Swyddog Hyfforddiant ac Ymgysylltu Diogelu
Teitl y Swydd: Swyddog Hyfforddiant ac Ymgysylltu Diogelu
Cyflog: Gan ddechrau ar £17,289 - £19,561 pro rata (£28,610 - £32,370 FTE)
(Graddfa gynwysol)
Lleoliad: Gweithio gartref yn y De
Contract: Parhaol
Yn adrodd i: Hyfforddwr Diogelu Arweiniol
Oriau gwaith: Rhan-amser (21 awr yr wythnos)
Diben y swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad addas ymuno â Thîm Diogelu y Dalaith. Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yw'r sylfaen ar gyfer ystod eang o weithgareddau sy'n cefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys. Bydd y Swyddog Hyfforddiant ac Ymgysylltu Diogelu yn gweithio o fewn Tîm Diogelu’r Dalaith ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu o fewn yr Eglwys yng Nghymru drwy fabwysiadu proses o addysg, cymorth ac arweiniad i ardaloedd gweinidogaeth lleol. Byddwch yn helpu i ddatblygu hyfforddiant priodol hefyd.
Manyleb y Person :
Hanfodol
- Profiad a medrusrwydd wrth ddarparu hyfforddiant gyda dealltwriaeth o sut mae oedolion yn dysgu.
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a chynnal cysylltiadau ag ystod o bobl a sefydliadau mewnol ac allanol
- Gallu dylanwadu ar arferion da y rhai nad oes gennych gyfrifoldebau rheoli llinell uniongyrchol drostynt, gan gynnwys gwirfoddolwyr.
- Profiad o waith amlasiantaeth ac amlddisgyblaeth, yn cynnwys gyda phartneriaid yn y sector statudol.
- Gwybodaeth ymarferol dda o ddeddfwriaeth a chanllawiau sy'n berthnasol i'r maes diogelu yng Nghymru, gan gynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019).
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn hyblyg, gan gynnwys cryn dipyn o deithio yng Nghymru, a gweithio gyda'r nos/ar benwythnos.
- Sgiliau cyflwyno a threfnu ardderchog.
- Y gallu i arfer cyfrinachedd llwyr.
- Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ynghyd â'ch CV i: hr@cinw.org.uk
Ein polisi ni fydd ond yn derbyn llythyr eglurhaol, CV a ffurflen gais. Os byddwch yn anfon eich CV atom, bydd yn cael ei daflu'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
29 Ionawr 2025 am 10:00 am
Dyddiadau Cyfweliad
12 Chwefror 2025 yn bersonol yng Nghaerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Ant Griffiths – HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho