Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith
Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith
Cyflog: £51,940 - £56,790 y flwyddyn
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Contract: Parhaol
Yn adrodd: Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Oriau Gwaith: 34.75 awr/wythnos
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddarparwr addysgol mawr sy'n gwasanaethu 27,000 o ddisgyblion mewn 144 o ysgolion (tua 10% o gyfanswm ysgolion Cymru).
Mae Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn gyfrifol am arwain ar berthnasoedd a sgyrsiau am ddatblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector ac am sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddatblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysgol Cymru.
Mae’n gweithio'n agos gydag Esgobion yr Eglwys yng Nghymru a Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaethau.
Fel rhan o'r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, a chan weithio gyda rhwydwaith o Swyddogion Addysg yr Esgobaethau ac uwch arweinwyr ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, bydd Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol a bydd yn cyfrannu at ddarparu cyngor polisi a datblygu gwasanaethau parhaus ar draws ein holl ysgolion.
Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad
Hanfodol
- Gradd mewn pwnc perthnasol.
- Dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd addysgol a'r amgylchedd polisi yng Nghymru.
- Ymrwymiad i gynnal ethos unigryw, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, i wella ansawdd eu gwaith yn gyson, ac i gryfhau a gwella eu safle, eu proffil a'u henw da yn nhirwedd addysgol Cymru.
- Profiad uwch helaeth o weithredu yn y sector addysg fel arweinydd ysgol, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth, neu swyddog mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gan gynnwys profiad o weithio gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig.
- Sgiliau rheoli perthynas, rhwydweithio a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio fel rhan o dîm rheoli uwch mewn amgylchedd cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog, gallu defnyddio technoleg gwybodaeth a phrofiad o gynhyrchu sesiynau briffio cryno, canfyddiadol ar faterion cymhleth.
- Parodrwydd i deithio drwy Gymru a thu hwnt, gan gynnwys aros dros nos.
- Gwybodaeth am ddulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effaith prosiectau, rhaglenni a mentrau.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o'ch trafnidiaeth eich hun
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’i danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
30 Medi 2024 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
TBC
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Grahame Davies ar HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho