adolygu a datblygu ffrydiau gwaith tîm yn gyson i feysydd gwasanaeth AD newydd, megis llesiant a thaliadau a chydnabyddiaeth.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Yn meddu ar drwydded yrru lawn gyda mynediad at gerbyd ar gyfer teithio’n rheolaidd ledled Cymru.
- Wedi cymhwyo/yn astudio ar gyfer CIPD lefel 5 ac yn aelod cofrestredig o'r CIPD.
- Bydd parodrwydd i weithio tuag at gymhwyster AET yn cael ei gefnogi gan Gorff y Cynrychiolwyr.
- O leiaf ddwy flynedd o brofiad o greu a chyflwyno sesiynau hyfforddi.
- O leiaf ddwy flynedd o brofiad AD cyffredinol i gynnwys rheoli gwaith achos a darparu cyngor AD i weithwyr a rheolwyr.
- Byddai dealltwriaeth o'r sectorau ffydd neu elusennol yn fanteisiol ond, yn absenoldeb hynny, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos parodrwydd i ddatblygu dealltwriaeth o gyfraith cyflogaeth fel y mae'n ymwneud â deiliaid swyddi.
- Dealltwriaeth o'r sector sy'n seiliedig ar ffydd neu barodrwydd i ddatblygu’r ddealltwriaeth honno
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: : hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
10 Ionawr 2025 @ 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
Wythnos 20 Ionawr 2025, yn y cnawd, lleoliad i’w gadarnhau
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ȃ Rebecca Murphy ar Hhr@cinw.org.uk
Lawrlwytho