Swyddog Cefnogi Rhwydwaith
Teitl y Swydd: Swyddog Cefnogi Rhwydwaith
Cyflog: Yn dechrau ar £32,268 (£32,268 - £36,509)
(Graddfa gynwysol)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Arweinydd y Tîm Desg Gymorth TG
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Bydd y rôl hon yn dadansoddi materion technegol y mae gofyn am gymwysterau gweinyddu lefel parth i'w datrys ac yn mynd i’r afael â nhw. Bydd y swydd yn un symudol ac efallai y bydd angen ymweld yn achlysurol ag un o'r 14 safle ar wahân ledled Cymru. Mae'r swydd hon yn darparu manylion ar gyfer gweinyddu’r system AD yn Sgwâr Callaghan. Bydd y Swyddog Cefnogi Rhwydwaith yn cydlynu'r broses o gaffael caledwedd a nwyddau traul haen mynediad, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu gweithfannau cleientiaid newydd a gosod meddalwedd. Bydd deiliad y swydd yn defnyddio Windows a'r platfform Office 365, a bydd yn rheoli'r broses o greu, dileu a gweinyddu defnyddwyr ar draws pob parth. Bydd yn cydlynu'r gwaith o weinyddu anfonebau a phryniannau â chardiau credyd, a bydd yn rheoli'r broses o greu ffurflenni cais am newid ar gyfer unrhyw newidiadau gofynnol i'r rhwydwaith craidd. Bydd gan y Swyddog Cefnogi Rhwydwaith fanylion mewngofnodi ar lefel parth a'r gallu i ddileu gwesteiwyr o barthau, ailosod cyfrineiriau, a gweinyddu gweithfannau cleientiaid a chyfrifon defnyddwyr yn llawn. Bydd yn dogfennu ac yn cydlynu ceisiadau i Haen 3 ar gyfer materion seilwaith cymhleth nad oes ganddynt y gallu na'r manylion mewngofnodi i'w datrys eu hunain.
O dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tîm Desg Gymorth TG, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydgysylltu, gosod a rheoli'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â TGCh, ac eithrio seilwaith craidd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gynnyrch, ffurfweddu, gosod a rhwydweithio, gan gynnwys ffonau sefydlog a symudol. Hefyd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am hyfforddi defnyddwyr i ddefnyddio cymwysiadau ac am ailgylchu hen offer yn briodol.
Disgwylir y bydd deiliad swydd ar y radd hon yn ymrwymo i geisio ennill achrediad proffesiynol priodol o dan arweiniad Arweinydd y Tîm Desg Gymorth TG.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn swyddfa am o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos ac yn gweithio gartref am uchafswm o dri diwrnod yr wythnos. Bydd angen teithio i safleoedd eraill ar gais.
Manyleb y Person :
Hanfodol
Mireinio Perfformiad Rhwydweithiau, Gwybodaeth LAN, Dyluniad a Gweithrediad Rhwydweithiau, Datrys Problemau, Cynllunio Strategol, Amldasgio, Canolbwyntio ar Ansawdd, Cydgysylltu, Dealltwriaeth Dechnegol, Astudiaeth Gyflym, Brwdfrydedd Technegol.
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm o weithwyr TGCh proffesiynol i greu'r cynllun corfforaethol er mwyn datblygu gwasanaethau TGCh.
- Sgiliau dadansoddi da er mwyn canfod problemau, a'r dyfalbarhad i'w datrys.
- Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar: -
i) gallu dogfennu materion technegol mewn ffordd ystyrlon ar gyfer cydweithwyr yn y tîm
ii) gallu rhoi gwybod i bobl nad ydynt yn arbenigwyr am eu hanghenion
- Gallu datrys problemau yn ymwneud â gweithfannau a meddalwedd ar blatfform Windows.
- Gwybodaeth am ffurfweddiadau rhwydwaith, yn enwedig yn ymwneud â phrotocol IP, a dealltwriaeth o strwythurau sy'n seiliedig ar Barth.
- Profiad o weithio gyda systemau rhwydweithio cymhleth, yn ddelfrydol systemau sy'n defnyddio Windows.
- Dealltwriaeth o Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) a ffurfweddu twneli VPN.
- Dealltwriaeth dda o ofynion diogelwch y rhwydwaith a diogelwch ffisegol.
- Profiad cadarn o weithio gyda llwybryddion, hybiau a switshis.
- Arbenigedd yn ymwneud â waliau tân, meddalwedd diogelwch a meddalwedd gwrthfeirysau.
- Y gallu i weithio'n hyblyg gyda rhybudd rhesymol.
- Dealltwriaeth o ddarpariaeth cwmwl ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys lletya ar-lein.
- Gallu siarad yn dda dros y ffôn a gweithio gyda phobl sydd â phob lefel o gymhwysedd technegol.
- Y gallu i gynllunio, rheoli a blaenoriaethu amser er mwyn ymdrin â thasgau a materion lluosog.
- Cadernid emosiynol a'r gallu i reoli sgyrsiau anodd.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ynghyd â'ch CV i: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais
Dyddiad cau
25/11/2024 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
05/12/2024 wyneb yn wyneb yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Jonathan Osborne, HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho