Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol
Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol
Cyflog: £60,233 - £68,149 y flwyddyn
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid
Math o gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Oriau Gwaith: 34.75 awr yr wythnos
Diben y Swydd
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddarparwr addysgol sylweddol sy'n gwasanaethu 27,000 o ddisgyblion mewn 144 o ysgolion (gan gynnwys 5 ysgol uwchradd) mewn ystod eang o gymunedau gwledig a threfol, mawr a bach, Cymraeg a Saesneg eu hiaith
Mae Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn gyfrifol am arwain ar berthnasoedd a sgyrsiau am ddatblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector ac am sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddatblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysgol Cymru.
Mae’n gweithio'n agos gydag Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, gyda Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaethau ac arweinwyr addysgiadol eraill.
Bydd y Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol yn aelod o'r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol, a bydd yn cyfrannu at ddarparu cyngor polisi a datblygu gwasanaethau parhaus ar draws ein holl ysgolion.
Manyleb Person
- Gradd mewn pwnc perthnasol.
- Statws Athro Cymwysedig (SAC).
- Dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd addysgol a'r amgylchedd polisi yng Nghymru.
- Ymrwymiad i gynnal ethos unigryw, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, i wella ansawdd eu gwaith yn gyson, ac i gryfhau a gwella eu safle, eu proffil a'u henw da yn nhirwedd addysgol Cymru.
- Profiad uwch helaeth o weithredu yn y sector addysg fel arweinydd ysgol, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth, neu swyddog mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gan gynnwys profiad o weithio gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig.
- Craffter gwleidyddol, ynghyd â sgiliau rheoli perthnasoedd cryf, rhwydweithio, dylanwadu, adeiladu tîm, a meithrin consensws.
- Y gallu i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli mewn amgylchedd cymhleth, gan gynnwys llywio polisïau’n llwyddiannus drwy strwythurau llywodraethu tra’n ymgynghori â rhanddeiliaid drwy gydol yr amser.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog.
- Profiad o gynhyrchu briffiau cryno, craff ar faterion cymhleth a rheoli prosiectau mawr o'u cychwyn i'w gweithredu tra'n monitro a gwerthuso eu heffaith.
- Parodrwydd i deithio drwy Gymru a thu hwnt, gan gynnwys aros dros nos.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o'ch trafnidiaeth eich hun
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system cadw ffeiliau
- Dealltwriaeth o bwrpas a strwythurau'r Eglwys yng Nghymru
- Sgiliau iaith Gymraeg/y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
24 Ionawr 2025 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
31 Ionawr 2025 yn bersonol ym Mangor
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Grahame Davies arhr@cinw.org.uk
Lawrlwytho